BA

Cyfryngau a Llenyddiaeth Saesneg

BA Cyfryngau a Llenyddiaeth Saesneg Cod P3Q3 Dewch i Ddiwrnod Agored Dewch i Ddiwrnod Agored

Ymgeisio Nawr

Mae'r BA mewn Cyfryngau a Llenyddiaeth Saesneg ym Mhrifysgol Aberystwyth yn eich galluogi i ddarganfod amrywiaeth eang o destunau a diwylliannau llenyddol, gyda dewis gwych o'r cyfnod canoloesol cynnar hyd heddiw. Yn ogystal â hyn, bydd yr elfen Cyfryngau ar y cwrs hwn yn rhoi cyfle i chi ehangu eich gwybodaeth ac ystyried pwy sy'n rheoli ac yn berchen ar ein cyfryngau, sut y caiff y cynnwys ei gynhyrchu a pha fath o effaith y mae'r cyfryngau’n ei chael ar y cynulleidfaoedd. Bydd y cynllun gradd Cyfryngau a Llenyddiaeth Saesneg yn rhoi sylfaen gadarn i chi ddatblygu eich grym mynegiant, mireinio eich sgiliau meddwl beirniadol a sefydlu dealltwriaeth arbenigol a sgiliau ymchwil - oll wedi'u gwreiddio mewn dealltwriaeth fawl ac eang o hanes llenyddiaeth a chyd-destun diwylliannol.

Trosolwg o'r Cwrs

Pam astudio BA Cyfryngau a Llenyddiaeth Saesneg ym Mhrifysgol Aberystwyth? 

Y cwrs  

  • Wedi'i addysgu gan ddwy adran (yr Adran Astudiaethau Theatr, Ffilm a Theledu a'r Adran Saesneg ac Ysgrifennu Creadigol) byddwch yn cael cyfle i astudio'r canlynol yn fanwl iawn: hysbysebu, dadansoddi newyddion, dylunio gwefannau, diwylliant digidol, cymdeithas gwyliadwriaeth, rhywedd a'r cyfryngau, polisi a hanes cyfryngau ynghyd â phrofiad o arferion creadigol mewn cynhyrchu aml-blatfform a chyfryngau arbrofol.  
  • Bydd elfen Llenyddiaeth Saesneg y cwrs hwn yn galluogi i chi ymgysylltu ag amrywiaeth o ddulliau o ymdrin â llenyddiaeth a hanes diwylliannol, gan gyfuno meddwl beirniadol ag ysgolheictod. Yn ystod y cwrs hwn, bydd y gwahanol fodiwlau craidd a dewisol yn rhoi cipolwg i chi ar ddamcaniaeth lenyddol, syniadau athronyddol a chysyniadol sy'n herio, yn codi cwestiynau ac yn taflu goleuni ar y modd yr ydym ni’n darllen.  
  • Bydd y modiwlau craidd a dewisol amrywiol sydd ar gael i chi yn ystod y cwrs hwn yn rhoi dealltwriaeth ddyfnach i chi o gymdeithaseg, seicoleg, astudiaethau diwylliannol, hanes, athroniaeth, ieithyddiaeth a marchnata.  

