BSc

Nyrsio (Iechyd Meddwl)

Rydych chi'n edrych ar y cwrs hwn ar gyfer Dechrau Medi 2024

Bydd ein rhaglen radd Nyrsio Iechyd Meddwl ym Mhrifysgol Aberystwyth, sydd wedi'i hachredu gan y Cyngor Nyrsio a Bydwreigiaeth, yn rhoi'r sgiliau a'r profiad i chi allu cwrdd ag 

anghenion iechyd y gymdeithas fel y maent yn datblygu, a hynny mewn proffesiwn amrywiol a gwerth chweil. Mae Nyrsio yn yrfa heriol ond boddhaol sy'n gallu newid bywydau, gan gynnwys eich bywyd eich hun. Fel nyrs iechyd meddwl, byddwch yn chwarae eich rhan i wella mynediad at ofal iechyd, lles, cynhwysiant cymdeithasol, ac ansawdd bywyd.

Gan weithio mewn lleoliadau amrywiol, yn cynnwys gwasanaethau arbenigol a chymunedol, yn ogystal ag yng nghartrefi pobl, mae nyrsys iechyd meddwl yn darparu cefnogaeth iechyd penodol i bobl o bob oed.

Ar hyn o bryd, nid yw'r cwrs hwn ar gael i ymgeiswyr rhyngwladol sydd yn byw y tu allan i'r DU fel arfer.

Trosolwg o'r Cwrs

Pam astudio Nyrsio Iechyd Meddwl yn Aberystwyth?

Mae ein staff yn nyrsus cofrestredig ac yn weithwyr iechyd cysylltiedig proffesiynol. Mae llawer ohonynt yn ymarfer yn glinigol yn ogystal. Rhyngddynt, maent yn darparu hyfforddiant trylwyr sy’n cynnwys manylder damcaniaethol, profiad proffesiynol ac arbenigedd ymarferol.

Mae gennym gysylltiadau cryf â phob bwrdd iechyd yng Nghymru (Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr, Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda, Bwrdd Iechyd Addysgu Powys, Bwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe) sy’n golygu y gallwn gynnig cyfleoedd am brofiad gwaith clinigol mewn gwahanol fannau, mewn ardaloedd trefol a gwledig. Yn lleol, mae’r Ysbyty agosaf, Ysbyty Cyffredinol Bronglais, drws nesaf i’r Ganolfan Addysg Iechyd.

Datblygir sgiliau clinigol ac academaidd myfyrwyr o fewn system gefnogol sydd â sylfeini cadarn gan gynnwys tiwtoriaid personol yn y Ganolfan Addysg Gofal Iechyd ynghyd â mentoriaid clinigol ar eich lleoliadau. Caiff y lleoliadau eu hymgyrffori yn y rhaglen i’ch galluogi i ddatblygu’ch sgiliau clinigol. Byddwch yn cael profiad o amrywiaeth o leoliadau clinigol ac mae’n bosibl y bydd angen i chi deithio i ffwrdd o ardal leol Aberystwyth.

Er mwyn datblygu’ch sgiliau ysgrifennu academaidd, myfyrio, meddwl yn feirniadol, a gwneud penderfyniadau, byddwch yn cael eich dysgu mewn grwpiau bach gyda chefnogaeth gan eich tiwtor personol. Yn ategol at hynny, ceir darlithoedd, gweithgareddau ar-lein, tiwtorialau unigol, astudio gydag arweiniad, a dysgu ar sail sgiliau yn Unedau Sgiliau Clinigol y Ganolfan Addysg Gofal Iechyd.

Atgyfnerthir yr addysgu yn y Ganolfan Addysg Gofal Iechyd yn Aberystwyth gan ein Uned Sgiliau Clinigol newydd, sy’n gyfres o ystafelloedd efelychu lle byddwch chi’n gallu dysgu ac ymarfer sgiliau clinigol mewn amgylchedd diogel a chefnogol. Bydd y cyfleusterau, sy’n cynnwys yr ystafelloedd clinigol, yn eich caniatáu i ddefnyddio’ch gwybodaeth ddamcaniaethol mewn modd ymarferol ac mewn amgylchedd sy’n adlewyrchu’r amodau go iawn y byddwch yn cwrdd â nhw pan fyddwch chi ar leoliad gwaith mewn ysbyty neu allan yn y gymuned.

