Rydych chi'n edrych ar y cwrs hwn ar gyfer Dechrau Medi 2024

Mae Aberystwyth yn lle rhagorol i astudio bywyd anifeiliaid yn ei holl amrywiaeth. Mae yma gyfoeth o arfordiroedd, aberoedd, coetiroedd a bryniau sy’n llawn bywyd gwyllt o fewn cyrraedd rhwydd i’r campws. Mae’r rhain yn cynnal pryfed prin, y barcud coch a’r frân goesgoch, ac mae Bae Ceredigion yn enwog am adar y môr, y morlo llwyd, y dolffin trwyn potel a’r llamhidydd harbwr. 

Trosolwg o'r Cwrs

Royal Society of Biology Advanced Accredited Degree

Dyfarnwyd statws Achrediad Uwch Interim i'r cwrs hwn. Bydd hyn yn dod yn statws Achrediad Uwch pan fydd y garfan gyntaf o fyfyrwyr yn graddio o'r cyrsiau gradd MBiol yn ystod haf 2018 (yn amodol ar gadarnhad terfynol gan y Gymdeithas Frenhinol Bioleg).

Pam astudio MBiol Swoleg ym Mhrifysgol Aberystwyth?

  • Byddwch yn elwa o labordai modern gwych, ystafell microsgopeg, casgliad o sbesimenau hanesyddol ac acwaria.
  • Byddwch yn cael eich addysgu gan arbenigwyr Swoleg, rhai ohonynt rydych eisoes wedi eu gweld ar raglenni dogfen efallai neu wedi gwrando arnynt ar eich hoff bodlediad gwyddoniaeth.
  • Ardal o fywyd gwyllt a chefn gwlad heb ei ail; mae Aberystwyth dafliad carreg oddi wrth lawer o gynefinoedd sy'n cael eu cydnabod yn rhyngwladol, yn cynnwys safle UNESCO Biosffer Dyfi, dau wlypdir RAMSAR, dwy ardal cadwraeth arbennig forol, dwy Warchodfa Natur Genedlaethol, sawl safle o ddiddordeb gwyddonol arbennig i enwi dim ond rhai, sy'n cynnig cyfleoedd gwaith maes a hamdden gwych i chi.
  • Ymhlith y 10 uchaf yng ngwledydd Prydain ar gyfer dwyster ymchwil yn ôl asesiad y Fframwaith Rhagoriaeth Ymchwil (2014).
  • Mae 78% o'r gweithgarwch ymchwil wedi'i asesu fel ymchwil sy'n arwain y byd neu sy'n ardderchog yn rhyngwladol yn ôl Fframwaith Rhagoriaeth Ymchwil 2014.

Hoffech chi astudio yn Gymraeg? 

Gall myfyrwyr ddewis astudio nifer o fodiwlau IBERS drwy gyfrwng y Gymraeg. Gofynnwch i'r adran am ragor o fanylion.

Ein Staff

Mae gan y rhan fwyaf o staff dysgu Adran Gwyddorau Bywyd gymwysterau hyd at safon PhD ac maent yn ymchwilwyr gweithgar. Hefyd, mae gan staff y cyrsiau galwedigaethol gefndir ym myd diwydiant. Mae yn yr Adran nifer fawr o staff sy'n gwneud ymchwil yn unig ac mae'n bosib y bydd y myfyrwyr yn dod i gysylltiad â hwy.

Modiwlau Dechrau Medi - 2024

Noder: Y modiwlau a restrir isod yw'r modiwlau y bwriedir eu cyflwyno ar hyn o bryd yn ystod y flwyddyn academaidd nesaf ac mae'n bosibl y gallant newid. Maent wedi'u cynnwys yma i roi syniad o strwythur y cwrs.

