BSc

Nyrsio (Iechyd Meddwl)

Rydych chi'n edrych ar y cwrs hwn ar gyfer Dechrau Medi 2024

Cynlluniwyd ein cwrs gradd nyrsio iechyd meddwl rhan-amser, a achredir gan y Cyngor Nyrsio a Bydwreidigiaeth (CNB), ar gyfer gweithwyr Cymorth Gofal Iechyd sy’n gwneud gwaith gofal / gofal iechyd yn y sector gofal iechyd yng Nghanolbarth Cymru, a bydd y cwrs yn darparu'r sgiliau a’r profiad sy’n angenrheidiol i gychwyn gyrfa gwerth chweil yn y proffesiwn hanfodol ac amrywiol hwn.

Mae Nyrsio yn yrfa heriol ond yn un sy'n rhoi boddhad ac yn newid bywydau, gan gynnwys eich bywyd chi eich hun. Fel nyrs iechyd meddwl, byddwch yn chwarae rhan mewn gwella cyfleoedd pobl i gyrchu gofal iechyd ac i wella lles, cynhwysiant cymdeithasol ac ansawdd bywyd. Gan weithio mewn amrywiaeth o leoliadau, gan gynnwys gwasanaethau arbenigol a chymunedol a chartrefi pobl, mae nyrsys iechyd meddwl yn darparu gofal iechyd penodol i bobl o bob oedran.

Hyd y cwrs rhan-amser yw 2 flynedd a 7 mis, dros 3 blynedd academaidd. Byddwch yn astudio 37.5 awr yr wythnos yn ystod modiwlau theori a 22.5 awr yr wythnos yn ystod modiwlau lleoliad practis.

Ar hyn o bryd, nid yw’r cwrs hwn ar gael i ymgeiswyr rhyngwladol sy’n byw y tu allan i’r DU fel arfer. 

Trosolwg o'r Cwrs

Pam astudio Nyrsio Iechyd Meddwl yn Aberystwyth?

Mae ein staff yn nyrsus cofrestredig ac yn weithwyr iechyd cysylltiedig proffesiynol. Mae llawer ohonynt yn ymarfer yn glinigol yn ogystal. Rhyngddynt, maent yn darparu hyfforddiant trylwyr sy’n cynnwys manylder damcaniaethol, profiad proffesiynol ac arbenigedd ymarferol.

Mae gennym gysylltiadau cryf â phob bwrdd iechyd yng Nghymru (Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr, Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda, Bwrdd Iechyd Addysgu Powys, Bwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe) sy’n golygu y gallwn gynnig cyfleoedd am brofiad gwaith clinigol mewn gwahanol fannau, mewn ardaloedd trefol a gwledig. Yn lleol, mae’r Ysbyty agosaf, Ysbyty Cyffredinol Bronglais, drws nesaf i’r Ganolfan Addysg Iechyd.

Drwy ddarparu gofal sy'n canolbwyntio ar yr unigolyn, eich ffocws ar y dechrau fydd cwrdd ag anghenion gofal sylfaenol unigolion ac, wrth i chi wneud cynnydd drwy'r ail a'r drydedd flwyddyn, byddwch yn datblygu sgiliau a'r gallu i asesu, darparu a rheoli anghenion gofal cymhleth unigolion a grwpiau o bobl.

Datblygir sgiliau clinigol ac academaidd myfyrwyr o fewn system gefnogol sydd â sylfeini cadarn gan gynnwys tiwtoriaid personol yn y Ganolfan Addysg Gofal Iechyd ynghyd â mentoriaid clinigol ar eich lleoliadau. Caiff y lleoliadau eu hymgyrffori yn y rhaglen i’ch galluogi i ddatblygu’ch sgiliau clinigol. Byddwch yn cael profiad o amrywiaeth o leoliadau clinigol ac mae’n bosibl y bydd angen i chi deithio i ffwrdd o ardal leol Aberystwyth.

