Y Gyfraith a Chyfrifeg a Chyllid
LLB Y Gyfraith a Chyfrifeg a Chyllid Cod MN14 Dewch i Ddiwrnod Agored Dewch i Ddiwrnod Agored
Ymgeisio NawrPrif Ffeithiau
MN14-
Tariff UCAS
128 - 104
-
Hyd y cwrs
3 blynedd
-
Cyfrwng Cymraeg
51%
Ar gael ar gyfer Dechrau Medi 2025
Manylion pellach ynglŷn â'r gofynion mynediad
Ymgeisio NawrMae LLB Y Gyfraith a Chyfrifeg a Chyllid ym Mhrifysgol Aberystwyth yn gynllun gradd anrhydedd cyfun sy'n edrych ar ddwy ddisgyblaeth gyffrous a heriol, sy’n cyd-fynd yn dda â’i gilydd. Byddwch yn cael eich dysgu ar draws dwy adran: Adran y Gyfraith a Throseddeg, yr adran hynaf a mwyaf sefydlog o'i bath yng Nghymru ac Ysgol Fusnes Aberystwyth, sy'n cynnwys staff sydd ag ystod eang o arbenigedd, sgiliau technegol a phrofiad busnes o’r byd go iawn.
Ar gyfer yr agweddau ar y cwrs sy’n ymwneud â materion cyfreithiol byddwch yn cael eich dysgu mewn dull cytbwys gan roi’r elfen ymarferol ochr yn ochr ag astudiaeth ddamcaniaethol. Mae yna ystod eang o fodiwlau i ddewis ohonynt, sy'n helpu i deilwra’ch dysgu at eich diddordebau eich hun. Bydd yr elfennau ar y cwrs sy’n ymwneud â chyfrifeg a chyllid yn ymdrin â sawl pwnc gan gynnwys cyfrifeg ariannol, rheoli ariannol a marchnadoedd corfforaethol.
Trosolwg o'r Cwrs
Modiwlau Dechrau Medi - 2025
Noder: Y modiwlau a restrir isod yw'r modiwlau y bwriedir eu cyflwyno ar hyn o bryd yn ystod y flwyddyn academaidd nesaf ac mae'n bosibl y gallant newid. Maent wedi'u cynnwys yma i roi syniad o strwythur y cwrs.
Teitl y Modiwl | Cod y Modiwl | Gwerth Credyd |
---|---|---|
Accounting and Finance for Specialists | AB11220 | 20 |
Data Analytics | AB15220 | 20 |
Fundamentals of Accounting and Finance | AB11120 | 20 |
Sgiliau ac Ymchwil Cyfreithiol | CT10420 | 20 |
System Cyfreithiol a Chyfiawnder Troseddol | CT10120 | 20 |
Opsiynau
Teitl y Modiwl | Cod y Modiwl | Gwerth Credyd |
---|---|---|
Contract Law | LC13820 | 20 |
Criminal Law | LC10520 | 20 |
Cyfraith Camwedd | CT11120 | 20 |
Cyfraith Cytundebau | CT13820 | 20 |
Cyfraith Droseddol | CT10520 | 20 |
Tort | LC11120 | 20 |
Teitl y Modiwl | Cod y Modiwl | Gwerth Credyd |
---|---|---|
Corporate Finance and Financial Markets | AB21420 | 20 |
Intermediate Financial Accounting | AB21120 | 20 |
Intermediate Management Accounting | AB21220 | 20 |
Opsiynau
Teitl y Modiwl | Cod y Modiwl | Gwerth Credyd |
---|---|---|
Advanced Financial Accounting | AB31120 | 20 |
Advanced Management Accounting | AB31220 | 20 |
Investments and Financial Instruments | AB31320 | 20 |
Opsiynau
Gyrfaoedd
Dysgu ac Addysgu
Gofynion Mynediad Nodweddiadol
Tariff UCAS 128 - 104
Safon Uwch ABB-BCC
Gofynion TGAU (o leiaf gradd C/4):
Cymraeg neu Saesneg a Mathemateg
Diploma Cenedlaethol BTEC:
DMM-DDM
Bagloriaeth Ryngwladol:
30-28
Bagloriaeth Ewropeaidd:
75%-65% overall
Mae'r Brifysgol yn croesawu ceisiadau israddedig gan fyfyrwyr sy'n astudio'r Diploma Mynediad i Addysg Uwch neu gymwysterau lefel T, ar yr amod eu bod yn cyflawni'r canlyniadau perthnasol o ran cynnwys y pwnc a'r dysgu. Ni allwn dderbyn Diplomâu Mynediad i Addysg Uwch na lefelau T fel cymhwyster cyffredinol ar gyfer pob cwrs gradd israddedig.
Mae ein polisi derbyn cynhwysol yn rhoi gwerth ar ehangder yn ogystal â dyfnder yr astudio. Dewisir ymgeiswyr ar sail eu teilyngdod eu hunain a gall cynigion amrywio. Os hoffech wirio a yw eich cymwysterau yn gymwys cyn cyflwyno cais, cysylltwch â'r Swyddfa Derbyn Israddedigion am gyngor ac arweiniad.
|