LLB

Y Gyfraith a Ffrangeg

LLB Y Gyfraith a Ffrangeg Cod RM11 Dewch i Ddiwrnod Agored Dewch i Ddiwrnod Agored Llefydd ar gael trwy Clirio0800 121 40 80

Ymgeisio Nawr

Mae gwaith cyfreithiol yn digwydd ar lwyfan byd-eang yn gynyddol, ac mae galw mawr am arbenigwyr cyfreithiol amlieithog. Drwy ddewis astudio'r cwrs gradd LLB Cyfraith a Ffrangeg ym Mhrifysgol Aberystwyth, byddwch yn magu hyfedredd yn y gyfraith a hefyd yn dod yn rhugl iawn yn y Ffrangeg. 

Ceir ar y radd hon gyfuniad perffaith o ffurfioldeb a chreadigrwydd. Byddwch yn astudio hanfodion ymarfer cyfreithiol ynghyd â chyfraith yn ei chyd-destun ehangach, gan gynnwys ei pherthynas â chymdeithas. Byddwch hefyd yn astudio'r rheolau sydd yn sail i'r iaith Ffrangeg ac yn dod i ddeall agweddau diwylliannol a gwleidyddol ar fywyd a chymdeithas Ffrengig yr un pryd, gan ddysgu sut i ddefnyddio Ffrangeg mewn cyd-destun ffurfiol, cyfreithiol yn ogystal â mewn cyd-destun anffurfiol yn ystod y flwyddyn dramor yn eich trydedd flwyddyn - profiad sy'n sicr o fod ymysg anturiaethau mwyaf eich bywyd hyd yma. 

Os ydych yn edrych am gwrs a fydd yn eich herio ac yn eich ysgogi yr un pryd, nid oes angen chwilio ymhellach na'r radd LLB Cyfraith a Ffrangeg ym Mhrifysgol Aberystwyth.

Trosolwg o'r Cwrs

Mae'r radd LLB Cyfraith a Ffrangeg hon yn radd ar gyfer yr unfed ganrif ar hugain ac mae’n gyfuniad ardderchog a fydd yn agor drysau i bob math o gyfleoedd i chi yn y dyfodol. 

Ar elfennau Cyfraith y radd, byddwch yn astudio modiwlau ymarferol sydd wedi'u cynllunio i fodloni anghenion cyflogwyr, ac fe’i haddysgir gan academyddion a gweithwyr proffesiynol profiadol ym maes y gyfraith sy'n gweithio â sefydliadau mawr e.e. GRETA, y Bwrdd Cyfiawnder Ieuenctid, a Swyddfa Uchel Gomisiynydd Hawliau Dynol y Cenhedloedd Unedig. Mae ein modiwlau yn cwmpasu amrywiaeth o bynciau cyfreithiol traddodiadol a chyfoes, a byddwch yn meithrin y sgiliau a'r cymwyseddau a fydd yn gwella eich cyflogadwyedd mewn cyd-destun cyfreithiol. Byddwch yn gallu manteisio ar gyfleoedd proffesiynol a chymdeithasol ardderchog megis ymweld â Ffeiriau'r Gyfraith ac Ysbytai’r Brawdlys (Inns of Court) yn Llundain, a chewch gyfle i gyfoethogi’ch astudiaethau trwy gymryd rhan gyda'n Cymdeithas Ymryson Cyfreitha, sy'n cystadlu'n genedlaethol ac yn rhyngwladol, er mwyn datblygu'ch sgiliau cyfreitha ac eirioli allweddol. 

 Ochr yn ochr â'r Gyfraith, byddwch yn astudio iaith Ffrangeg i lefel uwch, ond hefyd yn meithrin gwybodaeth fanwl am lenyddiaeth, diwylliant ac ieithyddiaeth Ffrengig. Mae’r radd hon yn ddelfrydol i’r rheini sydd wedi sefydlu diddordebau eang yn y byd Ffrangeg ei iaith. Mae ein modiwlau'n darparu cyfuniad delfrydol o hyfforddiant iaith dwys, a dewis o bynciau sy'n cwmpasu llenyddiaeth, diwylliant ac ieithyddiaeth. Byddwch yn ffynnu yn ein hamgylchedd amlieithog; canolfan gosmopolitan lle bydd digon o gyfle i chi ymarfer eich Ffrangeg. Caiff bron pob modiwl a dosbarth eu dysgu yn yr iaith darged, mae llawer o'r staff dysgu yn siaradwyr brodorol ac yn arbenigwyr yn ei priod ieithoedd. Bydd y flwyddyn dramor yn nhrydedd flwyddyn eich gradd yn golygu y byddwch yn cael eich trwytho yn niwylliant y Ffrangeg, a bydd hynny’n rhoi gwybodaeth werthfawr a hyder ichi. 

