LLB

Y Gyfraith a Sbaeneg

Mae gwaith cyfreithiol yn digwydd ar lwyfan byd-eang yn gynyddol.

Drwy ddewis astudio'r cwrs gradd LLB Cyfraith a Sbaeneg ym Mhrifysgol Aberystwyth, byddwch chi'n magu hyfedredd yn y gyfraith a hefyd yn dod yn rhugl iawn yn y Sbaeneg.

Ceir ar y radd hon gyfuniad perffaith o ffurfioldeb a chreadigrwydd. Byddwch yn astudio hanfodion ymarfer cyfreithiol ynghyd â chyfraith yn ei chyd-destun ehangach, gan gynnwys ei pherthynas â chymdeithas. Byddwch hefyd yn astudio'r rheolau sydd yn sail i'r iaith Sbaeneg ac yn dod i ddeall agweddau diwylliannol a gwleidyddol ar fywyd a chymdeithas Sbaenaidd yr un pryd, gan ddysgu sut i ddefnyddio Sbaeneg mewn cyd-destun ffurfiol, cyfreithiol yn ogystal â mewn cyd-destun anffurfiol yn ystod y flwyddyn dramor yn y drydedd flwyddyn - profiad sy'n sicr o fod ymysg anturiaethau mwyaf eich bywyd hyd yma.

Os ydych yn edrych am gwrs a fydd yn eich herio ac yn eich ysgogi yr un pryd, nid oes angen chwilio ymhellach na'r radd LLB Cyfraith a Sbaeneg ym Mhrifysgol Aberystwyth.

Trosolwg o'r Cwrs

Pam astudio Cyfraith a Sbaeneg ym Mhrifysgol Aberystwyth?

  • Gyda staff a myfyrwyr sy'n dod o fwy na chant o wledydd gwahanol yn y brifysgol, mae Aber yn gymdeithas gyfeillgar, eang ei gorwelion.
  • Bydd pynciau y Gyfraith yn cael eu haddysgu a'u mentora gan staff yn Adran y Gyfraith hynaf a mwyaf hirsefydlog Cymru.
  • Gradd ymarferol yw hon, gyda'r nod o gwrdd ag anghenion cyflogwyr. Caiff ei haddysgu gan bobl o'r byd proffesiynol, ac academyddion.
  • Mae rhai aelodau o staff Adran y Gyfraith a Throseddeg wedi bod yn gyfreithwyr; mae eraill yn weithredol gyda sefydliadau mawr megis y Grŵp Arbenigwyr Cyngor Ewrop ar weithredu yn erbyn masnachu mewn pobl (GRETA), y Bwrdd Cyfiawnder Ieuenctid, a Swyddfa Uwch Gomisiynydd y Cenhedloedd Unedig dros Hawliau Dynol.
  • Drwy ddewis Aberystwyth, byddwch yn ymuno â hwb amlgenhedlig a bydd llu o gyfleoedd ichi ymarfer eich Sbaeneg.
  • Mae holl fyfyrwyr yr Adran Ieithoedd Modern yn ffynnu yn ei hamgylchedd amlieithog. Caiff bron pob modiwl a dosbarth ei ddysgu yn yr iaith darged, mae llawer o'r staff dysgu yn siaradwyr brodorol ac yn arbenigwyr yn ei priod ieithoedd.
  • Un o uchafbwyntiau'r radd hon yw'r flwyddyn dramor. Yn y drydedd flwyddyn, byddwch yn astudio gydag un o'n prifysgolion partner yn Sbaen.
  • Bydd cyfleoedd rhagorol ar gael ichi, yn gymdeithasol ac yn broffesiynol, megis ymweliadau â ffeiriau Cyfraith a'r Inns of Court yn Llundain.
  • Cewch ddewis cymryd rhan gyda'n Cymdeithas Ymryson Cyfreitha, sy'n cystadlu'n genedlaethol ac yn rhyngwladol, er mwyn datblygu'ch sgiliau cyfreitha ac eirioli.
Ein Staff

Mae gan staff Adran y Gyfraith a Throseddeg gan mwyaf naill ai gymwysterau hyd at safon PhD neu mae ganddynt brofiad proffesiynol a chymwysterau fel cyfreithwyr wrth eu gwaith. Mae gan lawer o'r staff hefyd gymhwyster dysgu uwchraddedig (Addysg Uwch).

