BSc

Mathemateg / Busnes a Rheolaeth

Mathemateg / Busnes a Rheolaeth Cod GN11 Dewch i Ddiwrnod Agored Dewch i Ddiwrnod Agored

Ymgeisio Nawr

Bydd y BSc Mathemateg/Busnes a Rheolaeth ym Mhrifysgol Aberystwyth yn rhoi i chi gyfle i astudio mathemateg, ystadegau, economeg a seicoleg yng nghyd-destun rheolaeth. Byddwch yn datblygu gwybodaeth, cymwyseddau a dealltwriaeth am sut y gellir cymhwyso’ch sgiliau mathemategol ac ystadegol i wella amcanion busnes. Trwy gydol y cwrs, fe ddatblygwch y sgiliau sydd eu hangen ar gyfer gyrfa lwyddiannus mewn busnes. Bydd ein gradd mewn Mathemateg/Busnes a Rheolaeth yn golygu y byddwch yn gallu deall y synergeddau rhwng technegau meintiol a rheoli ymarferol, gan roi mantais i chi o ran deall sut mae sefyllfaoedd busnes yn cael eu cynrychioli’n fathemategol, ac o ran asesu tystiolaeth o fewn systemau sefydliadol cymhleth. Byddwch yn datblygu gwybodaeth uwch am brif ganghennau mathemateg a rheolaeth, gan astudio pynciau mor amrywiol â moeseg busnes a mathemateg gyfrifiannol.

Trosolwg o'r Cwrs

O fewn Mathemateg fe ddysgwch ddisgyblaethau hanfodol algebra, calcwlws a dadansoddi mathemategol, tra bydd elfennau Busnes a Rheolaeth y cwrs hwn yn eich galluogi i ddarganfod meysydd strategaeth, marchnata, rheoli gweithrediadau, cyllid, cyfrifeg, rheoli adnoddau dynol a mentergarwch - yn ogystal ag ystod o fodiwlau arloesol ac arbenigol eraill. Mae’r radd wedi'i datblygu ar gyfer myfyrwyr sy’n awyddus i ragori a chyrraedd y lefel uchaf o ran ymarfer rheoli busnes byd-eang.

Pan ddewiswch astudio gyda ni, cewch eich croesawu i amgylchedd lle mae’r staff yn gwneud pob ymdrech i'ch helpu i wireddu’ch potensial llawn.

Pam astudio Mathemateg / Busnes a Rheolaeth ym Mhrifysgol Aberystwyth? 

  • Mae Mathemateg yn cael ei dysgu yn Aberystwyth ers 1872, felly mae'r adran yn adeiladu ar sylfaen o dros 140 mlynedd o ragoriaeth dysgu.
  • Mae Busnes yn bwnc bywiog a deinamig, lle y gallwch ddatblygu’ch sgiliau proffesiynol i’r lefel orau posib, ac fe gyfunwn eich astudiaethau â phrofiad gwaith a chyfleoedd allgyrsiol ychwanegol.
  • Mae'r ddwy adran yn ganolfannau ymchwil gweithredol lle mae’r athrawon ymroddedig yn cyfleu canlyniadau eu hymchwil, sydd o safon fyd-eang, i roi i chi’n uniongyrchol y wybodaeth ddiweddaraf am eu pwnc.
  • Mae galw mawr am ein graddedigion ym myd diwydiant, ac mae ein graddedigion yn cael canlyniadau cadarnhaol iawn o ran eu cyflogau.
  • Mae sawl modiwl ar gael drwy gyfrwng y Gymraeg; am fwy o fanylion, edrychwch ar y modiwlau sydd ar gael ar y cwrs hwn. 
Ein Staff

Mae’r holl ddarlithwyr yn yr Adran Mathemateg wedi’u cymhwyso i lefel PhD ac yn weithgar ym myd ymchwil. Mae gan y rhan fwyaf gymhwyster addysgu uwchraddedig ac mae’n rhaid i staff newydd gwblhau’r TUAAU. Mae’r adran hefyd yn cyflogi nifer o diwtoriaid rhan-amser, sydd â phrofiad dysgu eang, a rhai arddangoswyr sy’n cael eu dewis o blith ein myfyrwyr israddedig ac uwchraddedig.

Caiff myfyrwyr Ysgol Fusnes Aberystwyth eu dysgu gan ddarlithwyr a staff dysgu eraill sy'n weithgar mewn gwaith ymchwil ac yn ymarferwyr arbenigol yn eu dewis maes. 

Mae gan dros 75% o’r aelodau o staff sy’n dysgu’n llawn amser gymhwyster hyd at lefel PhD. Ar hyn o bryd mae'r rhan fwyaf ohonynt yn weithgar mewn gwaith ymchwil, sy'n golygu bod myfyrwyr yn elwa o gael dysgu gwybodaeth 'newydd' yn eu dewis maes yn ogystal ag astudio testunau cydnabyddedig. Mae'r Ysgol hefyd yn cyflogi staff rhan-amser a llawn amser sydd wedi'u neilltuo ar gyfer dysgu yn unig.  Mae llawer o’r staff rhan-amser yn cyfuno dyletswyddau dysgu gyda gwaith ymgynghori a gweithgareddau busnes, gan sicrhau bod myfyrwyr yn gallu cael gafael nid yn unig ar yr ymchwil ddiweddaraf ond hefyd yr wybodaeth gymhwysol ddiweddaraf.

