Pam astudio Hanes yr Oesoedd Canol a'r Cyfnod Modern Cynnar ym Mhrifysgol Aberystwyth?
- Mae ein haddysgu yn arloesol, wedi'i seilio ar ymchwil, ac wedi'i gynllunio i'ch hyfforddi chi â sgiliau hanesyddol sy'n cynnwys dehongli, dadansoddi a chyfathrebu; sgiliau sy'n drosglwyddadwy i unrhyw weithle.
- Byddwch yn cael eich addysgu gan arbenigwyr sy'n arbenigo yn hanes yr oesoedd canol a'r cyfnod modern cynnar. Mae rhagor o wybodaeth o dan y tab modiwlau ar y dudalen hon.
- Fel myfyriwr Hanes yn Aberystwyth, gallwch wneud defnydd llawn o'r Llyfrgell Genedlaethol, un o bum llyfrgell hawlfraint gwledydd Prydain ac ystorfa archifau fwyaf blaenllaw Cymru.
- Fel rhan o'ch gradd, bydd gennych gyfle i astudio dramor mewn prifysgol bartner, i gyflawni lleoliadau gwaith yn y sector Treftadaeth, ac i gynllunio ar gyfer eich gyrfa yn y dyfodol.
Ein Staff
Mae gan bob un o ddarlithwyr yr Adran Hanes a Hanes Cymru gymwysterau hyd at safon PhD, ac mae gan y rhan fwyaf hefyd TUAAU.
Beth alla i ei wneud gyda gradd mewn Hanes?
Mae ein graddedigion wedi bod yn llwyddiannus yn sicrhau swyddi mewn llawer o wahanol feysydd, gan gynnwys:
- Addysg
- Ymchwil ac ysgolheictod academaidd
- Curadu a rheoli archifau
- Y Gyfraith
- Cyhoeddi
- Gwleidyddiaeth genedlaethol, ranbarthol a lleol
- Y Gwasanaeth Sifil
- Yr Heddlu
- Y Fyddin
- Y wasg a'r diwydiannau creadigol
- Busnes ac entrepreneuriaeth.
Fel adran, rydym yn falch iawn o'n cynfyfyrwyr nodedig ac uchel eu parch
- Glanmor Williams, Hanesydd
- Alun Lewis, un o feirdd yr Ail Ryfel Byd
- Tim Brain, cyn Brif Gwnstabl Swydd Gaerloyw
- Guto Bebb, Aelod Seneddol
- Berwyn Davies, Pennaeth Swyddfa Addysg Uwch Cymru, Brwsel
- Iwan Griffiths, gohebydd chwaraeon i S4C
Sgyrsiau graddedig a mentora gan gynfyfyrwyr:
Mae Cynllun Mentora Cynfyfyrwyr Aberystwyth yn eich galluogi i gysylltu â chyn-raddedigion Hanes sydd mewn ystod o yrfaoedd, ac sydd ar gael i gynnig gwybodaeth, arweiniad a chefnogaeth am yrfaoedd. Mae'r Adran Hanes a Hanes Cymru hefyd yn trefnu sgyrsiau gan gynfyfyrwyr a siaradwyr eraill yn y sectorau preifat a chyhoeddus ar yrfaoedd, sy'n amrywio o delegyfathrebu i reoli amgueddfeydd.
Cyfleoedd i Astudio Dramor:
Mae gan bob myfyriwr Hanes yn Aberystwyth gyfle i dreulio semester neu ddau yn ystod eu hail flwyddyn yn astudio mewn prifysgol bartner yn Ewrop (cyfnewidfa Erasmus) neu'n bellach na hynny (cyfnewidfa ryngwladol). Bydd hyn yn caniatáu i chi astudio pynciau hanesyddol newydd neu gael arbenigedd pellach yn y pynciau rydych chi'n ymddiddori ynddynt fwyaf. Byddwch hefyd yn datblygu ac yn gallu dangos sgiliau cyflogadwyedd trosglwyddadwy fel hunan-ddibyniaeth, ymwybyddiaeth ddiwylliannol, annibyniaeth a mentergarwch.
