Rydym yn defnyddio cwcis ar ein gwefan. I ddysgu mwy am y cwcis yr ydym yn eu defnyddio, gweler ein polisi cwcis. Gallwch reoli cwcis trwy osodiadau eich porwr. Trwy barhau i bori'r safle rydych yn cytuno i'n defnydd o gwcis.
Derbyn a Chau.
Mae Bioleg yn effeithio'n sylweddol ar ein bywydau, yn gwella ein hiechyd a'n lles drwy ffyrdd newydd o ymladd clefydau, sicrhau cynhyrchiant bwyd a datblygu biodanwydd newydd a chynhyrchion pwysig eraill. Mae disgyblaeth Bioleg yn rhychwantu astudiaethau amgylcheddol, pob organeb a chelloedd, ac mae wedi'i hehangu heddiw gan ffocws ar ddilyniannu genomau cyfan, dadansoddi eu datblygiad a gweithrediad genyn unigol a'r defnydd o dechnegau dadansoddol blaengar. Mae'r cwrs cyffrous hwn yn datblygu ehangder a dyfnder y wybodaeth fiolegol sydd ei hangen i ddilyn gyrfa fel gwyddonydd proffesiynol.
Bodlonrwydd Myfyrwyr Cyffredinol a Chanlyniadau Cyflogadwyedd
95% o’r myfyrwyr yn cytuno bod y staff yn esbonio pethau'n dda (ACF 2020).
98% o’n graddedigion mewn gwaith a/neu astudiaethau pellach o fewn chwe mis ar ôl graddio, 3% yn uwch na graddedigion y Gwyddorau Biolegol yn genedlaethol, (HESA 2018*)
Trosolwg
Dyfarnwyd statws Achrediad Uwch Interim i'r cwrs hwn. Bydd hyn yn dod yn statws Achrediad Uwch pan fydd y garfan gyntaf o fyfyrwyr yn graddio o'r cyrsiau gradd MBiol yn ystod haf 2018 (yn amodol ar gadarnhad terfynol gan y Gymdeithas Frenhinol Bioleg).
Pam astudio MBiol Bioleg ym Mhrifysgol Aberystwyth?
Mae'r radd Meistr Integredig mewn Bioleg ar gyfer myfyrwyr sydd â'r gallu i astudio i lefel uwch na'r radd BSc safonol, ac mae'n integreiddio tair blynedd o astudio israddedig mewn Bioleg gyda blwyddyn arall o astudio ar lefel uwchraddedig.
Mae myfyrwyr yn graddio gyda chymhwyster MBiol (Bioleg), cymhwyster lefel Meistr cydnabyddedig ar gyfer dilyn gyrfa mewn ymchwil fiolegol academaidd neu fasnachol.
Yn y flwyddyn olaf, caiff myfyrwyr Meistr Integredig gyfle i gwblhau prosiect ymchwil Meistr sydd wedi'i wreiddio yn un o nifer o grwpiau ymchwil arloesol dan arweiniad staff academaidd arbenigol IBERS. Cyflawnir hyn ar y cyd ag astudiaeth ar fodiwlau a addysgir sy'n datblygu sgiliau hanfodol sy'n ddisgwyliedig gan fiolegwyr proffesiynol heddiw.
Mae cyfleoedd arbenigol yn Aberystwyth ar gyfer myfyrwyr Meistr Integredig yn cynnwys:
cymhwyso technegau moleciwlaidd gan gynnwys echdynnu, dilyniannu a dadansoddi DNA;
labordai ymchwil ac addysgu helaeth sydd â chyfarpar o'r radd flaenaf, gan gynnwys cyfleusterau bioddelweddu, dilyniannu DNA trwygyrch uchel, cytometreg llif, eplesu planhigion o'r labordy i beiriant peilot, proteomeg, llwyfannau sbectrosgopig a metabolomeg;
ystafelloedd amgylcheddau wedi'u rheoli ac amgylcheddau arbrofol eithafol i astudio organebau daearol.
Dewch i ddysgu a byw mewn amgylchedd eithriadol lle byddwch wedi'ch amgylchynu gan amrywiaeth eang o amgylcheddau prydferth, gan gynnwys y môr, rhostir, mynyddoedd, dyfrffyrdd, glaswelltir ac arfordir.
