MEng

Peirianneg Meddalwedd (gyda blwyddyn integredig mewn diwydiant)

Peirianneg Meddalwedd (gyda blwyddyn integredig mewn diwydiant) Cod G601 Dewch i Ddiwrnod Agored Dewch i Ddiwrnod Agored

Ymgeisio Nawr

Mae'r cwrs Meistr integredig mewn Peirianneg Meddalwedd ym Mhrifysgol Aberystwyth wedi'i achredu gan y Sefydliad Siartredig Technoleg Gwybodaeth (BCS) ac mae'n ymwneud â chynhyrchu systemau meddalwedd mawr, o ansawdd uchel, sydd yn aml yn hirhoedlog.

Yn ogystal â gwella'ch gyrfa, mae'r gwaith yn y maes hwn yn gofyn am nid yn unig dealltwriaeth ddofn o feddalwedd a thechnolegau cysylltiedig, ond hefyd gwerthfawrogiad o'r materion rheoli a phroffesiynol sy'n gysylltiedig â datblygu systemau mawr.

Bydd y flwyddyn integredig mewn diwydiant yn rhoi profiad gwerthfawr i chi y mae cyflogwyr yn chwilio amdano. Bydd cael eich addysgu gan staff sy'n cael eu harwain gan ymchwil, mewn amgylchedd dysgu cefnogol, hefyd yn eich helpu i ddatblygu sgiliau gwerthfawr a throsglwyddadwy ar gyfer eich gyrfa yn y dyfodol.

Trosolwg o'r Cwrs

Ein Staff

Mae gan bron bob un o ddarlithwyr yr Adran Cyfrifiadureg gymwysterau hyd at safon PhD, ac mae gan y gweddill brofiad helaeth ym maes ymchwil neu ddiwydiant. Mae'n rhaid i bob darlithydd newydd ennill cymhwyster TUAAU, ac felly maent yn Gymrodyr Uwch neu'n Gymrodyr o'r Academi Addysg Uwch. Mae'r adran hefyd yn cyflogi nifer o staff arddangos a thiwtoriaid rhan amser a rhai arddangoswyr sy'n fyfyrwyr, wedi’u dewis o blith ein hisraddedigion a'n huwchraddedigion. Mae ein cymrodyr ymchwil a'n cynorthwywyr ymchwil (y rhan fwyaf ohonynt â gradd PhD) hefyd yn gwneud rhywfaint o waith dysgu o bryd i'w gilydd pan fo hynny'n briodol.

Modiwlau Dechrau Medi - 2025

Noder: Y modiwlau a restrir isod yw'r modiwlau y bwriedir eu cyflwyno ar hyn o bryd yn ystod y flwyddyn academaidd nesaf ac mae'n bosibl y gallant newid. Maent wedi'u cynnwys yma i roi syniad o strwythur y cwrs.

Modiwlau Craidd

Teitl y Modiwl Cod y Modiwl Gwerth Credyd
Dylunio Algorithmau a Strwythurau Data CC21120 20
C and C++ CS23820 20
Modelu Data Parhaus CC27020 20
Peirianneg Meddalwedd CC22120 20

Opsiynau

Teitl y Modiwl Cod y Modiwl Gwerth Credyd
Artificial Intelligence CS26520 20
Python Gwyddonol CC24520 20
Robotics and Embedded Systems CS26020 20
Python Gwyddonol CC24520 20

Modiwlau Craidd

Teitl y Modiwl Cod y Modiwl Gwerth Credyd
Sandwich Year CSS0060 60

Modiwlau Craidd

Teitl y Modiwl Cod y Modiwl Gwerth Credyd
Major Project CS39440 40
Mobile Development with Android CS31620 20
Materion Proffesiynol yn y Diwydiant Cyfrifiadura CC38220 20

Modiwlau Craidd

Teitl y Modiwl Cod y Modiwl Gwerth Credyd
Developing Advanced Internet-Based Applications SEM5640 40
Machine Learning for Intelligent Systems CSM6420 20
Internet Technologies CHM5720 20

Opsiynau

Teitl y Modiwl Cod y Modiwl Gwerth Credyd
Computational Intelligence CSM6520 20
Fundamentals of Intelligent Systems CSM6120 20
Research Topics in Computing SEM1020 20
Statistical Concepts, Methods and Tools MAM5120 20
Statistical Techniques for Computational Scientists MAM5220 20

Gyrfaoedd

Mae ein gradd yn eich paratoi ar gyfer amrywiaeth o yrfaoedd:

  • dylunio meddalwedd
  • cyfathrebu a rhwydweithio
  • rhaglenni cyfrifiadurol
  • datblygu'r we
  • rheoli ac ymgynghori technoleg gwybodaeth
  • dadansoddi a datblygu systemau
  • gwerthu a marchnata cyfrifiaduron
  • addysg.