Dangosodd arolwg Effaith Erasmus diweddar bod 64% o gyflogwyr yn barnu bod profiad rhyngwladol yn bwysig ar gyfer recriwtio, ac y bydd astudio neu weithio dramor yn cynyddu eich siawns o ddod o hyd i waith hyd at 41% o gymharu â myfyrwyr sydd heb astudio neu weithio dramor.
Lleoliadau gwaith i fyfyrwyr yn y sector treftadaeth
Mae gan ein hadran gysylltiadau cryf gyda'r sector treftadaeth, a phortffolio sefydledig o leoliadau myfyrwyr. Yn y gorffennol, mae myfyrwyr wedi treulio hyd at dair wythnos yn y Llyfrgell Genedlaethol (gan gynnwys cyfleoedd drwy gyfrwng y Gymraeg), Comisiwn Brenhinol Henebion Cymru, a Chymdeithas Hynafiaethwyr Llundain. Mae'r lleoliadau hyn yn cynnig cyfle i gael profiad ymarferol a chipolwg ar y sector treftadaeth, ac maent ar gael i bob myfyriwr ar ein cynlluniau gradd Hanes.
Cynadleddau Hanes Israddedig Gregynog:
Fel rhan o'ch astudiaethau Hanes yn Aberystwyth, byddwch yn cael eich gwahodd i gymryd rhan mewn Cynadleddau Hanes yr Oesoedd Canol, y Cyfnod Modern Cynnar a'r Cyfnod Modern a gynhelir gennym. Cynhelir y cynadleddau deuddydd hyn ym Mhlas Gregynog, lleoliad hanesyddol a hardd yng nghefn gwlad y canolbarth, ac maent wedi'u cynllunio i gyflwyno myfyrwyr israddedig i ymchwil newydd gan staff presennol, myfyrwyr ôl-raddedig a siaradwyr gwadd mewn amgylchedd cyfeillgar ac anffurfiol.
Beth fydda i'n ei ddysgu?
Bydd y crynodeb isod yn rhoi darlun o'r hyn y gallech ei astudio yn ystod y cynllun gradd tair blynedd.
Yn ystod eich tair blynedd yn astudio, byddwch yn datblygu eich diddordebau hanesyddol drwy ddewis modiwlau dewisol o blith yr ystod lawn o feysydd pwnc a addysgir gan ein hadran a'ch sefydliad dramor. Byddwch hefyd yn dysgu ac yn cymhwyso ymagweddau a dulliau ymchwil a fydd yn eich paratoi ar gyfer eich traethawd hir yn y flwyddyn olaf.
Yn eich blwyddyn gyntaf, byddwch yn cael eich cyflwyno i'r canlynol:
- cysyniadau a sgiliau hanesyddol newydd, a chyflwyniad cynhwysfawr i sgiliau astudio lefel prifysgol, drwy'r modiwl Cyflwyno Hanes yn y flwyddyn gyntaf
- themâu hanesyddol newydd a meysydd pwnc o bob rhan o fyd yr Oesoedd Canol a'r Cyfnod Modern Cynnar, drwy'r ystod eang o fodiwlau dewisol ar gyfer Blwyddyn 1.
Yn ystod eich ail flwyddyn, byddwch yn archwilio:
- y ffyrdd y mae ystyr a dulliau o ysgrifennu hanes wedi newid dros amser, drwy ein modiwl craidd Making History
- cipolwg ar grefft yr hanesydd, drwy ddosbarthiadau seminar yn seiliedig ar ymarfer
- pynciau a chyfnodau gwahanol o'n rhestr gynhwysfawr o fodiwlau dewisol Blwyddyn 2.
- Gallech hefyd dreulio semester neu ddau yn astudio dramor mewn prifysgol bartner o'ch dewis.
