BSc

Mathemateg / Addysg

Mathemateg / Addysg Cod GX13 Dewch i Ddiwrnod Agored Dewch i Ddiwrnod Agored Llefydd ar gael trwy Clirio0800 121 40 80

Ymgeisio Nawr

Wrth ddewis astudio'r radd Mathemateg ac Addysg hon, byddwch yn astudio sbectrwm eang o weithgareddau datblygiad plentyndod sy'n cynnwys yr agweddau cymdeithasegol, seicolegol ac addysgol sy'n dylanwadu ar ddatblygiad plant. Yn ogystal, byddwch yn astudio maes llafur hanfodol gradd amrywiol mewn Mathemateg.

Byddwch yn cael eich addysgu gan staff brwdfrydig ac yn astudio ystod o ddisgyblaethau ymarferol, damcaniaethol a phroffesiynol y mae cyflogwyr yn y disgyblaethau hyn yn chwilio amdanynt. Bydd eich amser yn cael ei rannu'n gyfartal rhwng yr Ysgol Addysg a'r Adran Fathemateg. Bydd eich sgiliau a'ch gallu'n cael eu gwella drwy gysylltiad rheolaidd â chyfleoedd ar gyfer gwaith tîm, cyfathrebu, rhyngbersonol, a rheoli amser a gwaith.

Gan fod hon yn radd gyd-anrhydedd, bydd modd i chi ymgeisio am gyrsiau hyfforddiant dysgu TAR un ai ar lefel Cynradd neu Uwchradd.

Trosolwg o'r Cwrs

Pam astudio Mathemateg / Addysg ym Mhrifysgol Aberystwyth?

  • Bydd Mathemateg / Addysg yn eich helpu i ymgysylltu â'r damcaniaethau diweddaraf yn ymwneud â'r ystafell ddosbarth fodern, gydag arbenigedd mathemateg yn ychwanegol.
  • Byddwch yn cael eich gwthio i wella eich dealltwriaeth ddeddfwriaethol.
  • Byddwch yn dysgu mwy am ddisgyblaeth sy'n cyfuno'r gwaith o adnabod a dadansoddi siapau a phatrymau gyda chasglu data a chyfrifo.
  • Bydd yn ddrws sy'n arwain at yrfaoedd mewn amrywiaeth o sectorau, o'r maes cyllid i weinyddiaeth, ynghyd ag addysg.
Ein Staff

Mae’r holl ddarlithwyr yn yr Adran Mathemateg wedi’u cymhwyso i lefel PhD ac yn weithgar ym myd ymchwil. Mae gan y rhan fwyaf gymhwyster addysgu uwchraddedig ac mae’n rhaid i staff newydd gwblhau’r TUAAU. Mae’r adran hefyd yn cyflogi nifer o diwtoriaid rhan-amser, sydd â phrofiad dysgu eang, a rhai arddangoswyr sy’n cael eu dewis o blith ein myfyrwyr israddedig ac uwchraddedig.

Mae gan ddarlithwyr cyrsiau israddedig yr Ysgol Addysg naill ai gymwysterau hyd at safon PhD neu maent yn ymarferwyr profiadol yn eu maes. Mae gan bob un o'r staff dysgu gymhwyster dysgu cydnabyddedig, neu maent yn gweithio tuag at gymhwyster o'r fath.

Gyrfaoedd

Mae cyflogadwyedd wedi'i wreiddio yn ein haddysgu.

Mae ein graddedigion wedi bod yn llwyddiannus yn y meysydd canlynol:

  • mudiadau dyngarol
  • addysgu ac addysg (gan gynnwys anghenion addysgol arbennig)
  • gofal cymdeithasol
  • nyrsio
  • therapi lleferydd
  • gwaith cymdeithasol
  • addysg cymunedol
  • bancio
  • yswiriant
  • dadansoddi buddsoddiadau
  • technoleg gwybodaeth.

