Rydych chi'n edrych ar y cwrs hwn ar gyfer Dechrau Medi 2024

Mae'r radd BSc mewn Marchnata ym Mhrifysgol Aberystwyth yn gwrs cyffrous a dynamig, sy'n cyfuno elfennau o ymddygiad cwsmeriaid a marchnata, marchnata digidol, marchnata strategol, cynllunio, seicoleg, rheoli ac adnoddau dynol. Addysgir y radd gan arbenigwyr marchnata achrededig ac adnabyddus, ac wrth ei hastudio byddwch yn datblygu dealltwriaeth gadarn o ddylanwad allanol ar y byd marchnata a'r defnydd sy'n prysur newid o dechnoleg gwybodaeth a'r cyfryngau digidol at ddibenion marchnata. Mae Prifysgol Aberystwyth yn Ganolfan Porth Graddedig y Sefydliad Marchnata Siartredig (CIM), sy'n golygu y gallwch astudio tuag at gymhwyster CIM proffesiynol wrth astudio am radd, neu gael eich eithrio rhag gorfod cyflawni rhai modiwlau CIM penodol yn y dyfodol.

Modiwlau Blwyddyn 1. Modiwlau Blwyddyn 2 a 3.

Trosolwg o'r Cwrs

Pam astudio Marchnata yn Aberystwyth?

  • Mae ein rhaglenni wedi'u hachredu gan y Sefydliad Marchnata Siartredig.
  • Ar ôl cwblhau'r radd yn llwyddiannus, gallwch wneud cais i gael eich eithrio rhag gorfod cyflawni 50% o Ddiploma Proffesiynol y Sefydliad Marchnata Siartredig.
  • Mae ein gradd yn rhoi dealltwriaeth amlddisgyblaethol o farchnata i chi, y mae cyflogwyr yn chwilio fwyfwy amdani.
  • Fe'i haddysgir gan arbenigwyr sy'n arwain ym maes ymchwil a'r sector Marchnata.
  • Mae gennym drefniant gyda llawer o brifysgolion partner dramor i ddarparu rhaglenni academaidd byrion (pythefnos) i grwpiau bach o fyfyrwyr busnes a rheolaeth (ar sail hunan-ariannu), er mwyn eich galluogi i brofi effaith yr amgylchedd diwylliannol wrth gynnal busnes dramor. Ar hyn o bryd mae gennym brifysgolion partner yn India, Tsieina, Rwsia, Japan, yr Emiraethau Arabaidd Unedig a Brasil, ac mae ein portffolio o wledydd yn ehangu'n gyflym.
Ein Staff

Modiwlau Dechrau Medi - 2024

Noder: Y modiwlau a restrir isod yw'r modiwlau y bwriedir eu cyflwyno ar hyn o bryd yn ystod y flwyddyn academaidd nesaf ac mae'n bosibl y gallant newid. Maent wedi'u cynnwys yma i roi syniad o strwythur y cwrs.

Modiwlau Craidd

Teitl y Modiwl Cod y Modiwl Gwerth Credyd
Data Analytics AB15220 20
Fundamentals of Accounting and Finance * AB11120 20
Hanfodion Rheolaeth a Busnes CB15120 20
Understanding the Economy AB13120 20
Egwyddorion Marchnata ac Ymarfer Cyfoes CB17120 20

Modiwlau Craidd

Teitl y Modiwl Cod y Modiwl Gwerth Credyd
Applied Brand Management AB27420 20
Consumer and Buyer Behaviour * AB27220 20
Marketing Management AB27120 20
Marketing: Relationships and Customer Experience AB27520 20

Modiwlau Craidd

Teitl y Modiwl Cod y Modiwl Gwerth Credyd
Digital Marketing AB37220 20
Global Marketing AB37320 20
Marketing and Digital Marketing Communication AB37120 20
Strategic Leadership * AB35120 20

Gyrfaoedd

Rhagolygon gyrfaol: O'r Brifysgol i'r Byd Gwaith

Mae llawer o'n graddedigion wedi ystyried gyrfa yn y swyddi canlynol:

  • Swyddog Marchnata
  • Ymchwilydd Marchnata
  • Ysgrifennwr Copi Hysbysebu
  • Cynllunydd Cyfrifon Hysbysebu
  • Cynllunydd yn y Cyfryngau
  • Prynwr yn y Cyfryngau
  • Swyddog Cysylltiadau Cyhoeddus.

Pa sgiliau fydda i'n eu cael o'r radd hon? 

Bydd astudio ein gradd mewn Marchnata yn rhoi'r sgiliau canlynol i chi:

  • sgiliau rhifedd gwell a'r gallu i ymchwilio, dehongli a defnyddio ystadegau
  • dealltwriaeth fanwl o achosion ac effeithiau newidiadau economaidd a newidiadau allanol eraill
  • y gallu i gyfathrebu'n glir yn ysgrifenedig ac ar lafar
  • sgiliau datrys problemau effeithiol
  • sgiliau dadansoddi a meddwl yn greadigol
  • y gallu i wneud penderfyniadau
  • y gallu i weithio'n annibynnol ac fel rhan o dîm
  • sgiliau trefnu a rheoli amser
  • hunanddibyniaeth a'r gallu i ysgogi eich hun.

Pa gyfleoedd am brofiad gwaith sydd ym Mhrifysgol Aberystwyth? 

Dysgwch am y gwahanol gyfleoedd swyddi y mae tîm Gyrfaoedd Prifysgol Aberystwyth yn eu cynnig.

