BSc

Mathemateg / Cyfrifeg a Chyllid

Mathemateg / Cyfrifeg a Chyllid Cod GN94 Dewch i Ddiwrnod Agored Dewch i Ddiwrnod Agored

Ymgeisio Nawr

Bydd y radd Mathemateg / Cyfrifeg a Chyllid ym Mhrifysgol Aberystwyth, sydd wedi cael sawl achrediad, yn datblygu eich gwerthfawrogiad o dechnegau mathemategol ac ystadegol uwch a'u cymhwysiad ym meysydd allweddol busnes, cyllid a chyfrifeg.  Mae'r cwrs hwn wedi'i achredu gan gyrff cyfrifeg mwyaf blaenllaw’r byd sy'n cynnwys ACCA, CIMA, ICAEW, CIPFA, CII, ICSA.  

Rhennir y dysgu ar y radd hon rhwng yr Adran Fathemateg ac Ysgol Fusnes Aberystwyth a byddwch yn elwa o arbenigedd ein darlithwyr yn y ddwy ddisgyblaeth.  Yn ogystal â'r sgiliau mathemategol a dadansoddol y byddwch yn eu meithrin trwy'r radd, byddwch hefyd yn datblygu ystod eang o sgiliau trosglwyddadwy sy'n bwysig iawn yng ngolwg cyflogwyr. 

Trosolwg o'r Cwrs

  • The Chartered Institute of Public Finance and Accountancy (CIPFA)
  • CIMA - Chartered Institute of Management Accountants
  • The Institute of Chartered Accountants in England and Wales

Pam astudio Mathemateg gyda Chyfrifeg a Chyllid yn Aberystwyth?  

  • Mae Mathemateg yn cael ei dysgu yn Aberystwyth ers 1872, felly mae'r adran yn adeiladu ar sylfaen o dros 140 mlynedd o ragoriaeth dysgu.  
  • Mae Cyfrifeg a Chyllid yn bwnc bywiog a deinamig, ac er mwyn sicrhau y cewch y datblygiad proffesiynol gorau posib, cyfunwn eich astudiaethau â phrofiad gwaith a chyfleoedd allgyrsiol ychwanegol.
  • Mae'r ddwy adran yn ganolfannau ymchwil gweithredol sydd ag athrawon ymroddedig sy'n rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf am eu pwnc i chi, gan ddefnyddio canlyniadau eu gwybodaeth, o safon fyd-eang, yn uniongyrchol yn eu dysgu.
  • Mae galw mawr am ein graddedigion ym myd diwydiant, ac mae ein graddedigion yn cael canlyniadau cadarnhaol iawn o ran eu cyflogau.
  • Byddwch yn elwa o'r rhaglen o siaradwyr gwadd sy'n dod â'u profiad proffesiynol i'n hystafelloedd dosbarth. Mae hyn yn cael ei gyflwyno gan Ysgol Fusnes Aberystwyth i ehangu eich rhagolygon a'ch ysbrydoli yn ystod eich gradd.  
  • Mae gan Ysgol Fusnes Aberystwyth drefniadau â  phrifysgolion partneriaethol dramor i ddarparu rhaglenni academaidd byr (2 wythnos) i grwpiau bach o fyfyrwyr rheolaeth a busnes (ar sail hunan-ariannu), i chi gael profiad o effaith yr amgylchedd diwylliannol wrth gynnal busnes dramor.   Ar hyn o bryd mae gennym brifysgolion partneriaethol yn India, Tsieina, Rwsia, Japan, yr Emiradau Arabaidd Unedig a Brasil ac mae ein portffolio o wledydd yn ehangu'n gyflym.  
  • Mae sawl modiwl ar gael drwy gyfrwng y Gymraeg; am ragor o fanylion, edrychwch ar y tab modiwlau ymhellach i lawr ar y dudalen hon.   
Ein Staff

Mae’r holl ddarlithwyr yn yr Adran Mathemateg wedi’u cymhwyso i lefel PhD ac yn weithgar ym myd ymchwil. Mae gan y rhan fwyaf gymhwyster addysgu uwchraddedig ac mae’n rhaid i staff newydd gwblhau’r TUAAU. Mae’r adran hefyd yn cyflogi nifer o diwtoriaid rhan-amser, sydd â phrofiad dysgu eang, a rhai arddangoswyr sy’n cael eu dewis o blith ein myfyrwyr israddedig ac uwchraddedig.

