BA

Astudiaethau'r Cyfryngau a Chyfathrebu

Mae'r radd BA yn Astudiaethau'r Cyfryngau a Chyfathrebu ym Mhrifysgol Aberystwyth yn archwilio pwy sy'n rheoli ac yn berchen ar ein cyfryngau, sut caiff cynnyrch y cyfryngau ei gynhyrchu, a pha fath o effaith mae'r cyfryngau'n ei chael arnon ni fel cynulleidfaoedd. Byddwn ni hefyd yn eich cyflwyno i rai o brif ddamcaniaethwyr y cyfryngau a chyfathrebu, a byddwn yn ystyried sut gallwch gymhwyso eu ffordd nhw o feddwl i'ch astudiaeth o'r cyfryngau a chyfathrebu. Bydd y radd hon yn caniatáu i chi astudio'r canlynol yn fanwl: dilynwyr y cyfryngau, hysbysebu, dadansoddi'r newyddion, dylunio gwefannau, diwylliant digidol, plant a'r cyfryngau, cymdeithas goruchwyliaeth, iaith a'r cyfryngau, hanes y cyfryngau a pholisi'r cyfryngau, ynghyd â chael profiad ymarferol ym maes y cyfryngau arbrofol a chynhyrchu aml-lwyfan. Bydd eich tair blynedd yn astudio yn ddynamig, yn fywiog ac yn ysgogol. Darllenwch isod i ddysgu mwy!

Trosolwg o'r Cwrs

Pam astudio Astudiaethau'r Cyfryngau a Chyfathrebu ym Mhrifysgol Aberystwyth?

  • Byddwch yn cael eich addysgu a'ch mentora gan staff sy'n arbenigwyr ym maes y Cyfryngau a Chyfathrebu, sydd â chysylltiadau ardderchog â'r diwydiant, sy'n cyfrannu at drafodaethau cenedlaethol ar y cyfryngau, ac sy'n ymchwilwyr blaengar yn y maes.
  • Bydd gan fyfyrwyr ar y cwrs hwn ddealltwriaeth ddyfnach o gymdeithaseg, seicoleg, astudiaethau diwylliannol, hanes, athroniaeth, ieithyddiaeth a marchnata.
  • Bydd myfyrwyr yn cael eu haddysgu mewn cyfleusterau addysgu bywiog, modern a dynamig, sy'n cynnwys labordy cyfrifiaduron newydd sbon wedi'i ddylunio i adlewyrchu diwydiant y cyfryngau digidol, ystafelloedd golygu a chynhyrchu digidol.
  • Mae ein cysylltiadau â'r diwydiant wrth galon yr adran, ac mae swyddfa ranbarthol a safle darlledu BBC Cymru wrth y fynedfa.
  • Gall myfyrwyr fanteisio ar fynediad llawn at Archif Sgrin a Sain Cymru, sydd dafliad carreg o gampws Penglais.
Ein Staff

Mae holl staff academaidd yr Adran Theatr, Ffilm a Theledu yn gwneud gwaith ymchwil a/neu'n ymwneud â phrosiectau Trosglwyddo Gwybodaeth, ac mae ganddynt naill ai gymwysterau academaidd perthnasol ar lefel doethuriaeth neu brofiad proffesiynol ac arbenigedd cyfatebol.

Modiwlau

Noder: Y modiwlau a restrir isod yw'r modiwlau y bwriedir eu cyflwyno ar hyn o bryd yn ystod y flwyddyn academaidd nesaf ac mae'n bosibl y gallant newid. Maent wedi'u cynnwys yma i roi syniad o strwythur y cwrs.

Modiwlau Craidd

Teitl y Modiwl Cod y Modiwl Gwerth Credyd
Making Short Films 1 FM11420 20
Studying Communication FM10720 20
Studying Media FM10620 20

Opsiynau

Teitl y Modiwl Cod y Modiwl Gwerth Credyd
Making Short Films 2 FM11240 40
Movements in Film History FM11120 20
Studying Film FM10120 20
Studying Television FM10220 20

Modiwlau Craidd

Teitl y Modiwl Cod y Modiwl Gwerth Credyd

Opsiynau

Teitl y Modiwl Cod y Modiwl Gwerth Credyd
Advertising FM21920 20
Digital Culture FM25520 20
LGBT Screens FM20120 20
Media, Politics and Power FM22620 20
Stardom and Celebrity FM21520 20
Television Genre FM20620 20
Youth Cultures FM22320 20
Creative Documentary FM26520 20
Creative Studio FM25420 20
Work in the Media Industries FM23820 20

Modiwlau Craidd

Teitl y Modiwl Cod y Modiwl Gwerth Credyd

Opsiynau

Teitl y Modiwl Cod y Modiwl Gwerth Credyd
Contemporary Film and the Break-Up of Britain FM30020 20
Contemporary TV Drama FM30320 20
Cult Cinema: Texts, Histories and Audiences FM38220 20
Experimental Cinema FM34520 20
Gender and the Media FM38320 20
Independent Research Project FM36040 40
Media Law FM36720 20
Media Semiotics FM34120 20
Television History FM32620 20
Videogame Theories FM38420 20
Documentary Production FM33740 40
Experimental Media Production FM33540 40

Cyflogadwyedd

Pa gyfleoedd sydd ar gael i fi?

