BSc

Mathemateg gydag Addysg

Rydych chi'n edrych ar y cwrs hwn ar gyfer Dechrau Medi 2024

Bydd Mathemateg gydag Addysg ym Mhrifysgol Aberystwyth yn datblygu eich gwerthfawrogiad o dechnegau mathemategol ac ystadegol uwch, ac yn cynnwys sbectrwm eang o weithgareddau datblygiad plentyndod sy'n cynnwys yr agweddau cymdeithasegol, seicolegol ac addysgol sy'n dylanwadu ar ddatblygiad plant.

Ar y cwrs hwn, byddwch yn treulio dau draean o'ch amser yn yr Adran Fathemateg, a thraean ohono yn yr Ysgol Addysg. Mae'r radd yn defnyddio arbenigedd y ddwy adran i gynnig rhaglen ysgogol a pherthnasol i chi, sy'n ddeniadol iawn i gyflogwyr.

Yn ogystal â'r sgiliau mathemategol a dadansoddol arbenigol y byddwch yn eu meithrin drwy'r radd, byddwch hefyd yn meithrin ystod eang o sgiliau trosglwyddadwy a fydd yn ddefnyddiol iawn i chi mewn unrhyw yrfa. Bydd modd i chi ymgeisio am gyrsiau hyfforddiant dysgu TAR un ai ar lefel Cynradd neu Uwchradd. Hefyd, cyn belled â'ch bod yn bodloni'r gofynion mynediad, byddwch yn sicr o gael cyfweliad ar gyfer astudio TAR yn Aberystwyth.

Trosolwg o'r Cwrs

Pam astudio Mathemateg gydag Addysg ym Mhrifysgol Aberystwyth?

Bydd Mathemateg gydag Addysg yn eich helpu i ymgysylltu â'r damcaniaethau diweddaraf yn ymwneud â'r ystafell ddosbarth fodern, gydag arbenigedd mathemateg yn ychwanegol.

Byddwch yn cael eich gwthio i wella eich dealltwriaeth ddeddfwriaethol.

Byddwch yn dysgu mwy am ddisgyblaeth sy'n cyfuno'r gwaith o adnabod a dadansoddi siapiau a phatrymau gyda chasglu data a chyfrifo.

Mae'n ddrws sy'n arwain at yrfaoedd mewn amrywiaeth o sectorau, o'r maes cyllid i weinyddiaeth, ynghyd ag addysg.

Ein Staff

Mae’r holl ddarlithwyr yn yr Adran Mathemateg wedi’u cymhwyso i lefel PhD ac yn weithgar ym myd ymchwil. Mae gan y rhan fwyaf gymhwyster addysgu uwchraddedig ac mae’n rhaid i staff newydd gwblhau’r TUAAU. Mae’r adran hefyd yn cyflogi nifer o diwtoriaid rhan-amser, sydd â phrofiad dysgu eang, a rhai arddangoswyr sy’n cael eu dewis o blith ein myfyrwyr israddedig ac uwchraddedig.

Mae gan ddarlithwyr cyrsiau israddedig yr Ysgol Addysg naill ai gymwysterau hyd at safon PhD neu maent yn ymarferwyr profiadol yn eu maes. Mae gan bob un o'r staff dysgu gymhwyster dysgu cydnabyddedig, neu maent yn gweithio tuag at gymhwyster o'r fath.

Modiwlau Dechrau Medi - 2024

Noder: Y modiwlau a restrir isod yw'r modiwlau y bwriedir eu cyflwyno ar hyn o bryd yn ystod y flwyddyn academaidd nesaf ac mae'n bosibl y gallant newid. Maent wedi'u cynnwys yma i roi syniad o strwythur y cwrs.

Modiwlau Craidd

Teitl y Modiwl Cod y Modiwl Gwerth Credyd
Algebra MT10510 10
Calcwlws MT10610 10
Coordinate and Vector Geometry MA10110 10
Differential Equations MA11210 10
Algebra a Chalcwlws Pellach MT11010 10
Dadansoddi Mathemategol MT11110 10
Probability MA10310 10
Statistics MA11310 10
Datblygiad a Dysgu Plant AD14520 20
Partneriaethau - Egwyddorion ac Ymarfer AD14420 20
Y Dysgwr a'r Amgylchedd Dysgu AD13820 20

Modiwlau Craidd

Teitl y Modiwl Cod y Modiwl Gwerth Credyd
Seicoleg Dysgu a Meddwl AD20120 20
Dadansoddiad Cymhlyg MT21510 10
Algebra Llinol MT21410 10
Real Analysis MA20110 10

Opsiynau

Teitl y Modiwl Cod y Modiwl Gwerth Credyd
Diogelu ac Ymarfer Proffesiynol AD24320 20
Discourses Language and Education ED22420 20
Dulliau Ymchwil AD20320 20
Education, Diversity and Equality ED20420 20
Gweithio Gyda Phlant AD20620 20
Literacy in Young Children ED20220 20
Llythrennedd Mewn Plant Ifanc AD20220 20
Making Sense of the Curriculum ED20820 20
Research Methods ED20320 20
Safeguarding and Professional Practice ED24320 20
Working with Children ED20620 20

