LLB

Y Gyfraith a Chysylltiadau Rhyngwladol

LLB Y Gyfraith a Chysylltiadau Rhyngwladol Cod 21LM Dewch i Ddiwrnod Agored Dewch i Ddiwrnod Agored

Ymgeisio Nawr

Os ydych chi’n mwynhau cael eich herio a'ch ysgogi, gallai’r cwrs gradd LLB y Gyfraith gyda Chysylltiadau Rhyngwladol ym Mhrifysgol Aberystwyth fod yn gwrs addas i chi. Trwy gymysgedd cyffrous o bynciau sy'n cwmpasu arferion traddodiadol a chyfoes yn y gyfraith a chysylltiadau rhyngwladol, bydd y radd hon yn rhoi cyfle i chi astudio dwy ddisgyblaeth sy’n ategu’i gilydd. Yn yr 21ain ganrif, mae ymarfer ym maes y gyfraith a chysylltiadau rhyngwladol yn bellgyrhaeddol ac yn digwydd mewn cyd-destun byd-eang. Wrth astudio systemau’r gyfraith a chyfiawnder troseddol, byddwch hefyd yn ymchwilio i agweddau diwylliannol a chymdeithasol y disgyblaethau - i weld sut y maent yn dylanwadu ar ymarfer ac i weld effaith y gyfraith a chysylltiadau rhyngwladol ar gymdeithasau ledled y byd.  

Bydd LLB y Gyfraith gyda Chysylltiadau Rhyngwladol ym Mhrifysgol Aberystwyth yn rhoi cyfle i archwilio'r cwestiynau mawr sy'n ymwneud ag ideoleg a moeseg yn ogystal â thrafodaethau a pholisïau cyfreithiol. Byddwch yn astudio ac yn trafod yr heriau byd-eang sy'n wynebu'r byd heddiw, yn dod i ddeall beth yw'r heriau hynny ac yn archwilio'r cyfleoedd a'r rhwystrau sy'n llywio ein dulliau o’u rheoli. Bydd y radd hon yn rhoi galluoedd "y byd go iawn" i chi, a’ch rhoi mewn sefyllfa i roi ffurf i’ch dyfodol eich hun a datblygu gyrfa werth chweil. 

Trosolwg o'r Cwrs

Mae gradd LLB y Gyfraith a Chysylltiadau Rhyngwladol ym Mhrifysgol Aberystwyth yn gwrs cytbwys sy'n cyfuno damcaniaeth ac ymarfer ac mae wedi'i gynllunio i ateb anghenion a disgwyliadau cyflogwyr. Mae elfennau o'r radd yn cael eu cydnabod gan Fwrdd Safonau'r Bar a’r Awdurdod Rheoleiddio Cyfreithwyr - llwybr uniongyrchol i'r proffesiwn cyfreithiol. 

Ar gyfer elfennau Cyfraith y radd, byddwch yn cael eich dysgu yn adran y Gyfraith a Throseddeg, adran a fu’n dysgu graddau yn y Gyfraith ers 1901. Byddwch yn archwilio'r gyfraith, y ffordd mae'r gyfraith yn gweithredu, a'r berthynas rhwng y gyfraith, cyfiawnder a chymdeithas. Yn ogystal ag astudio'r pynciau cyfreithiol sylfaenol, cewch gyfle i deilwra eich gradd yn ôl eich diddordebau eich hun, gan ddewis o blith nifer o fodiwlau ychwanegol sy'n cwmpasu meysydd cyfreithiol cyfoes ac arbenigol. 

Yn ogystal â hyn, byddwch yn gallu cyfoethogi’ch astudiaethau trwy gymryd rhan yn ein Cymdeithas Ymrysona, sy'n cystadlu'n genedlaethol ac yn rhyngwladol, er mwyn datblygu'ch sgiliau allweddol mewn cyfreitha ac eirioli. Hefyd, i fyfyrwyr sy'n dymuno ymrysona trwy gyfrwng y Gymraeg, rydyn ni’n cynnig cystadleuaeth Ymryson trwy’r Gymraeg. 

