MBiol Biocemeg Cod C709
Ymgeisio NawrPrif Ffeithiau
C709-
Tariff UCAS
120 - 128
-
Hyd y Cwrs
4 Blwyddyn
-
Cyfrwng Cymraeg
19%
Manylion pellach ynglŷn â'r gofynion mynediad
Ymgeisio NawrOs ydych yn dymuno astudio Biocemeg, mae'r cwrs pedair blynedd cyffrous hwn yn ddelfrydol i chi. Mae'n galluogi myfyrwyr i integreiddio tair blynedd o astudio israddedig mewn Biocemeg gyda blwyddyn arall o astudio ar lefel uwchraddedig, gan arwain at gymhwyster MBiol (Biocemeg). Mae'r cwrs yn ddelfrydol os ydych yn dyheu am yrfa fel gwyddonydd ymchwil mewn Biocemeg neu'n dymuno gwthio eich gwybodaeth Biocemeg i lefel uwch.
- Cwrs pedair blynedd integredig sy'n arwain at gymhwyster uwchraddedig
- Delfrydol ar gyfer myfyrwyr sy'n dymuno datblygu i lefelau academaidd uwch
- Prosiect ymchwil unigol sy'n elfen bwysig o'r flwyddyn olaf
- Mae'r cwrs yn caniatáu i fyfyrwyr gael mynediad at bedair blynedd o gyllid myfyrwyr.
Bodlonrwydd Myfyrwyr Cyffredinol a Chanlyniadau Cyflogadwyedd
95% o’r myfyrwyr yn cytuno bod y staff yn esbonio pethau'n dda (ACF 2020).
Ymhlith y 15 uchaf yn y DU am Ansawdd y Dysgu a Phrofiad Myfyrwyr ym maes y Gwyddorau Biolegol (Canllaw Prifysgolion Da y 'Times' a'r 'Sunday Times' 2019).
98% o’n graddedigion mewn gwaith a/neu astudiaethau pellach o fewn chwe mis ar ôl graddio, 3% yn uwch na graddedigion y Gwyddorau Biolegol yn genedlaethol, (HESA 2018*)
Trosolwg
Modiwlau
Cyflogadwyedd
Dysgu ac Addysgu
Gofynion Mynediad Nodweddiadol
Tariff UCAS 120 - 128
Lefel A ABB-BBB with B in Chemistry and B in Biology or Human Biology
Gofynion TGAU (o leiaf gradd C/4):
English or Welsh, Mathematics and a Science subject
Diploma Cenedlaethol BTEC:
BTEC not accepted for this scheme
Bagloriaeth Ryngwladol:
32-30 points overall with 6 points in Chemistry and 6 points in Biology at Higher Level
Bagloriaeth Ewropeaidd:
75% overall with 7 in a relevant science
Mae’r Brifysgol yn croesawu ceisiadau gan fyfyrwyr sy’n astudio am Ddiploma Mynediad i Addysg Uwch. Mae ein polisi derbyn cynhwysol yn rhoi gwerth ar ehangder yn ogystal â dyfnder astudio. Dewisir ymgeiswyr ar sail eu teilyngdod eu hunain, a gall cynigion amrywio. Os ydych yn astudio am gymhwyster nad yw wedi’i restru ar y dudalen hon, cysylltwch â’r Swyddfa Derbyn Israddedigion i gael cyngor pellach. Mae manylion am gymwysterau gwahanol wledydd a dderbynnir yn y Brifysgol i’w gweld ar ein tudalennau gwlad-benodol i gael manylion am y cymwysterau rhyngwladol yr ydym yn eu derbyn. I gael rhagor o wybodaeth, cysylltwch ag ug-admissions@aber.ac.uk
|