Rydym yn defnyddio cwcis ar ein gwefan. I ddysgu mwy am y cwcis yr ydym yn eu defnyddio, gweler ein polisi cwcis. Gallwch reoli cwcis trwy osodiadau eich porwr. Trwy barhau i bori'r safle rydych yn cytuno i'n defnydd o gwcis.
Derbyn a Chau.
Os nad yw'r cymwysterau angenrheidiol gennych i ddilyn un o'n rhaglenni tair blynedd, mae astudio blwyddyn sylfaen mewn Gwyddorau Bywyd ym Mhrifysgol Aberystwyth yn ffordd effeithiol o ddod i'r brifysgol i astudio gwyddorau biolegol. Byddwch yn dysgu hanfodion bioleg, gan gynnwys biocemeg, microbioleg, bioleg celloedd, ecoleg, swoleg, geneteg, botaneg, ac ati. Ar ôl cwblhau'r flwyddyn sylfaen yn llwyddiannus, bydd modd i chi drosglwyddo i unrhyw rai o'r cynlluniau gradd tair blynedd a gynigir gan Athrofa'r Gwyddorau Biolegol, Amgylcheddol a Gwledig.
Bodlonrwydd Myfyrwyr Cyffredinol a Chanlyniadau Cyflogadwyedd
95% o’r myfyrwyr yn cytuno bod y staff yn esbonio pethau'n dda (ACF 2020).
98% o’n graddedigion mewn gwaith a/neu astudiaethau pellach o fewn chwe mis ar ôl graddio, 3% yn uwch na graddedigion y Gwyddorau Biolegol yn genedlaethol, (HESA 2018*)
Trosolwg
Pam astudio Gwyddorau Bywyd ym Mhrifysgol Aberystwyth?
Cewch ddysgu a byw mewn amgylchedd eithriadol, wedi'ch amgylchynu gan gynefinoedd sy'n cael eu cydnabod yn rhyngwladol, yn cynnwys safle UNESCO Biosffer Dyfi, gwlyptiroedd RAMSAR, ardaloedd cadwraeth morol arbennig, Gwarchodfeydd Natur Cenedlaethol, safleoedd o ddiddordeb gwyddonol arbennig i enwi dim ond rhai.
Cewch ddefnyddio amrywiaeth o gyfleusterau modern gan gynnwys acwaria ar gyfer organebau morol a dŵr croyw, uned ddadansoddol a sbectrometreg màs, dilyniannu DNA trwygyrch uchel, labordy bio-ddelweddu, ystafelloedd tyfu a thai gwydr, y Ganolfan Ffenomeg Planhigion Genedlaethol, canolfan geffylau a ffermydd y brifysgol, ac ati.
Cewch ddysgu mewn adran sydd wedi ennill gwobrau; enillodd IBERS wobr am ei "Gyfraniad Eithriadol i Arloesedd a Thechnoleg" yng Ngwobrau Addysg Uwch 2013 y Times.
Ymhlith y 10 uchaf yng ngwledydd Prydain ar gyfer dwyster ymchwil yn ôl asesiad y Fframwaith Rhagoriaeth Ymchwil (2014). Mae 78% o'r gweithgarwch ymchwil wedi'i asesu fel ymchwil sy'n arwain y byd neu sy'n ardderchog yn rhyngwladol yn ôl Fframwaith Rhagoriaeth Ymchwil 2014.
Mae'r adran yn cynnig nifer o fodiwlau drwy gyfrwng y Gymraeg. Mae rhagor o wybodaeth ar gael o dan y tab modiwlau!
Ein Staff
Mae gan y rhan fwyaf o staff dysgu Athrofa'r Gwyddorau Biolegol, Amgylcheddol a Gwledig gymwysterau hyd at safon PhD ac maent yn ymchwilwyr gweithgar. Hefyd, mae gan staff y cyrsiau galwedigaethol gefndir ym myd diwydiant. Mae yn yr Athrofa nifer fawr o staff sy'n gwneud ymchwil yn unig ac mae'n bosib y bydd y myfyrwyr yn dod i gysylltiad â hwy.
Modiwlau
Noder: Y modiwlau a restrir isod yw'r modiwlau y bwriedir eu cyflwyno ar hyn o bryd yn ystod y flwyddyn academaidd nesaf ac mae'n bosibl y gallant newid. Maent wedi'u cynnwys yma i roi syniad o strwythur y cwrs.