Ar gyfer yr elfennau Cysylltiadau Rhyngwladol byddwch yn cael eich dysgu yn yr adran Gwleidyddiaeth Ryngwladol. Hon yw adran brifysgol gyntaf y byd ym maes Gwleidyddiaeth Ryngwladol ac fe’i sefydlwyd ym 1919 ar ddiwedd y Rhyfel Byd Cyntaf. Byddwch yn astudio'r cysyniadau, arferion, polisïau, hanesion a rhanbarthau sy'n rhoi ffurf i wleidyddiaeth ryngwladol fel disgyblaeth, ac yn archwilio sut mae'r holl ffactorau hyn yn cael eu trawsnewid yn radical yn yr unfed ganrif ar hugain. 

Ar ben hyn, cewch gyfle i gymryd rhan yn y 'Gemau Argyfwng' cyffrous ac enwog a gynhelir gan yr adran, yn y cynllun nodedig o Leoliadau Seneddol, a chyfle i gyfrannu at y cyfnodolyn gwleidyddiaeth ryngwladol hynaf sy'n cael ei redeg gan fyfyrwyr, 'Interstate'.  

Ein Staff

Mae gan staff Adran y Gyfraith a Throseddeg gan mwyaf naill ai gymwysterau hyd at safon PhD neu mae ganddynt brofiad proffesiynol a chymwysterau fel cyfreithwyr wrth eu gwaith. Mae gan lawer o'r staff hefyd gymhwyster dysgu uwchraddedig (Addysg Uwch).

Mae pob un o ddarlithwyr yr Adran Gwleidyddiaeth Ryngwladol yn ymchwilwyr gweithgar ac mae ganddynt gymwysterau hyd at safon PhD, ac mae gan y rhan fwyaf hefyd TUAAU.

Modiwlau Dechrau Medi - 2025

Noder: Y modiwlau a restrir isod yw'r modiwlau y bwriedir eu cyflwyno ar hyn o bryd yn ystod y flwyddyn academaidd nesaf ac mae'n bosibl y gallant newid. Maent wedi'u cynnwys yma i roi syniad o strwythur y cwrs.

Modiwlau Craidd

Teitl y Modiwl Cod y Modiwl Gwerth Credyd
International Relations: Perspectives and Debates IP20120 20

Opsiynau

Teitl y Modiwl Cod y Modiwl Gwerth Credyd
A War on the Mind: Propaganda and Secret Intelligence from the Great War to the 21st Century IP28320 20
Capitalism and International Politics IQ22820 20
Climate Change Politics IP21420 20
Climate Change and International Politics in the Anthropocene IP20720 20
Contemporary Latin America IP28720 20
Datganoli a Chymru GW25020 20
Devolution and Wales IP25020 20
Gwleidyddiaeth mewn Cymdeithasau Amrywiaethol GQ23720 20
International Politics and Global Development IP29220 20
Intervention and Humanitarianism IQ20220 20
Militaries and Crisis: Where Strategy Meets Society IP20820 20
People and Power: Understanding Comparative Politics Today IQ23920 20
Pobl a Grym: Deall Gwleidyddiaeth Gymharol Heddiw GQ23920 20
Political Theory IP22220 20
Politics in Diverse Societies IQ23720 20
Questions of International Politics IP26820 20
Russian intelligence from Lenin to Putin IQ24920 20
Science, Technology, and International Relations IP23020 20
Strategy, Intelligence and Security in International Politics IQ25120 20
Terrorism & Counter Terrorism in the Modern World: Policing, Intelligence & War IP24520 20
The BRICS in World Politics IQ20320 20
The European Union: Politics, Policies, Problems IP23820 20
The Governance of Climate Change: Simulation Module IP22320 20
The Second World War in Europe IP26420 20
Total War, Total Peace IQ23420 20
Trade Wars and the Liberal Order IQ21620 20
War Crimes IQ25720 20
Warfare after Waterloo: Military History 1815-1918 IP25320 20
Y Meddwl Cymreig mewn Syniadaeth Ryngwladol GQ20920 20
Climate Change and Environmental Law LC27720 20
Commercial Law LC26220 20
Company Law LC27220 20
Contract Law * LC23820 20
Cyfraith Troseddol CT20520 20
Cyfraith Camwedd CT21120 20
Cyfraith Cytundebau CT23820 20
Cyfraith Ewrop CT20720 20
Cyfraith Gyhoeddus CT20620 20
Cyfraith Tir CT24820 20
Cyfraith Troseddol CT20520 20
Drugs and Crime LC28220 20
Ecwiti a Chyfraith Ymddiriedolaethau CT24920 20
Employment Law LC26820 20
Equity and Trusts LC24920 20
European Law LC20720 20
Family and Child Law LC26420 20
Human Rights LC25220 20
Intellectual Property Law LC28620 20
International Law LC26920 20
Land Law LC24820 20
Sgiliau ac Ymchwil Cyfreithiol CT20420 20
Medicine Ethics and the Law LC26720 20
Public Law LC20620 20
Sgiliau ac Ymchwil Cyfreithiol CT20420 20
Technology, Artificial Intelligence and the Law LC22420 20
Cyfraith Camwedd CT21120 20
Trosedd yn y Gymru Gyfoes CT20220 20