 Adnoddau  

  •  Ym Mhrifysgol Aberystwyth, mae ein myfyrwyr yn elwa o fod dafliad carreg o Lyfrgell Genedlaethol Cymru. Llyfrgell hawlfraint yw’r Llyfrgell Genedlaethol sy'n cynnwys pob llyfr sydd wedi'i gyhoeddi yn y Deyrnas Unedig. Yn ogystal, mae hefyd yn gartref i Archif Genedlaethol Sgrin a Sain Cymru a fydd yn adnodd gwerthfawr i'ch prosiectau ymchwil yn eich blynyddoedd olaf.
  • • Ar gampws y Brifysgol, mae ein cyfleusterau'n cynnwys Llyfrgell Hugh Owen sydd ar agor 24/7, Undeb y Myfyrwyr, y Ganolfan Chwaraeon a Chanolfan y Celfyddydau sydd â chysylltiadau agos â'r adran Astudiaethau Theatr, Ffilm a Theledu a'r adran Saesneg ac Ysgrifennu Creadigol. Mae'r llu o gyfleusterau ar gampws Penglais yn sicrhau bod eich profiad myfyriwr yn gofiadwy ac yn eithriadol.   
  • Mae gan yr Adran Astudiaethau Theatr, Ffilm a Theledu gysylltiadau cryf â diwydiannau cyfryngau allanol, gan gynnwys BBC Cymru sydd â’i swyddfa rhanbarthol yn yr Adran, Boom Cymru, Avanti, Arad Goch a Chanolfan Gelfyddydau Canolbarth Cymru. Mae'r Adran ei hun yn fodern, yn fywiog ac mae ganddi'r holl gyfleusterau addysgu diweddaraf sydd eu hangen ar fyfyrwyr y cyfryngau, mae hyn yn cynnwys labordy cyfrifiaduron newydd sbon wedi'i gynllunio i gymathu diwydiant y cyfryngau digidol, ystafelloedd cynhyrchu a golygu digidol, sinema gwylio, gofodau dysgu modern ac astudiaethau teledu.   
  • Mae'r Adran Saesneg ac Ysgrifennu Creadigol yn rhoi pob cyfle i chi ddatblygu a dod yn awdur ffyniannus. Mae eu cysylltiadau â New Welsh Review, cylchgrawn llenyddol mwyaf blaenllaw Cymru, yn galluogi myfyrwyr i gyfrannu at eu cyhoeddiadau misol a blynyddol. Yn ogystal, mae pob myfyriwr y flwyddyn olaf yn cymryd rhan mewn encil ysgrifennu mewn tŷ gwledig yng Nghanolbarth Cymru. Mae’r encil ysgrifennu yn gyfle anhygoel i dreulio amser gyda chyd-fyfyrwyr a staff, gan ddatblygu eich prosiectau a'ch traethodau hir, mewn lleoliad gwledig prydferth.  
Ein Staff

Mae holl staff academaidd yr Adran Theatr, Ffilm a Theledu yn gwneud gwaith ymchwil a/neu'n ymwneud â phrosiectau Trosglwyddo Gwybodaeth, ac mae ganddynt naill ai gymwysterau academaidd perthnasol ar lefel doethuriaeth neu brofiad proffesiynol ac arbenigedd cyfatebol.

Mae'r holl staff academaidd yn yr Adran Saesneg ac Ysgrifennu Creadigol yn ysgolheigion ac arbenigwyr gweithgar yn eu meysydd. Maent naill ai'n gymwys i lefel PhD neu mae ganddynt brofiad cymesur.  Mae gan ein darlithwyr naill ai gymhwyster dysgu Addysg Uwch neu'n maent yn gweithio tuag ato, ac mae gan y rhan fwyaf o’r staff academaidd hefyd Gymrodoriaethau gyda’r Academi Addysg Uwch.  

Modiwlau Dechrau Medi - 2025

Noder: Y modiwlau a restrir isod yw'r modiwlau y bwriedir eu cyflwyno ar hyn o bryd yn ystod y flwyddyn academaidd nesaf ac mae'n bosibl y gallant newid. Maent wedi'u cynnwys yma i roi syniad o strwythur y cwrs.

Gyrfaoedd

Pa gyfleoedd sydd ar gael i mi?

Mae llawer o'n graddedigion wedi dod o hyd i lwybrau gyrfa sy'n cynnwys:

  • Cyfryngau darlledu;
  • Rheolwyr llawr;
  • Gweithredwyr camera;
  • Cyfarwyddwyr a chynhyrchwyr;
  • Marchnata;
  • Cynllunio Cyfryngau;
  • Addysg;
  • Cysylltiadau cyhoeddus. 

Beth fydda i’n ei gael o fy ngradd?

  • Mae cyflogadwyedd wrth wraidd ein dysgu. Rydym yn annog ein myfyrwyr drwy wneud y pethau canlynol:
  • Gwahodd siaradwyr gwadd i'n campws;
  • Trefnu cyfleoedd profiad gwaith gyda'r BBC, Fiction Factory a Boom Pictures;

Ar ôl cwblhau'r radd hon, bydd ein myfyrwyr yn:

  • Gyfathrebwyr effeithiol;
  • Gallu gweithio'n annibynnol ac yn rhan o dîm;
  • Profiad o ddefnyddio offer diwydiannol megis stiwdio deledu ddigidol 3 chamera diffiniad uchel, dros 40 o gamerâu fideo digidol diffiniad uchel a chyfleusterau taflunio digidol a fideo.

