BSc

Mathemateg / Economeg

Mae Mathemateg yn hanfodol er mwyn deall Economeg fodern. Mae gradd sy'n cyfuno'r ddwy ddisgyblaeth gysylltiedig hon ym Mhrifysgol Aberystwyth yn rhoi'r cyfle i chi astudio a deall economeg a mathemateg yn drylwyr a bydd yn eich galluogi i feithrin y doniau technegol a'r sgiliau dadansoddol i symud ymlaen i yrfa lwyddiannus mewn cyllid, busnes a llawer o feysydd eraill, neu symud ymlaen i astudio ymhellach.

Trosolwg o'r Cwrs

Fel myfyriwr Mathemateg ac Economeg yn Aberystwyth byddwch yn dysgu disgyblaethau hanfodol algebra, calcwlws, dadansoddi mathemategol ac ystadegaeth. Wrth astudio’r elfen Economeg o’r cwrs hwn fe gewch y cyfle i ddarganfod y materion economaidd sy’n effeithio ar fywyd pob-dydd, gan gynnwys: creu swyddi, pwysau chwyddiant, materion masnach ryngwladol, proses cystadleuaeth mewn busnes, arloesi a thwf, datblygiad gwledydd y trydydd byd, diogelu adnoddau naturiol a llunio polisi llywodraethau, ac yn rhoi i chi sylfaen gadarn mewn Econometreg.

Pam astudio Mathemateg/Economeg ym Mhrifysgol Aberystwyth?

  • Mae Mathemateg yn cael ei dysgu yn Aberystwyth ers 1872, felly mae'r adran yn adeiladu ar sylfaen o dros 140 mlynedd o ragoriaeth dysgu.
  • Mae Economeg yn bwnc bywiog a deinamig, ac er mwyn sicrhau y cewch y datblygiad proffesiynol gorau posib, cyfunwn eich astudiaethau â phrofiad gwaith a chyfleoedd allgyrsiol ychwanegol.
  • Mae'r ddwy adran yn ganolfannau ymchwil gweithredol sydd ag athrawon ymroddedig sy'n rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf am eu pwnc i chi, gan ddefnyddio canlyniadau eu gwybodaeth, o safon fyd-eang, yn uniongyrchol yn eu dysgu.
  • Mae galw mawr am ein graddedigion ym myd diwydiant, ac mae ein graddedigion yn cael canlyniadau cadarnhaol iawn o ran eu cyflogau.
  • Mae sawl modiwl ar gael drwy gyfrwng y Gymraeg; am fwy o fanylion, edrychwch ar y modiwlau sydd ar gael ar y cwrs hwn.
Ein Staff

Mae’r holl ddarlithwyr yn yr Adran Mathemateg wedi’u cymhwyso i lefel PhD ac yn weithgar ym myd ymchwil. Mae gan y rhan fwyaf gymhwyster addysgu uwchraddedig ac mae’n rhaid i staff newydd gwblhau’r TUAAU. Mae’r adran hefyd yn cyflogi nifer o diwtoriaid rhan-amser, sydd â phrofiad dysgu eang, a rhai arddangoswyr sy’n cael eu dewis o blith ein myfyrwyr israddedig ac uwchraddedig.

Caiff myfyrwyr Ysgol Fusnes Aberystwyth eu dysgu gan ddarlithwyr a staff dysgu eraill sy'n weithgar mewn gwaith ymchwil ac yn ymarferwyr arbenigol yn eu dewis maes. 

Mae gan dros 75% o’r aelodau o staff sy’n dysgu’n llawn amser gymhwyster hyd at lefel PhD. Ar hyn o bryd mae'r rhan fwyaf ohonynt yn weithgar mewn gwaith ymchwil, sy'n golygu bod myfyrwyr yn elwa o gael dysgu gwybodaeth 'newydd' yn eu dewis maes yn ogystal ag astudio testunau cydnabyddedig. Mae'r Ysgol hefyd yn cyflogi staff rhan-amser a llawn amser sydd wedi'u neilltuo ar gyfer dysgu yn unig.  Mae llawer o’r staff rhan-amser yn cyfuno dyletswyddau dysgu gyda gwaith ymgynghori a gweithgareddau busnes, gan sicrhau bod myfyrwyr yn gallu cael gafael nid yn unig ar yr ymchwil ddiweddaraf ond hefyd yr wybodaeth gymhwysol ddiweddaraf.