Ar ôl i chi gwblhau'r radd hon, byddwch wedi meithrin sgiliau yn y meysydd canlynol:

  • sgiliau ymchwil a dadansoddi data
  • sgiliau mathemategol a chyfrifiadol uwch
  • sgiliau datrys problemau a meddwl creadigol effeithiol
  • sylfaen drylwyr mewn sgiliau technoleg gwybodaeth
  • y gallu i weithio'n annibynnol
  • sgiliau trefnu a rheoli amser, gan gynnwys y gallu i weithio i derfynau amser
  • y gallu i fynegi syniadau a chyfleu gwybodaeth mewn modd clir a threfnus, yn ysgrifenedig ac ar lafar
  • hunanddibyniaeth a'r gallu i ysgogi eu hun
  • y gallu i weithio mewn tîm a thrafod cysyniadau mewn grwpiau, rhoi lle i syniadau gwahanol a dod i gytundeb.

Pa gyfleoedd sydd ar gael i wneud profiad gwaith wrth astudio? 

Cliciwch yma i ddysgu am y gwahanol gyfleoedd y mae tîm Gyrfaoedd Prifysgol Aberystwyth yn eu cynnig.

Gallwch wella'ch cyfleoedd cyflogaeth gyda GO Wales a BMG (y cynllun Blwyddyn mewn Gwaith) sy'n cael eu rheoli gan ein hadran Gyrfaoedd. 

Cydlynydd Cyflogadwyedd Academaidd 

O'r flwyddyn gyntaf ymlaen, eich cyflogadwyedd yw ein blaenoriaeth, ac er mwyn sicrhau ein bod yn cynnig y gwasanaethau cywir mae gennym gydlynydd cyflogadwyedd academaidd pwrpasol, sy'n cydweithio gyda'n hymgynghorydd gyrfaoedd cyswllt er mwyn teilwra pecyn o addysg yrfaol, cysylltiad â chyflogwyr a chefnogaeth adrannol unigol. Mae'r unigolyn hwn yn cydweithio gyda'r gwasanaeth gyrfaoedd a sefydliadau allanol i greu cysylltiadau, a gaiff eu bwydo i'n myfyrwyr yn rheolaidd. Mae'r rhain yn cynnwys cyfleoedd am waith gwirfoddol a swyddi cyflogedig, yn ystod eich astudiaethau ac ar eu hôl. Yn adrannol, bydd gennych gyfle i gymryd rhan yn ein cynhadledd cyflogadwyedd flynyddol i fyfyrwyr, ochr yn ochr â chyfleoedd i fod yn rhan o'n cynhadledd ryngwladol, sy'n arloesiad llwyddiannus yn yr Ysgol Addysg ym Mhrifysgol Aberystwyth. Drwy gymryd rhan, mae cyfle i gael cipolwg byd-eang ar ddulliau newydd ym maes addysg a datblygiad, a chyfle i rwydweithio'n rhyngwladol yn eich sector. Mae ein cynllun mentora myfyrwyr yn cynnig cyfleoedd i gael cefnogaeth gan gyfoedion, ond hefyd datblygu sgiliau mentora a hyfforddi wrth gefnogi cydfyfyrwyr. Cydnabyddir y cynllun hwn gan y Brifysgol am ei werth o ran sgiliau uwch, ac mae'r rhai sy'n gweithredu fel mentoriaid yn cael cydnabyddiaeth ar eu hadysgrif raddio. 

Dysgu ac Addysgu

Darperir y cwrs hwn drwy raglen o ddarlithoedd, seminarau a gwaith prosiect unigol a grŵp, sydd wedi'u dylunio i ysgogi eich diddordeb academaidd mewn mathemateg a'ch ysbrydoli am damcaniaethau addysgu a dysgu. Drwy gyfuno'r ddwy ddisgyblaeth hon, bydd y cwrs hwn yn helpu i ddyfnhau eich cymhwysedd mathemategol, a'ch paratoi gyda sgiliau hanfodol ar gyfer gweithio ym maes addysg.

