BSc

Marchnata / Sbaeneg

Marchnata / Sbaeneg Cod NR55 Dewch i Ddiwrnod Agored Dewch i Ddiwrnod Agored Llefydd ar gael trwy Clirio0800 121 40 80

Ymgeisio Nawr

Mae’r radd BSc Marchnata/Sbaeneg yn Ysgol Fusnes Aberystwyth yn gwrs dynamig a chyffrous sy’n cyfuno elfennau o farchnata ac ymddygiad defnyddwyr, marchnata digidol, marchnata strategol, cynllunio, seicoleg, rheoli ac adnoddau dynol. Fe’i haddysgir gan arbenigwyr marchnata achrededig ac adnabyddus ac yn ystod y radd byddwch yn datblygu gwybodaeth gadarn am ddylanwadau allanol ar y byd marchnata a’r defnydd o dechnoleg a chyfryngau digidol, sy’n newid mor gyflym, at ddibenion marchnata. 

Bydd y BSc mewn Marchnata / Sbaeneg yn eich galluogi i gyfuno damcaniaeth farchnata yn ei disgyblaeth briodol ynghyd â'r cyfle i ddarganfod iaith, diwylliant a threftadaeth Sbaen. Bydd y radd hon o Brifysgol Aberystwyth yn rhoi'r sgiliau ieithyddol i chi a fydd yn eich galluogi i ragori ar ôl y Brifysgol. 

Mae Prifysgol Aberystwyth yn Ganolfan Porth Graddedigion y Sefydliad Marchnata Siartredig (CIM), sy'n golygu y gallwch astudio am gymhwyster y CIM wrth i chi astudio am radd, neu gael hepgor rhai elfennau o fodiwlau'r CIM yn y dyfodol. 

Trosolwg o'r Cwrs

Pam astudio Marchnata / Sbaeneg ym Mhrifysgol Aberystwyth? 

  • Byddwch yn ennill achrediad gan y Sefydliad Marchnata Siartredig (CIM); 
  • Byddwch yn cael cipolwg ar fyd menter; 
  • Byddwch yn deall effaith newidiadau yn yr amgylchedd busnes e.e. digwyddiadau economaidd. 

Byddwch yn meithrin gwybodaeth am y canlynol: 

  • Marchnata Digidol; 
  • Cyfryngau Cymdeithasol; 
  • Newidiadau yn yr amgylchedd rheoleiddiol a chyfreithiol;
  • Marchnata strategol; 
  • Strategaethau busnes; 
  • Iaith a Diwylliant Sbaen. 

Ar ôl cwblhau'r cwrs hwn, bydd gennych chi: 

  • Ddealltwriaeth ehangach am arferion rheolaeth a marchnata. 
  • Y gallu i gyfathrebu yn Saesneg a Sbaeneg ar yr un pryd; 
  • Gwybodaeth fanwl am fasnach yn y sector cyhoeddus a'r sector preifat; 
  • Gafael gadarn ar gymhlethdod yr heriau sy'n wynebu rheolaeth, ac effaith gyfunol y materion economaidd, ariannol, dynol a chyfreithiol y mae arweinwyr yn ymdrin â hwy; 
  • Ar ôl cwblhau'r radd hon yn llwyddiannus gallwch wneud cais am eithriad o 50% o'r Diplomâu CIM proffesiynol. 
Ein Staff

Caiff myfyrwyr Ysgol Fusnes Aberystwyth eu dysgu gan ddarlithwyr a staff dysgu eraill sy'n weithgar mewn gwaith ymchwil ac yn ymarferwyr arbenigol yn eu dewis maes. 