Modiwlau Craidd

Teitl y Modiwl Cod y Modiwl Gwerth Credyd
Bioleg Celloedd BG17520 20
Comparative Animal Physiology BR16720 20
Ecoleg a Chadwraeth BG19320 20
Genetics, Evolution and Diversity BR17120 20
Amrywiaeth Microbau a Phlanhigion BG19920 20
Sgiliau ar gyfer Gwyddonwyr Bywyd Gwyllt BG15720 20

Modiwlau Craidd

Teitl y Modiwl Cod y Modiwl Gwerth Credyd
Invertebrate Zoology BR25420 20
Dulliau Ymchwil BG27520 20
Vertebrate Zoology BR26820 20

Opsiynau

Teitl y Modiwl Cod y Modiwl Gwerth Credyd
Animal Behaviour BR21620 20
Behavioural Ecology BR23920 20
Evolution and Molecular Systematics BR21720 20
Freshwater Biology BR22020 20
Marine Biology BR22620 20
Tropical Zoology Field Course BR23820 20
Veterinary Health BR27120 20
Wildlife Management BR27220 20

Modiwlau Craidd

Teitl y Modiwl Cod y Modiwl Gwerth Credyd
Traethawd Estynedig BG36440 40

Opsiynau

Teitl y Modiwl Cod y Modiwl Gwerth Credyd
Animal Behaviour Field Course BR34920 20
Behaviour and Welfare of Domesticated Animals BR35120 20
Behavioural Neurobiology BR35320 20
Global Biodiversity Conservation BR33420 20
Parasitology BR33820 20
Population and Community Ecology BR33920 20
Wildlife Conservation BR34520 20

Modiwlau Craidd

Teitl y Modiwl Cod y Modiwl Gwerth Credyd
Field and Laboratory Techniques BRM4820 20
Frontiers in the Biosciences BRM4920 20
MBiol Research Project BRM2860 60
Research Methods in the Biosciences BRM6420 20

Gyrfaoedd

Mae angen Swolegwyr hyfforddedig i warchod bywyd anifeiliaid, i ddeall clefydau parasitig anifeiliaid a phobl ac i reoli plâu sy'n bwysig yn economaidd. Mae pob cwrs ym Mhrifysgol Aberystwyth wedi'i gynllunio i wella cyflogadwyedd. 

Mae'r cwrs MBiol (Swoleg) wedi'i greu i ateb y galw cynyddol am bobl sydd â chymwysterau addas i weithio ar lefel uchel ym maes ymchwil wyddonol, datblygu, darlithio, hyfforddiant ac addysg, mentrau masnachol cyhoeddus a phreifat, gwaith ymgynghori a chynghori yng ngwledydd Prydain a ledled y byd. Mae'r cwrs MBiol hefyd yn ddewis amgen cydnabyddedig i MSc ar gyfer mynd ymlaen i gyflawni ysgoloriaeth ymchwil PhD. 

Sgiliau a Chymwyseddau Allweddol 

Sgiliau Astudio: 

Byddwch yn datblygu gwybodaeth fanwl a dealltwriaeth feirniadol o'r pynciau cyfoes allweddol ym maes Swoleg. Byddwch yn meistroli'r broses ymchwil ac yn cyfrannu at sylfaen wybodaeth y pwnc drwy eich ymchwil yn y flwyddyn olaf. Drwy gydol hyn, byddwch yn cael llawer o gyfleoedd i ddatblygu fel ymchwilydd myfyriol, annibynnol. Drwy gydol eich amser bydd gennych gefnogaeth academyddion arbenigol sy'n gweithio ar flaen y gad yn eu maes. 

Disgyblaeth a'r gallu i wthio eich hunan:

Mae astudio i lefel uwchraddedig yn gofyn am ddisgyblaeth a'r gallu i wthio eich hunan. Er y bydd staff profiadol ac arbenigol IBERS wrth law i gynnig arweiniad, chi fydd yn gyfrifol am lunio a chwblhau prosiect ymchwil yn eich blwyddyn olaf. Bydd y broses hon yn cryfhau eich sgiliau fel gweithiwr hunan-gynhaliol, nodwedd sy'n cael ei gwerthfawrogi gan bob cyflogwr. 

Sgiliau Trosglwyddadwy:

Mae'r cwrs MBiol (Swoleg) wedi'i gynllunio i roi amrywiaeth o sgiliau trosglwyddadwy i chi y gallwch eu cymhwyso mewn amrywiaeth o gyd-destunau cyflogaeth. Mae'r cwrs yn cynnwys nifer o fodiwlau a addysgir, yn ogystal ag astudiaeth annibynnol gan y myfyriwr o dan arweiniad. Mae hyn yn rhoi fframwaith i chi sy'n eich galluogi i ddatblygu'ch gwybodaeth am y pwnc, drwy ddilyn meysydd penodol sydd o ddiddordeb a datblygu eich sgiliau meddwl yn wreiddiol, dadansoddi, dehongli a rhesymu. Bydd asesu rheolaidd drwy adroddiadau, traethodau, cyflwyniadau mewn seminarau, crynodebau ac astudiaethau achos yn eich paratoi ar gyfer gofynion niferus y gweithle modern.

