Rydym yn defnyddio cwcis ar ein gwefan. I ddysgu mwy am y cwcis yr ydym yn eu defnyddio, gweler ein polisi cwcis. Gallwch reoli cwcis trwy osodiadau eich porwr. Trwy barhau i bori'r safle rydych yn cytuno i'n defnydd o gwcis.
Derbyn a Chau.
Mae'r radd Mathemateg a Ffiseg ym Mhrifysgol Aberystwyth yn caniatáu i chi archwilio dwy ddisgyblaeth sy'n perthyn yn agos mewn modd cydlynol a strwythuredig.
Byddwch yn canfod elfennau craidd pob maes pwnc, ac yn cael dealltwriaeth gadarn o'r sgiliau mathemategol a rhifiadol a fydd yn bwysig i'ch dealltwriaeth o gysyniadau ffisegol a ffenomena naturiol.
Mae galw mawr am raddedigion Mathemateg a Ffiseg ar draws llawer o ddiwydiannau, megis peirianneg, technoleg a chyllid.
Bodlonrwydd Myfyrwyr Cyffredinol a Chanlyniadau Cyflogadwyedd
92% boddhad cyffredinol yn yr Adran Fathemateg (ACF 2020).
96% o’n graddedigion mewn gwaith a/neu astudiaethau pellach o fewn chwe mis ar ôl graddio, 4% yn uwch na graddedigion y Gwyddorau Mathemategol yn genedlaethol. (HESA 2018*)
92% boddhad cyffredinol myfyrwyr ym maes Ffiseg; 86% yw'r cyfartaledd i'r sector (ACF 2020).
93% o’n graddedigion mewn gwaith a/neu astudiaethau pellach o fewn chwe mis ar ôl graddio. (HESA 2018*).
Trosolwg
Pam astudio Mathemateg a Ffiseg yn Aberystwyth?
Mae Mathemateg a Ffiseg wedi'u haddysgu ym Mhrifysgol Aberystwyth ers 1872, a dyma'r brifysgol gyntaf yng Nghymru i addysgu'r pynciau hyn. Ar y cwrs gradd achrediad dwbl hwn, byddwch yn rhannu'ch amser yn gyfartal rhwng y ddwy ddisgyblaeth academaidd hon sy'n cyd-fynd yn wych â'i gilydd, mewn dwy adran sy'n torri tir newydd ym maes ymchwil ac arloesedd.
Bu i'r Adran Fathemateg gadw'i safle fel un o adrannau gorau Cymru yn y Fframwaith Rhagoriaeth Ymchwil diweddaraf (REF 2014). Barnwyd bod ein holl ymchwil, a'r effaith mae'n ei chael y tu hwnt i brifysgolion, o safon rhyngwladol.
Mae'r Adrannau Mathemateg a Ffiseg ar flaen y gad o ran darpariaeth cyfrwng Cymraeg yn y pynciau hyn ar lefel addysg uwch yng Nghymru. Mae rhagor o wybodaeth ar gael o dan y tab modiwlau.
Ein Staff
Mae’r holl ddarlithwyr yn yr Adran Mathemateg wedi’u cymhwyso i lefel PhD ac yn weithgar ym myd ymchwil. Mae gan y rhan fwyaf gymhwyster addysgu uwchraddedig ac mae’n rhaid i staff newydd gwblhau’r TUAAU. Mae’r adran hefyd yn cyflogi nifer o diwtoriaid rhan-amser, sydd â phrofiad dysgu eang, a rhai arddangoswyr sy’n cael eu dewis o blith ein myfyrwyr israddedig ac uwchraddedig.
Mae gan bob un o ddarlithwyr yr Adran Ffiseg gymwysterau hyd at safon PhD a hanes o wneud gwaith ymchwil yn eu meysydd arbenigol.
Modiwlau
Noder: Y modiwlau a restrir isod yw'r modiwlau y bwriedir eu cyflwyno ar hyn o bryd yn ystod y flwyddyn academaidd nesaf ac mae'n bosibl y gallant newid. Maent wedi'u cynnwys yma i roi syniad o strwythur y cwrs.
Mae'r adran yn cefnogi myfyrwyr sy'n chwilio am waith gwirfoddol, yn enwedig yn addysgu mathemateg ym mhob sector. Mae rhagor o wybodaeth ar gael gan yr adran.
Dysgu ac Addysgu
Beth fydda i'n ei ddysgu?