Mae gan dros 75% o’r aelodau o staff sy’n dysgu’n llawn amser gymhwyster hyd at lefel PhD. Ar hyn o bryd mae'r rhan fwyaf ohonynt yn weithgar mewn gwaith ymchwil, sy'n golygu bod myfyrwyr yn elwa o gael dysgu gwybodaeth 'newydd' yn eu dewis maes yn ogystal ag astudio testunau cydnabyddedig. Mae'r Ysgol hefyd yn cyflogi staff rhan-amser a llawn amser sydd wedi'u neilltuo ar gyfer dysgu yn unig.  Mae llawer o’r staff rhan-amser yn cyfuno dyletswyddau dysgu gyda gwaith ymgynghori a gweithgareddau busnes, gan sicrhau bod myfyrwyr yn gallu cael gafael nid yn unig ar yr ymchwil ddiweddaraf ond hefyd yr wybodaeth gymhwysol ddiweddaraf.

Mae gan bob un o ddarlithwyr yr Adran Ieithoedd Modern gymwysterau hyd at safon PhD ac maent yn gwneud gwaith ymchwil. Rydym hefyd yn cyflogi tiwtoriaid iaith, rhai ohonynt â gradd PhD, a phob un yn addysgwyr profiadol. O bryd i'w gilydd, cyflogwn siaradwyr brodorol o brifysgolion sy'n bartneriaid i ni dramor (lectoriaid), sy'n dod atom â chymeradwyaeth uchel ar sail eu llwyddiant academaidd yn eu prifysgolion eu hunain, ac mae sawl un ohonynt wedi hyfforddi fel addysgwyr. 

Gyrfaoedd

Rhagolygon gyrfaol: O'r Brifysgol i'r Byd Gwaith 

Mae llawer o'n graddedigion wedi ystyried gyrfa yn y swyddi canlynol: 

  • Swyddog Marchnata 
  • Ymchwilydd Marchnata 
  • Ysgrifennwr Copi Hysbysebu 
  • Cynllunydd Cyfrifon Hysbysebu 
  • Cynllunydd yn y Cyfryngau 
  • Prynwr yn y Cyfryngau 
  • Swyddog Cysylltiadau Cyhoeddus. 

Pa sgiliau fydda i'n eu cael o'r radd hon? 

Bydd astudio ein gradd mewn Marchnata yn rhoi'r sgiliau canlynol i chi: 

  • sgiliau rhifedd gwell a'r gallu i ymchwilio, dehongli a defnyddio ystadegau 
  • dealltwriaeth fanwl o achosion ac effeithiau newidiadau economaidd a newidiadau allanol eraill 
  • y gallu i gyfathrebu'n glir yn ysgrifenedig ac ar lafar 
  • sgiliau datrys problemau effeithiol 
  • sgiliau dadansoddi a meddwl yn greadigol 
  • y gallu i wneud penderfyniadau 
  • y gallu i weithio'n annibynnol ac fel rhan o dîm 
  • sgiliau trefnu a rheoli amser 
  • Y gallu i gyfathrebu ar lafar ac yn ysgrifenedig yn Saesneg a Sbaeneg; 
  • hunanddibyniaeth a'r gallu i ysgogi eich hun. 

Pa gyfleoedd profiad gwaith a geir ym Mhrifysgol Aberystwyth? 

Dysgwch fwy am y cyfleoedd am waith amrywiol y mae Gwasanaeth Gyrfaoedd Prifysgol Aberystwyth yn eu cynnig. 

Gallwch wella'ch cyfleoedd cyflogaeth gyda GO Wales a BMG (y cynllun Blwyddyn mewn Gwaith) sy'n cael eu rheoli gan ein hadran Gyrfaoedd. 

Dysgu ac Addysgu

Beth fyddwch chi'n ei ddysgu? 

Bydd y crynodeb isod yn rhoi darlun i chi o'r hyn y gallech ei astudio yn ystod y cynllun gradd pedair blynedd. 

Yn ystod y flwyddyn gyntaf, gallech ddarganfod: 

  • egwyddorion sylfaenol marchnata 
  • marchnata mewn cyd-destun busnes  
  • Iaith Sbaeneg (llafar, clywedol, cyfieithu ac ysgrifennu); 
  • rheolaeth 
  • cyllid 
  • Diwylliant a Gwleidyddiaeth Ewrop; 
  • Llenyddiaeth a ffilm Sbaeneg; 
  • twristiaeth. 