Caiff myfyrwyr Ysgol Fusnes Aberystwyth eu dysgu gan ddarlithwyr a staff dysgu eraill sy'n weithgar mewn gwaith ymchwil ac yn ymarferwyr arbenigol yn eu dewis maes. 

Mae gan dros 75% o’r aelodau o staff sy’n dysgu’n llawn amser gymhwyster hyd at lefel PhD. Ar hyn o bryd mae'r rhan fwyaf ohonynt yn weithgar mewn gwaith ymchwil, sy'n golygu bod myfyrwyr yn elwa o gael dysgu gwybodaeth 'newydd' yn eu dewis maes yn ogystal ag astudio testunau cydnabyddedig. Mae'r Ysgol hefyd yn cyflogi staff rhan-amser a llawn amser sydd wedi'u neilltuo ar gyfer dysgu yn unig.  Mae llawer o’r staff rhan-amser yn cyfuno dyletswyddau dysgu gyda gwaith ymgynghori a gweithgareddau busnes, gan sicrhau bod myfyrwyr yn gallu cael gafael nid yn unig ar yr ymchwil ddiweddaraf ond hefyd yr wybodaeth gymhwysol ddiweddaraf.

Modiwlau Dechrau Medi - 2025

Noder: Y modiwlau a restrir isod yw'r modiwlau y bwriedir eu cyflwyno ar hyn o bryd yn ystod y flwyddyn academaidd nesaf ac mae'n bosibl y gallant newid. Maent wedi'u cynnwys yma i roi syniad o strwythur y cwrs.

Modiwlau Craidd

Teitl y Modiwl Cod y Modiwl Gwerth Credyd
Algebra MT10510 10
Calcwlws MT10610 10
Algebra a Chalcwlws Pellach MT11010 10
Dadansoddi Mathemategol MT11110 10
Probability MA10310 10
Statistics MA11310 10
Accounting and Finance for Specialists AB11220 20
Fundamentals of Accounting and Finance AB11120 20

Opsiynau

Teitl y Modiwl Cod y Modiwl Gwerth Credyd
Hanfodion Rheolaeth a Busnes CB15120 20
Hanfodion Rheolaeth a Busnes CB15120 20
Understanding the Economy AB13120 20

Modiwlau Craidd

Teitl y Modiwl Cod y Modiwl Gwerth Credyd
Dadansoddiad Cymhlyg MT21510 10
Algebra Llinol MT21410 10
Corporate Finance and Financial Markets AB21420 20
Intermediate Financial Accounting AB21120 20
Intermediate Management Accounting AB21220 20

Opsiynau

Teitl y Modiwl Cod y Modiwl Gwerth Credyd
Applied Statistics MA26620 20
Dadansoddiad Real MT20110 10
Distributions and Estimation MA26010 10
Introduction to Abstract Algebra MA20310 10
Real Analysis MA20110 10

Modiwlau Craidd

Teitl y Modiwl Cod y Modiwl Gwerth Credyd
Advanced Financial Accounting AB31120 20
Advanced Management Accounting AB31220 20
Investments and Financial Instruments AB31320 20

Gyrfaoedd

Mae gradd sy'n cyfuno Mathemateg a Chyfrifeg a Chyllid yn werthfawr mewn swyddi lle bydd gofyn i chi ddefnyddio sgiliau rhifedd arbenigol a meddwl dadansoddol.   