Gallwch ymchwilio i wahanol bynciau fel geneteg, bioleg celloedd, ymddygiad anifeiliaid, ecosystemau, effaith dynoliaeth ar yr amgylchedd.
Byddwch yn cael hyfforddiant arbenigol mewn protocol gwyddonol a gwaith labordy ymarferol.
Byddwch yn cael eich addysgu gan arbenigwyr adnabyddus sy'n arwain ym maes Bioleg.
Cewch ddefnyddio'r Uned Gwasanaethau Biolegol, Sbectromedr Màs, Uned Ddadansoddol, labordy Modelu, y labordy Biolegol Cyfrifiadol, Microsgopeg Uwch a'r Labordy Bioddelweddu.
Hoffech chi astudio yn Gymraeg?
Gall myfyrwyr ddewis astudio nifer o fodiwlau IBERS drwy gyfrwng y Gymraeg. Edrychwch ar y tab modiwlau!
Ein Staff
Mae gan y rhan fwyaf o staff dysgu Athrofa'r Gwyddorau Biolegol, Amgylcheddol a Gwledig gymwysterau hyd at safon PhD ac maent yn ymchwilwyr gweithgar. Hefyd, mae gan staff y cyrsiau galwedigaethol gefndir ym myd diwydiant. Mae yn yr Athrofa nifer fawr o staff sy'n gwneud ymchwil yn unig ac mae'n bosib y bydd y myfyrwyr yn dod i gysylltiad â hwy.
Modiwlau
Noder: Y modiwlau a restrir isod yw'r modiwlau y bwriedir eu cyflwyno ar hyn o bryd yn ystod y flwyddyn academaidd nesaf ac mae'n bosibl y gallant newid. Maent wedi'u cynnwys yma i roi syniad o strwythur y cwrs.
Pa opsiynau cyflogaeth sydd ar gael i raddedigion Bioleg?
Mae ein graddedigion yn ymgeiswyr cryf yn y meysydd canlynol:
Gwyddor ymchwil;
Genetegydd moleciwlaidd clinigol;
Swyddog cadwraeth natur;
Addysg.
Gallai myfyrwyr sydd wedi graddio mewn Bioleg fynd ymlaen hefyd i gael hyfforddiant pellach ym maes:
Deintyddiaeth;
Meddygaeth;
Awduron gwyddoniaeth.
Sgiliau a Chymwyseddau Allweddol
Sgiliau Astudio
Byddwch yn datblygu gwybodaeth fanwl a dealltwriaeth feirniadol o'r pynciau allweddol cyfoes ym maes Bioleg. Byddwch yn meistroli'r broses ymchwil ac yn cyfrannu at sylfaen wybodaeth y pwnc drwy eich ymchwil yn y flwyddyn olaf. Drwy gydol hyn, byddwch yn cael llawer o gyfleoedd i ddatblygu fel ymchwilydd myfyriol, annibynnol. Drwy gydol eich amser bydd gennych gefnogaeth academyddion arbenigol sy'n gweithio ar flaen y gad yn eu maes.
Disgyblaeth a'r gallu i wthio eich hunan
Mae astudio i lefel uwchraddedig yn gofyn am ddisgyblaeth a'r gallu i wthio eich hunan. Er y bydd staff profiadol ac arbenigol IBERS wrth law i gynnig arweiniad, chi fydd yn gyfrifol am lunio a chwblhau prosiect ymchwil yn eich blwyddyn olaf. Bydd y broses hon yn cryfhau eich sgiliau fel gweithiwr hunan-gynhaliol, nodwedd sy'n cael ei gwerthfawrogi gan bob cyflogwr.
Sgiliau Trosglwyddadwy
Mae'r cwrs MBiol (Bioleg) wedi'i gynllunio i roi amrywiaeth o sgiliau trosglwyddadwy i chi y gallwch eu cymhwyso mewn amrywiaeth o gyd-destunau cyflogaeth. Mae'r cwrs yn cynnwys nifer o fodiwlau a addysgir, yn ogystal ag astudiaeth annibynnol gan y myfyriwr o dan arweiniad. Mae hyn yn rhoi fframwaith i chi sy'n eich galluogi i ddatblygu'ch gwybodaeth am y pwnc, drwy ddilyn meysydd penodol sydd o ddiddordeb a datblygu eich sgiliau meddwl yn wreiddiol, dadansoddi, dehongli a rhesymu. Bydd asesu rheolaidd drwy adroddiadau, traethodau, cyflwyniadau mewn seminarau, crynodebau ac astudiaethau achos yn eich paratoi ar gyfer gofynion niferus y gweithle modern.