Bydd astudio Ffrangeg ochr yn ochr â'r Gyfraith yn rhoi hwb sylweddol i’ch sgiliau a'ch cyfleoedd gyrfaol. 

Ein Staff

Mae gan staff Adran y Gyfraith a Throseddeg gan mwyaf naill ai gymwysterau hyd at safon PhD neu mae ganddynt brofiad proffesiynol a chymwysterau fel cyfreithwyr wrth eu gwaith. Mae gan lawer o'r staff hefyd gymhwyster dysgu uwchraddedig (Addysg Uwch).

Mae gan bob un o ddarlithwyr yr Adran Ieithoedd Modern gymwysterau hyd at safon PhD ac maent yn gwneud gwaith ymchwil. Rydym hefyd yn cyflogi tiwtoriaid iaith, rhai ohonynt â gradd PhD, a phob un yn addysgwyr profiadol. O bryd i'w gilydd, cyflogwn siaradwyr brodorol o brifysgolion sy'n bartneriaid i ni dramor (lectoriaid), sy'n dod atom â chymeradwyaeth uchel ar sail eu llwyddiant academaidd yn eu prifysgolion eu hunain, ac mae sawl un ohonynt wedi hyfforddi fel addysgwyr. 

Gyrfaoedd

Bydd eich gradd LLB Cyfraith a Ffrangeg yn cynnig ichi amrywiaeth o gyfleoedd cyffrous. Byddwch chi mewn sefyllfa dda i hyfforddi i fod yn fargyfreithiwr neu'n gyfreithiwr. Bydd maes pwnc y Gyfraith yn gyfle ichi fynd ymlaen i lwyddo mewn sawl maes gan gynnwys troseddeg, rheolaeth ariannol, busnes, adnoddau dynol, cysylltiadau rhyngwladol, newyddiaduraeth ac addysg. Bydd yr agwedd ieithyddol yn eich galluogi i weithio i gwmnïau amlwladol lle mae'r gallu i gyfathrebu mewn iaith arall yn fantais.

Mae'r Flwyddyn Dramor yn un o elfennau'r cwrs hwn, a bydd y profiad hwnnw yn sicrhau eich bod yn hawlio sylw ymhlith ymgeiswyr eraill tra'n ceisio am swyddi. Daw myfyrwyr adre ar ddiwedd y flwyddyn dramor gyda set o sgiliau ehangach, mwy o hyfedredd yn yr iaith, a'r gallu i addasu i unrhyw sefyllfa.

Mae eich dyfodol yn bwysig, a bydd ein graddau ni yn rhoi ichi'r sgiliau canlynol:

  • hyder wrth ddethol a defnyddio'r dulliau cyfreithiol mwyaf priodol
  • y gallu i werthuso a threfnu gwybodaeth, ac i gyfathrebu ag amrywiol gynulleidfaoedd
  • y gallu i gasglu, cymathu a dehongli cyfoeth o wybodaeth gyfreithiol yn gyflym ac yn gywir
  • y gallu i fynegi syniadau a rhannu gwybodaeth mewn modd clir a threfnus, yn ysgrifenedig ac ar lafar
  • y gallu i ddatrys problemau yn effeithiol a meddwl yn greadigol
  • y gallu i weithio'n annibynnol
  • sgiliau rheoli amser a threfnu, gan gynnwys y gallu i gwrdd â therfynau amser
  • hunangymhelliant a hunanddibyniaeth
  • y gallu i weithio mewn tîm, ac i drafod cysyniadau mewn grwpiau, gan ystyried gwahanol safbwyntiau a dod i gytundeb
  • sgiliau ymchwil.

Cyfleoedd am brofiad gwaith

Cewch fwy o wybodaeth am y gwahanol gyfleoedd a fydd ar gael i chi ar dudalennau Gwasanaeth Gyrfaoedd Prifysgol Aberystwyth.

Cei hefyd wella dy gyfleoedd cyflogaeth gyda GO Wales a BMG (y cynllun Blwyddyn mewn Gwaith) sy'n cael ei reoli gan ein hadran Gyrfaoedd.


Dysgu ac Addysgu

Beth y byddaf fi'n ei ddysgu?

