LLB

Y Gyfraith ac Ieithoedd Modern

LLB Y Gyfraith ac Ieithoedd Modern Cod RM90 Dewch i Ddiwrnod Agored Dewch i Ddiwrnod Agored

Ymgeisio Nawr

Mae gwaith cyfreithiol yn digwydd ar lwyfan byd-eang yn gynyddol, ac mae galw mawr am arbenigwyr cyfreithiol amlieithog. Drwy ddewis astudio'r cwrs gradd LLB Cyfraith a Ffrangeg ym Mhrifysgol Aberystwyth, byddwch yn magu hyfedredd yn y gyfraith a hefyd yn dod yn rhugl iawn yn yn eich dewis o ieithoedd.

Byddwch yn astudio hanfodion ymarfer cyfreithiol ynghyd â chyfraith yn ei chyd-destun ehangach, gan gynnwys ei pherthynas â chymdeithas.

Ar yr un pryd, byddwch yn astudio iaith ac yn dysgu sut i'w defnyddio mewn lleoliad ffurfiol, cyfreithiol - dewiswch o blith Ffrangeg, Almaeneg, Sbaeneg ac Eidaleg.

Trosolwg o'r Cwrs

Mae'r radd LLB Y Gyfraith ac Ieithoedd Modern hon yn radd ar gyfer yr unfed ganrif ar hugain ac mae’n gyfuniad ardderchog a fydd yn agor drysau i bob math o gyfleoedd i chi yn y dyfodol. 

Ar elfennau Cyfraith y radd, byddwch yn astudio modiwlau ymarferol sydd wedi'u cynllunio i fodloni anghenion cyflogwyr, ac fe’i haddysgir gan academyddion a gweithwyr proffesiynol profiadol ym maes y gyfraith sy'n gweithio â sefydliadau mawr e.e. GRETA, y Bwrdd Cyfiawnder Ieuenctid, a Swyddfa Uchel Gomisiynydd Hawliau Dynol y Cenhedloedd Unedig.

Mae ein modiwlau yn cwmpasu amrywiaeth o bynciau cyfreithiol traddodiadol a chyfoes, a byddwch yn meithrin y sgiliau a'r cymwyseddau a fydd yn gwella eich cyflogadwyedd mewn cyd-destun cyfreithiol. Byddwch yn gallu manteisio ar gyfleoedd proffesiynol a chymdeithasol ardderchog megis ymweld â Ffeiriau'r Gyfraith ac Ysbytai’r Brawdlys (Inns of Court) yn Llundain, a chewch gyfle i gyfoethogi’ch astudiaethau trwy gymryd rhan gyda'n Cymdeithas Ymryson Cyfreitha, sy'n cystadlu'n genedlaethol ac yn rhyngwladol, er mwyn datblygu'ch sgiliau cyfreitha ac eirioli allweddol. 

Datblygiad iaith

  • Gallwch astudio eich dewis o ieithoedd o lefel ddechreuwyr neu uwch. Bydd dechreuwyr yn astudio cwrs dwys yn y flwyddyn gyntaf.
  • Byddwch yn derbyn pedair awr o ddosbarthiadau iaith a gramadeg bob wythnos. Mae’r Adran Ieithoedd Modern yn un gymharol fach a chlos, sy'n golygu y byddwch yn elwa o’n dull unigryw o ddatblygu iaith. Mae pob un o'r tiwtoriaid iaith yn siaradwyr brodorol neu'n arbenigwr yn yr iaith darged berthnasol.
  • Bydd eich blwyddyn dramor yn cael ei threulio mewn gwlad sy'n gysylltiedig â'ch iaith ddewisol. Gallwch ddewis astudio yn un o'n prifysgolion partner, ymgymryd â lleoliad gwaith â thâl neu ddi-dâl, neu gyfuniad o'r ddau.

Bydd astudio Ieithoedd Modern ochr yn ochr â'r Gyfraith yn rhoi hwb sylweddol i’ch sgiliau a'ch cyfleoedd gyrfaol. 

Ein Staff

Mae gan staff Adran y Gyfraith a Throseddeg gan mwyaf naill ai gymwysterau hyd at safon PhD neu mae ganddynt brofiad proffesiynol a chymwysterau fel cyfreithwyr wrth eu gwaith. Mae gan lawer o'r staff hefyd gymhwyster dysgu uwchraddedig (Addysg Uwch).