Modiwlau Craidd

Teitl y Modiwl Cod y Modiwl Gwerth Credyd

Opsiynau

Teitl y Modiwl Cod y Modiwl Gwerth Credyd
A War on the Mind: Propaganda and Secret Intelligence from the Great War to the 21st Century IP38320 20
Business Law and Practice and Solicitors Accounts LC31420 20
Capitalism and International Politics IQ32820 20
Climate Change Politics IP31420 20
Climate Change and Environmental Law LC37720 20
Commercial Law LC36220 20
Company Law LC37220 20
Contemporary Latin America IP38720 20
Criminal Law LC30520 20
Criminal Law and Practice LC31620 20
Cyfraith Ewrop CT30720 20
Cyfraith Gyhoeddus CT30620 20
Cyfraith Tir CT34820 20
Cyfraith Troseddol CT30520 20
Datganoli a Chymru GW35020 20
Devolution and Wales IP35020 20
Dispute Resolution in Contract and Tort LC31520 20
Dissertation IP30040 40
Drugs and Crime LC38220 20
Dulliau Ymchwil + Traethawd Estynedig GW30040 40
Ecwiti a Chyfraith Ymddiriedolaethau CT34920 20
Employability Skills for Professionals LC36620 20
Employment Law LC36820 20
Equity and Trusts * LC34920 20
European Law * LC30720 20
Family and Child Law LC36420 20
Gwleidyddiaeth mewn Cymdeithasau Amrywiaethol GQ33720 20
Human Rights LC35220 20
Intellectual Property Law LC38620 20
International Law LC36920 20
Intervention and Humanitarianism IQ30220 20
Land Law * LC34820 20
Law and Criminology Dissertation LC39020 20
Legal Practice and Public Law LC31320 20
Medicine Ethics and the Law LC36720 20
Militaries and Crisis: Where Strategy Meets Society IP30820 20
Political Theory IP32220 20
Politics in Diverse Societies IQ33720 20
Property Law and Practice LC31820 20
Public Law * LC30620 20
Questions of International Politics IP36820 20
Russian intelligence from Lenin to Putin IQ34920 20
Science, Technology, and International Relations IP33020 20
Sgiliau Cyflogadwyedd ar gyfer Gweithwyr Proffesiynol CT36620 20
Technology, Artificial Intelligence and the Law LC32420 20
Terrorism & Counter Terrorism in the Modern World: Policing, Intelligence & War IP34520 20
The BRICS in World Politics IQ30320 20
The European Union: Politics, Policies, Problems IP33820 20
The Second World War in Europe IP36420 20
Total War, Total Peace IQ33420 20
Trade Wars and the Liberal Order IQ31620 20
Traethawd Estynedig y Gyfraith a Throseddeg CT39020 20
Trosedd yn y Gymru Gyfoes CT30220 20
War Crimes IQ35720 20
Wills, Trusts and Estates Law and Practice LC31720 20
Y Meddwl Cymreig Mewn Syniadaeth Ryngwladol GQ30920 20

Gyrfaoedd

Beth fydda i'n gallu ei wneud gyda gradd yn y Gyfraith a Chysylltiadau Rhyngwladol?