Modiwlau Craidd

Teitl y Modiwl Cod y Modiwl Gwerth Credyd
Asesu ac Addysg AD30120 20

Opsiynau

Teitl y Modiwl Cod y Modiwl Gwerth Credyd
Children's Rights ED30620 20
Communication ED34720 20
Cyfathrebu AD34720 20
Datblygiad Emosiynol a Chymdeithasol AD34820 20
Datblygiad Mathemategol yn y Blynyddoedd Cynnar AD30320 20
Emotional and Social Development ED34820 20
Hawliau Plant AD30620 20
Mathematical Development in the Early Years ED30320 20
Special Educational Needs ED30420 20

Gyrfaoedd

Mae cyflogadwyedd wedi'i wreiddio yn ein haddysgu.

Mae ein graddedigion wedi bod yn llwyddiannus yn y meysydd canlynol:

  • sefydliadau dyngarol
  • addysgu ac addysg (gan gynnwys anghenion addysgol arbennig)
  • gofal cymdeithasol
  • nyrsio
  • therapi lleferydd
  • gwaith cymdeithasol
  • addysg cymunedol
  • bancio
  • yswiriant
  • dadansoddi buddsoddiadau
  • technoleg gwybodaeth

Ar ôl i chi gwblhau'r radd hon, byddwch wedi meithrin sgiliau yn y meysydd canlynol:

  • sgiliau ymchwil a dadansoddi data
  • sgiliau mathemategol a chyfrifiadol uwch
  • sgiliau datrys problemau a meddwl creadigol effeithiol
  • sylfaen drylwyr mewn sgiliau technoleg gwybodaeth
  • y gallu i weithio'n annibynnol
  • sgiliau trefnu a rheoli amser, gan gynnwys y gallu i weithio i derfynau amser
  • y gallu i fynegi syniadau a chyfleu gwybodaeth mewn modd clir a threfnus, yn ysgrifenedig ac ar lafar
  • hunanddibyniaeth a'r gallu i ysgogi eich hun
  • y gallu i weithio mewn tîm a thrafod cysyniadau mewn grwpiau, a rhoi lle i syniadau gwahanol a dod i gytundeb.

Pa gyfleoedd sydd ar gael am brofiad gwaith wrth astudio? 

Cliciwch yma i ddysgu am y gwahanol gyfleoedd y mae tîm Gyrfaoedd Prifysgol Aberystwyth yn eu cynnig.

Gallwch wella'ch cyfleoedd cyflogaeth gyda GO Wales a BMG (y cynllun Blwyddyn mewn Gwaith) sy'n cael eu rheoli gan ein hadran Gyrfaoedd. 

Cydlynydd Cyflogadwyedd Academaidd 

O'r flwyddyn gyntaf ymlaen, eich cyflogadwyedd yw ein blaenoriaeth, ac er mwyn sicrhau ein bod yn cynnig y gwasanaethau cywir mae gennym gydlynydd cyflogadwyedd academaidd pwrpasol, sy'n cydweithio gyda'n hymgynghorydd gyrfaoedd cyswllt er mwyn teilwra pecyn o addysg yrfaol, cysylltiad â chyflogwyr, a chefnogaeth adrannol unigol. Mae'r unigolyn hwn yn cydweithio gyda'r gwasanaeth gyrfaoedd a sefydliadau allanol i greu cysylltiadau, a gaiff eu trosglwyddo i'n myfyrwyr yn rheolaidd. Mae'r rhain yn cynnwys cyfleoedd am waith gwirfoddol a swyddi cyflogedig, yn ystod eich astudiaethau ac ar eu hôl. Yn adrannol, cewch gyfle i gymryd rhan yn ein cynhadledd cyflogadwyedd flynyddol i fyfyrwyr, ochr yn ochr â chyfleoedd i fod yn rhan o'n cynhadledd ryngwladol, sy'n arloesiad llwyddiannus yn yr Ysgol Addysg ym Mhrifysgol Aberystwyth. Drwy gymryd rhan, mae cyfle i gael cipolwg byd-eang ar ddulliau newydd ym maes addysg a datblygiad, a chyfle i rwydweithio'n rhyngwladol yn eich sector. Mae ein cynllun mentora myfyrwyr yn cynnig cyfleoedd i gael cefnogaeth gan gyfoedion, ond hefyd datblygu sgiliau mentora a hyfforddi wrth gefnogi cyd-fyfyrwyr. Cydnabyddir y cynllun hwn gan y Brifysgol am ei werth o ran sgiliau uwch, ac mae'r rhai sy'n gweithredu fel mentoriaid yn cael cydnabyddiaeth ar eu hadysgrif raddio. 