Yn ystod eich ail flwyddyn, gallech archwilio: 

  • cynhyrchu ymgyrchoedd 
  • strategaethau marchnata 
  • ymddygiad defnyddwyr 
  • dulliau ymchwil rheolaeth 
  • Iaith Sbaeneg (llafar, clywedol, cyfieithu ac ysgrifennu); 
  • brandio 
  • marchnata busnes i fusnes 
  • rheoli perthnasau â chwsmeriaid 
  • rheoli adnoddau dynol. 

Yn y drydedd flwyddyn byddwch yn dechrau ar eich blwyddyn dramor, y gellir ei threulio'n astudio yn un o'n prifysgolion partneriaethol yn Sbaen, neu'n dechrau ar flwyddyn yn ymgymryd â lleoliad gwaith mewn gwlad lle siaredir Sbaeneg. Mae cyfleoedd eraill yn cynnwys Rhaglen Cynorthwyydd Iaith Saesneg y Cyngor Prydeinig, lle byddwch yn helpu i ddatblygu'r Iaith Saesneg mewn ysgol gynradd neu uwchradd yn Sbaen neu wlad lle siaredir Sbaeneg. 

Yn ystod y flwyddyn olaf, gallech astudio: 

  • marchnata a chyfathrebu 
  • natur a phwysigrwydd marchnata rhyngwladol ac ymwybyddiaeth brand byd-eang 
  • dadansoddi sefyllfaoedd marchnata yn ansoddol ac yn feintiol  
  • Iaith Sbaeneg (llafar, clywedol ac ysgrifennu);
  • TESOL;
  • Dewiswch o blith ystod o fodiwlau sy'n amrywio o Lenyddiaeth, Ffilm, Diwylliant, Busnes; 
  • ffurfio cynlluniau marchnata effeithiol. 

Byddwch hefyd yn cyflawni prosiect ymchwil annibynnol gorfodol. 

Sut bydda i'n cael fy addysgu? 

Cewch eich haddysgu drwy ddarlithoedd, seminarau mewn grwpiau bach, a thiwtorialau. 

Byddwn yn eich asesu ar ffurf arholiadau, traethodau a asesir, prosiectau, adroddiadau, dyddiaduron myfyriol, portffolios, a chyflwyniadau. Bydd y gwaith cwrs yn datblygu eich gallu i ymchwilio, dadansoddi a chyflwyno dadl yn glir ac yn rhesymegol, a bydd seminarau yn eich helpu i fireinio eich sgiliau cyflwyno. 

Bydd tiwtor personol yn cael ei ddynodi i chi ar gyfer eich amser ym Mhrifysgol Aberystwyth. Bydd yr unigolyn hwn yn eich cynorthwyo â phob math o faterion, boed nhw'n academaidd ai peidio. 

Gofynion Mynediad Nodweddiadol

Tariff UCAS 120 - 104

Safon Uwch BBB-BCC

Gofynion TGAU (o leiaf gradd C/4):
English or Welsh

Diploma Cenedlaethol BTEC:
DDM-DMM

Bagloriaeth Ryngwladol:
30-28

Bagloriaeth Ewropeaidd:
75%-65%

Mae'r Brifysgol yn croesawu ceisiadau israddedig gan fyfyrwyr sy'n astudio'r Diploma Mynediad i Addysg Uwch neu gymwysterau lefel T, ar yr amod eu bod yn cyflawni'r canlyniadau perthnasol o ran cynnwys y pwnc a'r dysgu. Ni allwn dderbyn Diplomâu Mynediad i Addysg Uwch na lefelau T fel cymhwyster cyffredinol ar gyfer pob cwrs gradd israddedig.
Mae ein polisi derbyn cynhwysol yn rhoi gwerth ar ehangder yn ogystal â dyfnder yr astudio. Dewisir ymgeiswyr ar sail eu teilyngdod eu hunain a gall cynigion amrywio. Os hoffech wirio a yw eich cymwysterau yn gymwys cyn cyflwyno cais, cysylltwch â'r Swyddfa Derbyn Israddedigion am gyngor ac arweiniad.

Yn ôl i'r brig

|