Modiwlau Dechrau Medi - 2025

Noder: Y modiwlau a restrir isod yw'r modiwlau y bwriedir eu cyflwyno ar hyn o bryd yn ystod y flwyddyn academaidd nesaf ac mae'n bosibl y gallant newid. Maent wedi'u cynnwys yma i roi syniad o strwythur y cwrs.

Modiwlau Craidd

Teitl y Modiwl Cod y Modiwl Gwerth Credyd
Algebra MT10510 10
Calcwlws MT10610 10
Data Analytics AB15220 20
Economic Theory and Policy AB13220 20
Algebra a Chalcwlws Pellach MT11010 10
Dadansoddi Mathemategol MT11110 10
Probability MA10310 10
Statistics MA11310 10
Understanding the Economy AB13120 20

Modiwlau Craidd

Teitl y Modiwl Cod y Modiwl Gwerth Credyd
Dadansoddiad Cymhlyg MT21510 10
Algebra Llinol MT21410 10
Macroeconomics: Theory and Policy Applications AB23220 20
Microeconomics Theory and Policy Applications AB23120 20

Opsiynau

Teitl y Modiwl Cod y Modiwl Gwerth Credyd
Applied Statistics MA26620 20
Dadansoddiad Real MT20110 10
Distributions and Estimation MA26010 10
Introduction to Abstract Algebra MA20310 10
Real Analysis MA20110 10
Econometrics AB23420 20
Managerial Economics AB23320 20

Modiwlau Craidd

Teitl y Modiwl Cod y Modiwl Gwerth Credyd
Contemporary Issues in Economics and Policy AB33120 20
Growth, Development and Sustainability AB33420 20

Opsiynau

Teitl y Modiwl Cod y Modiwl Gwerth Credyd
Environmental Economics AB33220 20
History of Economic Thought AB33320 20

Gyrfaoedd

Beth alla i ei wneud gyda gradd Mathemateg / Economeg?

Mae'r cyfuniad hwn o bynciau yn darparu ystod amrywiol o gyflogaeth broffesiynol i raddedigion sy'n cynnwys:

  • Dadansoddi ystadegol ac ystadegaeth gyfrifiannol 
  • Gwasanaethau Economaidd Llywodraethau 
  • Peirianneg Awyrennol 
  • Trysorlys ei Fawrhydi 
  • Dadansoddi Risg a gwaith actiwaraidd 
  • Y Cyngor Prydeinig
  • Technoleg gwybodaeth

Pa gyfleoedd profiad gwaith a geir ym Mhrifysgol Aberystwyth?

Mae cyflogadwyedd wedi'i wreiddio ar draws ein dysgu a'n tiwtora i sicrhau eich bod yn ymwybodol o sgiliau a chymwyseddau, ac yn eu meithrin trwy gydol eich amser yn astudio gyda ni ac fe gewch ddysgu mwy yma.

Gallwch wella'ch cyfleoedd cyflogaeth gyda GO Wales a BMG (y cynllun Blwyddyn mewn Gwaith) sy'n cael eu rheoli gan ein hadran Gyrfaoedd. 

Pa sgiliau fydd y radd hon yn eu rhoi i fi?

O astudio am ein gradd mewn Mathemateg / Economeg fe gewch y sgiliau canlynol:

  • Deall ymddygiad a strwythur sefydliadau; 
  • Gwell sgiliau rhifedd a'r gallu i ymchwilio, dehongli a defnyddio data busnes ac ariannol;
  • Dealltwriaeth ddofn o’r hyn sy’n achosi newidiadau economaidd a newidiadau allanol eraill, ac o’u heffeithiau;
  • Y gallu i gyfathrebu'n glir yn ysgrifenedig ac ar lafar;
  • Datrys problemau’n effeithiol;
  • Sgiliau dadansoddi a meddwl yn greadigol;
  • Gwneud penderfyniadau;
  • Gallu gweithio'n annibynnol ac yn aelod o dîm; 
  • Sgiliau rheoli amser a threfnu;
  • Hunanddibyniaeth a'r gallu i’ch ysgogi eich hun.

Dysgu ac Addysgu

Beth fydda i’n ei ddysgu?

