BSc

Seicoleg a Marchnata

Rydych chi'n edrych ar y cwrs hwn ar gyfer Dechrau Medi 2024

Bydd y radd Seicoleg a Marchnata yn eich galluogi i ymchwilio i ymddygiad siopwyr a sut mae pobl yn penderfynu beth i’w brynu: sut mae strategaethau marchnata yn gallu dylanwadu ar y berthynas rhwng y prynwr a’r busnes, a sut mae’r cyfryngau cymdeithasol yn cael effaith ar ymddygiad siopwyr ar-lein. Byddwch yn elwa o deallusrwydd rhyngddisgyblaethol o’r farchnad - rhywbeth y mae cyflogwyr yn galw amdano’n gynyddol.

Mae'r cwrs hwn wedi’i hachredu gan Gymdeithas Seicolegol Prydain (BPS) a’r Sefydliad Marchnata Siartredig.

Trosolwg o'r Cwrs

Trwy gydol y cwrs, bydd eich astudiaeth o ymddygiad pobl a’u harferion siopa o safbwynt seicolegol yn sail i’ch sgiliau fel darpar weithiwr ym myd marchnata, ac yn ategu’ch gwybodaeth gynyddol am ddulliau, damcaniaethau a chysyniadau marchnata. Bydd y cyfle i ymgymryd â phrosiect gyda chleientiaid go iawn yn caniatáu ichi ddefnyddio’r theori y buoch yn ei hastudio mewn modd ymarferol i gryfhau’ch galluoedd ymgynghori proffesiynol.

Ein Staff

Mae holl staff dysgu'r Adran Seicoleg yn gwneud gwaith ymchwil ac mae gan bob un o’r staff parhaol gymwysterau hyd at safon PhD, ac mae gan y rhan fwyaf TUAAU neu maent yn gymrodyr/cymrodyr uwch o'r academi addysg uwch. Mae gan dros hanner y staff hefyd gymhwyster CPsychol, sy'n dynodi safon uchaf y Gymdeithas Seicoleg Brydeinig o ran gwybodaeth ac arbenigedd mewn seicoleg.

Modiwlau Dechrau Medi - 2024

Noder: Y modiwlau a restrir isod yw'r modiwlau y bwriedir eu cyflwyno ar hyn o bryd yn ystod y flwyddyn academaidd nesaf ac mae'n bosibl y gallant newid. Maent wedi'u cynnwys yma i roi syniad o strwythur y cwrs.

Modiwlau Craidd

Teitl y Modiwl Cod y Modiwl Gwerth Credyd
Brain, Behaviour and Cognition PS11220 20
Cyflwyniad i ddulliau ymchwil mewn seicoleg SC11320 20
Introduction to core topics in Social and Individual Behaviour PS11420 20
Hanfodion Rheolaeth a Busnes CB15120 20
Egwyddorion Marchnata ac Ymarfer Cyfoes CB17120 20

Opsiynau

Teitl y Modiwl Cod y Modiwl Gwerth Credyd
Data Analytics AB15220 20
Fundamentals of Accounting and Finance * AB11120 20
Hanfodion Cyfrifeg a Chyllid CB11120 20
Understanding the Economy AB13120 20

Modiwlau Craidd

Teitl y Modiwl Cod y Modiwl Gwerth Credyd
Consumer and Buyer Behaviour * AB27220 20
Marketing Management AB27120 20
Cognitive Psychology PS21820 20
Qualitative Research Methods PS21410 10
Dulliau Ymchwil Meintiol SC21310 10
Social Psychology PS20220 20

Opsiynau

Teitl y Modiwl Cod y Modiwl Gwerth Credyd
Applied Brand Management AB27420 20
Marketing: Relationships and Customer Experience AB27520 20

Modiwlau Craidd

Teitl y Modiwl Cod y Modiwl Gwerth Credyd
Behavioural Neuroscience PS32120 20
Developmental Psychology PS34320 20
Prosiect ymchwil Seicoleg ar gyfer cyd-anrhydedd SC34120 20
Digital Marketing AB37220 20
Marketing and Digital Marketing Communication AB37120 20

Opsiynau

Teitl y Modiwl Cod y Modiwl Gwerth Credyd
Arweinyddiaeth Strategol CB35120 20
Strategic Leadership * AB35120 20
Tourism Marketing AB39220 20

Gyrfaoedd

Bydd y radd mewn Seicoleg a Marchnata’n rhoi ichi sylfaen gadarn ar gyfer gyrfa broffesiynol ym myd Marchnata. Mae llawer o’n graddedigion wedi mynd i amrywiaeth o yrfaoedd, yn cynnwys: rheoli brand; marchnata digidol; ymchwil marchnata; rheoli cyfathrebiadau a’r cyfryngau cymdeithasol; cynllunio a hysbysebu yn y cyfryngau; cyfathrebiadau marchnata corfforaethol; yn ogystal â dadansoddi ymddygiad siopwyr.

Dysgu ac Addysgu

Gofynion Mynediad Nodweddiadol

Tariff UCAS 120 - 96

Safon Uwch BBB-CCC

Gofynion TGAU (o leiaf gradd C/4):
Cymraeg neu Saesneg a Mathemateg

Diploma Cenedlaethol BTEC:
DDM-MMM

Bagloriaeth Ryngwladol:
30-26

Bagloriaeth Ewropeaidd:
75%-65% overall

Mae'r Brifysgol yn croesawu ceisiadau israddedig gan fyfyrwyr sy'n astudio'r Diploma Mynediad i Addysg Uwch neu gymwysterau lefel T, ar yr amod eu bod yn cyflawni'r canlyniadau perthnasol o ran cynnwys y pwnc a'r dysgu. Ni allwn dderbyn Diplomâu Mynediad i Addysg Uwch na lefelau T fel cymhwyster cyffredinol ar gyfer pob cwrs gradd israddedig.
Mae ein polisi derbyn cynhwysol yn rhoi gwerth ar ehangder yn ogystal â dyfnder yr astudio. Dewisir ymgeiswyr ar sail eu teilyngdod eu hunain a gall cynigion amrywio. Os hoffech wirio a yw eich cymwysterau yn gymwys cyn cyflwyno cais, cysylltwch â'r Swyddfa Derbyn Israddedigion am gyngor ac arweiniad.

Yn ôl i'r brig

|