Mae gan bob un o ddarlithwyr yr Adran Ieithoedd Modern gymwysterau hyd at safon PhD ac maent yn gwneud gwaith ymchwil. Rydym hefyd yn cyflogi tiwtoriaid iaith, rhai ohonynt â gradd PhD, a phob un yn addysgwyr profiadol. O bryd i'w gilydd, cyflogwn siaradwyr brodorol o brifysgolion sy'n bartneriaid i ni dramor (lectoriaid), sy'n dod atom â chymeradwyaeth uchel ar sail eu llwyddiant academaidd yn eu prifysgolion eu hunain, ac mae sawl un ohonynt wedi hyfforddi fel addysgwyr. 

Modiwlau Dechrau Medi - 2025

Noder: Y modiwlau a restrir isod yw'r modiwlau y bwriedir eu cyflwyno ar hyn o bryd yn ystod y flwyddyn academaidd nesaf ac mae'n bosibl y gallant newid. Maent wedi'u cynnwys yma i roi syniad o strwythur y cwrs.

Modiwlau Craidd

Teitl y Modiwl Cod y Modiwl Gwerth Credyd
Sgiliau ac Ymchwil Cyfreithiol CT10420 20

Opsiynau

Teitl y Modiwl Cod y Modiwl Gwerth Credyd
Exploring German Cultural Identity GE10920 20
Hispanic Civilization SP16120 20
Introduction to European Film EL10520 20
Introduction to French Studies FR11120 20
Language, Culture, and Identity in Europe EL10820 20
Study and Research Skills in Modern Languages EL10020 20
Contract Law LC13820 20
Cyfraith Droseddol CT10520 20
Cyfraith Camwedd CT11120 20
Cyfraith Cytundebau CT13820 20
Cyfraith Droseddol CT10520 20
Tort LC11120 20
French Language (Beginners) FR11740 40
French Language (Non-Beginners) FR11940 40
German Language (Beginners) GE11740 40
German Language (Non-Beginners) GE11940 40
Italian Language (Beginners) IT11740 40
Spanish Language (Beginners) SP11740 40
Spanish Language (Non-Beginners) SP11940 40

Modiwlau Craidd

Teitl y Modiwl Cod y Modiwl Gwerth Credyd

Opsiynau

Teitl y Modiwl Cod y Modiwl Gwerth Credyd
French Language (Intermediate) FR22140 40
German Language (Intermediate) GE22140 40
Italian Language (Intermediate) IT22140 40
Spanish Language (Intermediate) SP22140 40
Cuban Cinema of the Revolution: Crisis, National Identity and the Critique of Contemporary Society SP27020 20
Die Wende: Representations of Division and Unification in German Film GE26020 20
Gender in Modern and Contemporary French Culture FR21020 20
German-speaking Refugees from National Socialism in the UK GE27220 20
History, Film and Memory: Representing World Wars in French cinema FR27820 20
Rethinking late 20th Century Italy IT21020 20
Self-Writing, 18th-21st Centuries FR27020 20
The Spanish Avant-Garde SP20620 20
Climate Change and Environmental Law LC27720 20
Commercial Law LC26220 20
Contract Law * LC23820 20
Cyfraith Troseddol CT20520 20
Cyfraith Camwedd CT21120 20
Cyfraith Cytundebau CT23820 20
Cyfraith Ewrop CT20720 20
Cyfraith Fentro Byd-Eang CT20920 20
Cyfraith Gyhoeddus CT20620 20
Cyfraith Tir CT24820 20
Cyfraith Troseddol CT20520 20
Cyfraith a Pholisi Cymru CT20820 20
Ecwiti a Chyfraith Ymddiriedolaethau CT24920 20
Employment Law LC26820 20
Equity and Trusts LC24920 20
European Law LC20720 20
Family and Child Law LC26420 20
Humanitarian Law LC27620 20
Intellectual Property Law LC28620 20
International Law LC26920 20
Land Law LC24820 20
Sgiliau ac Ymchwil Cyfreithiol CT20420 20
Systemau Cyfreithiol a Chyfiawnder Troseddol CT20120 20
Medicine Ethics and the Law LC26720 20
Principles of Evidence LC26520 20
Public Law * LC20620 20
Seiberdroseddu a Seiberddiogelwch CT21920 20
Sgiliau ac Ymchwil Cyfreithiol CT20420 20
Sports Law and Society LC27920 20
Systemau Cyfreithiol a Chyfiawnder Troseddol CT20120 20
Cyfraith Camwedd CT21120 20
Treatment and Rehabilitation of Offenders LC29120 20

