LLB

Y Gyfraith ac Almaeneg

LLB Y Gyfraith ac Almaeneg Cod RM21 Dewch i Ddiwrnod Agored Dewch i Ddiwrnod Agored Llefydd ar gael trwy Clirio0800 121 40 80

Ymgeisio Nawr

Mae gwaith cyfreithiol yn digwydd ar lwyfan byd-eang yn gynyddol. Drwy ddewis astudio'r cwrs gradd LLB Cyfraith ac Almaeneg ym Mhrifysgol Aberystwyth, byddi'n magu hyfedredd yn y gyfraith a hefyd yn dod yn rhugl iawn yn yr Almaeneg.

Ceir ar y radd hon gyfuniad perffaith o ffurfioldeb a chreadigrwydd. Byddi'n astudio hanfodion ymarfer cyfreithiol ynghyd â chyfraith yn ei chyd-destun ehangach, gan gynnwys ei pherthynas â chymdeithas. Byddi hefyd yn astudio'r rheolau sydd yn sail i'r iaith Almaeneg yr un pryd ond yn dod i ddeall agweddau diwylliannol a gwleidyddol ar fywyd a chymdeithas Almaenig yr un pryd, gan ddysgu sut i ddefnyddio Almaeneg mewn cyd-destun ffurfiol, cyfreithiol yn ogystal â mewn cyd-destun anffurfiol yn ystod y flwyddyn dramor yn dy drydedd flwyddyn - profiad sy'n sicr o fod ymysg anturiaethau mwyaf dy fywyd hyd yma.

Os wyt ti'n edrych am gwrs a fydd yn dy herio ac yn dy ysgogi yr un pryd, nid oes angen chwilio ymhellach na'r radd LLB Cyfraith ac Almaeneg ym Mhrifysgol Aberystwyth.

Trosolwg o'r Cwrs

Pam astudio Cyfraith ac Almaeneg ym Mhrifysgol Aberystwyth?

  • Gyda staff a myfyrwyr sy'n dod o fwy na chant o wledydd gwahanol yn y brifysgol, mae Aber yn gymdeithas gyfeillgar, eang ei gorwelion.
  • Bydd pynciau y Gyfraith yn cael eu haddysgu a'u mentora gan staff yn Adran y Gyfraith hynaf a mwyaf hirsefydlog Cymru.
  • Gradd ymarferol yw hon, gyda'r nod o gwrdd ag anghenion cyflogwyr. Caiff ei haddysgu gan bobl o'r byd proffesiynol, ac academyddion.
  • Mae rhai aelodau o staff Adran y Gyfraith a Throseddeg wedi bod yn gyfreithwyr; mae eraill yn weithredol gyda sefydliadau mawr megis y Grŵp Arbenigwyr Cyngor Ewrop ar weithredu yn erbyn masnachu mewn pobl (GRETA), y Bwrdd Cyfiawnder Ieuenctid, a Swyddfa Uwch Gomisiynydd y Cenhedloedd Unedig dros Hawliau Dynol.
  • Drwy ddewis Aberystwyth, byddi'n ymuno â hwb amlgenhedlig a bydd llu o gyfleoedd iti ymarfer dy Almaeneg.
  • Mae holl fyfyrwyr yr Adran Ieithoedd Modern yn ffynnu yn ei hamgylchedd amlieithog. Caiff bron pob modiwl a dosbarth ei ddysgu yn yr iaith darged, mae llawer o'r staff dysgu yn siaradwyr brodorol ac yn arbenigwyr yn ei priod ieithoedd.
  • Un o uchafbwyntiau'r radd hon yw'r flwyddyn dramor. Yn dy drydedd flwyddyn, byddi'n astudio gydag un o'n prifysgolion partner yn yr Almaen neu Awstria.
  • Bydd cyfleoedd rhagorol ar gael iti, yn gymdeithasol ac yn broffesiynol, megis ymweliadau â ffeiriau Cyfraith a'r Inns of Court yn Llundain.
  • Cei ddewis cymryd rhan gyda'n Cymdeithas Ymryson Cyfreitha, sy'n cystadlu'n genedlaethol ac yn rhyngwladol, er mwyn datblygu dy sgiliau cyfreitha ac eirioli.
Ein Staff

Mae gan staff Adran y Gyfraith a Throseddeg gan mwyaf naill ai gymwysterau hyd at safon PhD neu mae ganddynt brofiad proffesiynol a chymwysterau fel cyfreithwyr wrth eu gwaith. Mae gan lawer o'r staff hefyd gymhwyster dysgu uwchraddedig (Addysg Uwch).