Modiwlau Dechrau Medi - 2025

Noder: Y modiwlau a restrir isod yw'r modiwlau y bwriedir eu cyflwyno ar hyn o bryd yn ystod y flwyddyn academaidd nesaf ac mae'n bosibl y gallant newid. Maent wedi'u cynnwys yma i roi syniad o strwythur y cwrs.

Modiwlau Craidd

Teitl y Modiwl Cod y Modiwl Gwerth Credyd
Algebra MT10510 10
Calcwlws MT10610 10
Hanfodion Rheolaeth a Busnes CB15120 20
Algebra a Chalcwlws Pellach MT11010 10
Egwyddorion Marchnata ac Ymarfer Cyfoes CB17120 20
Dadansoddi Mathemategol MT11110 10
Fundamentals of Accounting and Finance AB11120 20

Opsiynau

Teitl y Modiwl Cod y Modiwl Gwerth Credyd
Coordinate and Vector Geometry MA10110 10
Differential Equations MA11210 10
Geometreg Gyfesurynnol a Fectoraidd MT10110 10
Hafaliadau Differol MT11210 10
Probability MA10310 10
Statistics MA11310 10
Tebygoleg MT10310 10
Ystadegaeth MT11310 10

Modiwlau Craidd

Teitl y Modiwl Cod y Modiwl Gwerth Credyd
Dadansoddiad Cymhlyg MT21510 10
Algebra Llinol MT21410 10
Human Resource Management * AB25420 20
Operations and Supply Chain Management * AB25120 20

Opsiynau

Teitl y Modiwl Cod y Modiwl Gwerth Credyd
Entrepreneurship and New Venture Creation AB25220 20
Entreprenwriaeth a Chreu Menter Newydd CB25220 20
Marketing Management * AB27120 20
Rheolaeth Marchnata CB27120 20
Advanced Dynamics MA25710 10
Applied Statistics MA26620 20
Cyflwyniad i Ddadansoddiad Rhifiadol a'i Gymwysiadau MT25220 20
Dadansoddiad Real MT20110 10
Distributions and Estimation MA26010 10
Ffiseg Mathemategol FG26020 20
Hydrodynameg 1 MT25610 10
Hydrodynamics 1 MA25610 10
Introduction to Abstract Algebra MA20310 10
Introduction to Numerical Analysis and its applications MA25220 20
Ffiseg Mathemategol FG26020 20
Real Analysis MA20110 10

Modiwlau Craidd

Teitl y Modiwl Cod y Modiwl Gwerth Credyd
Financial Strategy AB31720 20
Strategic Leadership AB35120 20

Opsiynau

Teitl y Modiwl Cod y Modiwl Gwerth Credyd
Digital Business: Leadership and Management AB35220 20
Global Logistics AB35320 20
Organizational Psychology AB35420 20

Gyrfaoedd

Beth alla i ei wneud gyda gradd Mathemateg/Busnes a Rheolaeth?

Mae'r cyfuniad hwn o bynciau yn darparu ystod amrywiol o gyflogaeth broffesiynol i raddedigion sy'n cynnwys:

  • Dadansoddi ystadegol ac ystadegaeth gyfrifiannol
  • Rheoli Gweithredol mewn Mentrau Bach a Chanolig eu Maint ac Amgylcheddau Corfforaethol
  • Peirianneg Awyrennol
  • Goldman Sachs – Bancio Buddsoddi
  • Dadansoddi Risg a gwaith actiwaraidd
  • Gwasanaeth Cyhoeddus – Asiantaethau'r Llywodraeth
  • Rheoli Manwerthu
  • Dysgu

Pa gyfleoedd sydd ar gael i fi ym Mhrifysgol Aberystwyth?

Mae cyflogadwyedd wedi'i wreiddio ar draws ein dysgu a'n tiwtora i sicrhau eich bod yn ymwybodol o sgiliau a chymwyseddau, ac yn eu meithrin trwy gydol eich amser yn astudio gyda ni ac fe gewch ddysgu mwy yma.

Gallwch wella'ch cyfleoedd cyflogaeth gyda GO Wales a’r cynllun Blwyddyn mewn Gwaith (BMG) a reolir gan ein Gwasanaeth Gyrfaoedd.

Ar ôl i chi gwblhau'r radd hon, byddwch wedi meithrin sgiliau yn y meysydd canlynol:

  • Sgiliau ymchwil a dadansoddi data
  • Gwell sgiliau mathemategol a chyfrifiannol
  • Dulliau arloesol o ddatrys problemau yn y byd go iawn
  • Sgiliau datrys problemau a meddwl creadigol effeithiol
  • Y gallu i weithio'n annibynnol ac yn rhan o dîm
  • Sgiliau rheoli amser a threfnu
  • Y gallu i gyfathrebu'n glir yn ysgrifenedig ac ar lafar
  • Hunanddibyniaeth a'r gallu i’ch ysgogi eich hun.

