Rydym yn defnyddio cwcis ar ein gwefan. I ddysgu mwy am y cwcis yr ydym yn eu defnyddio, gweler ein polisi cwcis. Gallwch reoli cwcis trwy osodiadau eich porwr. Trwy barhau i bori'r safle rydych yn cytuno i'n defnydd o gwcis.
Derbyn a Chau.
Mae Prifysgol Aberystwyth, sydd wedi'i lleoli ar arfordir Bae Ceredigion gyda chefnwlad sy'n gyfoeth o afonydd, nentydd a llynnoedd, yn lleoliad delfrydol i astudio Bioleg y Môr a Dŵr Croyw. Mae cynefinoedd sy'n hawdd eu cyrraedd yn amrywio o nentydd mynydd sy'n llawn eog a brithyll a chynefinoedd unigryw ar gyfer anifeiliaid infertebraidd dŵr croyw, i aberoedd sydd o bwysigrwydd rhyngwladol, i draethau tywodlyd, riffiau creigiog, morfeydd heli a bae sy'n gartref i'r boblogaeth breswyl fwyaf o ddolffiniaid trwyn potel oddi ar ynysoedd Prydain.
Bodlonrwydd Myfyrwyr Cyffredinol a Chanlyniadau Cyflogadwyedd
100% boddhad myfyrwyr â'r dysgu ar ein cwrs C164 Bioleg y Môr a Dŵr Croyw (ACF 2020).
95% o’r myfyrwyr yn cytuno bod y staff yn esbonio pethau'n dda (ACF 2020).
98% o’n graddedigion mewn gwaith a/neu astudiaethau pellach o fewn chwe mis ar ôl graddio, 3% yn uwch na graddedigion y Gwyddorau Biolegol yn genedlaethol, (HESA 2018*)
Trosolwg
Pam astudio Bioleg y môr a Dŵr Croyw ym Mhrifysgol Aberystwyth?
Mae IBERS yn gartref i ddau gwch ymchwil sy'n rhoi profiad ymarferol i chi o'r amrywiaeth o sgiliau a ddefnyddir gan fiolegwyr morol a dŵr croyw proffesiynol.
Fel myfyriwr ym Mhrifysgol Aberystwyth, byddwch yn elwa ar gyfleusterau acwariwm modern sy'n cynnwys systemau acwariwm ar gyfer cynnal astudiaethau arbrofol o organebau morol a dŵr croyw.
Caiff pob un o'n myfyrwyr eu haddysgu a'u mentora gan staff addysgu brwdfrydig sy'n cynnal ymchwil o'r radd flaenaf ar ystod eang o feysydd pwnc morol a dŵr croyw. Efallai eich bod wedi gweld rhai ohonynt ar raglenni dogfen ar y teledu yn rhoi esboniad am fywydau dirgel organebau dyfrol
Yn ystod y cwrs, bydd cyfle gan bob myfyriwr i gymryd rhan mewn dau gwrs maes preswyl, un yn canolbwyntio ar fioleg môr a'r llall ar fioleg dŵr croyw
Mae IBERS hefyd yn gartref i amgueddfa a llysieufa wych sy'n llawn sbesimenau hanesyddol a gasglwyd o bob cwr o'r byd gan genedlaethau o wyddonwyr enwog o Brifysgol Aberystwyth. Bydd y cyfleuster hwn yn amhrisiadwy ar gyfer eich prosiectau yn y flwyddyn olaf.
Rydym wedi buddsoddi dros £55 miliwn mewn seilwaith o gyfleusterau ar gyfer myfyrwyr, gan sicrhau eich bod yn cael eich addysgu mewn mannau deinamig sy'n meithrin arloesedd a llwyddiant.
Os ydych chi'n teimlo'n anturus, beth am fanteisio ar y cyfle i astudio dramor yn ystod eich gradd?
Mae gennym gytundebau cyfnewid gyda phrifysgolion yn Ewrop, yr Unol Daleithiau, Canada a gwledydd eraill, felly gallwch wneud cais i dreulio'r cyfan neu ran o'ch ail flwyddyn yn astudio bioleg y môr a dŵr croyw dramor. Byddwch yn siŵr o weld eisiau Aberystwyth, ond byddwch wrth eich bodd â'r persbectif newydd a ddaw wrth astudio dramor.
Hoffech chi astudio yn Gymraeg?
Gall myfyrwyr ddewis astudio nifer o fodiwlau IBERS drwy gyfrwng y Gymraeg. Mae rhagor o wybodaeth ar gael o dan y tab modiwlau!
