Rydych chi'n edrych ar y cwrs hwn ar gyfer Dechrau Medi 2024

Mae Mathemateg ym Mhrifysgol Aberystwyth yn datgelu disgyblaeth ddiddorol a heriol, sy'n cyfuno'r gwaith o adnabod a dadansoddi siapiau a phatrymau gyda chasglu data a chyfrifo.

Mae mathemateg yn hanfodol bwysig i gymdeithas fodern, ac mae'n cyfrannu at nifer o agweddau ar fywyd, gan gynnwys gwyddoniaeth, peirianneg, technoleg a chyllid.

Mae'r radd hon yn cynnwys y disgyblaethau craidd hanfodol, wedi'u hategu gan ddewis gwych o fodiwlau opsiynol. Byddwch yn cael eich addysgu mewn darlithoedd a dosbarthiadau ymarferol, fel rhan o amgylchedd dysgu cefnogol, gyda chyfradd staff/myfyrwyr dda.

Byddwch hefyd yn dod yn rhan o bwll o raddedigion y mae galw mawr amdanynt ar draws llawer o ddiwydiannau am eu sgiliau datrys problemau, eu prosesau meddwl dadansoddol clir, a'u gallu i lunio dadl resymegol.

Trosolwg o'r Cwrs

Fel myfyriwr yn Aberystwyth, byddwch yn dysgu disgyblaethau hanfodol algebra, calcwlws a dadansoddi mathemategol. Wrth i'ch diddordebau ddatblygu, gallwch ddewis dosbarthiadau pellach o blith ystod eang o bynciau ym maes mathemateg ac ystadegau. Rydym yn ceisio creu amgylchedd cyfeillgar, agored a chroesawgar, lle gall myfyrwyr gyflawni eu llawn botensial mathemategol.

Pam astudio Mathemateg ym Mhrifysgol Aberystwyth?

  • Byddwch yn datgelu disgyblaeth sy'n cyfuno'r gwaith o adnabod a dadansoddi siapiau a phatrymau gyda chasglu data a chyfrifo.
  • Mae Mathemateg yn cael ei haddysgu yn Aberystwyth ers 1872, felly mae'r adran yn adeiladu ar dros 140 mlynedd o ragoriaeth addysgu, gan gyflogi darlithwyr sy'n athrawon ymroddedig ac yn ymchwilwyr a gaiff eu cydnabod yn rhyngwladol.
  • Bydd gradd mewn Mathemateg yn agor ystod eang o lwybrau gyrfaol i chi, ac mae'r radd hon wedi'i hachredu gan y Sefydliad Mathemateg a'i Chymwysiadau (IMA), sef cymdeithas broffesiynol a dysgedig gwledydd Prydain ar gyfer mathemateg, sy'n cyfrannu'n uniongyrchol at eich cydnabyddiaeth fel Mathemategydd Siartredig.
  • Mae'r Adran yn cynnig sawl modiwl a addysgir drwy gyfrwng y Gymraeg. I gael rhagor o wybodaeth, cliciwch yma.
Ein Staff

Mae’r holl ddarlithwyr yn yr Adran Mathemateg wedi’u cymhwyso i lefel PhD ac yn weithgar ym myd ymchwil. Mae gan y rhan fwyaf gymhwyster addysgu uwchraddedig ac mae’n rhaid i staff newydd gwblhau’r TUAAU. Mae’r adran hefyd yn cyflogi nifer o diwtoriaid rhan-amser, sydd â phrofiad dysgu eang, a rhai arddangoswyr sy’n cael eu dewis o blith ein myfyrwyr israddedig ac uwchraddedig.

Modiwlau Dechrau Medi - 2024

Noder: Y modiwlau a restrir isod yw'r modiwlau y bwriedir eu cyflwyno ar hyn o bryd yn ystod y flwyddyn academaidd nesaf ac mae'n bosibl y gallant newid. Maent wedi'u cynnwys yma i roi syniad o strwythur y cwrs.

Modiwlau Craidd

Teitl y Modiwl Cod y Modiwl Gwerth Credyd
Algebra MT10510 10
Calcwlws MT10610 10
Cynllunio Gyrfa a Datblygu Sgiliau Mathemategol MT10720 20
Coordinate and Vector Geometry MA10110 10
Differential Equations MA11210 10
Algebra a Chalcwlws Pellach MT11010 10
Dadansoddi Mathemategol MT11110 10
Probability MA10310 10
Statistics MA11310 10

Modiwlau Craidd

Teitl y Modiwl Cod y Modiwl Gwerth Credyd
Ffiseg Mathemategol FG26020 20
Applied Statistics MA26620 20
Dadansoddiad Cymhlyg MT21510 10
Introduction to Numerical Analysis and its applications MA25220 20
Algebra Llinol MT21410 10

Opsiynau

Teitl y Modiwl Cod y Modiwl Gwerth Credyd
Advanced Dynamics MA25710 10
Dadansoddiad Real MT20110 10
Distributions and Estimation MA26010 10
Hydrodynameg 1 MT25610 10
Hydrodynamics 1 MA25610 10
Introduction to Abstract Algebra MA20310 10
Real Analysis MA20110 10

Gyrfaoedd

Dysgu ac Addysgu

Beth fydda i'n ei ddysgu?