Mae gan bob un o ddarlithwyr yr Adran Ieithoedd Modern gymwysterau hyd at safon PhD ac maent yn gwneud gwaith ymchwil. Rydym hefyd yn cyflogi tiwtoriaid iaith, rhai ohonynt â gradd PhD, a phob un yn addysgwyr profiadol. O bryd i'w gilydd, cyflogwn siaradwyr brodorol o brifysgolion sy'n bartneriaid i ni dramor (lectoriaid), sy'n dod atom â chymeradwyaeth uchel ar sail eu llwyddiant academaidd yn eu prifysgolion eu hunain, ac mae sawl un ohonynt wedi hyfforddi fel addysgwyr. 

Gyrfaoedd

Bydd eich gradd LLB Cyfraith a Sbaeneg yn cynnig ichi amrywiaeth o gyfleoedd cyffrous. Byddwch mewn sefyllfa dda i hyfforddi i fod yn fargyfreithiwr neu'n gyfreithiwr. Bydd maes pwnc y Gyfraith yn gyfle ichi fynd ymlaen i lwyddo mewn sawl maes gan gynnwys troseddeg, rheolaeth ariannol, busnes, adnoddau dynol, cysylltiadau rhyngwladol, newyddiaduraeth ac addysg. Bydd yr agwedd ieithyddol yn eich galluogi i weithio i gwmnïau amlwladol lle mae'r gallu i gyfathrebu mewn iaith arall yn fantais.

Mae'r Flwyddyn Dramor yn un o elfennau'r cwrs hwn, a bydd y profiad hwnnw yn sicrhau eich bod yn hawlio sylw ymhlith ymgeiswyr eraill tra'n ceisio am swyddi. Daw myfyrwyr adre ar ddiwedd y flwyddyn dramor gyda set o sgiliau ehangach, mwy o hyfedredd yn yr iaith, a'r gallu i addasu i unrhyw sefyllfa.

Mae eich dyfodol yn bwysig, a bydd ein graddau ni yn rhoi ichi'r sgiliau canlynol:

  • hyder wrth ddethol a defnyddio'r dulliau cyfreithiol mwyaf priodol
  • y gallu i werthuso a threfnu gwybodaeth, ac i gyfathrebu ag amrywiol gynulleidfaoedd
  • y gallu i gasglu, cymathu a dehongli cyfoeth o wybodaeth gyfreithiol yn gyflym ac yn gywir
  • y gallu i fynegi syniadau a rhannu gwybodaeth mewn modd clir a threfnus, yn ysgrifenedig ac ar lafar
  • y gallu i ddatrys problemau yn effeithiol a meddwl yn greadigol
  • y gallu i weithio'n annibynnol
  • sgiliau rheoli amser a threfnu, gan gynnwys y gallu i gwrdd â therfynau amser
  • hunangymhelliant a hunanddibyniaeth
  • y gallu i weithio mewn tîm, ac i drafod cysyniadau mewn grwpiau, gan ystyried gwahanol safbwyntiau a dod i gytundeb
  • sgiliau ymchwil.

Cyfleoedd am brofiad gwaith

Cliciwch yma i ddysgu am y gwahanol gyfleoedd y mae tîm Gyrfaoedd Prifysgol Aberystwyth yn eu cynnig.

Cewch hefyd wella'ch cyfleoedd cyflogaeth gyda GO Wales a BMG (y cynllun Blwyddyn mewn Gwaith) sy'n cael ei reoli gan ein hadran Gyrfaoedd.

Dysgu ac Addysgu

Beth fydda i'n ei ddysgu?