Mae Cyflogadwyedd wedi'i wreiddio yn ein holl gyrsiau. Mae ein

graddau'n darparu sylfaen gadarn i amrywiaeth fawr o yrfaoedd ar draws ystod o sectorau. Mae ein graddedigion yn hyblyg ac yn gallu dibynnu ar set o sgiliau

trosglwyddadwy mewn economi fyd-eang sy'n newid yn gyflym, sy'n sicrhau bod galw mawr amdanynt.

Bydd gradd yn y Gyfraith a Chysylltiadau Rhyngwladol yn agor y

drws ar amrywiaeth o gyfleoedd cyffrous ichi. Bydd y rhan o'r radd sy'n ymwneud â'r Gyfraith yn eich paratoi'n dda ar gyfer astudiaethau pellach i gymhwyso fel bargyfreithiwr neu gyfreithiwr. Mae Cysylltiadau Rhyngwladol yn faes amrywiol sy'n rhoi ichi'r cyfle i archwilio cymhlethdod y berthynas rhwng gwahanol wledydd. Cewch fanteisio ar y ddealltwriaeth hon ar ôl ichi ymuno â'r gweithle.

Byddwch mewn sefyllfa dda i gael gwaith mewn amrywiaeth o

sectorau, gan gynnwys y gyfraith, cysylltiadau rhyngwladol, y gwasanaeth sifil,

ymchwil llywodraethol, cyrff anllywodraethol, gwaith cyfreithiol, troseddeg,

busnes, adnoddau dynol, newyddiaduraeth ac addysg.

Sgiliau trosglwyddadwy

Mae eich dyfodol yn bwysig i ni, a bydd ein cyrsiau gradd yn rhoi'r canlynol ichi:

  • yr hyder i ddewis a defnyddio'r ystod fwyaf priodol o fethodolegau cyfreithiol
  • y gallu i ysgrifennu ac i gyfathrebu gydag amrywiaeth o gynulleidfaoedd, gan werthuso a threfnu gwybodaeth
  • y gallu i gasglu, dosbarthu a dehongli cyfoeth o wybodaeth gyfreithiol yn gyflym ac yn gywir
  • y gallu i fynegi syniadau a chyfleu gwybodaeth mewn modd clir a threfnus, yn ysgrifenedig ac ar lafar
  • y gallu i drafod cysyniadau mewn grwpiau, rhoi lle i syniadau gwahanol, negodi a dod i gytundeb
  • y gallu i weithio'n annibynnol ac yn rhan o dîm
  • sgiliau ymchwil
  • sgiliau datrys problemau a meddwl creadigol effeithiol
  • sgiliau rheoli amser a threfnu, gan gynnwys y gallu i weithio i derfynau amser
  • hunanddibyniaeth a'r gallu i ysgogi dy hun.

Pa gyfleoedd am brofiad gwaith fydd ar gael i mi wrth astudio?

Bydd cymryd rhan yn y Cynllun Lleoliadau Seneddol yn gyfle ichi

ddatblygu sgiliau ymarferol megis ysgrifennu adroddiadau ac areithiau, gweithio ar brosiectau ymchwil, ac ymateb i faterion etholaethol.

Mae'n bosib y bydd yr opsiwn i astudio'r modiwl Sgiliau Cyflogadwyedd ar gyfer Gweithwyr Proffesiynol ar gael i chi - modiwl sy'n darparu profiad penodol ac ymarferol yn y gweithle sy'n gwella rhagolygon myfyrwyr i gael eu cyflogi yn eu dewis feysydd yn y dyfodol. Ni ellir sicrhau lle ar y modiwl ar gyfer unrhyw fyfyriwr ac mae’n bosib y cynhelir cyfweliadau er mwyn cynnig lleoedd.