Dysgu ac Addysgu

Beth fydda i’n ei ddysgu?

Bydd yr wybodaeth isod yn rhoi darlun i chi o'r hyn y gallech fod yn ei astudio yn ystod y cynllun gradd tair blynedd. 

Yn ystod y flwyddyn gyntaf byddwch yn astudio pynciau mewn:

  • Algebra a chalcwlws
  • Egwyddorion sylfaenol rheoli
  • Dadansoddi mathemategol 
  • Hanfodion Rheolaeth a Busnes
  • Egwyddorion Marchnata ac Ymarfer Cyfoes
  • Hanfodion Cyfrifeg a Chyllid.

Yn ystod yr ail a'r drydedd flwyddyn, bydd modd i chi ddewis o blith ystod o fodiwlau ar bynciau a allai gynnwys:

  • Hafaliadau differol rhannol
  • Algebra Llinol
  • Ystadegaeth Gymhwysol
  • Modelau Stocastig mewn Cyllid
  • Ymddygiad a damcaniaeth sefydliadol
  • Treth
  • Strwythurau’r farchnad a strategaethau prisio
  • Rheoli adnoddau dynol
  • Dealltwriaeth am y syniadaeth bresennol am farchnata, o safbwyntiau ymarferol a damcaniaethol fel ei gilydd
  • Goblygiadau damcaniaeth economaidd o ran polisi
  • Prosiect ymchwil annibynnol gorfodol a fydd yn rhoi cyfle i chi i arbenigo ar agwedd benodol ar reoli busnes a marchnata
  • y sgiliau, yr offer dadansoddol a'r technegau i adnabod a mynd i'r afael â phroblemau a chyfleoedd ym maes rheoli a marchnata busnes

Sut fydda i'n cael fy nysgu?

Mae'r radd hon yn cael ei chyflwyno drwy gyfrwng darlithoedd, sesiynau tiwtora a sesiynau ymarferol.

Cewch eich asesu drwy gyfuniad o waith cwrs, cyflwyniadau, adroddiadau ac arholiadau.

Cewch diwtor personol a fydd yn cael ei neilltuo i chi ar gyfer holl gyfnod eich cwrs gradd, a fydd yn eich helpu ag unrhyw broblemau neu ymholiadau, boed yn academaidd neu’n bersonol. Mae croeso i chi gysylltu â nhw ar unrhyw adeg am gymorth a chyngor.

Rhagor o Wybodaeth: 

Byddwch hefyd yn cael cyfle i wneud Cynllun Datblygu Personol (CDP) yn Aberystwyth. Mae hon yn broses strwythuredig o hunanwerthuso, myfyrio, a chynllunio, a fydd yn eich galluogi i olrhain trywydd eich datblygiad personol, academaidd a phroffesiynol drwy gydol eich cyfnod yn y brifysgol. Drwy gofnodi’ch perfformiad academaidd, ac amlygu'r sgiliau sydd gennych eisoes a'r rhai y bydd eu hangen ar gyfer cyflogaeth yn y dyfodol, bydd y portffolio CDP yn rhoi'r medrau y bydd eu hangen i allu cynllunio'n effeithiol, datblygu dulliau astudio llwyddiannus, ac ystyried eich dewisiadau gyrfaol a'ch dyheadau ar gyfer y dyfodol. 

Gofynion Mynediad Nodweddiadol

Tariff UCAS 120 - 104

Safon Uwch BBB-BCC gan gynnwys B mewn Mathemateg

Gofynion TGAU (o leiaf gradd C/4):
Cymraeg neu Saesneg a Mathemateg

Diploma Cenedlaethol BTEC:
DDM-DMM gyda B Safon Uwch Mathemateg

Bagloriaeth Ryngwladol:
30-28 gyda 5 pwynt mewn Mathemateg ar lefel uwch

Bagloriaeth Ewropeaidd:
75%-65% yn gyffredinol gyda 7 mewn Mathemateg

Mae'r Brifysgol yn croesawu ceisiadau israddedig gan fyfyrwyr sy'n astudio'r Diploma Mynediad i Addysg Uwch neu gymwysterau lefel T, ar yr amod eu bod yn cyflawni'r canlyniadau perthnasol o ran cynnwys y pwnc a'r dysgu. Ni allwn dderbyn Diplomâu Mynediad i Addysg Uwch na lefelau T fel cymhwyster cyffredinol ar gyfer pob cwrs gradd israddedig.
Mae ein polisi derbyn cynhwysol yn rhoi gwerth ar ehangder yn ogystal â dyfnder yr astudio. Dewisir ymgeiswyr ar sail eu teilyngdod eu hunain a gall cynigion amrywio. Os hoffech wirio a yw eich cymwysterau yn gymwys cyn cyflwyno cais, cysylltwch â'r Swyddfa Derbyn Israddedigion am gyngor ac arweiniad.

Yn ôl i'r brig

|