BSc

Seicoleg a Marchnata

Bydd y radd Seicoleg a Marchnata yn eich galluogi i ymchwilio i ymddygiad siopwyr a sut mae pobl yn penderfynu beth i’w brynu: sut mae strategaethau marchnata yn gallu dylanwadu ar y berthynas rhwng y prynwr a’r busnes, a sut mae’r cyfryngau cymdeithasol yn cael effaith ar ymddygiad siopwyr ar-lein. Byddwch yn elwa o deallusrwydd rhyngddisgyblaethol o’r farchnad - rhywbeth y mae cyflogwyr yn galw amdano’n gynyddol.

Mae'r cwrs hwn wedi’i hachredu gan Gymdeithas Seicolegol Prydain (BPS) a’r Sefydliad Marchnata Siartredig.

Trosolwg o'r Cwrs

Pam astudio Seicoleg a Marchnata ym Mhrifysgol Aberystwyth? 

Mae gan yr Adran Seicoleg gyfleusterau addysgu ac ymchwil rhagorol sy'n benodol i'ch cwrs. Mae ein labordai a'n mannau ymchwil penodol yn darparu amryw adnoddau ac offer i chi eu defnyddio i edrych ar ymddygiad pobl. Mae'r adnoddau hyn yn eich galluogi i ddatblygu’ch diddordebau, a datrys problemau mewn modd creadigol wrth i chi symud ymlaen tuag at eich gradd. 

Mae'r elfen Seicoleg wedi'i hachredu gan Gymdeithas Seicolegol Prydain (BPS) sy'n caniatáu dau lwybr gyrfa penodol, un mewn marchnata proffesiynol, a'r llall mewn Seicoleg broffesiynol. Mae Ysgol Fusnes Aberystwyth yn ganolfan Porth ar gyfer y Sefydliad Siartredig Marchnata (CIM), sy'n golygu, ar ôl graddio'n llwyddiannus, y byddwch yn cael eich heithrio o lefelau pedwar a chwech o'r cymwysterau CIM. Canlyniad y dull hwn yw darparu cymwyseddau graddedigion hanfodol a disgwyliedig i chi sy'n gwneud i chi sefyll allan yn ystod camau cynnar eich gyrfa; mae dewis y cyfuniad gradd hwn yn helpu i sicrhau trosglwyddiad effeithiol o'r campws i'ch gyrfa.

Ein Staff

Mae holl staff dysgu'r Adran Seicoleg yn gwneud gwaith ymchwil ac mae gan bob un o’r staff parhaol gymwysterau hyd at safon PhD, ac mae gan y rhan fwyaf TUAAU neu maent yn gymrodyr/cymrodyr uwch o'r academi addysg uwch. Mae gan dros hanner y staff hefyd gymhwyster CPsychol, sy'n dynodi safon uchaf y Gymdeithas Seicoleg Brydeinig o ran gwybodaeth ac arbenigedd mewn seicoleg.

Caiff myfyrwyr Ysgol Fusnes Aberystwyth eu dysgu gan ddarlithwyr a staff dysgu eraill sy'n weithgar mewn gwaith ymchwil ac yn ymarferwyr arbenigol yn eu dewis maes. 

Mae gan dros 75% o’r aelodau o staff sy’n dysgu’n llawn amser gymhwyster hyd at lefel PhD. Ar hyn o bryd mae'r rhan fwyaf ohonynt yn weithgar mewn gwaith ymchwil, sy'n golygu bod myfyrwyr yn elwa o gael dysgu gwybodaeth 'newydd' yn eu dewis maes yn ogystal ag astudio testunau cydnabyddedig. Mae'r Ysgol hefyd yn cyflogi staff rhan-amser a llawn amser sydd wedi'u neilltuo ar gyfer dysgu yn unig.  Mae llawer o’r staff rhan-amser yn cyfuno dyletswyddau dysgu gyda gwaith ymgynghori a gweithgareddau busnes, gan sicrhau bod myfyrwyr yn gallu cael gafael nid yn unig ar yr ymchwil ddiweddaraf ond hefyd yr wybodaeth gymhwysol ddiweddaraf.