Bydd y cwrs hwn yn datblygu eich dealltwriaeth o ystod eang o dechnegau damcaniaethol, arbrofol a chyfrifiadol mewn Mathemateg a Ffiseg, a bydd yn eich addysgu i gymhwyso'r technegau rydych wedi'u dysgu er mwyn datrys problemau.
Mae dwy flynedd gyntaf y cwrs yn canolbwyntio bennaf ar fodiwlau sy'n trin ystod eang o themâu ym maes algebra, calcwlws, hafaliadau gwahaniaethol, mecaneg cwantwm, deinameg a ffiseg thermol.
Ynghyd â'ch modiwlau craidd yn y drydedd flwyddyn, bydd gennych ystod eang o ddewis o blith Mathemateg a Ffiseg, a fydd yn caniatáu i chi deilwra'r cwrs i weddu i'ch diddordebau. Byddwch hefyd yn cyflawni prosiect lle byddwch yn ymchwilio i broblem o natur arbrofol, ddamcaniaethol neu fodelu cyfrifiadurol o dan oruchwyliaeth aelod o'r staff Ffiseg.
Sut bydda i'n cael fy addysgu?
Byddwch yn cael eich addysgu drwy gyfres o ddulliau ac ymagweddau dysgu ac addysgu, sy'n amrywio o ddarlithoedd, seminarau a thiwtorialau ffurfiol i weithdai, gwaith ymarferol a gwaith prosiect unigol a grŵp.
Byddwch yn cael eich asesu drwy gyfuniad o waith cwrs, asesiadau parhaus, cyflwyniadau, adroddiadau labordy, dyddiaduron labordy, dehongli data ac arholiadau.
Bydd tiwtor personol yn cael ei ddynodi i chi dros gyfnod eich cwrs gradd cyfan, a bydd yn gallu eich helpu gydag unrhyw broblemau neu ymholiadau, boed nhw'n faterion academaidd neu bersonol. Mae croeso i chi gysylltu â'ch tiwtor personol ar unrhyw adeg os bydd angen cymorth neu gyngor arnoch.
Byddwch hefyd yn cael cyfle i gwblhau Cynllun Datblygu Personol (CDP) yn Aberystwyth. Mae hon yn broses strwythuredig o hunanwerthuso, myfyrio, a chynllunio, a fydd yn eich galluogi i olrhain eich datblygiad personol, academaidd a phroffesiynol drwy gydol eich cyfnod yn y brifysgol. Drwy gofnodi eich perfformiad academaidd, ac amlygu'r sgiliau sydd gennych yn barod a'r sgiliau y bydd eu hangen arnoch ar gyfer cyflogadwyedd yn y dyfodol, bydd y portffolio CDP yn rhoi'r offer angenrheidiol i chi gynllunio'n effeithiol, datblygu dulliau llwyddiannus o astudio, ac ystyried eich dewisiadau gyrfaol a'ch dyheadau ar gyfer y dyfodol.
Barn ein Myfyrwyr
Mae Mathemateg yn gwrs gwych gyda darlithwyr cyfeillgar ac agos-atoch. Mae'r cynnwys bob amser yn ddiddorol iawn, ond yn heriol i'r graddau cywir. Mae'r adran gyfan yn gweithio'n effeithiol i gynnig yr holl gyfleusterau sydd eu hangen i gael gradd dda. Jennifer O'Neil
Mae Ffiseg bob dydd yn gwella eich dealltwriaeth o'r bydysawd a phopeth rydyn ni'n ei brofi. Mae gwyddonwyr angerddol yn rhoi gwybod i chi am eu cyfraniadau tuag at wyddoniaeth sy'n flaenllaw ym maes ffiseg. Caiff eich amser ei rannu rhwng cael profiad ymarferol yn y labordy yn defnyddio offer cyffrous, yn cynnwys laserau, osgilosgopau a sbectomedrau, a darlithoedd fydd o ddiddordeb i chi ac yn eich ysbrydoli. Mae pob modiwl yn herio eich deallusrwydd ac yn caniatáu i chi feddu ar y wybodaeth y mae'r rhan fwyaf o bobl yn elwa arno, ond nad ydyn nhw'n gwybod ei fod yn bodoli. Mae myfyrwyr yn rhagori, ac yn ehangu eu meddyliau. Mae angen amser ac ymdrech, ond mae'r sgiliau a'r ddealltwriaeth rydych chi'n eu meithrin o'r radd flaenaf. Sarah Chandler