Pa gyfleoedd profiad gwaith a geir wrth astudio? 

Cliciwch yma i ddysgu am y gwahanol gyfleoedd y mae tîm Gyrfaoedd Prifysgol Aberystwyth yn eu cynnig. 

Gallwch wella'ch cyfleoedd cyflogaeth gyda GO Wales a BMG (y cynllun Blwyddyn mewn Gwaith) sy'n cael eu rheoli gan ein hadran Gyrfaoedd. 

Dysgu ac Addysgu

Beth fydda i’n ei ddysgu? 

Bydd yr wybodaeth isod yn rhoi darlun i chi o'r hyn y gallech fod yn ei astudio yn ystod y cynllun gradd tair blynedd.

Yn eich blwyddyn gyntaf, gallech astudio:

  • Y berthynas rhwng ffurfiau’r cyfryngau, sefydliadau'r cyfryngau a chymdeithas;
  • Rhai ffigurau allweddol o hanes llenyddiaeth (o Shakespeare i’r chwiorydd Brontë)
  • Technegau newydd ar gyfer dadansoddi testunau llenyddol
  • Barddoniaeth, rhyddiaith, drama, Llenyddiaeth Americanaidd, addasiadau, llenyddiaeth glasurol, ysgrifennu cyfoes, testunau cyfryngol a llawer mwy.
  • Y cysylltiadau rhwng damcaniaethau sefydledig ym maes y cyfryngau ac ymagweddau cyfoes tuag at y cyfryngau newydd;
  • Y cysylltiadau rhwng trafodaethau clasurol a chyfoes ym maes cyfathrebu;
  • Yr ymchwil sy'n ymwneud â ffyrdd o gyfathrebu rhwng radio, y wasg, hysbysebu, technolegau ffonau symudol a'r rhyngrwyd;
  • Cysyniadau a thechnegau allweddol ar gyfer cynhyrchu cyfryngau, cyfarwyddo, sinematograffeg, a golygu.

Yn eich ail flwyddyn, gallech ddarganfod:

  • Hanes, traddodiadau a rolau penodol i bob cyfrwng;
  • Ystod o destunau craidd dethol o'r cyfnod canoloesol hyd at yr unfed ganrif ar hugain
  • Nifer o bynciau arbenigol o'ch dewis chi (gallai'r rhain ganolbwyntio ar genre penodol (fel ffuglen trosedd), cyfnod hanesyddol (fel oes Fictoria), neu thema (fel "lle").
  • Cynhyrchu teledu;
  • Hanes teledu;
  • Amrywiaeth o ffyrdd a dulliau damcaniaethol o ddadansoddi testunau;
  • Cynhyrchu cyfryngau arbrofol;
  • Dylunio gwefannau;
  • Technolegau gwyliadwriaeth;
  • Newyddiaduriaeth;
  • Hysbysebu;
  • Sgriptio.

Yn eich blwyddyn olaf fe allech gael y cyfle i: 

  • Gynhyrchu, cyfarwyddo a golygu fideo byr a allai fod yn arbrofol, yn ddogfennol neu'n ffuglen naratif
  • Damcaniaeth lenyddol a chymhwyso safbwyntiau damcaniaethol i ddadansoddi llenyddol
  • Gwaith ysgrifennu ac ymchwil annibynnol estynedig yn eich prosiect traethawd hir blwyddyn olaf (ar bwnc a ddewisir ac a ddiffinnir gennych chi)
  • Eich arbenigeddau eich hun wedi’u dewis o blith ystod amrywiol o fodiwlau dewisol a ddysgir gan ymchwilwyr yn y meysydd hynny. Mae ein modiwlau dewisol yn cynnwys pynciau megis drama yn oes Elizabeth, y stori ysbryd, ffuglen cwiar, ysgrifennu i blant, Rhamantiaeth, a llawer mwy.    

Yn ystod eich blwyddyn olaf cewch gyfle i gymryd rhan mewn encil ysgrifennu mewn tŷ gwledig yng nghanolbarth Cymru - cyfle anhygoel i dreulio amser gyda chyd-fyfyrwyr a staff, gan ddatblygu eich prosiectau a'ch traethodau hir, mewn lleoliad gwledig prydferth.