Gallwch astudio 50% o’ch gradd nyrsio drwy gyfrwng y Gymraeg ac mae’n bosibl y byddwch yn gymwys am gymorth ariannol gan y Coleg Cymraeg Cenedlaethol. Cefnogir ein modiwl sy’n seiliedig ar ymarfer gan Arolygwyr Ymarfer ac Aseswyr Ymarfer Cymraeg eu hiaith. Gallwch gwblhau eich asesiadau clinigol drwy gyfrwng y Gymraeg. Os nad ydych chi’n siaradwr Cymraeg ond eich bod yn dymuno dysgu Cymraeg, rydym yn cynnig gwersi Cymraeg yn rhan o’r rhaglen, ar sail sgwrsio elfennol am faterion yn ymwneud ag iechyd.

Os ydych yn fyfyriwr yn y DU ac yn gallu ymrwymo i weithio yng Nghymru am ddwy flynedd ar ôl graddio, mae’n bosibl y gellid talu’ch ffioedd dysgu i gyd drwy Gynllun Bwrsariaeth GIG Cymru, yn ogystal ag arian cynnal a chadw o hyd at £4,491 a chael benthyciad Cyllid Myfyrwyr ar gyfradd ostyngol. 

Mae’n bosibl y bydd myfyrwyr o’r tu allan i’r DU yn gymwys ar gyfer Cynllun Bwrsariaeth GIG Cymru os oes ganddynt y statws fisa angenrheidiol - hynny yw: caniatâd diderfyn i aros, a’u bod wedi bod yn byw yn y DU am 3 blynedd cyn dechrau’r cwrs, fel sy’n ofynnol. Bydd Dinasyddion yr UE sydd wedi ac yn parhau i ddal statws setledig neu gyn-sefydlog yn y DU a Dinasyddion Gwyddeleg yn parhau i fod yn gymwys ar gyfer Cynllun Bwrsariaeth GIG Cymru. Fodd bynnag, er mwyn cadarnhau a ydych yn gymwys i dderbyn y Fwrsariaeth GIG Cymru, ewch i dudalen we Ariannu GIG i wirio eich bod yn gymwys i dderbyn arian cyn gwneud cais.

Ein Staff

Mae gan y rhan fwyaf o staff dysgu Adran Gwyddorau Bywyd gymwysterau hyd at safon PhD ac maent yn ymchwilwyr gweithgar. Hefyd, mae gan staff y cyrsiau galwedigaethol gefndir ym myd diwydiant. Mae yn yr Adran nifer fawr o staff sy'n gwneud ymchwil yn unig ac mae'n bosib y bydd y myfyrwyr yn dod i gysylltiad â hwy.

Modiwlau Dechrau Medi - 2024

Noder: Y modiwlau a restrir isod yw'r modiwlau y bwriedir eu cyflwyno ar hyn o bryd yn ystod y flwyddyn academaidd nesaf ac mae'n bosibl y gallant newid. Maent wedi'u cynnwys yma i roi syniad o strwythur y cwrs.

Modiwlau Craidd

Teitl y Modiwl Cod y Modiwl Gwerth Credyd
Compassionate Leadership and Management NU30620 20
Innovating Practice NU30220 20
Arwain Ymarfer Proffesiynol (Rhan B) NY30560 60
Transition to autonomous practice for Mental Health NU30420 20

Ynglŷn â’r Cwrs Yma

Hyd: 3 blynedd

Gyrfaoedd

Ar ôl graddio, byddwch yn gymwys i wneud cais am statws Nyrs Gofrestredig (Iechyd Meddwl) gyda'r Cyngor Nyrsio a Bydwreigiaeth ac i gofrestru fel nyrs i weithio yn yr Undeb Ewropeaidd a'r Ardal Economaidd Ewropeaidd. Gallwch ddisgwyl cyflog cychwynnol o £25,655 gan godi i £53,219 ar gyfer nyrs staff hynod brofiadol. Gall nyrys arbenigol a rheolwyr practis ennill cyflog o £45,000.

Os ydych yn derbyn cyllid gan Gynllun Bwrsariaeth GIG Cymru bydd yn rhaid i chi ymrwymo i weithio yng Nghymru am ddwy flynedd ar ôl cymhwyso a chofrestru fel nyrs gyda'r Cyngor Nyrsio a Bydwreigiaeth. Caiff y broses hon ei rheoli'n ganolog gan Bartneriaeth Cydwasanaethau GIG Cymru, a bydd y Cynllun Symleiddio i Fyfyrwyr yn sicrhau y byddwch yn cael eich paru â swydd addas o'ch dewis yn y lleoliad a nodwyd gennych

Dysgu ac Addysgu

Yn fyfyriwr amser llawn ar y rhaglen nyrsio tair blynedd, bydd disgwyl ichi gwblhau 37.5 awr o astudio yr wythnos yn ystod wythnosau theori, a 37.5 awr yr wythnos wrth fynychu lleoliadau ymarferol.