Er mwyn datblygu’ch sgiliau ysgrifennu academaidd, myfyrio, meddwl yn feirniadol, a gwneud penderfyniadau, byddwch yn cael eich dysgu mewn grwpiau bach gyda chefnogaeth gan eich tiwtor personol. Yn ategol at hynny, ceir darlithoedd, gweithgareddau ar-lein, tiwtorialau unigol, astudio gydag arweiniad, a dysgu ar sail sgiliau yn Unedau Sgiliau Clinigol y Ganolfan Addysg Gofal Iechyd.

Atgyfnerthir yr addysgu yn y Ganolfan Addysg Gofal Iechyd yn Aberystwyth gan ein Uned Sgiliau Clinigol newydd, sy’n gyfres o ystafelloedd efelychu lle byddwch chi’n gallu dysgu ac ymarfer sgiliau clinigol mewn amgylchedd diogel a chefnogol. Bydd y cyfleusterau, sy’n cynnwys yr ystafelloedd clinigol, yn eich caniatáu i ddefnyddio’ch gwybodaeth ddamcaniaethol mewn modd ymarferol ac mewn amgylchedd sy’n adlewyrchu’r amodau go iawn y byddwch yn cwrdd â nhw pan fyddwch chi ar leoliad gwaith mewn ysbyty neu allan yn y gymuned.

Gallwch astudio 50% o’ch gradd nyrsio drwy gyfrwng y Gymraeg ac mae’n bosibl y byddwch yn gymwys am gymorth ariannol gan y Coleg Cymraeg Cenedlaethol. Cefnogir ein modiwl sy’n seiliedig ar ymarfer gan Arolygwyr Ymarfer ac Aseswyr Ymarfer Cymraeg eu hiaith. Gallwch gwblhau eich asesiadau clinigol drwy gyfrwng y Gymraeg. Os nad ydych chi’n siaradwr Cymraeg ond eich bod yn dymuno dysgu Cymraeg, rydym yn cynnig gwersi Cymraeg yn rhan o’r rhaglen, ar sail sgwrsio elfennol am faterion yn ymwneud ag iechyd.

Os ydych yn fyfyriwr yn y DU ac yn gallu ymrwymo i weithio yng Nghymru am ddwy flynedd ar ôl graddio, mae’n bosibl y gellid talu’ch ffioedd dysgu i gyd drwy Gynllun Bwrsariaeth GIG Cymru, yn ogystal ag arian cynnal a chadw o hyd at £4,491 a chael benthyciad Cyllid Myfyrwyr ar gyfradd ostyngol. 

Mae’n bosibl y bydd myfyrwyr o’r tu allan i’r DU yn gymwys ar gyfer Cynllun Bwrsariaeth GIG Cymru os oes ganddynt y statws fisa angenrheidiol - hynny yw: caniatâd diderfyn i aros, a’u bod wedi bod yn byw yn y DU am 3 blynedd cyn dechrau’r cwrs, fel sy’n ofynnol. Bydd Dinasyddion yr UE sydd wedi ac yn parhau i ddal statws setledig neu gyn-sefydlog yn y DU a Dinasyddion Gwyddeleg yn parhau i fod yn gymwys ar gyfer Cynllun Bwrsariaeth GIG Cymru. Fodd bynnag, er mwyn cadarnhau a ydych yn gymwys i dderbyn y Fwrsariaeth GIG Cymru, ewch i dudalen we Ariannu GIG i wirio eich bod yn gymwys i dderbyn arian cyn gwneud cais.

Ein Staff

Mae gan y rhan fwyaf o staff dysgu Adran Gwyddorau Bywyd gymwysterau hyd at safon PhD ac maent yn ymchwilwyr gweithgar. Hefyd, mae gan staff y cyrsiau galwedigaethol gefndir ym myd diwydiant. Mae yn yr Adran nifer fawr o staff sy'n gwneud ymchwil yn unig ac mae'n bosib y bydd y myfyrwyr yn dod i gysylltiad â hwy.

