BSc

Marchnata / Ieithoedd Modern

Marchnata / Ieithoedd Modern Cod NR91 Dewch i Ddiwrnod Agored Dewch i Ddiwrnod Agored

Ymgeisio Nawr

Mae BSc mewn Marchnata / Ieithoedd Modern ym Mhrifysgol Aberystwyth yn gwrs cyffrous a deinamig sy'n cyfuno elfennau o farchnata, ymddygiad defnyddwyr, marchnata digidol a strategol gydag astudio ieithoedd a diwylliant. Cewch eich dysgu gan arbenigwyr marchnata achrededig ac adnabyddus yn Ysgol Fusnes Aberystwyth a'r Adran Ieithoedd Modern, ac yn ystod y radd byddwch yn datblygu gwybodaeth gadarn o ddylanwadau allanol ar y byd marchnata a'r defnydd sy’n newid yn gyflym o dechnoleg gwybodaeth a chyfryngau digidol at ddibenion marchnata.

Bydd y BSc mewn Marchnata / Ieithoedd Modern yn eich galluogi i gyfuno damcaniaeth farchnata yn ei disgyblaeth briodol ag astudio iaith a diwylliant - gallwch ddewis o Ffrangeg, Almaeneg, Sbaeneg ac Eidaleg. Bydd y radd hon yn rhoi'r sgiliau ieithyddol i chi a fydd yn eich galluogi i ragori ar ôl y Brifysgol.

Mae Prifysgol Aberystwyth yn Ganolfan Porth Graddedigion y Sefydliad Marchnata Siartredig (CIM), sy'n golygu y gallwch astudio am gymhwyster y CIM wrth i chi astudio am radd, neu gael hepgor rhai elfennau o fodiwlau'r CIM yn y dyfodol. 

Trosolwg o'r Cwrs

Pam astudio Marchnata / Ieithoedd Modern ym Mhrifysgol Aberystwyth? 

  • Byddwch yn ennill achrediad gan y Sefydliad Marchnata Siartredig (CIM) 
  • Byddwch yn cael cipolwg ar fyd menter 
  • Byddwch yn deall effaith newidiadau yn yr amgylchedd busnes e.e. digwyddiadau economaidd
  • Ar ôl cwblhau'r radd hon yn llwyddiannus gallwch wneud cais am eithriad o 50% o'r Diplomâu CIM proffesiynol. 

Byddwch yn meithrin gwybodaeth am y canlynol: 

  • Marchnata Digidol
  • Cyfryngau Cymdeithasol
  • Newidiadau yn yr amgylchedd rheoleiddiol a chyfreithiol
  • Marchnata strategol
  • Strategaethau busnes
  • Ieithoedd modern a diwylliant. 

Datblygiad iaith

  • Gallwch astudio eich dewis o ieithoedd o lefel ddechreuwyr neu uwch. Bydd dechreuwyr yn astudio cwrs dwys yn y flwyddyn gyntaf.
  • Byddwch yn derbyn pedair awr o ddosbarthiadau iaith a gramadeg bob wythnos. Mae’r Adran Ieithoedd Modern yn un gymharol fach a chlos, sy'n golygu y byddwch yn elwa o’n dull unigryw o ddatblygu iaith. Mae pob un o'r tiwtoriaid iaith yn siaradwyr brodorol neu'n arbenigwr yn yr iaith darged berthnasol.
  • Bydd eich blwyddyn dramor yn cael ei threulio mewn gwlad sy'n gysylltiedig â'ch iaith ddewisol. Gallwch ddewis astudio yn un o'n prifysgolion partner, ymgymryd â lleoliad gwaith â thâl neu ddi-dâl, neu gyfuniad o'r ddau.