Mae'r crynodeb isod yn rhoi darlun o'r hyn y gallech ei astudio yn ystod y cynllun gradd tair blynedd. 

Yn ystod y flwyddyn gyntaf byddwch yn astudio pynciau mewn: 

  • Algebra a calcwlws 
  • Egwyddorion economaidd 
  • Tebygolrwydd ac ystadegaeth 
  • Dadansoddi mathemategol.

Yn ystod yr ail a'r drydedd flwyddyn, bydd modd i chi ddewis o blith ystod o fodiwlau ar bynciau a allai gynnwys: 

  • Hafaliadau differol rhannol 
  • Algebra llinol 
  • Ystadegaeth Gymhwysol 
  • Modelau stocastig mewn Cyllid 
  • Treth 
  • Datblygiad Economeg 
  • Goblygiadau damcaniaeth economaidd o ran polisi 
  • Econometreg
  • Ymddygiad a systemau macro-economaidd
  • Mecaneg a modelu ystadegol 
  • Economeg Datblygu 
  • Economeg llafur a chysylltiadau diwydiannol 
  • Polisi Masnach a Masnach Ryngwladol 

Sut fydda i'n cael fy nysgu?

Mae'r radd hon yn cael ei chyflwyno drwy gyfrwng darlithoedd, sesiynau tiwtora a sesiynau ymarferol.

Cewch eich asesu drwy gyfuniad o waith cwrs, cyflwyniadau, adroddiadau ac arholiadau.

Cewch diwtor personol a fydd yn cael ei neilltuo i chi ar gyfer holl gyfnod eich cwrs gradd, a fydd yn eich helpu ag unrhyw broblemau neu ymholiadau, boed yn academaidd neu’n bersonol. Mae croeso i chi gysylltu â nhw ar unrhyw adeg am gymorth a chyngor.

Rhagor o Wybodaeth:

Byddwch hefyd yn cael cyfle i wneud Cynllun Datblygu Personol (CDP) yn Aberystwyth. Mae hon yn broses strwythuredig o hunanwerthuso, myfyrio, a chynllunio, a fydd yn eich galluogi i olrhain trywydd eich datblygiad personol, academaidd a phroffesiynol drwy gydol eich cyfnod yn y brifysgol. Drwy gofnodi’ch perfformiad academaidd, ac amlygu'r sgiliau sydd gennych eisoes a'r rhai y bydd eu hangen ar gyfer cyflogaeth yn y dyfodol, bydd y portffolio CDP yn rhoi'r medrau y bydd eu hangen i allu cynllunio'n effeithiol, datblygu dulliau astudio llwyddiannus, ac ystyried eich dewisiadau gyrfaol a'ch dyheadau ar gyfer y dyfodol.

Gofynion Mynediad Nodweddiadol

Tariff UCAS 120 - 104

Safon Uwch BBB-BCC gan gynnwys B mewn Mathemateg

Gofynion TGAU (o leiaf gradd C/4):
Cymraeg neu Saesneg a Mathemateg

Diploma Cenedlaethol BTEC:
DDM-DMM gyda B Safon Uwch Mathemateg

Bagloriaeth Ryngwladol:
30-28 gyda 5 pwynt mewn Mathemateg ar lefel uwch

Bagloriaeth Ewropeaidd:
75%-65% yn gyffredinol gyda 7 mewn Mathemateg

Mae'r Brifysgol yn croesawu ceisiadau israddedig gan fyfyrwyr sy'n astudio'r Diploma Mynediad i Addysg Uwch neu gymwysterau lefel T, ar yr amod eu bod yn cyflawni'r canlyniadau perthnasol o ran cynnwys y pwnc a'r dysgu. Ni allwn dderbyn Diplomâu Mynediad i Addysg Uwch na lefelau T fel cymhwyster cyffredinol ar gyfer pob cwrs gradd israddedig.
Mae ein polisi derbyn cynhwysol yn rhoi gwerth ar ehangder yn ogystal â dyfnder yr astudio. Dewisir ymgeiswyr ar sail eu teilyngdod eu hunain a gall cynigion amrywio. Os hoffech wirio a yw eich cymwysterau yn gymwys cyn cyflwyno cais, cysylltwch â'r Swyddfa Derbyn Israddedigion am gyngor ac arweiniad.

Yn ôl i'r brig

|