Modiwlau Craidd

Teitl y Modiwl Cod y Modiwl Gwerth Credyd

Opsiynau

Teitl y Modiwl Cod y Modiwl Gwerth Credyd
Advocacy Skills LC39920 20
Business Law and Practice and Solicitors Accounts LC31420 20
Climate Change and Environmental Law LC37720 20
Commercial Law LC36220 20
Criminal Law LC30520 20
Criminal Law and Practice LC31620 20
Cybercrime and Cybersecurity LC31920 20
Cyfraith Ewrop CT30720 20
Cyfraith Gyhoeddus CT30620 20
Cyfraith Tir CT34820 20
Cyfraith Troseddol CT30520 20
Cyfraith a Pholisi Cymru CT30820 20
Dispute Resolution in Contract and Tort LC31520 20
Ecwiti a Chyfraith Ymddiriedolaethau CT34920 20
Employability Skills for Professionals LC36620 20
Employment Law LC36820 20
Equity and Trusts * LC34920 20
European Law * LC30720 20
Family and Child Law LC36420 20
Humanitarian Law LC37620 20
Intellectual Property Law LC38620 20
International Law LC36920 20
Land Law * LC34820 20
Law and Criminology Dissertation LC39020 20
Legal Practice and Public Law LC31320 20
Medicine Ethics and the Law LC36720 20
Principles of Evidence LC36520 20
Property Law and Practice LC31820 20
Public Law LC30620 20
Seiberdroseddu a Seiberddiogelwch CT31920 20
Sgiliau Cyflogadwyedd ar gyfer Gweithwyr Proffesiynol CT36620 20
Sports Law and Society LC37920 20
Traethawd Estynedig y Gyfraith a Throseddeg CT39020 20
Treatment and Rehabilitation of Offenders LC39120 20
Wills, Trusts and Estates Law and Practice LC31720 20
French Language (Advanced) FR33440 40
German Language (Advanced) GE33440 40
Italian Language (Advanced) IT33440 40
Spanish Language (Advanced) SP33440 40
Cuban Cinema of the Revolution: Crisis, National Identity and the Critique of Contemporary Society SP37020 20
Die Wende: Representations of Division and Unification in German Film GE36120 20
Gender in Modern and Contemporary French Culture FR31020 20
German-speaking Refugees from National Socialism in the UK GE37220 20
History, Film and Memory: Representing World Wars in French cinema FR37820 20
Reading Late 19th Century Literature SP35120 20
Rethinking late 20th Century Italy IT31020 20
Self-writing, 18th-21st Centuries FR37020 20

Gyrfaoedd

Bydd eich gradd LLB Y Gyfraith ac Ieithoedd Modern yn cynnig ichi amrywiaeth o gyfleoedd cyffrous. Byddwch chi mewn sefyllfa dda i hyfforddi i fod yn fargyfreithiwr neu'n gyfreithiwr. Bydd maes pwnc y Gyfraith yn gyfle ichi fynd ymlaen i lwyddo mewn sawl maes gan gynnwys troseddeg, rheolaeth ariannol, busnes, adnoddau dynol, cysylltiadau rhyngwladol, newyddiaduraeth ac addysg. Bydd yr agwedd ieithyddol yn eich galluogi i weithio i gwmnïau amlwladol lle mae'r gallu i gyfathrebu mewn iaith arall yn fantais.

Mae'r Flwyddyn Dramor yn un o elfennau'r cwrs hwn, a bydd y profiad hwnnw yn sicrhau eich bod yn hawlio sylw ymhlith ymgeiswyr eraill tra'n ceisio am swyddi. Daw myfyrwyr adre ar ddiwedd y flwyddyn dramor gyda set o sgiliau ehangach, mwy o hyfedredd yn yr iaith, a'r gallu i addasu i unrhyw sefyllfa.