Yn ystod y flwyddyn gyntaf, byddwch yn cael hyfforddiant craidd mewn nifer o bynciau, ee Cyfraith Cytundebau, Cyfraith Droseddol a Chyfraith Camwedd, y mae'n rhaid eu hastudio a'u pasio er mwyn cael eithriad rhag cam cyntaf arholiadau proffesiynol y gyfraith. Byddwch yn archwilio strwythur a datblygiad system gyfreithiol Cymru a Lloegr, y gydberthynas rhwng cynsail farnwrol a'r gyfundrefn lysoedd, ac yn dadansoddi'r broses o greu deddfwriaeth, a sut caiff ei dehongli gan farnwyr. 

Ochr yn ochr â modiwlau'r Gyfraith, byddwch yn dilyn y modiwlau iaith craidd sy'n cynnwys gwrando, darllen, ysgrifennu, cyfieithu a siarad. 

Yn eich ail flwyddyn a'ch blwyddyn olaf, byddwch yn dewis o blith rhestr hir o fodiwlau'r Gyfraith a gynigir sy’n cyd-daro â’ch diddordebau. Bydd y rhestr yn cynnwys pynciau fel Cyfraith Fasnachol, Hawliau Dynol, Cyfraith Ryngwladol a Chyfraith Droseddol. Byddwch hefyd yn datblygu eich sgiliau iaith ymhellach drwy ddosbarthiadau iaith dwys yn yr Adran Ieithoedd Modern. Byddwch yn gallu teilwra'ch astudiaethau iaith drwy ddewis o blith ystod o fodiwlau dewisol. 

Yn ystod eich trydedd flwyddyn, byddwch yn astudio gydag un o'n Prifysgolion partner yn Ffrainc. Bydd y flwyddyn dramor yn golygu y byddwch yn cael eich trwytho yn niwylliant eich dewis iaith, a bydd hynny’n rhoi gwybodaeth werthfawr a hyder ichi. Mae’n brofiad sy’n trawsnewid ac yn paratoi myfyrwyr yn effeithiol iawn ar gyfer dyfodol byd-eang. 

Sut bydda i'n cael fy addysgu? 

Byddwch yn cael eich addysgu drwy gyfuniad o ddarlithoedd, tiwtorialau a seminarau o ansawdd uchel. Yn eich darlithoedd cewch eich cyflwyno i gysyniadau allweddol a gwybodaeth gyfredol a pherthnasol. Bydd gennych fynediad hefyd at fersiynau wedi'u recordio o'r darlithoedd. Mae ein tiwtorialau a'n seminarau yn gyfle i chi drafod themâu neu bynciau penodol, ac i werthuso a chael adborth ar eich dysgu unigol, gan wella'ch dull o lunio dadleuon cyfreithiol ar yr un pryd. 

Sut bydda i'n cael fy asesu? 

Byddwch yn cael eich asesu yn y modiwlau mewn sawl ffordd. Bydd gofyn ichi ysgrifennu traethodau, sefyll arholiadau, creu portffolios, rhoi cyflwyniadau ar lafar (gan gynnwys ymarferion ymrysona), sefyll profion gwrando, ysgrifennu cyfansoddiadau unigol a llunio cyfieithiadau sy'n gynyddol gymhleth. 

Bydd tiwtor personol yn cael ei neilltuo ar eich cyfer trwy gydol eich cwrs gradd. Bydd y tiwtor yn gallu'ch helpu gydag unrhyw broblemau neu ymholiadau, yn faterion academaidd neu bersonol. Mae croeso i chi gysylltu â'ch tiwtor personol ar unrhyw adeg os oes angen cymorth arnoch. 

 

Gofynion Mynediad Nodweddiadol

Tariff UCAS 128 - 104

Safon Uwch ABB-BCC

Gofynion TGAU (o leiaf gradd C/4):
English or Welsh

Diploma Cenedlaethol BTEC:
DDM-DMM

Bagloriaeth Ryngwladol:
30-28

Bagloriaeth Ewropeaidd:
75%-65%

Mae'r Brifysgol yn croesawu ceisiadau israddedig gan fyfyrwyr sy'n astudio'r Diploma Mynediad i Addysg Uwch neu gymwysterau lefel T, ar yr amod eu bod yn cyflawni'r canlyniadau perthnasol o ran cynnwys y pwnc a'r dysgu. Ni allwn dderbyn Diplomâu Mynediad i Addysg Uwch na lefelau T fel cymhwyster cyffredinol ar gyfer pob cwrs gradd israddedig.
Mae ein polisi derbyn cynhwysol yn rhoi gwerth ar ehangder yn ogystal â dyfnder yr astudio. Dewisir ymgeiswyr ar sail eu teilyngdod eu hunain a gall cynigion amrywio. Os hoffech wirio a yw eich cymwysterau yn gymwys cyn cyflwyno cais, cysylltwch â'r Swyddfa Derbyn Israddedigion am gyngor ac arweiniad.

Yn ôl i'r brig

|