Mae llawer o'n graddedigion wedi dilyn gyrfaoedd sy'n cynnwys:

  • y cyfryngau darlledu
  • rheolwyr llawr
  • gweithredwyr camera
  • cynhyrchwyr a chyfarwyddwyr
  • marchnata
  • cynllunio'r cyfryngau
  • addysg
  • cysylltiadau cyhoeddus.

Beth fydda i'n ei gael o fy ngradd?

Mae cyflogadwyedd wrth galon ein haddysgu. Rydyn ni'n annog myfyrwyr drwy wneud y canlynol:

  • gwahodd siaradwyr gwadd i'n campws
  • cymryd rhan mewn gweithgareddau gan BAFTA a chyrff eraill y cyfryngau
  • cael profiad gwaith gyda'r BBC, Tinopolis a sefydliadau eraill yn y cyfryngau.

Ar ôl cwblhau'r radd hon, mae ein myfyrwyr: 

  • yn gyfathrebwyr effeithiol
  • yn gallu gweithio'n annibynnol ac fel rhan o dîm
  • wedi cael profiad gyda chyfleusterau ac offer proffesiynol, gan gynnwys offer sain a chamerâu proffesiynol, meddalwedd safonol y diwydiant, stiwdio deledu broffesiynol, labordy golygu, ystafelloedd ôl-gynhyrchu, sinema, ystafelloedd graddio a throsleisio, tair stiwdio ymarfer, a chyfleusterau gwisgoedd.

Pa gyfleoedd sydd ar gael am brofiad gwaith wrth astudio? 

Cliciwch yma i ddysgu am y gwahanol gyfleoedd y mae tîm Gyrfaoedd Prifysgol Aberystwyth yn eu cynnig. 

Gallwch wella'ch cyfleoedd cyflogaeth gyda GO Wales a BMG (y cynllun Blwyddyn mewn Gwaith) sy'n cael eu rheoli gan ein hadran Gyrfaoedd. 

Dysgu ac Addysgu

Beth fydda i'n ei ddysgu? 

Bydd y crynodeb isod yn rhoi darlun i chi o'r hyn y gallech ei astudio yn ystod y cynllun gradd tair blynedd.

Yn ystod eich blwyddyn gyntaf, gallech archwilio:

  • y berthynas rhwng ffurfiau'r cyfryngau, sefydliadau'r cyfryngau a chymdeithas
  • y cysylltiadau rhwng theori sefydledig y cyfryngau ac ymagweddau cyfoes tuag at y cyfryngau newydd
  • y cysylltiadau rhwng trafodaethau clasurol a chyfoes ar gyfathrebu
  • yr ymchwil sy'n ymwneud â ffyrdd o gyfathrebu rhwng y radio, y wasg, hysbysebu, technolegau ffonau symudol a'r rhyngrwyd
  • cysyniadau a thechnegau allweddol ar gyfer cynhyrchu'r cyfryngau, cyfarwyddo, sinematograffiaeth, golygu.

Yn ystod eich ail flwyddyn, gallech ddarganfod: 

  • hanes, traddodiadau a rolau penodol i bob cyfrwng
  • cynhyrchu teledu
  • hanes darlledu
  • cynhyrchu cyfryngau arbrofol
  • newyddiaduraeth
  • hysbysebu
  • gemau fideo
  • sgriptio.

Yn ystod eich blwyddyn olaf, gallech ddewis:

  • cyflawni ymchwil annibynnol yn arwain at draethawd hir 
  • cynhyrchu ffilmiau dogfennol neu arbrofol 
  • astudio gemau fideo, teledu, rhywedd, cyfraith y cyfryngau, semioteg neu sinema arbrofol.

Sut bydda i'n cael fy addysgu?

Addysgir ein rhaglen drwy weithdy-ddarlithoedd, gan ganiatáu ar gyfer rhyngweithio ardderchog ac ymgysylltu gweithredol. Yn ogystal, rydym yn darparu'r rhaglen hon ar ffurf seminarau, gwaith prosiect mewn grwpiau, dangosiadau ac arddangosiadau technegol.

Byddwch yn cael eich asesu ar ffurf:

  • prosiectau fideo a ffilm, yn unigol ac mewn grŵp
  • prosiectau ymchwil
  • dyddiaduron cynhyrchu, cofnodion myfyriol, a blogiau
  • cyflwyniadau a chynigion mewn seminarau.

Rhagor o wybodaeth

Bydd tiwtor personol yn cael ei ddynodi i chi dros gyfnod eich cwrs gradd cyfan, a bydd yn gallu eich helpu gydag unrhyw broblemau neu ymholiadau, boed nhw'n faterion academaidd neu bersonol. Mae croeso i chi gysylltu â'ch tiwtor personol ar unrhyw adeg os bydd angen cymorth neu gyngor arnoch.