Pa gyfleoedd sydd ar gael am brofiad gwaith wrth astudio? 

Cliciwch yma i ddysgu am y gwahanol gyfleoedd y mae tîm Gyrfaoedd Prifysgol Aberystwyth yn eu cynnig. 

Gallwch wella'ch cyfleoedd cyflogaeth gyda GO Wales a BMG (y cynllun Blwyddyn mewn Gwaith) sy'n cael eu rheoli gan ein hadran Gyrfaoedd. 

Dysgu ac Addysgu

Beth fydda i'n ei ddysgu?

Mae'r cwrs hwn wedi'i gynllunio i'ch galluogi i deilwra'ch astudiaethau i feysydd sydd o ddiddordeb arbennig i chi. Byddwch yn gallu canolbwyntio naill ai ar yr anifail cyfan, bioleg poblogaeth a chadwraeth, neu ar agweddau mwy cymhwysol ar Swoleg, fel parasitoleg.

Bydd y crynodeb isod yn rhoi darlun i chi o'r hyn y gallech ei astudio yn ystod y cynllun gradd pedair blynedd.

Yn eich blwyddyn gyntaf, byddwch yn astudio pynciau sy'n ymwneud ag:

  • Amrywiaeth bywyd ar y Ddaear, o organebau ungellog i'r anifeiliaid infertebraidd a fertebraidd amlgellog, gan gysylltu ffurf â swyddogaeth a'r digwyddiadau esblygiadol allweddol sydd wedi digwydd.
  • Egwyddorion sylfaenol ecoleg a'r berthynas rhwng rhywogaethau sy'n cwmpasu trosglwyddo ynni, rhyngweithiadau o fewn a rhwng rhywogaethau, defnyddio adnoddau ac ati.
  • Pwysigrwydd planhigion fel cynhyrchwyr cynradd, eu morffoleg, eu ffisioleg a'u haddasiadau ecolegol.
  • Egwyddorion geneteg o foleciwlau i boblogaethau a rhywogaethau.
  • Adeiledd a swyddogaeth celloedd ewcaryotig a chemeg moleciwlau mewn celloedd.
  • Fforenseg bywyd gwyllt gan ddefnyddio entomoleg ac ecotocsicoleg fforensig, a'r defnydd o ddulliau 'bargodio' DNA er mwyn helpu i ddatrys troseddau bywyd gwyllt.
  • Gallwch hefyd ddilyn pynciau sy'n gysylltiedig â'r prosesau amgylcheddol mawr ar y Ddaear sydd wedi dylanwadu ar fflora a ffawna, hanes ein dealltwriaeth o Fioleg a sut mae wedi datblygu dros amser, ac amrywiaeth bywyd microbaidd a'u pwysigrwydd fel pathogenau, cydymddibynwyr ac yn yr ecosystem.

Yn ystod eich ail flwyddyn, byddwch yn archwilio:

  • Bioleg anifeiliaid infertebraidd a fertebraidd yn cwmpasu eu hesblygiad, eu ffisioleg, eu hecoleg ac ati.
  • Esblygiad organebau gan gynnwys rhywogaethu, ffylogeneteg a geneteg poblogaeth.
  • Ymddygiad anifeiliaid gan gynnwys ei swyddogaeth, achosiaeth, datblygiad ac esblygiad.
  • Egwyddorion ac arfer ystod o weithdrefnau meintiol ac ansoddol sylfaenol, dadansoddi, dehongli a gwerthuso data.
  • Cewch hefyd astudio pynciau sy'n ymwneud â chadwraeth rhywogaethau a rheoli cynefinoedd, rôl gerddi swolegol ar gyfer gwarchod anifeiliaid, a thaith maes i Beriw.
  • Mae cyfleoedd hefyd i wella eich sgiliau cyflogadwyedd drwy astudio eich ail flwyddyn mewn sefydliad Ewropeaidd (taith gyfnewid ERASMUS+) neu Ogledd America. Neu gallwch wneud blwyddyn mewn gwaith rhwng yr ail a'r drydedd flwyddyn.