Pa sgiliau bydda i'n eu dysgu o'r radd?

Sgiliau cyflogadwyedd yw gwerthoedd craidd ein gradd.

Fel rhan o'ch gradd, bydd angen i chi gymryd rhan mewn penwythnos preswyl yn y flwyddyn gyntaf lle y byddwch chi a myfyrwyr eraill yn gweithio mewn timau i ddatrys problemau.

Bydd y gweithgaredd hwn yn annog ac yn gwella'r canlynol:

  • sgiliau cyfathrebu
  • sgiliau dadansoddol
  • rheoli amser
  • y gallu i weithio'n annibynnol ac fel rhan o dîm
  • sgiliau trefnu
  • sgiliau gweithredu
  • sgiliau ymchwil
  • sgiliau technegol.

Mae cyfle gan fyfyrwyr sy'n gwneud Blwyddyn mewn Diwydiant i ymuno â phenwythnos preswyl ail flwyddyn sy'n canolbwyntio ar sgiliau i'ch helpu i ddod o hyd i leoliad gwaith gwych. Mae hyn yn cynnwys:

  • sgiliau CV
  • ymarfer ar gyfer cyfweliad
  • rhwydweithio gyda chyflogwyr
  • presenoldeb ar-lein.

Dysgu ac Addysgu

Beth fydda i'n ei ddysgu?

Bydd y crynodeb isod yn rhoi darlun i chi o'r hyn y gallech ei astudio yn ystod y cynllun gradd pum mlynedd.

Yn ystod eich blwyddyn gyntaf, gallech gael eich cyflwyno i'r canlynol:

  • rhaglennu
  • isadeiledd cyfrifiaduron
  • datblygu'r we
  • problemau ac atebion.

Yn ystod eich ail flwyddyn, gallech ddarganfod:

  • C/C ++
  • cronfeydd data
  • cylch oes datblygu meddalwedd (Bydd y modiwl hwn yn eich galluogi i gymryd rôl sy'n bodoli yn y diwydiant hy rheolwr prosiect, dylunydd ac ati, a bydd gofyn i chi gynhyrchu darn o feddalwedd sy'n gweithio, gan ddilyn arferion gorau diweddaraf y diwydiant ar bob cam.)
  • strwythurau data ac algorithmau
  • modiwlau dewisol cyffrous eraill.

Yn eich trydedd flwyddyn, gallech fod yn ymgymryd â'ch lleoliad gwaith, gyda chymorth yr adran. Erbyn diwedd y lleoliad hwn, bydd gennych yr wybodaeth a'r ddealltwriaeth i wneud cyfraniad sylweddol yn y gweithle, a byddwch hefyd yn dychwelyd i'r Brifysgol gydag ymdeimlad cryfach o gymhelliant.

Yn ystod eich pedwaredd flwyddyn, gallech archwilio:

  • technolegau, technegau a phrosesau datblygu ar gyfer adeiladu meddalwedd gweithredol go iawn
  • prosiect unigol, lle byddwch yn datblygu darn o feddalwedd mewn maes sydd o ddiddordeb arbennig i chi
  • amrywiaeth o bynciau dewisol pellach i arbenigo mewn meysydd o'ch dewis.

Yn eich blwyddyn olaf, gallech archwilio neu ymgymryd â'r canlynol:

  • materion presennol ym maes peirianneg meddalwedd
  • dyfeisiau symudol ac apiau
  • y rhyngrwyd a sut mae'n gweithio mewn gwirionedd
  • systemau deallus
  • prosiect rhaglennu grŵp.

Sut bydda i'n cael fy addysgu?