Mae gan bob un o ddarlithwyr yr Adran Ieithoedd Modern gymwysterau hyd at safon PhD ac maent yn gwneud gwaith ymchwil. Rydym hefyd yn cyflogi tiwtoriaid iaith, rhai ohonynt â gradd PhD, a phob un yn addysgwyr profiadol. O bryd i'w gilydd, cyflogwn siaradwyr brodorol o brifysgolion sy'n bartneriaid i ni dramor (lectoriaid), sy'n dod atom â chymeradwyaeth uchel ar sail eu llwyddiant academaidd yn eu prifysgolion eu hunain, ac mae sawl un ohonynt wedi hyfforddi fel addysgwyr. 

Gyrfaoedd

Bydd eich gradd LLB yn y Gyfraith ac Almaeneg yn cynnig ichi amrywiaeth o gyfleoedd cyffrous. Byddwch yn ymgeisydd cryf ar gyfer hyfforddiant i ddod yn fargyfreithiwr neu'n gyfreithiwr. Mae agwedd y Gyfraith ar eich gradd yn cynnig cyfle i chi fynd ymlaen i lwyddo mewn sawl maes gan gynnwys troseddeg, rheolaeth ariannol, busnes, adnoddau dynol, cysylltiadau rhyngwladol, newyddiaduraeth ac addysg. Bydd yr agwedd ieithyddol yn eich galluogi i weithio i gwmnïau rhyngwladol lle mae'r gallu i gyfathrebu mewn iaith Ewropeaidd arall yn fantais.

Mae'r Flwyddyn Dramor yn elfen o'r radd a fydd yn sicrhau eich bod yn hawlio sylw ymhlith ymgeiswyr eraill wrth geisio am swyddi. Daw myfyrwyr yn ôl ar ddiwedd y flwyddyn dramor gyda set o sgiliau ehangach, mwy o hyfedredd yn yr iaith, a'r gallu i addasu i unrhyw sefyllfa.

Mae eich dyfodol yn bwysig i ni, a bydd ein cyrsiau gradd yn rhoi'r canlynol i chi:

  • yr hyder i ddewis a defnyddio'r ystod fwyaf priodol o fethodolegau cyfreithiol
  • y gallu i werthuso a threfnu gwybodaeth ac i gyfathrebu gydag amrywiaeth o gynulleidfaoedd
  • y gallu i gasglu, dosbarthu a dehongli cyfoeth o wybodaeth gyfreithiol yn gyflym ac yn gywir
  • y gallu i fynegi syniadau a chyfleu gwybodaeth mewn modd clir a threfnus, yn ysgrifenedig ac ar lafar
  • sgiliau meddwl yn greadigol a datrys problemau’n effeithiol
  • y gallu i weithio'n annibynnol
  • sgiliau rheoli amser a threfnu, gan gynnwys y gallu i weithio yn unol â therfynau amser
  • hunanddibyniaeth a'r gallu i ysgogi eich hun
  • gweithio mewn tîm a'r gallu i drafod cysyniadau mewn grwpiau, a rhoi lle i syniadau gwahanol a dod i gytundeb
  • sgiliau ymchwil.

Cyfleoedd am Brofiad Gwaith

Cliciwch yma i ddysgu am y gwahanol gyfleoedd y mae tîm Gyrfaoedd Prifysgol Aberystwyth yn eu cynnig.

Gallwch wella'ch cyfleoedd cyflogaeth gyda GO Wales a BMG (y cynllun Blwyddyn mewn Gwaith) sy'n cael eu rheoli gan ein hadran Gyrfaoedd. 

Dysgu ac Addysgu

Beth fydda i'n ei ddysgu?