Byddwch hefyd yn cael cyfle i gwblhau Cynllun Datblygu Personol (CDP) yn Aberystwyth. Mae hon yn broses strwythuredig o hunanwerthuso, myfyrio a chynllunio, a fydd yn eich galluogi i olrhain eich datblygiad personol, academaidd a phroffesiynol drwy gydol eich cyfnod yn y brifysgol. Drwy gofnodi eich perfformiad academaidd ac amlygu'r sgiliau sydd gennych yn barod a'r sgiliau y bydd eu hangen arnoch ar gyfer cyflogadwyedd yn y dyfodol, bydd y portffolio CDP yn rhoi'r offer angenrheidiol i chi gynllunio'n effeithiol, datblygu dulliau llwyddiannus o astudio, ac ystyried eich dewisiadau gyrfaol a'ch dyheadau ar gyfer y dyfodol.

Barn ein Myfyrwyr

Dewisais i'r cwrs yma gan fod diddordeb wedi bod gen i erioed yn y cyfryngau byd-eang a chysylltiadau rhyngwladol. Mae astudio'r Cyfryngau ym Mhrifysgol Aberystwyth wedi datblygu fy nealltwriaeth o'r meysydd diddorol yma. Diolch i'r rhaglen gymhleth yma, sy'n trafod pynciau amrywiol yn ymwneud â'r cyfryngau a'r byd cyfathrebu, dw i wedi gwella fy sgiliau ym maes gohebu a hysbysebu. Aeth yr oriau hir a dreuliwyd yn ymchwilio ar gyfer traethodau ddim yn wastraff. Roedd modiwlau fel Hysbysebu yn hollol anhygoel o ran ehangu fy nealltwriaeth o'r maes cyffrous yma, a datblygu fy nghreadigrwydd wrth gynllunio ymgyrchoedd hysbysebu. Roedd y cwrs yma'n bleser, yn hytrach na dyletswydd, i fi. Mae'n berffaith ar gyfer pobl sy'n cael 100 syniad y funud. Mae'r agwedd tuag at fyfyrwyr yn anghonfensiynol yma - meddwl yn glyfar sy'n bwysig! Agata Monika Kielek

Mae cyfathrebu yn gwrs diddorol, er ei fod yn swnio braidd yn ddiflas efallai. Drwy'r darlithoedd rydyn ni'n siarad am bethau sy'n gwneud i chi glicio'ch bysedd a dweud: 'Roedd hynna mor amlwg, ond eto doedd neb yn ymwybodol ohono'. Dw i wrth fy modd â'r ffaith bod modd i ni ddadansoddi'r ffordd mae ein llygaid yn symud pan gaiff cwestiwn am lun ei ofyn i ni. Am beth mae'r llygad yn chwilio pan mae rhywun yn gofyn: 'Pryd gafodd y llun yma ei dynnu?'. Mae'n swnio'n syml, ond mae'n ffordd hollol newydd o weld pethau cyffredin. Ar y cyfan, mae'r cwrs yn anhygoel, mae'r athro'n anhygoel ac yn gwneud popeth yn rhyngweithiol. Fel myfyriwr rhyngwladol, ro'n i'n gallu ei ddeall a'r neges roedd e'n ceisio'i chyfleu i'w fyfyrwyr bob wythnos. Gallwn i alw'r cwrs yma'n syml, ond yn gymhleth; neu mewn un gair, hyfryd. Andrada Florentina Dumitrescu

Gofynion Mynediad Nodweddiadol

Tariff UCAS 120 - 96

Safon Uwch BBB-CCC

Gofynion TGAU (o leiaf gradd C/4):
English or Welsh

Diploma Cenedlaethol BTEC:
DDM-DMM

Bagloriaeth Ryngwladol:
30-26

Bagloriaeth Ewropeaidd:
75%-65% overall

Mae’r Brifysgol yn croesawu ceisiadau gan fyfyrwyr sy’n astudio am Ddiploma Mynediad i Addysg Uwch. Mae ein polisi derbyn cynhwysol yn rhoi gwerth ar ehangder yn ogystal â dyfnder astudio. Dewisir ymgeiswyr ar sail eu teilyngdod eu hunain, a gall cynigion amrywio. Os ydych yn astudio am gymhwyster nad yw wedi’i restru ar y dudalen hon, cysylltwch â’r Swyddfa Derbyn Israddedigion i gael cyngor pellach. Mae manylion am gymwysterau gwahanol wledydd a dderbynnir yn y Brifysgol i’w gweld ar ein tudalennau gwlad-benodol i gael manylion am y cymwysterau rhyngwladol yr ydym yn eu derbyn. I gael rhagor o wybodaeth, cysylltwch ag ug-admissions@aber.ac.uk

Yn ôl i'r brig

|