Rhennir y rhaglen amser llawn yn gyfartal rhwng wythnosaudysgu theori ac ymarfer, gyda chyfanswm o 4,600 awr o ddysgu.

Beth fydda i’n ei ddysgu?

Yn eich blwyddyn gyntaf, byddwn yn canolbwyntio ar eich cyflwyno i nyrsio yng nghyd-destun gyrfa mewn practis proffesiynol. Bydd ein modiwlau rhyngddisgybledig, lle dysgir myfyrwyr nyrsio oedolion a iechyd meddwl gyda’i gilydd, yn rhoi sylw i ddarparu gofal holistig sy’n canolbwyntio ar yr unigolyn, ac yn cryfhau eich dealltwriaeth o ddatblygiad dynol, y ffactorau sy’n dylanwadu ar iechyd a lles, cyflenwi gwasanaethau, a nyrsio proffesiynol. Yn ogystal â hynny, byddwch yn astudio anatomeg dynol, ffisioleg a ffarmacoleg integredig hefyd. Bydd y modiwlau theori hefyd yn eich paratoi ar gyfer eich tri lleoliad mewn practis clinigol, gan roi’r cyfle ichi ddysgu sgiliau gofal hanfodol a chwblhau’r pasbort hyfforddi Cymru gyfan sy’n orfodol, a hynny yn ein Uned Sgiliau Clinigol aml-broffesiynol arobryn.

Yn eich ail flwyddyn, byddwch yn canolbwyntio ar ehangu eich practis proffesiynol. Bydd modiwlau sy’n rhoi’r ffocws ar un yrfa yn benodol yn eich galluogi i ddod i adnabod eich dewis faes ymarfer yn drylwyr (oedolion neu iechyd meddwl), archwilio amodau cyffredin a chymhleth, pathoffisioleg gwaelodol, proses afiechyd a rheoli symptomau. Byddwch hefyd yn meithrin dealltwriaeth o ddatblygiad dynol, ffarmacoleg sylfaenol ac ymarfer nyrsio proffesiynol a sut mae’r wybodaeth a ddysgir yn hysbysu nyrsio, ymarfer proffesiynol a gofal holistig sy'n canolbwyntio ar yr unigolyn. Yn ogystal â hynny, trwy gydol y flwyddyn cewch y cyfle i fynd ar dri lleoliad dysgu wrth ymarfer. 

Yn eich trydedd blwyddyn, sef y flwyddyn olaf, byddwch yn dod ar draws modiwlau sy’n croes-gysylltu â’i gilydd a modiwlau sy’n ymwneud â gyrfa benodol, lle mae’r ffocws yn seiliedig ar ddatblygu eich sgiliau arweinyddol tosturiaethol y bydd eu hangen arnoch mewn ymarfer proffesiynol. Bydd y modiwl hwn yn cyflwyno’r egwyddorion sylfaenol sy’n sail i greadigrwydd, arloesedd a newid mewn ymarfer, yn ogystal ag ail-ymweld â’r cysyniadau allweddol sy’n cefnogi nyrsio a rheoli meddyginiaeth. Cewch eich annog i edrych yn ôl dros eich dysgu ac i feddwl yn feirniadol am eich parodrwydd i fod yn ymarferydd cofrestredig annibynnol, gyda’r hunan hyder i gynnig gofal holistig, diogel ac effeithiol sy’n canolbwyntio ar yr unigolyn. Yn ogystal â hynny, byddwch hefyd yn cwblhau tri lleoliad dysgu ymarferol trwy gydol y flwyddyn.

Bydd tiwtor personol yn cael ei bennu i chi yn ystod y rhaglen tair blynedd. Bydd eich tiwtor personol yn eich cefnogi wrth i chi ddysgu a datblygu’n broffesiynol. Mae’r tiwtor personol yn ganolog i’r gefnogaeth a fydd ei hangen arnoch gydag unrhyw broblemau a bydd hyn yn gwella’ch profiad chi fel myfyriwr. 

Sut bydda i’n cael fy addysgu?

Mae ein hathroniaeth addysg nyrsio yn cynnwys dulliau hyblyg, blaengar ac arloesol a fydd yn sicrhau eich bod yn nyrs cymwys sy'n gallu rhoi gofal a meddwl yn feirniadol. Ymhlith ein dulliau mae dysgu arbrofol, dysgu sy’n canolbwyntio ar ymchwilio a gweithredu, gwaith grŵp a dysgu wyneb-yn-wyneb.