Gallwch wella'ch cyfleoedd cyflogaeth gyda GO Wales a BMG (y cynllun Blwyddyn mewn Gwaith) sy'n cael eu rheoli gan ein hadran Gyrfaoedd. 

Dysgu ac Addysgu

Beth fyddwch chi'n ei ddysgu?

Bydd y crynodeb isod yn rhoi darlun i chi o'r hyn y gallech ei astudio yn ystod y cynllun gradd tair blynedd.

Yn ystod y flwyddyn gyntaf, gallech ddarganfod:

  • egwyddorion sylfaenol marchnata
  • marchnata mewn cyd-destun busnes
  • rheolaeth
  • cyllid
  • twristiaeth.

Yn ystod eich ail flwyddyn, gallech archwilio:

  • cynhyrchu ymgyrchoedd
  • strategaethau marchnata
  • ymddygiad defnyddwyr
  • dulliau ymchwil rheolaeth
  • brandio
  • marchnata busnes i fusnes
  • rheoli perthnasau â chwsmeriaid
  • rheoli adnoddau dynol.

Yn ystod y drydedd flwyddyn, gallech astudio: 

  • marchnata a chyfathrebu
  • natur a phwysigrwydd marchnata rhyngwladol ac ymwybyddiaeth brand byd-eang
  • dadansoddi sefyllfaoedd marchnata yn ansoddol ac yn feintiol
  • ffurfio cynlluniau marchnata effeithiol.

Byddwch hefyd yn cyflawni prosiect ymchwil annibynnol gorfodol.

Sut bydda i'n cael fy addysgu? 

Cewch eich haddysgu drwy ddarlithoedd, seminarau mewn grwpiau bach, a thiwtorialau.

Byddwn yn eich asesu ar ffurf arholiadau, traethodau a asesir, prosiectau, adroddiadau, dyddiaduron myfyriol, portffolios, a chyflwyniadau. Bydd y gwaith cwrs yn datblygu eich gallu i ymchwilio, dadansoddi a chyflwyno dadl yn glir ac yn rhesymegol, a bydd seminarau yn eich helpu i fireinio eich sgiliau cyflwyno.

Bydd tiwtor personol yn cael ei ddynodi i chi ar gyfer eich amser ym Mhrifysgol Aberystwyth. Bydd yr unigolyn hwn yn eich cynorthwyo â phob math o faterion, boed nhw'n academaidd ai peidio. 

Tystiolaeth Myfyrwyr

Fel myfyriwr israddedig Marchnata yn y drydedd flwyddyn, yr hyn dw i'n ei hoffi am farchnata yw gweithio ar brosiectau yn creu profiad a chanfyddiad sydd yr un mor ddiddorol a chyffrous i rywun arall ag y mae i fi. Heb farchnata, byddai bywyd yn llai diddorol yn gyffredinol – fydden ni ddim yn cael ein difyrru gan fideos feiral er enghraifft. Mae pawb yn hoff o ffyrdd unigryw a hwyliog o edrych ar bethau yn gyffredinol. Bu i hysbyseb gorila Cadbury gipio calonnau cenedl gyfan, ac fe'i crëwyd gan bobl greadigol oedd â meddwl busnes. Dyna pam dw i'n hoffi marchnata. Callum Russell

Fydd marchnata byth yn mynd yn ddiflas. Mae tueddiadau yn newid o hyd, ac mae'n rhaid i bob marchnatwr aros yn gyfredol â nhw. Er enghraifft, moeseg sefydliadau neu hysbysebion feiral yw'r peth newydd ar hyn o bryd! Victoria Claire Halliwell

Hyd y gwela i, Marchnata yw un o bynciau pwysica'r byd modern heddiw. Yn oes y rhyngrwyd sy'n tyfu'n barhaus, a'r camau ymlaen ym maes technoleg, mae economi'r byd wedi profi trawsnewidiadau radical, ac mae marchnadoedd y byd yn fwy cystadleuol nag erioed. Ac felly mae dysgu'r damcaniaethau a'r cysyniadau sydd y tu ôl i farchnata, ei agweddau amrywiol a'i gysylltiadau â'r byd busnes, yn gallu helpu i ddarparu dealltwriaeth well – a hyd yn oed cyfleoedd i archwilio dulliau a thechnegau newydd o gysylltu a denu cwsmeriaid. Danielle Storey

Gofynion Mynediad Nodweddiadol

Tariff UCAS 120 - 96

Safon Uwch BBB-CCC

Gofynion TGAU (o leiaf gradd C/4):
Cymraeg neu Saesneg a Mathemateg

Diploma Cenedlaethol BTEC:
DDM-MMM

Bagloriaeth Ryngwladol:
30-26

Bagloriaeth Ewropeaidd:
75%-65% overall

Mae'r Brifysgol yn croesawu ceisiadau israddedig gan fyfyrwyr sy'n astudio'r Diploma Mynediad i Addysg Uwch neu gymwysterau lefel T, ar yr amod eu bod yn cyflawni'r canlyniadau perthnasol o ran cynnwys y pwnc a'r dysgu. Ni allwn dderbyn Diplomâu Mynediad i Addysg Uwch na lefelau T fel cymhwyster cyffredinol ar gyfer pob cwrs gradd israddedig.
Mae ein polisi derbyn cynhwysol yn rhoi gwerth ar ehangder yn ogystal â dyfnder yr astudio. Dewisir ymgeiswyr ar sail eu teilyngdod eu hunain a gall cynigion amrywio. Os hoffech wirio a yw eich cymwysterau yn gymwys cyn cyflwyno cais, cysylltwch â'r Swyddfa Derbyn Israddedigion am gyngor ac arweiniad.

Yn ôl i'r brig

|