Bydd y flwyddyn sylfaen yn rhoi'r sgiliau a'r wybodaeth i chi:
i ddeall cysyniadau biolegol pwysig, sy'n cwmpasu: moleciwlau biolegol, celloedd, organynnau a'u swyddogaeth, twf a rhaniad celloedd; organebau procaryotig ac ewcaryotig gan gynnwys planhigion ac anifeiliaid, eu rhyngweithiadau ecolegol, esblygiad, dethol naturiol, a chadwraeth;
i ddefnyddio llenyddiaeth wyddonol i ymchwilio i bynciau;
i ddefnyddio technegau maes a labordy safonol i ymchwilio i ragdybiaethau;
i ddefnyddio mathemateg i ddelio â data biolegol er mwyn ateb rhagdybiaethau arbrofol;
i gynhyrchu adroddiadau gwyddonol ac ysgrifennu traethodau ar bynciau biolegol;
i ymgymryd â gwaith tîm a rhoi cyflwyniadau.
Ar ôl cwblhau'r flwyddyn sylfaen yn llwyddiannus, byddwch yn trosglwyddo i un o'r cynlluniau gradd a gynigir gan Athrofa'r Gwyddorau Biolegol, Amgylcheddol a Gwledig.
Sut bydda i'n cael fy addysgu?
Byddwch yn cael eich addysgu drwy raglen gytbwys o ddarlithoedd, seminarau, tiwtorialau a gwaith ymarferol a fydd yn cael eu hategu gan waith ymchwil ac arbrofi mewn labordy. Byddwch hefyd yn gweithio ar dasgau unigol ac mewn grŵp. Byddwch yn cael eich asesu drwy draethodau, gwaith ymarferol, adroddiadau arolwg, portffolios, cyflwyniadau llafar ac arholiadau ysgrifenedig.
Bydd tiwtor personol yn cael ei ddynodi i chi dros gyfnod eich cwrs gradd cyfan, a bydd yn gallu eich helpu gydag unrhyw broblemau neu ymholiadau, boed nhw'n faterion academaidd neu bersonol. Mae croeso i chi gysylltu â'ch tiwtor personol ar unrhyw adeg os bydd angen cymorth neu gyngor arnoch.
Barn ein Myfyrwyr
Fe wnes i fwynhau astudio cwrs C990 Gwyddorau Bywyd gan ei fod yn llwybr i mi i addysg uwch fel myfyriwr aeddfed. Gan nad oeddwn i wedi gwneud llawer o waith dysgu mewn dosbarth ers gadael yr ysgol chwarter canrif yn ôl, helpodd cwrs C990 i fy nghyflwyno'n ôl i'r amgylchedd dysgu yn raddol a gwneud i mi deimlo'n gartrefol ar gampws y brifysgol cyn dechrau fy nghwrs gradd llawn. Mae deunydd y cwrs wedi bod yn ddefnyddiol iawn ar gyfer blwyddyn gyntaf fy ngradd, ac rwy'n teimlo ei fod wedi fy mharatoi yn well nag y byddai astudio Safon Uwch hyd yn oed. Marciau llawn i Aberystwyth! Fiona Tyson
Fe wnes i fwynhau cwrs C990 Gwyddorau Bywyd yn fawr gan ei fod wedi rhoi llawer o brofiad i mi o ran bywyd prifysgol a byw oddi cartref am y tro cyntaf. Fe ddes i adnabod y darlithwyr yn dda iawn oherwydd bod gennym ddosbarth mor fach. Roedd y tasgau a wnaethom a'r sgiliau a ddysgais ar gwrs C990 o fantais i mi ym Mlwyddyn 1 am fy mod wedi ymgyfarwyddo â'r ffordd roedd adroddiadau'n cael eu strwythuro, a sut roedd ymarferion yn y labordy ac arholiadau'n cael eu cynnal. Rwy'n teimlo fy mod i'n canolbwyntio'n well ar ôl gwneud cwrs blwyddyn sylfaen C990. Dydw i ddim yn hiraethu am adref erbyn hyn oherwydd fy mod eisoes wedi ymgartrefu i fywyd yn y brifysgol. Oherwydd fy mod wedi gwneud cwrs C990, mae fy ngwaith yn elwa cymaint! Helen Louise Hayes