Mae'r gyrfaoedd hyn yn cynnwys:  

  • Cyfrifeg a Bancio  
  • Dadansoddi risg a gwaith actiwaraidd   
  • Rheolaeth ariannol  
  • Dadansoddi buddsoddi  
  • Technoleg Gwybodaeth  
  • Ymchwil a Datblygu 

Sgiliau Trosglwyddadwy:    

Mae'r radd hon wedi'i chynllunio i feithrin sgiliau trosglwyddadwy gan sicrhau bod ein graddedigion yn atyniadol i gyflogwyr mewn ystod eang o feysydd, sy'n cynnwys:   

  • Rhifedd  
  • Datrys Problemau  
  • Rhesymu  
  • Dadansoddi data  
  • Sgiliau trefnu da  
  •  Sgiliau gwaith tîm a chyfathrebu. 

Pa gyfleoedd sydd ar gael i fi ym Mhrifysgol Aberystwyth? 

Mae cyflogadwyedd wedi'i wreiddio ar draws ein dysgu a'n tiwtora i sicrhau eich bod yn ymwybodol o sgiliau a chymwyseddau, ac yn eu meithrin trwy gydol eich amser yn astudio gyda ni ac fe gewch ddysgu mwy yma.  

 Dysgwch fwy am y gwahanol gyfleoedd am waith y mae Gwasanaeth Gyrfaoedd Prifysgol Aberystwyth  yn eu cynnig.  

Gallwch wella'ch rhagolygon am swydd gyda  GO Wales a BMG (y cynllun Blwyddyn mewn Gwaith) sy'n cael eu rheoli gan ein hadran Gyrfaoedd.    

 Ar ôl i chi gwblhau'r radd hon, byddwch wedi meithrin sgiliau yn y meysydd canlynol:  

  • Sgiliau ymchwil a dadansoddi data 
  • Gwell sgiliau mathemategol a chyfrifiadurol 
  • Dulliau arloesol o ddatrys problemau yn y byd go iawn 
  • Sgiliau effeithiol wrth ddatrys problemau a meddwl yn greadigol 
  • Y gallu i weithio'n annibynnol neu fel rhan o dîm 
  • Sgiliau rheoli amser a threfnu 
  • Y gallu i gyfathrebu'n glir yn ysgrifenedig ac ar lafar 
  • Hunan-gymhelliant a hunan-ddibyniaeth.  

Dysgu ac Addysgu

Gofynion Mynediad Nodweddiadol

Tariff UCAS 120 - 104

Safon Uwch BBB-BCC gan gynnwys B mewn Mathemateg

Gofynion TGAU (o leiaf gradd C/4):
Cymraeg neu Saesneg a Mathemateg

Diploma Cenedlaethol BTEC:
DDM-DMM gyda B Safon Uwch Mathemateg

Bagloriaeth Ryngwladol:
30-28 gyda 5 pwynt mewn Mathemateg ar lefel uwch

Bagloriaeth Ewropeaidd:
75%-65% yn gyffredinol gyda 7 mewn Mathemateg

Mae'r Brifysgol yn croesawu ceisiadau israddedig gan fyfyrwyr sy'n astudio'r Diploma Mynediad i Addysg Uwch neu gymwysterau lefel T, ar yr amod eu bod yn cyflawni'r canlyniadau perthnasol o ran cynnwys y pwnc a'r dysgu. Ni allwn dderbyn Diplomâu Mynediad i Addysg Uwch na lefelau T fel cymhwyster cyffredinol ar gyfer pob cwrs gradd israddedig.
Mae ein polisi derbyn cynhwysol yn rhoi gwerth ar ehangder yn ogystal â dyfnder yr astudio. Dewisir ymgeiswyr ar sail eu teilyngdod eu hunain a gall cynigion amrywio. Os hoffech wirio a yw eich cymwysterau yn gymwys cyn cyflwyno cais, cysylltwch â'r Swyddfa Derbyn Israddedigion am gyngor ac arweiniad.

Yn ôl i'r brig

|