Yn ystod eich blwyddyn olaf yn ôl yn Aberystwyth, byddwch yn astudio:
- dau fodiwl dewisol o'ch dewis
- Pwnc Arbennig, lle byddwch yn cyflawni ymchwil drylwyr gan ddefnyddio ffynonellau gwreiddiol ac yn ymwneud ag ysgolheictod o'r radd flaenaf
- eich Traethawd Hir Hanes, yn seiliedig ar ymchwil annibynnol gennych chi ar bwnc o'ch dewis, dan oruchwyliaeth hanesydd arbenigol yn yr adran.
Sut bydda i'n cael fy addysgu a fy asesu?
Bydd ein hamrywiaeth eang o ddulliau dysgu, addysgu ac asesu yn eich galluogi i ddatblygu sgiliau ym maes ysgrifennu ffurfiol, cyflwyno mewn grwpiau bach, ffurfio dadleuon gwybodus o dan bwysau amser, cynnal ymchwil annibynnol, a gweithio fel rhan o dîm, gan ddefnyddio adnoddau a llwyfannau digidol cyfoes. Mae'r Adran Hanes a Hanes Cymru hefyd yn cynnal tiwtorialau traethodau unigol ar gyfer yr holl fyfyrwyr – sy'n brin y tu allan i Rydychen a Chaergrawnt – ac mae ganddi system gefnogol o diwtoriaid personol, sy'n darparu cyswllt un i un heb ei ail drwy gydol eich gradd.
Mae astudio Hanes yn Aberystwyth wedi bod yn wych. Mae'r gallu i ddewis modiwlau i weddu i'ch diddordebau wedi fy ngalluogi i ddilyn yn union yr hyn dw i eisiau. Os ydw i'n dymuno astudio Rwsia, galla i wneud hynny. Hefyd, mae gan y staff addysgu gwych gyfoeth o brofiad a dealltwriaeth, ac maen nhw'n darparu addysg ardderchog. Mae'n hawdd iawn mynd atyn nhw, ac maen nhw'n barod i roi'r amser a'r gefnogaeth sydd eu hangen arna i. Galla i ofyn iddyn nhw am gymorth gyda thraethodau a chyngor ar beth i'w ddarllen ac ymchwilio iddo. Mae darllen yn allweddol fel hanesydd, ac mae'r Llyfrgell yn adnodd gwych i gael llyfrau. Mae ganddi bron unrhyw lyfr y byddai ei angen arnoch chi, ac os yw'r llyfr wedi'i dynnu o'r llyfrgell ar y pryd, gallwch fynd i'r Llyfrgell Genedlaethol. Yn ystod fy nwy flynedd yn astudio hanes, dw i heb ddifaru fy newis unwaith, ac wrth fynd i mewn i fy nhrydedd flwyddyn, alla i ddim aros!
Connor Lambert
Beth dw i'n ei garu am astudio Hanes yn Aberystwyth? Popeth! Mae'n gynllun gradd mor dda, gydag ystod eang o fodiwlau i ddewis ohonyn nhw ym mhob blwyddyn astudio. Mae'r tiwtoriaid yn ffantastig, ac maen nhw bob amser yn barod i helpu ac yn wybodus. Mae pawb yn yr adran yn gyfeillgar – y staff a'r myfyrwyr fel ei gilydd – sy'n creu amgylchedd gweithio hyfryd. Mae ganddon ni adnodd anhygoel wrth law, sef y Llyfrgell Genedlaethol, sy'n cynnwys nid yn unig pob llyfr a gyhoeddwyd yng ngwledydd Prydain ers 1911, ond sydd hefyd yn adeilad hardd i astudio ynddo, ac mae ganddo'r olygfa orau un dros holl dre Aberystwyth. Astudio Hanes yn Aberystwyth oedd y penderfyniad gorau wnes i erioed!
Rachel Twomey