Byddwch yn cael hyfforddiant graidd mewn sawl pwnc megis Cyfraith Contract, Cyfraith Droseddol a Chyfraith Tort, a bydd rhaid ichi astudio a llwyddo gyda'r rhain er mwyn cael eich eithrio o gam cyntaf arholiadau proffesiynol y gyfraith. Byddwch yn archwilio strwythur a datblygiad system gyfreithiol Cymru a Lloegr, perthynas y gynsail farnwrol â system y cyrtiau, ac yn dadansoddi'r broses o lunio deddfwriaeth a'r modd y caiff ei dehongli gan farnwyr. Byddwch yn astudio'r modilwau ieithyddol craidd yn ogystal, sy'n cynnwys gwrando, darllen, ysgrifennu, cyfieithu a siarad.

Byddwch yn treulio'ch trydedd flwyddyn yn astudio yn un o'n prifysgolion partner yn Sbaen.

Yn ystod yr ail a'r bedwaredd flwyddyn, cewch eich cyflwyno i Gyfraith Ewrop, Cyfraith Gyhoeddus, Ecwiti a Chyfraith Ymddiriedolaethau, a Chyfraith Tir. Byddwch hefyd yn datblygu'ch sgiliau ieithyddol ymhellach gyda'r Adran Ieithoedd Modern. Cewch deilwra'ch astudiaethau gan ddethol o blith amrywiaeth o fodiwlau dewisol.

Sut bydda i'n cael fy addysgu?

Cewch eich addysgu drwy gyfuniad o ddarlithoedd, tiwtorials a seminarau arloesol ac o safon. Yn y darlithoedd, cewch eich cyflwyno i gysyniadau allweddol a gwybodaeth gyfredol a pherthnasol. Cewch hefyd gyrchu ffeiliau sain o'r darlithoedd. Diben ein tiwtorials a'n seminarau yw rhoi'r cyfle ichi drafod themâu neu bynciau penodol, i werthuso a derbyn adborth ar eich cynnydd personol tra'n gwella'r modd yr ydych yn llunio'ch dadleuon cyfreithiol.

Sut bydda i'n cael fy asesu?

Byddwch yn cael eich asesu yn y modiwlau mewn sawl ffordd. Bydd gofyn ichi ysgrifennu traethodau, sefyll arholiadau, creu portffolios, rhoi cyflwyniadau ar lafar (gan gynnwys ymarferion ymrysu), sefyll profion gwrando, ysgrifennu cyfansoddiadau unigol a llunio cyfieithiadau sy'n gynyddol gymhleth.

Tiwtor Personol

Bydd tiwtor personol yn cael ei ddynodi ichi am gyfnod cyfan eich cwrs gradd. Bydd y tiwtor yn gallu'ch helpu gydag unrhyw broblemau neu ymholiadau, yn faterion academaidd neu bersonol. Mae croeso i chi gysylltu â'ch tiwtor personol ar unrhyw adeg os byddwch angen cymorth.

Gofynion Mynediad Nodweddiadol

Tariff UCAS 128 - 104

Safon Uwch ABB-BCC

Gofynion TGAU (o leiaf gradd C/4):
English or Welsh

Diploma Cenedlaethol BTEC:
DDM-DMM

Bagloriaeth Ryngwladol:
30-28

Bagloriaeth Ewropeaidd:
75%-65%

Mae'r Brifysgol yn croesawu ceisiadau israddedig gan fyfyrwyr sy'n astudio'r Diploma Mynediad i Addysg Uwch neu gymwysterau lefel T, ar yr amod eu bod yn cyflawni'r canlyniadau perthnasol o ran cynnwys y pwnc a'r dysgu. Ni allwn dderbyn Diplomâu Mynediad i Addysg Uwch na lefelau T fel cymhwyster cyffredinol ar gyfer pob cwrs gradd israddedig.
Mae ein polisi derbyn cynhwysol yn rhoi gwerth ar ehangder yn ogystal â dyfnder yr astudio. Dewisir ymgeiswyr ar sail eu teilyngdod eu hunain a gall cynigion amrywio. Os hoffech wirio a yw eich cymwysterau yn gymwys cyn cyflwyno cais, cysylltwch â'r Swyddfa Derbyn Israddedigion am gyngor ac arweiniad.

Yn ôl i'r brig

|