Beth fydda i'n ei ddysgu?

  • Yn ystod y flwyddyn gyntaf, byddwch yn dilyn llwybr clir drwy astudiaeth o'r disgyblaethau craidd, gan gynnwys algebra, calcwlws, geometreg, tebygolrwydd, dadansoddi mathemategol, hafaliadau differol ac ystadegau. Byddwch yn cael eich cyflwyno i faterion yn ymwneud â dysgu plant a'r system addysg yn gyffredinol.
  • Yn ystod yr ail flwyddyn, byddwch yn astudio dadansoddi real, dadansoddi cymhleth, ac algebra llinol. Byddwch yn archwilio seicoleg dysgu a meddwl, a gallwch ddewis meysydd megis amrywiaeth ddiwylliannol mewn addysg neu'r cwricwlwm.
  • Yn ystod y drydedd flwyddyn, bydd modd i chi gyfeirio eich astudiaeth eich hun ac arbenigo ymhellach.

Sut bydda i'n cael fy addysgu?

  • Wrth i chi astudio, byddwch yn cael eich herio a'ch ysbrydoli gan ein haelodau staff, sydd wedi creu diwylliant bywiog o greadigrwydd a chwilfrydedd deallusol sy'n berffaith ar gyfer astudio Addysg a Mathemateg.
  • Bydd tiwtor personol yn cael ei ddynodi i chi tra byddwch yma yn Aberystwyth. Mae tiwtoriaid personol ar gael i helpu gyda phob agwedd ar eich cynnydd drwy'r Brifysgol. Gallan nhw hefyd gynnig gwybodaeth am wasanaethau canolog y Brifysgol i chi pe bai angen rhagor o gefnogaeth arnoch.
  • Mae dulliau asesu yn cynnwys traethodau, arholiadau, adroddiadau, ymarferion ymarferol a chyflwyniadau llafar, ynghyd â gemau a phosteri. Bydd gofyn i chi hefyd gwblhau aseiniadau ychwanegol a gwaith gydag eraill ar dasgau penodol.
  • Pan fyddwch chi yn Aberystwyth, byddwch yn dysgu sut mae: datblygu arddull dysgu myfyriol i hyrwyddo hunan-welliant; defnyddio technegau beirniadol wrth ymdrin â setiau data cymhleth; datblygu ymagwedd drylwyr tuag at feysydd hanfodol fel diogelu plant; a chyfleu dadansoddiad beirniadol manwl o'ch pynciau.

Gofynion Mynediad Nodweddiadol

Tariff UCAS 120 - 104

Safon Uwch BBB-BCC to include B in Mathematics

Gofynion TGAU (o leiaf gradd C/4):
English or Welsh and Mathematics

Diploma Cenedlaethol BTEC:
DDM-DMM with B in A level Mathematics

Bagloriaeth Ryngwladol:
30-28 with 5 points in Mathematics at Higher Level

Bagloriaeth Ewropeaidd:
75%-65% overall with 7 in Mathematics

Mae'r Brifysgol yn croesawu ceisiadau israddedig gan fyfyrwyr sy'n astudio'r Diploma Mynediad i Addysg Uwch neu gymwysterau lefel T, ar yr amod eu bod yn cyflawni'r canlyniadau perthnasol o ran cynnwys y pwnc a'r dysgu. Ni allwn dderbyn Diplomâu Mynediad i Addysg Uwch na lefelau T fel cymhwyster cyffredinol ar gyfer pob cwrs gradd israddedig.
Mae ein polisi derbyn cynhwysol yn rhoi gwerth ar ehangder yn ogystal â dyfnder yr astudio. Dewisir ymgeiswyr ar sail eu teilyngdod eu hunain a gall cynigion amrywio. Os hoffech wirio a yw eich cymwysterau yn gymwys cyn cyflwyno cais, cysylltwch â'r Swyddfa Derbyn Israddedigion am gyngor ac arweiniad.

Yn ôl i'r brig

|