Byddi'n cael hyfforddiant graidd mewn sawl pwnc megis Cyfraith Contract, Cyfraith Droseddol a Chyfraith Tort, a bydd rhaid iti astudio a llwyddo gyda'r rhain er mwyn cael dy eithrio o gam cyntaf arholiadau proffesiynol y gyfraith. Byddi'n archwilio strwythur a datblygiad system gyfreithiol Cymru a Lloegr, perthynas y gynsail farnwrol â system y cyrtiau, ac yn dadansoddi'r broses o lunio deddfwriaeth a'r modd y caiff ei dehongli gan farnwyr. Byddi'n astudio'r modilwau ieithyddol craidd yn ogystal, sy'n cynnwys gwrando, darllen, ysgrifennu, cyfieithu a siarad.

Byddi'n treulio dy drydedd flwyddyn yn astudio yn un o'n prifysgolion partner yn yr Almaen neu Awstria.

Yn ystod yr ail a'r bedwaredd flwyddyn, cei dy gyflwyno i Gyfraith Ewrop, Cyfraith Gyhoeddus, Ecwiti a Chyfraith Ymddiriedolaethau, a Chyfraith Tir. Byddi hefyd yn datblygu dy sgiliau ieithyddol ymhellach gyda'r Adran Ieithoedd Modern. Cei deilwra dy astudiaethau gan ddethol o blith amrywiaeth o fodiwlau dewisol.

Sut bydda i'n cael fy addysgu?

Cei dy addysgu drwy gyfuniad o ddarlithoedd, tiwtorials a seminarau arloesol ac o safon. Yn y darlithoedd, cei dy gyflwyno i gysyniadau allweddol a gwybodaeth gyfredol a pherthnasol. Cei hefyd gyrchu ffeiliau sain o'r darlithoedd. Diben ein tiwtorials a'n seminarau yw rhoi'r cyfle iti drafod themâu neu bynciau penodol, i werthuso a derbyn adborth ar dy gynnydd personol tra'n gwella'r modd yr wyt yn llunio dy ddadleuon cyfreithiol.

Sut bydda i'n cael fy asesu?

Byddi'n cael dy asesu yn y modiwlau mewn sawl ffordd. Bydd gofyn iti ysgrifennu traethodau, sefyll arholiadau, creu portffolios, rhoi cyflwyniadau ar lafar (gan gynnwys ymarferion ymrysu), sefyll profion gwrando, ysgrifennu cyfansoddiadau unigol a llunio cyfieithiadau sy'n gynyddol gymhleth.

Tiwtor Personol

Bydd tiwtor personol yn cael ei ddynodi iti am gyfnod cyfan dy gwrs gradd. Bydd y tiwtor yn gallu dy helpu gydag unrhyw broblemau neu ymholiadau, yn faterion academaidd neu bersonol. Mae croeso i ti gysylltu â dy diwtor personol ar unrhyw adeg os byddi angen cymorth.

Gofynion Mynediad Nodweddiadol

Tariff UCAS 128 - 104

Safon Uwch ABB-BCC

Gofynion TGAU (o leiaf gradd C/4):
English or Welsh

Diploma Cenedlaethol BTEC:
DDM-DMM

Bagloriaeth Ryngwladol:
30-28

Bagloriaeth Ewropeaidd:
75%-65%

Mae'r Brifysgol yn croesawu ceisiadau israddedig gan fyfyrwyr sy'n astudio'r Diploma Mynediad i Addysg Uwch neu gymwysterau lefel T, ar yr amod eu bod yn cyflawni'r canlyniadau perthnasol o ran cynnwys y pwnc a'r dysgu. Ni allwn dderbyn Diplomâu Mynediad i Addysg Uwch na lefelau T fel cymhwyster cyffredinol ar gyfer pob cwrs gradd israddedig.
Mae ein polisi derbyn cynhwysol yn rhoi gwerth ar ehangder yn ogystal â dyfnder yr astudio. Dewisir ymgeiswyr ar sail eu teilyngdod eu hunain a gall cynigion amrywio. Os hoffech wirio a yw eich cymwysterau yn gymwys cyn cyflwyno cais, cysylltwch â'r Swyddfa Derbyn Israddedigion am gyngor ac arweiniad.

Yn ôl i'r brig

|