Ein Staff
Mae gan y rhan fwyaf o staff dysgu Athrofa'r Gwyddorau Biolegol, Amgylcheddol a Gwledig gymwysterau hyd at safon PhD ac maent yn ymchwilwyr gweithgar. Hefyd, mae gan staff y cyrsiau galwedigaethol gefndir ym myd diwydiant. Mae yn yr Athrofa nifer fawr o staff sy'n gwneud ymchwil yn unig ac mae'n bosib y bydd y myfyrwyr yn dod i gysylltiad â hwy.
Modiwlau
Noder: Y modiwlau a restrir isod yw'r modiwlau y bwriedir eu cyflwyno ar hyn o bryd yn ystod y flwyddyn academaidd nesaf ac mae'n bosibl y gallant newid. Maent wedi'u cynnwys yma i roi syniad o strwythur y cwrs.
Mae gan ein graddedigion Bioleg y Môr a Dŵr Croyw y sgiliau a'r wybodaeth i gael mynediad i ystod eang o yrfaoedd, gan gynnwys:
Ymgynghoriaeth ecolegol;
Rheoli a chadwraeth amgylcheddol;
Addysgu;
Newyddiaduraeth wyddonol.
Mae'r radd hon hefyd yn arwain yn aml at waith ymchwil uwchraddedig ar lefel Meistr a PhD.
Pa gyfleoedd sydd ar gael am brofiad gwaith wrth astudio?
Cliciwch yma i ddysgu am y gwahanol gyfleoedd y mae tîm Gyrfaoedd Prifysgol Aberystwyth yn eu cynnig.
Gallwch wella'ch cyfleoedd cyflogaeth gyda GO Wales a BMG (y cynllun Blwyddyn mewn Gwaith) sy'n cael eu rheoli gan ein hadran Gyrfaoedd.
Mae llawer o fyfyrwyr hefyd yn ennill profiad ymchwil drwy wirfoddoli yn labordai ymchwil darlithwyr IBERS neu drwy sefydliadau fel Canolfan Bywyd Gwyllt Morol Bae Ceredigion.
Beth ydw i'n ei ennill o astudio Bioleg y Môr a Dŵr Croyw?
Mae ein gradd ym Mhrifysgol Aberystwyth yn addysgu amrywiaeth eang o sgiliau i chi fel arsylwi, ymchwilio, dadansoddi, gwerthuso beirniadol a myfyrio.
Byddwch hefyd yn astudio mewn adran sydd wedi buddsoddi dros £55 miliwn mewn seilwaith o gyfleusterau ar gyfer myfyrwyr.
Mae gan yr Athrofa gysylltiadau agos â llawer o gymdeithasau dysgedig, fel y Gymdeithas Fioleg, sy'n ffordd wych o rwydweithio gyda phobl yn eich maes.
Dysgu ac Addysgu
Beth fydda i'n ei ddysgu?
Bydd y crynodeb isod yn rhoi darlun i chi o'r hyn y gallech ei astudio yn ystod y cynllun gradd tair blynedd.
Yn ystod eich blwyddyn gyntaf, byddwch yn archwilio:
Esblygiad ac amrywiaeth bywyd;
Ffisioleg gymharol anifeiliaid;
Ecoleg;
Bioleg planhigion;
Geneteg;
Biocemeg;
Amrywiaeth microbaidd;
Sgiliau maes a labordy.
Yn ystod eich ail flwyddyn, byddwch yn darganfod:
Bioleg y môr;
Bioleg dŵr croyw;
Cadwraeth ddyfrol gymhwysol;
Botaneg ddyfrol;
Dylunio, cynllunio a dadansoddi ymchwil;
Mae'r modiwlau opsiynol yn cynnwys: anatomeg fertebrâu, ymddygiad anifeiliaid ac ecoleg ficrobaidd a monitro amgylcheddol.
Yn ystod eich trydedd flwyddyn, byddwch yn astudio:
Cwrs Maes Bioleg y Môr a Dŵr Croyw – a gaiff ei redeg ym Mhortiwgal a'r Alban ar hyn o bryd;
Traethawd hir, sy'n rhoi cyfle i fyfyrwyr gynnal prosiect ymchwil manwl o dan arweiniad goruchwyliwr;
Mae'r modiwlau opsiynol yn cynnwys: Pysgod, pysgodfeydd a dyframaethu, cadwraeth bywyd gwyllt, ffisioleg ymddygiadol ac ecoleg gymunedol a phoblogaeth.
Sut bydda i'n cael fy addysgu?