Modiwlau Dechrau Medi - 2025

Noder: Y modiwlau a restrir isod yw'r modiwlau y bwriedir eu cyflwyno ar hyn o bryd yn ystod y flwyddyn academaidd nesaf ac mae'n bosibl y gallant newid. Maent wedi'u cynnwys yma i roi syniad o strwythur y cwrs.

Modiwlau Craidd

Teitl y Modiwl Cod y Modiwl Gwerth Credyd
Brain, Behaviour and Cognition PS11220 20
Cyflwyniad i ddulliau ymchwil mewn seicoleg SC11320 20
Introduction to core topics in Social and Individual Behaviour PS11420 20
Hanfodion Rheolaeth a Busnes CB15120 20
Egwyddorion Marchnata ac Ymarfer Cyfoes CB17120 20

Opsiynau

Teitl y Modiwl Cod y Modiwl Gwerth Credyd
Data Analytics AB15220 20
Fundamentals of Accounting and Finance AB11120 20
Hanfodion Cyfrifeg a Chyllid CB11120 20
Understanding the Economy AB13120 20

Modiwlau Craidd

Teitl y Modiwl Cod y Modiwl Gwerth Credyd
Consumer and Buyer Behaviour * AB27220 20
Marketing Management * AB27120 20
Cognitive Psychology PS21820 20
Qualitative Research Methods PS20310 10
Dulliau Ymchwil Meintiol SC21310 10
Social Psychology PS20220 20

Opsiynau

Teitl y Modiwl Cod y Modiwl Gwerth Credyd
Applied Brand Management AB27420 20
Marketing: Business Relationships and Customer Experience AB27520 20

Modiwlau Craidd

Teitl y Modiwl Cod y Modiwl Gwerth Credyd
Behavioural Neuroscience PS32120 20
Developmental Psychology PS34320 20
Prosiect ymchwil Seicoleg ar gyfer cyd-anrhydedd SC34120 20
Digital Marketing AB37220 20
Marketing and Digital Marketing Communication AB37120 20

Opsiynau

Teitl y Modiwl Cod y Modiwl Gwerth Credyd
Arweinyddiaeth Strategol CB35120 20
Strategic Leadership AB35120 20
Tourism Marketing AB39220 20

Gyrfaoedd

Bydd eich gradd Seicoleg a Marchnata yn darparu sylfaen ragorol ar gyfer gyrfa broffesiynol mewn Marchnata. Mae Ysgol Fusnes Aberystwyth yn cynnig modiwlau ymgynghori a chyflogadwyedd pwrpasol lle mae myfyrwyr yn cwblhau amcanion y diwydiant gan roi cyswllt ymarferol i chi â natur ailadroddol datblygu cyfleoedd, a lliniaru risg mewn amgylcheddau masnachol. 

Mae llawer o'n graddedigion wedi ystyried dyheadau gyrfaol amrywiol; mae'r disgyblaethau allweddol yn cynnwys Rheoli Brand, Marchnata Digidol, Cyfathrebu a Rheolaeth Cyfryngau Cymdeithasol, Cynllunio a Hysbysebu'r Cyfryngau, Cyfathrebu Marchnata Corfforaethol, yn ogystal â dadansoddi Ymddygiad Defnyddwyr a rheolaeth gyffredinol y swyddogaeth Farchnata. 

Bydd astudio Marchnata a Seicoleg yn eich galluogi i ddatblygu'r sgiliau allweddol canlynol: 

  • Deall dylanwadau defnyddwyr ar y broses o wneud penderfyniadau a chymhwyso'r ddamcaniaeth a addysgir i sut y gall strategaethau marchnata ddylanwadu ar y berthynas rhwng y defnyddiwr a busnes 
  • Defnyddio sgiliau dadansoddi a meddwl yn greadigol ar gyfer gwneud penderfyniadau lefel uchel a datrys problemau 
  • Trwy wella eich sgiliau rhifedd a'r gallu i ymchwilio, dehongli a defnyddio data busnes ac ariannol ar gyfer cyflwyniadau gweithredol 
  • Y gallu i gyfathrebu'n glir yn ysgrifenedig ac ar lafar i hwyluso gwaith tîm a gwaith annibynnol llwyddiannus 
  • Datblygu sgiliau gwytnwch a fydd yn cynorthwyo gyda chymhelliant proffesiynol a gwytnwch sy'n cyfrannu at sgiliau rheoli amser a threfnu effeithiol. 