  • Bydd y gwaith gorau yn cael ei gyflwyno ar gyfer Gwobrau Fideo Myfyrwyr y Gymdeithas Deledu Frenhinol.

Sut fydda i'n cael fy nysgu?

Addysgir ein rhaglen drwy weithdy-ddarlithoedd sy’n caniatáu i’r myfyrwyr gymryd rhan yn weithredol a rhyngweithio cymaint â phosib. Yn ogystal, rydym yn cyflwyno’r rhaglen hon ar ffurf seminarau, gwaith prosiect mewn grwpiau, dangosiadau ac arddangosiadau technegol.

Cewch eich asesu ar ffurf:

  • Cynyrchiadau grŵp;
  • Prosiectau ffilm a fideo unigol;
  • Prosiectau ymchwil;
  • Dadansoddiadau ymarferol;
  • Dyddiaduron cynhyrchu;
  • Sgriptio creadigol;
  • Traethodau ffurfiol;
  • Arholiadau.

Rhagor o Wybodaeth

Wrth i chi astudio, byddwch yn datblygu ystod o sgiliau a fydd yn fanteisiol i chi mewn astudiaethau pellach neu unrhyw weithle i raddedigion. Byddwch yn dysgu i: ddefnyddio technegau beirniadol amrywiol wrth drin testunau; datblygu ymarfer myfyriol mewn darllen ac ysgrifennu; mynegi dadansoddiadau beirniadol manwl o'ch pwnc; ac ymateb i unrhyw dasg gyda chreadigrwydd, steil a dawn.

Bydd tiwtor personol yn cael ei neilltuo ar eich cyfer a fydd yn eich helpu ag unrhyw broblemau neu ymholiadau, boed academaidd neu fugeiliol. Bydd eich tiwtor personol hefyd yn gyfrifol am gyflwyno tiwtorialau a fydd yn eich helpu i ddatblygu sgiliau allweddol. Byddwch hefyd yn cael cyfle i gwblhau Cynllun Datblygu Personol (CDP) yn Aberystwyth. Mae hon yn broses strwythuredig o hunanwerthuso, myfyrio, a chynllunio, a fydd yn eich galluogi i olrhain eich datblygiad personol, academaidd a phroffesiynol drwy gydol eich cyfnod yn y brifysgol. Drwy gofnodi eich perfformiad academaidd, ac amlygu'r sgiliau sydd gennych yn barod a'r sgiliau y bydd eu hangen arnoch ar gyfer cyflogadwyedd yn y dyfodol, bydd y portffolio CDP yn rhoi'r offer angenrheidiol i chi gynllunio'n effeithiol, datblygu dulliau llwyddiannus o astudio, ac ystyried eich dewisiadau gyrfaol a'ch dyheadau ar gyfer y dyfodol.

Gofynion Mynediad Nodweddiadol

Tariff UCAS 120 - 104

Safon Uwch BBB-BCC

Gofynion TGAU (o leiaf gradd C/4):
Cymraeg neu Saesneg

Diploma Cenedlaethol BTEC:
DDM-DMM

Bagloriaeth Ryngwladol:
30-28

Bagloriaeth Ewropeaidd:
75%-65%

Mae'r Brifysgol yn croesawu ceisiadau israddedig gan fyfyrwyr sy'n astudio'r Diploma Mynediad i Addysg Uwch neu gymwysterau lefel T, ar yr amod eu bod yn cyflawni'r canlyniadau perthnasol o ran cynnwys y pwnc a'r dysgu. Ni allwn dderbyn Diplomâu Mynediad i Addysg Uwch na lefelau T fel cymhwyster cyffredinol ar gyfer pob cwrs gradd israddedig.
Mae ein polisi derbyn cynhwysol yn rhoi gwerth ar ehangder yn ogystal â dyfnder yr astudio. Dewisir ymgeiswyr ar sail eu teilyngdod eu hunain a gall cynigion amrywio. Os hoffech wirio a yw eich cymwysterau yn gymwys cyn cyflwyno cais, cysylltwch â'r Swyddfa Derbyn Israddedigion am gyngor ac arweiniad.

Yn ôl i'r brig

|