Bydd ein cwrs yn cael ei gyflwyno drwy ddarlithoedd, tiwtorialau, gwaith maes, ymarferion a chyrsiau maes preswyl. Byddwch yn cael hyfforddiant trwyadl mewn cysyniadau a dulliau gwyddonol sy'n gysylltiedig ag esblygiad ac ecoleg systemau naturiol, gyda phwyslais ar amgylcheddau morol a dŵr croyw.
Byddwch yn cael eich asesu drwy draethodau, gwaith ymarferol, cyflwyniadau llafar, taflenni gwaith, adroddiadau, ymarferion ystadegol, coflenni, posteri, portffolios, wicis, dyddiaduron myfyriol, adolygiadau llenyddiaeth, erthyglau cylchgrawn, llyfrau nodiadau maes ac arholiadau.
Barn ein Myfyrwyr
"Mwynheais fy amser yn astudio Bioleg y Môr a Dŵr Croyw ac rwy'n gallu cymhwyso gwahanol agweddau ar yr hyn a ddysgais yn ystod fy nhair blynedd i'm swydd bresennol, er nad yw'n cysylltu'n uniongyrchol â'm cwrs. Roedd elfennau ymarferol fy nghwrs yn rhagorol, yn enwedig y ddwy daith maes yn y drydedd flwyddyn." Rebecca – Swyddog Prosiect, Comisiwn Coedwigaeth
"Mae astudio Bioleg y Môr a Dŵr Croyw yn Aberystwyth yn gwneud y cwrs yn fwy arbennig. Mae'r lleoliad yn berffaith gan fod gennych y môr a systemau dŵr croyw mewndirol yn rhedeg drwy Aberystwyth i'r môr. Mae llu o organebau amrywiol ar garreg eich drws yn Aberystwyth; mae cyfuno hynny gyda llawer o ymchwil yn y maes a'r cyfleusterau acwariwm yn gwneud y profiad cyfan yn fwy diddorol a phleserus!" Richard Harris
"Gyda'r wybodaeth a'r meddylfryd gwyddonol rwy'n eu hennill drwy fy astudiaethau, rwy'n gobeithio gallu helpu i gadw'r amgylcheddau diddorol hyn ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol. Mae'r cwrs wedi bod yn wych; ei brif gryfder yw ei amrywiaeth, gyda chasgliad o bynciau sy'n cael eu trafod dros y tair blynedd mewn mwy a mwy o fanylder." George William Middleton
"Rhoddodd y cwrs sylfaen dda i mi ym mhob agwedd ar fioleg y môr a dŵr croyw. Roedd digon o gyfleoedd i wneud gwaith maes yn y cwrs, gan gynnwys y prosiect traethawd hir, a wnaeth fy mharatoi ar gyfer y sgiliau arolygu sydd eu hangen yn fy swydd bresennol." Laura – Swyddog yr Amgylchedd, Cyngor Gwynedd
"Yn y Gymdeithas Cadwraeth Forol, rwy'n bennaeth ar y tîm cadwraeth o 17 o unigolion sy'n gweithio ar bopeth o orbysgota a'r angen am warchodfeydd morol i ddelio â'r broblem gynyddol o wastraff plastig yn y môr. Rydw i'n 37 erbyn hyn ac mae gen i atgofion melys iawn am fy amser yn Aber. Helpodd yr astudio, ond y peth pwysicaf i mi oedd fy mod wedi datblygu diddordeb yn y môr. Roedd Aber yn lle gwirioneddol wych i wneud hynny; byw ar lan y môr a chael deifio gyda chlwb is-acwa'r Brifysgol." Simon – Pennaeth Gwyddoniaeth, y Gymdeithas Cadwraeth Forol
Fe wnes i fwynhau'r cwrs yn fawr. Roedd hyn yn ei gwneud hi'n haws codi i fynd i ddarlithoedd yn y bore! Yr uchafbwynt oedd y cyrsiau maes, a does dim byd yn well na chael mynd allan i wlychu'ch dwylo, boed hynny wrth gasglu samplau mewn nant fach neu wrth drawslunio traethlin sy'n llawn pyllau glan y môr. Fe wnes i wir hoffi cwmpas eang y cwrs a'r cyfle i deilwra'r cwrs drwy'r gwahanol fodiwlau opsiynol yn yr ail a'r drydedd flwyddyn. O'r herwydd, mae wedi rhoi sylfaen wych i mi mewn gwyddorau biolegol yn gyffredinol – sy'n hanfodol ar gyfer swydd lle mae'n rhaid i chi ystyried yr holl ecosystem ac edrych y tu hwnt i'r pysgod a'r cynefin afonol uniongyrchol. Stuart Manwaring – Swyddog Technegol Pysgodfeydd, Asiantaeth yr Amgylchedd