Mae eich dyfodol yn bwysig, a bydd ein graddau ni yn rhoi ichi'r sgiliau canlynol:

  • hyder wrth ddethol a defnyddio'r dulliau cyfreithiol mwyaf priodol
  • y gallu i werthuso a threfnu gwybodaeth, ac i gyfathrebu ag amrywiol gynulleidfaoedd
  • y gallu i gasglu, cymathu a dehongli cyfoeth o wybodaeth gyfreithiol yn gyflym ac yn gywir
  • y gallu i fynegi syniadau a rhannu gwybodaeth mewn modd clir a threfnus, yn ysgrifenedig ac ar lafar
  • y gallu i ddatrys problemau yn effeithiol a meddwl yn greadigol
  • y gallu i weithio'n annibynnol
  • sgiliau rheoli amser a threfnu, gan gynnwys y gallu i gwrdd â therfynau amser
  • hunangymhelliant a hunanddibyniaeth
  • y gallu i weithio mewn tîm, ac i drafod cysyniadau mewn grwpiau, gan ystyried gwahanol safbwyntiau a dod i gytundeb
  • sgiliau ymchwil.

Pa gyfleoedd sydd ar gael am brofiad gwaith wrth astudio? 

Dysgwch am y gwahanol gyfleoedd sy'n cael eu cynnig gan y Gwasanaeth Gyrfaoedd a sut y gallwch chi wella'ch cyfleoedd cyflogaeth gyda Cynllun Blwyddyn mewn Gwaith (BMG).

Dysgu ac Addysgu

Beth fydda i’n ei ddysgu?

Ym mhob blwyddyn bydd gennych bedair awr o waith iaith yr wythnos – dewiswch o blith Ffrangeg, Almaeneg, Sbaeneg ac Eidaleg.

Yn eich blwyddyn gyntaf byddwch yn astudio:

  • Sgiliau cyfreithiol
  • Dewiswch fodiwlau dewisol sy’n amrywio o gamwedd i gyfraith contractau a chyfraith droseddol, i ffilm Ewropeaidd a hunaniaeth ddiwylliannol.

Yn eich ail flwyddyn, byddwch yn astudio:

  • Eich dewis o fodiwlau dewisol o blith yr ystod eang sydd ar gael, sy’n cynnwys cyfraith ddyngarol a chyfraith ryngwladol, systemau cyfreithiol a chyfiawnder troseddol, sinema Ciwba a’r Avant-Garde Sbaeneg.

Yn eich trydedd flwyddyn, byddwch yn ymgymryd â'ch blwyddyn dramor, yn gweithio neu'n astudio mewn gwlad dramor sy’n berthnasol i’ch iaith ddewisol.

Yn eich blwyddyn olaf, byddwch yn astudio:

  • Eich dewis o fodiwlau dewisol o blith yr ystod eang sydd ar gael, sy’n cynnwys sgiliau eiriolaeth, cyfraith tir ac eiddo, a gwareiddiad Sbaenaidd, gan eich galluogi i deilwra eich cwrs yn unol â'ch diddordebau.

Sut fydda i'n cael fy nysgu?

Byddwch yn cael eich addysgu drwy gyfuniad o ddarlithoedd, dosbarthiadau iaith, seminarau a thiwtorialau.

Asesu

Gall dulliau asesu gynnwys arholiadau, gwaith cwrs, traethodau, prosiectau a chyflwyniadau.

Gofynion Mynediad Nodweddiadol

Tariff UCAS 128 - 104

Safon Uwch ABB-BCC

Gofynion TGAU (o leiaf gradd C/4):
Cymraeg neu Saesneg

Diploma Cenedlaethol BTEC:
DDM-DMM

Bagloriaeth Ryngwladol:
30-28

Bagloriaeth Ewropeaidd:
75%-65%

Mae'r Brifysgol yn croesawu ceisiadau israddedig gan fyfyrwyr sy'n astudio'r Diploma Mynediad i Addysg Uwch neu gymwysterau lefel T, ar yr amod eu bod yn cyflawni'r canlyniadau perthnasol o ran cynnwys y pwnc a'r dysgu. Ni allwn dderbyn Diplomâu Mynediad i Addysg Uwch na lefelau T fel cymhwyster cyffredinol ar gyfer pob cwrs gradd israddedig.
Mae ein polisi derbyn cynhwysol yn rhoi gwerth ar ehangder yn ogystal â dyfnder yr astudio. Dewisir ymgeiswyr ar sail eu teilyngdod eu hunain a gall cynigion amrywio. Os hoffech wirio a yw eich cymwysterau yn gymwys cyn cyflwyno cais, cysylltwch â'r Swyddfa Derbyn Israddedigion am gyngor ac arweiniad.

Yn ôl i'r brig

|