Ar ôl cwblhau'r cwrs hwn, bydd gennych chi: 

  • Ddealltwriaeth ehangach am arferion rheolaeth a marchnata 
  • Y gallu i gyfathrebu'n effeithiol yn Saesneg ac yn eich iaith ddewisol
  • Gwybodaeth fanwl am fasnach yn y sector cyhoeddus a'r sector preifat
  • Gafael gadarn ar gymhlethdod yr heriau sy'n wynebu rheolaeth, ac effaith gyfunol y materion economaidd, ariannol, dynol a chyfreithiol y mae arweinwyr yn ymdrin â hwy. 
Ein Staff

Caiff myfyrwyr Ysgol Fusnes Aberystwyth eu dysgu gan ddarlithwyr a staff dysgu eraill sy'n weithgar mewn gwaith ymchwil ac yn ymarferwyr arbenigol yn eu dewis maes. 

Mae gan dros 75% o’r aelodau o staff sy’n dysgu’n llawn amser gymhwyster hyd at lefel PhD. Ar hyn o bryd mae'r rhan fwyaf ohonynt yn weithgar mewn gwaith ymchwil, sy'n golygu bod myfyrwyr yn elwa o gael dysgu gwybodaeth 'newydd' yn eu dewis maes yn ogystal ag astudio testunau cydnabyddedig. Mae'r Ysgol hefyd yn cyflogi staff rhan-amser a llawn amser sydd wedi'u neilltuo ar gyfer dysgu yn unig.  Mae llawer o’r staff rhan-amser yn cyfuno dyletswyddau dysgu gyda gwaith ymgynghori a gweithgareddau busnes, gan sicrhau bod myfyrwyr yn gallu cael gafael nid yn unig ar yr ymchwil ddiweddaraf ond hefyd yr wybodaeth gymhwysol ddiweddaraf.

Mae gan bob un o ddarlithwyr yr Adran Ieithoedd Modern gymwysterau hyd at safon PhD ac maent yn gwneud gwaith ymchwil. Rydym hefyd yn cyflogi tiwtoriaid iaith, rhai ohonynt â gradd PhD, a phob un yn addysgwyr profiadol. O bryd i'w gilydd, cyflogwn siaradwyr brodorol o brifysgolion sy'n bartneriaid i ni dramor (lectoriaid), sy'n dod atom â chymeradwyaeth uchel ar sail eu llwyddiant academaidd yn eu prifysgolion eu hunain, ac mae sawl un ohonynt wedi hyfforddi fel addysgwyr. 

Modiwlau Dechrau Medi - 2025

Noder: Y modiwlau a restrir isod yw'r modiwlau y bwriedir eu cyflwyno ar hyn o bryd yn ystod y flwyddyn academaidd nesaf ac mae'n bosibl y gallant newid. Maent wedi'u cynnwys yma i roi syniad o strwythur y cwrs.

Gyrfaoedd

Mae llawer o'n graddedigion wedi ystyried gyrfa yn y swyddi canlynol: 

  • Swyddog Marchnata 
  • Ymchwilydd Marchnata 
  • Ysgrifennwr Copi Hysbysebu 
  • Cynllunydd Cyfrifon Hysbysebu 
  • Cynllunydd yn y Cyfryngau 
  • Prynwr yn y Cyfryngau 
  • Swyddog Cysylltiadau Cyhoeddus
  • Cyfieithydd
  • Dehonglydd
  • Athro.

Pa sgiliau fydda i'n eu cael o'r radd hon? 

Bydd astudio ein gradd mewn Marchnata / Ieithoedd Modern yn rhoi'r sgiliau canlynol i chi: 

  • sgiliau rhifedd gwell a'r gallu i ymchwilio, dehongli a defnyddio ystadegau 
  • dealltwriaeth fanwl o achosion ac effeithiau newidiadau economaidd a newidiadau allanol eraill 
  • y gallu i gyfathrebu'n glir yn ysgrifenedig ac ar lafar 
  • sgiliau datrys problemau effeithiol 
  • sgiliau dadansoddi a meddwl yn greadigol 
  • y gallu i wneud penderfyniadau 
  • y gallu i weithio'n annibynnol ac fel rhan o dîm 
  • sgiliau trefnu a rheoli amser 
  • Y gallu i gyfathrebu ar lafar ac yn ysgrifenedig yn Saesneg a Sbaeneg
  • hunanddibyniaeth a'r gallu i ysgogi eich hun. 

