Mathemateg ac Addysg
BSc Mathemateg ac Addysg Cod GX13
Ymgeisio NawrPrif Ffeithiau
GX13-
Tariff UCAS
120 - 104
-
Hyd y Cwrs
3 Blwyddyn
-
Cyfrwng Cymraeg
92%
Manylion pellach ynglŷn â'r gofynion mynediad
Ymgeisio NawrWrth ddewis astudio'r radd Mathemateg ac Addysg hon, byddwch yn astudio sbectrwm eang o weithgareddau datblygiad plentyndod sy'n cynnwys yr agweddau cymdeithasegol, seicolegol ac addysgol sy'n dylanwadu ar ddatblygiad plant. Yn ogystal, byddwch yn astudio maes llafur hanfodol gradd amrywiol mewn Mathemateg.
Byddwch yn cael eich addysgu gan staff brwdfrydig ac yn astudio ystod o ddisgyblaethau ymarferol, damcaniaethol a phroffesiynol y mae cyflogwyr yn y disgyblaethau hyn yn chwilio amdanynt. Bydd eich amser yn cael ei rannu'n gyfartal rhwng yr Ysgol Addysg a'r Adran Fathemateg. Bydd eich sgiliau a'ch gallu'n cael eu gwella drwy gysylltiad rheolaidd â chyfleoedd ar gyfer gwaith tîm, cyfathrebu, rhyngbersonol, a rheoli amser a gwaith.
Gan fod hon yn radd gyd-anrhydedd, bydd modd i chi ymgeisio am gyrsiau hyfforddiant dysgu TAR un ai ar lefel Cynradd neu Uwchradd. Hefyd, cyn belled â'ch bod yn bodloni'r gofynion mynediad, gallwn roi sicrwydd y cewch gyfweliad ar gyfer astudio TAR yn Aberystwyth.
Bodlonrwydd Myfyrwyr Cyffredinol a Chanlyniadau Cyflogadwyedd
92% boddhad cyffredinol â’r Adnoddau Addysgu ym maes Addysg; 85% yw’r cyfartaledd i’r sector (ACF 2020).
Ymhlith y 10 uchaf yn y DU am Ansawdd y Dysgu ym maes Addysg (Canllaw Prifysgolion Da y 'Times' a'r 'Sunday Times' 2019).
97.5% o’n graddedigion mewn gwaith a/neu astudiaethau pellach o fewn chwe mis ar ôl graddio. (HESA 2018*)
92% boddhad cyffredinol yn yr Adran Fathemateg (ACF 2020).
2ail yn y DU am Ansawdd y Dysgu ym maes Mathemateg, a 5ed yn y DU am Brofiad Myfyrwyr (Canllaw Prifysgolion Da y 'Times' a'r 'Sunday Times' 2019).
96% o’n graddedigion mewn gwaith a/neu astudiaethau pellach o fewn chwe mis ar ôl graddio, 4% yn uwch na graddedigion y Gwyddorau Mathemategol yn genedlaethol. (HESA 2018*)
Trosolwg
Modiwlau
Cyflogadwyedd
Dysgu ac Addysgu
Gofynion Mynediad Nodweddiadol
Tariff UCAS 120 - 104
Lefel A BBB-BCC to include B in Mathematics
Gofynion TGAU (o leiaf gradd C/4):
English or Welsh and Mathematics
Diploma Cenedlaethol BTEC:
DDM-DMM with B in A level Mathematics
Bagloriaeth Ryngwladol:
30-28 with 5 points in Mathematics at Higher Level
Bagloriaeth Ewropeaidd:
75%-65% overall with 7 in Mathematics
Mae’r Brifysgol yn croesawu ceisiadau gan fyfyrwyr sy’n astudio am Ddiploma Mynediad i Addysg Uwch. Mae ein polisi derbyn cynhwysol yn rhoi gwerth ar ehangder yn ogystal â dyfnder astudio. Dewisir ymgeiswyr ar sail eu teilyngdod eu hunain, a gall cynigion amrywio. Os ydych yn astudio am gymhwyster nad yw wedi’i restru ar y dudalen hon, cysylltwch â’r Swyddfa Derbyn Israddedigion i gael cyngor pellach. Mae manylion am gymwysterau gwahanol wledydd a dderbynnir yn y Brifysgol i’w gweld ar ein tudalennau gwlad-benodol i gael manylion am y cymwysterau rhyngwladol yr ydym yn eu derbyn. I gael rhagor o wybodaeth, cysylltwch ag ug-admissions@aber.ac.uk
|