Mae'r crynodeb isod yn rhoi darlun o'r hyn y gallech ei astudio yn ystod y cynllun gradd tair blynedd.

Yn ystod eich blwyddyn gyntaf, byddwch yn archwilio pynciau ym meysydd:

  • algebra a chalcwlws
  • geometreg
  • hafaliadau differol
  • tebygolrwydd ac ystadegau 
  • dadansoddi mathemategol 

Yn ystod yr ail a'r drydedd flwyddyn, bydd modd i chi ddewis o blith ystod o fodiwlau ar bynciau a all gynnwys:

  • dadansoddi a hafaliadau differol rhannol
  • algebra haniaethol a llinol
  • mecaneg a modelu ystadegol 

Sut bydda i'n cael fy addysgu?

Darperir y radd hon drwy ddarlithoedd, tiwtorialau a dosbarthiadau ymarferol.

Cewch eich asesu drwy gyfuniad o waith cwrs, cyflwyniadau, adroddiadau ac arholiadau.

Bydd tiwtor personol yn cael ei ddynodi i chi dros gyfnod eich cwrs gradd cyfan, a bydd yn gallu eich helpu gydag unrhyw broblemau neu ymholiadau, boed nhw'n faterion academaidd neu bersonol. Mae croeso i chi gysylltu â'ch tiwtor personol ar unrhyw adeg os bydd angen cymorth neu gyngor arnoch.

Rhagor o wybodaeth:

Byddwch hefyd yn cael cyfle i gwblhau Cynllun Datblygu Personol (CDP) yn Aberystwyth. Mae hon yn broses strwythuredig o hunanwerthuso, myfyrio, a chynllunio, a fydd yn eich galluogi i olrhain eich datblygiad personol, academaidd a phroffesiynol drwy gydol eich cyfnod yn y brifysgol. Drwy gofnodi eich perfformiad academaidd, ac amlygu'r sgiliau sydd gennych yn barod a'r sgiliau y bydd eu hangen arnoch ar gyfer cyflogadwyedd yn y dyfodol, bydd y portffolio CDP yn rhoi'r offer angenrheidiol i chi gynllunio'n effeithiol, datblygu dulliau llwyddiannus o astudio, ac ystyried eich dewisiadau gyrfaol a'ch dyheadau ar gyfer y dyfodol.

Tystiolaeth Myfyrwyr

Does dim pwnc diflas byth, ac mae'r cwrs yn mynd yn llawer dyfnach i fathemateg nag o'n i'n ei ddisgwyl. Mae cymaint o wahanol fodiwlau i ddewis ohonynt, felly bydd rhywbeth sydd o ddiddordeb i chi bob amser. Mae'r darlithwyr bob amser yn barod i helpu. Elin Wyn Hughes

Mae Mathemateg yn gwrs gwych gyda darlithwyr cyfeillgar ac agos-atoch. Mae'r cynnwys bob amser yn ddiddorol iawn, ond yn heriol i'r graddau cywir. Mae'r adran gyfan yn gweithio'n effeithiol i gynnig yr holl gyfleusterau sydd eu hangen i gael gradd dda. Jennifer O'Neil

Gofynion Mynediad Nodweddiadol

Tariff UCAS 128 - 120

Safon Uwch ABB-BBB to include B in Mathematics

Gofynion TGAU (o leiaf gradd C/4):
Cymraeg neu Saesneg a Mathemateg

Diploma Cenedlaethol BTEC:
DDM-DMM gyda B Safon Uwch Mathemateg

Bagloriaeth Ryngwladol:
30-28 gyda 5 pwynt mewn Mathemateg ar lefel uwch

Bagloriaeth Ewropeaidd:
75%-65% yn gyffredinol gyda 7 mewn Mathemateg

Mae'r Brifysgol yn croesawu ceisiadau israddedig gan fyfyrwyr sy'n astudio'r Diploma Mynediad i Addysg Uwch neu gymwysterau lefel T, ar yr amod eu bod yn cyflawni'r canlyniadau perthnasol o ran cynnwys y pwnc a'r dysgu. Ni allwn dderbyn Diplomâu Mynediad i Addysg Uwch na lefelau T fel cymhwyster cyffredinol ar gyfer pob cwrs gradd israddedig.
Mae ein polisi derbyn cynhwysol yn rhoi gwerth ar ehangder yn ogystal â dyfnder yr astudio. Dewisir ymgeiswyr ar sail eu teilyngdod eu hunain a gall cynigion amrywio. Os hoffech wirio a yw eich cymwysterau yn gymwys cyn cyflwyno cais, cysylltwch â'r Swyddfa Derbyn Israddedigion am gyngor ac arweiniad.

Yn ôl i'r brig

|