Pa gyfleoedd sydd ar gael am brofiad gwaith wrth astudio? 

Dysgwch am y gwahanol gyfleoedd sy'n cael eu cynnig gan y Gwasanaeth Gyrfaoedd a sut y gallwch chi wella'ch cyfleoedd cyflogaeth gyda Cynllun Blwyddyn mewn Gwaith (BMG).

Dysgu ac Addysgu

Beth fydda i’n ei ddysgu?

Ym mhob blwyddyn bydd gennych bedair awr o waith iaith yr wythnos – dewiswch o blith Ffrangeg, Almaeneg, Sbaeneg ac Eidaleg.

Yn eich blwyddyn gyntaf byddwch yn astudio:

  • Egwyddorion sylfaenol rheolaeth a busnes
  • Egwyddorion marchnata a'r berthynas rhwng rheoli a threfniadaeth
  • Modiwlau dewisol gan gynnwys cyfrifeg a chyllid, yr economi, dadansoddeg data, iaith, diwylliant a hunaniaeth.

Yn eich ail flwyddyn, byddwch yn astudio:

  • Ymddygiad prynwyr
  • Damcaniaethau rheoli marchnata
  • Eich dewis o fodiwlau dewisol, gan gynnwys cysylltiadau busnes, profiad cwsmeriaid, llenyddiaeth, iaith, sinema a diwylliant.

Yn eich trydedd flwyddyn, byddwch yn ymgymryd â'ch blwyddyn dramor, yn gweithio neu'n astudio mewn gwlad dramor sy’n berthnasol i’ch iaith ddewisol.

Yn eich blwyddyn olaf, byddwch yn astudio:

  • Marchnata Digidol
  • Eich dewis o fodiwlau dewisol, gan gynnwys marchnata twristiaeth, arweinyddiaeth strategol, llenyddiaeth, iaith, sinema a diwylliant.

Sut fydda i'n cael fy nysgu?

Byddwch yn cael eich addysgu drwy gyfuniad o ddarlithoedd, dosbarthiadau iaith, seminarau a thiwtorialau.

Asesu

Gall dulliau asesu gynnwys arholiadau, gwaith cwrs, traethodau, prosiectau a chyflwyniadau.

Gofynion Mynediad Nodweddiadol

Tariff UCAS 120 - 104

Safon Uwch BBB-BCC

Gofynion TGAU (o leiaf gradd C/4):
Cymraeg neu Saesneg

Diploma Cenedlaethol BTEC:
DDM-DMM

Bagloriaeth Ryngwladol:
30-28

Bagloriaeth Ewropeaidd:
75%-65%

Mae'r Brifysgol yn croesawu ceisiadau israddedig gan fyfyrwyr sy'n astudio'r Diploma Mynediad i Addysg Uwch neu gymwysterau lefel T, ar yr amod eu bod yn cyflawni'r canlyniadau perthnasol o ran cynnwys y pwnc a'r dysgu. Ni allwn dderbyn Diplomâu Mynediad i Addysg Uwch na lefelau T fel cymhwyster cyffredinol ar gyfer pob cwrs gradd israddedig.
Mae ein polisi derbyn cynhwysol yn rhoi gwerth ar ehangder yn ogystal â dyfnder yr astudio. Dewisir ymgeiswyr ar sail eu teilyngdod eu hunain a gall cynigion amrywio. Os hoffech wirio a yw eich cymwysterau yn gymwys cyn cyflwyno cais, cysylltwch â'r Swyddfa Derbyn Israddedigion am gyngor ac arweiniad.

Yn ôl i'r brig

|