  • Bydd ein staff brwdfrydig yn eich addysgu drwy gyfrwng darlithoedd, seminarau, tiwtorialau, ymarferion a gwaith prosiect unigol/grŵp.
  • Cewch eich asesu drwy gyfuniad o waith cwrs, ymarferion, prosiectau, gweithdai ac arholiadau.
  • Bydd tiwtor personol yn cael ei ddynodi i chi dros gyfnod eich cwrs gradd cyfan, a bydd yn gallu eich helpu gydag unrhyw broblemau neu ymholiadau, boed nhw'n faterion academaidd neu bersonol. Mae croeso i chi gysylltu â'ch tiwtor personol ar unrhyw adeg os bydd angen cymorth neu gyngor arnoch.
  • Byddwch hefyd yn cael cyfle i gwblhau Cynllun Datblygu Personol (CDP) yn Aberystwyth. Mae hon yn broses strwythuredig o hunanwerthuso, myfyrio, a chynllunio, a fydd yn eich galluogi i olrhain eich datblygiad personol, academaidd a phroffesiynol drwy gydol eich cyfnod yn y brifysgol. Drwy gofnodi eich perfformiad academaidd, ac amlygu'r sgiliau sydd gennych yn barod a'r sgiliau y bydd eu hangen arnoch ar gyfer cyflogadwyedd yn y dyfodol, bydd y portffolio CDP yn rhoi'r offer angenrheidiol i chi gynllunio'n effeithiol, datblygu dulliau llwyddiannus o astudio, ac ystyried eich dewisiadau gyrfaol a'ch dyheadau ar gyfer y dyfodol.

Tystiolaeth Myfyrwyr

Dw i wrth fy modd fy mod i'n dysgu'r arferion a'r methodolegau gorau, sef pethau sy'n fy mharatoi i weithio yn fy rôl ddelfrydol fel peiriannydd meddalwedd, ac sy'n gallu cael eu cymhwyso'n uniongyrchol i hynny. Mae cael cyfle i roi cynnig ar beth rydw i wedi'i ddysgu wrth wneud blwyddyn mewn diwydiant wedi bod yn hollol anhygoel, ac wedi profi faint dw i wedi'i ddysgu ers bod yn Aberystwyth! Christopher Michael King

Mae Peirianneg Meddalwedd yn wych! Mae'r cwrs yn llawer mwy nag y byddai rhai pobl yn ei feddwl - mae llawer o bobl anhygoel i ddysgu ganddyn nhw, i fod yn ffrindiau gyda nhw ac i weithio gyda nhw. Mae'r adran yn eich helpu gyda phopeth, o aseiniadau i brosiectau personol; a byddan nhw hyd yn oed yn eich helpu i ddod o hyd i leoliad gwaith am flwyddyn ac i ysgrifennu'r CV perffaith hollbwysig yna. Will Molyneux

Gofynion Mynediad Nodweddiadol

Tariff UCAS 144 - 136

Safon Uwch AAA-AAB

Gofynion TGAU (o leiaf gradd C/4):
Cymraeg neu Saesneg a Mathemateg

Diploma Cenedlaethol BTEC:
DDD-DDM

Bagloriaeth Ryngwladol:
34-32 points overall

Bagloriaeth Ewropeaidd:
80% overall

Mae'r Brifysgol yn croesawu ceisiadau israddedig gan fyfyrwyr sy'n astudio'r Diploma Mynediad i Addysg Uwch neu gymwysterau lefel T, ar yr amod eu bod yn cyflawni'r canlyniadau perthnasol o ran cynnwys y pwnc a'r dysgu. Ni allwn dderbyn Diplomâu Mynediad i Addysg Uwch na lefelau T fel cymhwyster cyffredinol ar gyfer pob cwrs gradd israddedig.
Mae ein polisi derbyn cynhwysol yn rhoi gwerth ar ehangder yn ogystal â dyfnder yr astudio. Dewisir ymgeiswyr ar sail eu teilyngdod eu hunain a gall cynigion amrywio. Os hoffech wirio a yw eich cymwysterau yn gymwys cyn cyflwyno cais, cysylltwch â'r Swyddfa Derbyn Israddedigion am gyngor ac arweiniad.

Yn ôl i'r brig

|