Pa gyfleoedd sydd ar gael am brofiad gwaith wrth astudio?
Cliciwch yma i ddysgu am y gwahanol gyfleoedd y mae tîm Gyrfaoedd Prifysgol Aberystwyth yn eu cynnig.
Gallwch wella'ch cyfleoedd cyflogaeth gyda GO Wales a BMG (y cynllun Blwyddyn mewn Gwaith) sy'n cael eu rheoli gan ein hadran Gyrfaoedd.
Dysgu ac Addysgu
Beth fydda i'n ei ddysgu?
Bydd y crynodeb isod yn rhoi darlun i chi o'r hyn y gallech ei astudio yn ystod y cynllun gradd pedair blynedd.
Yn ystod eich blwyddyn gyntaf, gallech archwilio:
Amrywiaeth y disgyblaethau biolegol sy'n cynnwys;
Adeiladwaith a swyddogaeth planhigion;
Anifeiliaid a microbau ar y lefelau moleciwlaidd, organebaidd a chellog;
Anifeiliaid fertebraidd ac infertebraidd mawr a fydd yn canolbwyntio ar;
Ffisioleg, cyhyrau ac ymsymudiad, maetheg, endocrinoleg, systemau anadlu cardiofasgwlaidd a homeostasis;
Amrywiaeth bywyd microbaidd;
Llystyfiant ac ecosystemau.
Yn ystod eich ail flwyddyn, gallech ddarganfod:
Bioleg Celloedd;
Imiwnoleg;
Geneteg;
Microbioleg;
Clefydau heintus;
Bioleg forol neu ddŵr croyw;
Effaith newid yn yr hinsawdd ar ecosystemau;
Gweithdrefnau Ansoddol a Meintiol dadansoddi data.
Yn eich trydedd flwyddyn, gallech astudio ac ymgymryd â'r canlynol:
Biowybodeg;
Biocemeg;
Parasitoleg;
Mynegiant genynnau;
Bioamrywiaeth adar;
Traethawd hir gorfodol;
Byddwch hefyd yn cael cyfle i gymryd rhan mewn cwrs maes preswyl.
Yn ystod eich blwyddyn olaf, gallech astudio:
Biotechnoleg ficrobaidd;
Arloesi yn y Biowyddorau;
Cysyniadau mewn Bioleg;
Genomeg Cnydau a Pheirianneg Enetig;
Prosiect Ymchwil MBiol.
Sut bydda i'n cael fy addysgu?
Caiff y cwrs ei gyflwyno drwy raglen gytbwys o ddarlithoedd, seminarau dan arweiniad myfyrwyr, dosbarthiadau ymarferol mewn labordai a thiwtora un-i-un ar gyfer y prosiect ymchwil yn y flwyddyn olaf. Yn ogystal, bydd sefyllfaoedd dysgu yn seiliedig ar broblem; astudiaethau achos; ymchwil yn seiliedig ar lenyddiaeth; dysgu gyda chymorth cyfrifiadur; a phrofiad gwaith i gefnogi'r addysgu a'r dysgu. Byddwch yn cael hyfforddiant trwyadl mewn cysyniadau biolegol a dulliau gwyddonol ymarferol.
Sut bydda i'n cael fy asesu?
Byddwch yn cael eich asesu drwy amryw o ddulliau gan gynnwys traethodau, gwaith ymarferol, cyflwyniadau llafar, taflenni gwaith, adroddiadau, coflenni, posteri, portffolios, dyddiaduron myfyriol, adolygiadau llenyddiaeth, erthyglau cylchgrawn, llyfrau nodiadau maes ac arholiadau. Bydd tiwtor personol yn cael ei ddynodi i chi dros gyfnod eich cwrs gradd cyfan, a bydd yn gallu eich helpu gydag unrhyw broblemau neu ymholiadau, boed nhw'n faterion academaidd neu bersonol. Mae croeso i chi gysylltu â'ch tiwtor personol ar unrhyw adeg os bydd angen cymorth neu gyngor arnoch.