Cyfleoedd eraill

Dysgwch am y gwahanol gyfleoedd y mae Gwasanaeth Gyrfaoedd Prifysgol Aberystwyth yn eu cynnig, gan gynnwys y cyfle i wella'ch cyfleoedd gyrfa gyda GO Wales a'r cynllun Blwyddyn Mewn Gwaith (BMG).

Dysgu ac Addysgu

Beth fydda i'n ei ddysgu?

Yn eich blwyddyn gyntaf, cewch eich cyflwyno i Systemau Cyfiawnder Cyfreithiol a Throseddol, cysyniadau canolog a sgiliau craidd mewn Cysylltiadau Rhyngwladol, a chewch ddewis o blith modiwlau eraill, e.e. Cyfraith Droseddol neu Wleidyddiaeth yn yr 21ain Ganrif. 

Yn eich ail flwyddyn, gallwch deilwra’r dysgu a’r addysgu i'ch diddordebau academaidd eich hun trwy ddewis modiwlau o blith amrywiaeth o bynciau, gan gynnwys cyfraith fasnachol, cyfraith ryngwladol, cysylltiadau rhyngwladol, ac anghydraddoldeb byd-eang & gwleidyddiaeth y byd.  

Yn y drydedd flwyddyn, canolbwyntir yn unig ar fodiwlau sy'n gysylltiedig â'r Gyfraith. Gallwch adeiladu ar fodiwlau a ddewiswyd yn eich ail flwyddyn neu ddewis rhywbeth hollol newydd. Mae'r rhain yn cynnwys dewis sy’n amrywio o gyfraith droseddol i’r dulliau o drin ac adsefydlu troseddwyr. 

Sut fydda i'n cael fy nysgu? 

Cewch eich dysgu trwy gyfuniad o ddarlithoedd, tiwtorialau a seminarau blaengar a safonol. 

Bydd ein darlithoedd yn eich cyflwyno i gysyniadau allweddol a gwybodaeth gyfredol a pherthnasol. Gallwch hefyd ddefnyddio fersiynau wedi'u recordio o'r darlithoedd. 

Mae ein tiwtorialau a'n seminarau yn gyfle i chi drafod themâu neu bynciau penodol, ac i werthuso a chael adborth ar eich dysgu unigol, gan wella'ch dull o lunio dadleuon cyfreithiol ar yr un pryd. 

Sut fydda i’n cael fy asesu? 

Cewch eich asesu ar ffurf traethodau, arholiadau, cofnodion neu bortffolio astudio, a chyflwyniadau llafar.  

Bydd gennych diwtor personol trwy gydol eich amser yn Aberystwyth, ac ef neu hi fydd eich prif gyswllt os bydd gennych unrhyw broblemau neu ymholiadau, boed academaidd neu bersonol. 




Gofynion Mynediad Nodweddiadol

Tariff UCAS 128 - 104

Safon Uwch ABB-BCC

Gofynion TGAU (o leiaf gradd C/4):
Cymraeg neu Saesneg

Diploma Cenedlaethol BTEC:
DDM-MMM

Bagloriaeth Ryngwladol:
30-28

Bagloriaeth Ewropeaidd:
75%-65% overall

Mae'r Brifysgol yn croesawu ceisiadau israddedig gan fyfyrwyr sy'n astudio'r Diploma Mynediad i Addysg Uwch neu gymwysterau lefel T, ar yr amod eu bod yn cyflawni'r canlyniadau perthnasol o ran cynnwys y pwnc a'r dysgu. Ni allwn dderbyn Diplomâu Mynediad i Addysg Uwch na lefelau T fel cymhwyster cyffredinol ar gyfer pob cwrs gradd israddedig.
Mae ein polisi derbyn cynhwysol yn rhoi gwerth ar ehangder yn ogystal â dyfnder yr astudio. Dewisir ymgeiswyr ar sail eu teilyngdod eu hunain a gall cynigion amrywio. Os hoffech wirio a yw eich cymwysterau yn gymwys cyn cyflwyno cais, cysylltwch â'r Swyddfa Derbyn Israddedigion am gyngor ac arweiniad.

Yn ôl i'r brig

|