Dysgu ac Addysgu

Darperir y cwrs hwn drwy raglen o ddarlithoedd, seminarau a gwaith prosiect unigol a grŵp, sydd wedi'u dylunio i ysgogi eich diddordeb academaidd mewn mathemateg a'ch ysbrydoli am ddamcaniaethau addysgu a dysgu. Drwy gyfuno'r ddwy ddisgyblaeth hon, bydd y cwrs hwn yn helpu i ddyfnhau eich cymhwysedd mathemategol, a'ch paratoi gyda sgiliau hanfodol ar gyfer gweithio ym maes addysg.

Beth fydda i'n ei ddysgu? 

  • Yn ystod y flwyddyn gyntaf, byddwch yn dilyn llwybr clir drwy astudiaeth o'r disgyblaethau craidd, gan gynnwys algebra, calcwlws, geometreg gyfesurynnol a fector, tebygolrwydd, dadansoddi mathemategol, hafaliadau differol ac ystadegau. Byddwch yn cael eich cyflwyno i faterion yn ymwneud â dysgu plant a'r system addysg yn gyffredinol.
  • Yn ystod yr ail flwyddyn, byddwch yn astudio dadansoddi real, dadansoddi cymhleth, ac algebra llinol. Byddwch yn archwilio seicoleg dysgu a meddwl, a gallwch ddewis meysydd megis amrywiaeth ddiwylliannol ym maes addysg neu'r cwricwlwm. Byddwch hefyd yn dewis o blith ystod o fodiwlau Mathemateg opsiynol. 
  • Yn ystod y drydedd flwyddyn, bydd modd i chi gyfeirio'ch astudiaeth eich hun, ac arbenigo ymhellach drwy ddewis o blith ystod eang o fodiwlau yn y ddwy ddisgyblaeth.

Sut bydda i'n cael fy addysgu?

  • Cewch eich asesu drwy gyfuniad o waith cwrs, cyflwyniadau, traethodau ac arholiadau. Mae nifer o fodiwlau ar gael drwy gyfrwng y Gymraeg. Mae rhagor o wybodaeth ar gael gan y ddwy Adran.
  • Bydd modd i'ch tiwtor personol hefyd eich cynorthwyo gydag unrhyw ymholiadau'n ymwneud â'ch astudiaethau academaidd. Mae croeso i chi gysylltu â'ch tiwtor personol ar unrhyw adeg os bydd angen cymorth neu gyngor arnoch.
  • Byddwch hefyd yn cael cyfle i gwblhau Cynllun Datblygu Personol (CDP) yn Aberystwyth. Mae hon yn broses strwythuredig o hunanwerthuso, myfyrio, a chynllunio, a fydd yn eich galluogi i olrhain eich datblygiad personol, academaidd a phroffesiynol drwy gydol eich cyfnod yn y brifysgol. Drwy gofnodi eich perfformiad academaidd, ac amlygu'r sgiliau sydd gennych yn barod a'r sgiliau y bydd eu hangen arnoch ar gyfer cyflogadwyedd yn y dyfodol, bydd y portffolio CDP yn rhoi'r offer angenrheidiol i chi gynllunio'n effeithiol, datblygu dulliau llwyddiannus o astudio, ac ystyried eich dewisiadau gyrfaol a'ch dyheadau ar gyfer y dyfodol.

Gofynion Mynediad Nodweddiadol

Tariff UCAS 120 - 104

Safon Uwch BBB-BCC gan gynnwys B mewn Mathemateg

Gofynion TGAU (o leiaf gradd C/4):
Cymraeg neu Saesneg a Mathemateg

Diploma Cenedlaethol BTEC:
DDM-DMM gyda B Safon Uwch Mathemateg

Bagloriaeth Ryngwladol:
30-28 gyda 5 pwynt mewn Mathemateg ar lefel uwch

Bagloriaeth Ewropeaidd:
75%-65% yn gyffredinol gyda 7 mewn Mathemateg

Mae'r Brifysgol yn croesawu ceisiadau israddedig gan fyfyrwyr sy'n astudio'r Diploma Mynediad i Addysg Uwch neu gymwysterau lefel T, ar yr amod eu bod yn cyflawni'r canlyniadau perthnasol o ran cynnwys y pwnc a'r dysgu. Ni allwn dderbyn Diplomâu Mynediad i Addysg Uwch na lefelau T fel cymhwyster cyffredinol ar gyfer pob cwrs gradd israddedig.
Mae ein polisi derbyn cynhwysol yn rhoi gwerth ar ehangder yn ogystal â dyfnder yr astudio. Dewisir ymgeiswyr ar sail eu teilyngdod eu hunain a gall cynigion amrywio. Os hoffech wirio a yw eich cymwysterau yn gymwys cyn cyflwyno cais, cysylltwch â'r Swyddfa Derbyn Israddedigion am gyngor ac arweiniad.

Yn ôl i'r brig

|