Rydym yn defnyddio amrywiaeth o ddulliau dysgu ar y radd nyrsio. Byddwch yn elwa o ddulliau dysgu cymysg sy'n hyblyg, gan gynnwys gwaith grŵp, seminarau, sesiynau sgiliau clinigol, chwarae rôl, sesiynau labordy ac e-ddysgu.

Gyda ffocws cryf ar ddatblygu sgiliau dysgu annibynnol ac ymchwil, mae’r cwrs hefyd yn darparu paratoad ardderchog ar gyfer datblygiad proffesiynol yn y dyfodol. Gyda’r cymorth o ddeunydd dysgu o bell a hunangyfeirio, byddwch yn derbyn cefnogaeth i gymryd cyfrifoldeb dros eich dysgu eich hun.

Byddwch yn astudio hanner y theori yn y brifysgol a'r hanner arall wrth ymarfer, felly cewch gyfle i blethu eich dysgu academaidd â'ch profiadau ymarfer clinigol go iawn, gyda chefnogaeth gan ymarferwyr gofal iechyd profiadol.

Mae efelychiadau yn rhan hanfodol o addysg nyrsio ac mae’r brifysgol wedi buddsoddi mewn Uned Sgiliau Clinigol sy’n adlewyrchu'r ddarpariaeth gofal lleol.Mae hyn yn cynnwys ardaloedd sy’n adlewyrchu taith y claf o wasanaethau yn y cartref a'r gymdeithas i asesiadau a gofal wedi'i gynllunio a gofal dwys. Byddwch yn gallu ennill profiad gwerthfawr o sgiliau clinigol mewn amgylchedd dysgu diogel sy’n adlewyrchu profiad y nyrs a’r claf.

Byddwn yn defnyddio amrywiaeth o ddulliau i asesu eich dysgu. Yn ogystal â hynny, cewch eich asesu wrth ymarfer gan yr Aseswr Ymarfer a'r Aseswr Academaidd a bennwyd i chi. Mae rhaid i chi gwrdd â'r safonau Unwaith i Gymru sy'n asesu medrusrwydd, agweddau proffesiynol ac ymddygiad ynghyd ag asesiadau ar sail dysg hyd at yr adeg honno - oll yn rhan o Ddogfen Cymru Gyfan ar gyfer Asesu Ymarfer a Chofnodi Cyrhaeddiad Parhaus.

Gofynion Mynediad Nodweddiadol

Tariff UCAS 96 - 104

Safon Uwch BCC-CCC

Gofynion TGAU (o leiaf gradd C/4):
English and Mathematics Grade C/4 or above

Diploma Cenedlaethol BTEC:
DMM-MMM

Bagloriaeth Ryngwladol:
28-26

Bagloriaeth Ewropeaidd:
75%-65% overall

Gofynion Iaith Saesneg Where candidates are from outside the UK the International English Language Testing System (IELTS) is required as evidence of literacy. The IELTS with an overall score of at least 7 and at least 6.5 in the writing section and at least 7 in the reading, listening and speaking sections is accepted. They also accept OET certificate minimum of C+ in writing alongside a minimum of B in reading, listening and speaking.

Gofynion Eraill Good Health and Good Character. Enhanced DBS and Occupational Health Screen required for admission onto the programme. Applicants will be invited to attend for a value-based interview with a member of academic staff, service user, student and a representative from clinical practice. Aberystwyth University will follow the All Wales recruitment and selection principles for pre-registration nursing and midwifery programmes. Please contact nrsstaff@aber.ac.uk The Healthcare Education Centre supports contextual admissions and applicants will be assessed on an individual merit.

Mae'r Brifysgol yn croesawu ceisiadau israddedig gan fyfyrwyr sy'n astudio'r Diploma Mynediad i Addysg Uwch neu gymwysterau lefel T, ar yr amod eu bod yn cyflawni'r canlyniadau perthnasol o ran cynnwys y pwnc a'r dysgu. Ni allwn dderbyn Diplomâu Mynediad i Addysg Uwch na lefelau T fel cymhwyster cyffredinol ar gyfer pob cwrs gradd israddedig.
Mae ein polisi derbyn cynhwysol yn rhoi gwerth ar ehangder yn ogystal â dyfnder yr astudio. Dewisir ymgeiswyr ar sail eu teilyngdod eu hunain a gall cynigion amrywio. Os hoffech wirio a yw eich cymwysterau yn gymwys cyn cyflwyno cais, cysylltwch â'r Swyddfa Derbyn Israddedigion am gyngor ac arweiniad.

Yn ôl i'r brig

|