Dysgu ac Addysgu

Beth fydda i’n ei ddysgu? 

Yn eich blwyddyn gyntaf, byddwch yn ennill sylfaen gadarn mewn cysyniadau a thechnegau marchnata allweddol yn ogystal â hanfodion Seicoleg. Byddwch hefyd yn dewis o blith ystod eang o fodiwlau dewisol a gynigir yn Ysgol Fusnes Aberystwyth a'r Adran Seicoleg. 

Mae'r ail flwyddyn yn datblygu eich cymwyseddau mewn meysydd fel Ymchwil Marchnata, Seicoleg Wybyddol, Ymddygiad Defnyddwyr a Seicoleg rheoli brand ymhellach. Byddwch yn cwblhau prosiect ymchwil i’r farchnad gyda chleientiaid go iawn sy'n eich galluogi i roi theori ar waith a chryfhau eich gallu i ymgynghori’n broffesiynol. 

Mae myfyrwyr y flwyddyn olaf yn ystyried modelau a fframweithiau Seicoleg Cyfathrebu, technegau rhaglenni niwroieithyddol mewn marchnata digidol a chymhwyso’r dulliau dysgu amrywiol o'r holl fodiwlau blaenorol i brosiect terfynol. Bydd meysydd ffocws eraill yn cynnwys Marchnata Strategol a Phynciau Datblygedig mewn Ymddygiad Defnyddwyr, a Seicoleg Gymdeithasol Uwch. Bydd modd i chi hefyd ddewis o opsiynau megis Seicoleg Cydweithredu, Negodi Strategol a Chyfathrebu Beirniadol a Chreadigol. 

Sut bydda i'n cael fy addysgu? 

Cewch eich haddysgu drwy ddarlithoedd, seminarau mewn grwpiau bach, a thiwtorialau. 

Byddwn yn eich asesu ar ffurf arholiadau, traethodau a asesir, prosiectau, adroddiadau, dyddiaduron myfyriol, portffolios, a chyflwyniadau. Bydd y gwaith cwrs yn datblygu eich gallu i ymchwilio, dadansoddi a chyflwyno dadl yn glir ac yn rhesymegol, a bydd seminarau yn eich helpu i fireinio eich sgiliau cyflwyno. 

Er mwyn sicrhau eich bod yn perfformio'n gyson ac i fanteisio i’r eithaf ar eich profiad yn y brifysgol, bydd tiwtor personol yn cael ei glustnodi i chi. Mae rôl y tiwtor personol yn hanfodol i'ch profiad myfyriwr cyffredinol wrth astudio ym Mhrifysgol Aberystwyth a bydd eich tiwtor personol yn eich cynorthwyo gyda phob mater sy'n ymwneud â'ch lles a'ch perfformiad academaidd ac anacademaidd.

Gofynion Mynediad Nodweddiadol

Tariff UCAS 120 - 96

Safon Uwch BBB-CCC

Gofynion TGAU (o leiaf gradd C/4):
Cymraeg neu Saesneg a Mathemateg

Diploma Cenedlaethol BTEC:
DDM-MMM

Bagloriaeth Ryngwladol:
30-26

Bagloriaeth Ewropeaidd:
75%-65% overall

Mae'r Brifysgol yn croesawu ceisiadau israddedig gan fyfyrwyr sy'n astudio'r Diploma Mynediad i Addysg Uwch neu gymwysterau lefel T, ar yr amod eu bod yn cyflawni'r canlyniadau perthnasol o ran cynnwys y pwnc a'r dysgu. Ni allwn dderbyn Diplomâu Mynediad i Addysg Uwch na lefelau T fel cymhwyster cyffredinol ar gyfer pob cwrs gradd israddedig.
Mae ein polisi derbyn cynhwysol yn rhoi gwerth ar ehangder yn ogystal â dyfnder yr astudio. Dewisir ymgeiswyr ar sail eu teilyngdod eu hunain a gall cynigion amrywio. Os hoffech wirio a yw eich cymwysterau yn gymwys cyn cyflwyno cais, cysylltwch â'r Swyddfa Derbyn Israddedigion am gyngor ac arweiniad.

Yn ôl i'r brig

|