Yn ystod eich trydedd flwyddyn, byddwch yn cael eich addysgu am:

  • Ffisioleg ymddygiadol, gan fanylu ar y mecanweithiau sy'n sail i ymddygiad ac uwch ymddygiadau gan gynnwys cyfeiriadedd a mordwyo.
  • Ecoleg poblogaeth gan ganolbwyntio ar y modelau a ddefnyddir i gyfri am ddosbarthiad a helaethrwydd organebau.
  • Traethawd hir gorfodol o dan oruchwyliaeth aelod o staff addysgu Swoleg.
  • Gallwch hefyd astudio pynciau sy'n gysylltiedig â chadwraeth bywyd gwyllt a phwysigrwydd geneteg o ran gwarchod rhywogaethau, parasitoleg sy'n cwmpasu amrywiaeth parasitiaid a'u potensial i achosi afiechyd, y bygythiadau presennol ac yn y dyfodol i rywogaethau ac ecosystemau, a lles anifeiliaid gan gynnwys y nodweddion ymddygiadol a ffisiolegol sy'n gysylltiedig â phoen a straen.

Yn ystod eich blwyddyn olaf, gallech astudio:

  • Arloesi yn y Biowyddorau
  • Eich prosiect ymchwil MBiol
  • Technegau maes a labordy 

Sut bydda i'n cael fy addysgu? 

Caiff y cwrs ei gyflwyno drwy raglen gytbwys o ddarlithoedd, seminarau dan arweiniad myfyrwyr, dosbarthiadau ymarferol mewn labordai a thiwtora un-i-un ar gyfer y prosiect ymchwil yn y flwyddyn olaf. Yn ogystal, bydd sefyllfaoedd dysgu yn seiliedig ar broblem; astudiaethau achos; ymchwil yn seiliedig ar lenyddiaeth; dysgu gyda chymorth cyfrifiadur; a phrofiad gwaith i gefnogi'r addysgu a'r dysgu. Byddwch yn cael hyfforddiant trwyadl mewn cysyniadau swolegol a dulliau gwyddonol ymarferol. 

Sut bydda i'n cael fy asesu? 

Byddwch yn cael eich asesu drwy amryw o ddulliau gan gynnwys traethodau, gwaith ymarferol, cyflwyniadau llafar, taflenni gwaith, adroddiadau, coflenni, posteri, portffolios, dyddiaduron myfyriol, adolygiadau llenyddiaeth, erthyglau cylchgrawn, llyfrau nodiadau maes ac arholiadau. Bydd tiwtor personol yn cael ei ddynodi i chi dros gyfnod eich cwrs gradd cyfan, a bydd yn gallu eich helpu gydag unrhyw broblemau neu ymholiadau, boed nhw'n faterion academaidd neu bersonol. Mae croeso i chi gysylltu â'ch tiwtor personol ar unrhyw adeg os bydd angen cymorth neu gyngor arnoch.

Gofynion Mynediad Nodweddiadol

Tariff UCAS 128 - 120

Safon Uwch ABB-BBB with B in Biology or Human Biology

Gofynion TGAU (o leiaf gradd C/4):
English or Welsh, Mathematics and a Science subject

Diploma Cenedlaethol BTEC:
BTEC not accepted for this scheme

Bagloriaeth Ryngwladol:
32-30 points overall with 6 points in Biology at Higher Level

Bagloriaeth Ewropeaidd:
75% overall with 7 in a relevant science

Mae'r Brifysgol yn croesawu ceisiadau israddedig gan fyfyrwyr sy'n astudio'r Diploma Mynediad i Addysg Uwch neu gymwysterau lefel T, ar yr amod eu bod yn cyflawni'r canlyniadau perthnasol o ran cynnwys y pwnc a'r dysgu. Ni allwn dderbyn Diplomâu Mynediad i Addysg Uwch na lefelau T fel cymhwyster cyffredinol ar gyfer pob cwrs gradd israddedig.
Mae ein polisi derbyn cynhwysol yn rhoi gwerth ar ehangder yn ogystal â dyfnder yr astudio. Dewisir ymgeiswyr ar sail eu teilyngdod eu hunain a gall cynigion amrywio. Os hoffech wirio a yw eich cymwysterau yn gymwys cyn cyflwyno cais, cysylltwch â'r Swyddfa Derbyn Israddedigion am gyngor ac arweiniad.

Yn ôl i'r brig

|