Modiwlau Dechrau Medi - 2024

Noder: Y modiwlau a restrir isod yw'r modiwlau y bwriedir eu cyflwyno ar hyn o bryd yn ystod y flwyddyn academaidd nesaf ac mae'n bosibl y gallant newid. Maent wedi'u cynnwys yma i roi syniad o strwythur y cwrs.

Modiwlau Craidd

Teitl y Modiwl Cod y Modiwl Gwerth Credyd
Compassionate Leadership and Management NU30620 20
Innovating Practice NU30220 20
Arwain Ymarfer Proffesiynol (Rhan B) NY30560 60
Transition to autonomous practice for Mental Health NU30420 20

Ynglŷn â’r Cwrs Yma


Gyrfaoedd

Ar ôl graddio, byddwch yn gymwys i wneud cais am statws Nyrs Gofrestredig (Iechyd Meddwl) gyda'r Cyngor Nyrsio a Bydwreigiaeth ac i gofrestru fel nyrs i weithio yn yr Undeb Ewropeaidd a'r Ardal Economaidd Ewropeaidd. Gallwch ddisgwyl cyflog cychwynnol o £25,655 gan godi i £53,219 ar gyfer nyrs staff hynod brofiadol. Gall nyrys arbenigol a rheolwyr practis ennill cyflog o £45,000.

Os ydych yn derbyn cyllid gan Gynllun Bwrsariaeth GIG Cymru bydd yn rhaid i chi ymrwymo i weithio yng Nghymru am ddwy flynedd ar ôl cymhwyso a chofrestru fel nyrs gyda'r Cyngor Nyrsio a Bydwreigiaeth. Caiff y broses hon ei rheoli'n ganolog gan Bartneriaeth Cydwasanaethau GIG Cymru, a bydd y Cynllun Symleiddio i Fyfyrwyr yn sicrhau y byddwch yn cael eich paru â swydd addas o'ch dewis yn y lleoliad a nodwyd gennych.

Dysgu ac Addysgu

Beth fydda i'n ei ddysgu?

Yn eich blwyddyn gyntaf, byddwch yn canolbwyntio ar ehangu'ch ymarfer proffesiynol. Bydd modiwlau sy'n benodol i'r maes yn datblygu'ch gallu i ddeall yr wybodaeth sy'n greiddiol i'ch dewis faes (oedolion neu iechyd meddwl), gan archwilio cyflyrau cyffredin a chymhleth, pathoffisioleg gwaelodol, proses afiechyd a rheoli symptomau. Byddwch hefyd yn dod i ddeall yn drylwyr anatomeg dynol, ffisioleg a ffarmacoleg a sut y mae'r wybodaeth hon yn hysbysu ymarfer nyrsio proffesiynol a gofal holistig sy'n canolbwyntio ar yr unigolyn, a hynny'n benodol i'ch dewis faes ymarfer. Yn ogystal â hynny, byddwch hefyd yn cwblhau tri lleoliad dysgu ymarferol trwy gydol y flwyddyn.

Yn eich blwyddyn olaf, byddwch yn dod ar draws modiwlau sy’n croes-gysylltu â’i gilydd a modiwlau sy’n ymwneud â gyrfa benodol, lle mae’r ffocws yn seiliedig ar ddatblygu eich sgiliau arweinyddol tosturiaethol y bydd eu hangen arnoch mewn ymarfer proffesiynol. Bydd y modiwl hwn yn cyflwyno’r egwyddorion sylfaenol sy’n sail i greadigrwydd, arloesedd a newid mewn ymarfer, yn ogystal ag ail-ymweld â’r cysyniadau allweddol sy’n cefnogi nyrsio a rheoli meddyginiaeth. Cewch eich annog i edrych yn ôl ar eich dysgu hyd yn hyn ac i feddwl yn feirniadol am eich parodrwydd i fod yn ymarferydd cofrestredig annibynnol, gyda’r hunan hyder i gynnig gofal diogel ac effeithiol a holistig sy’n canolbwyntio ar yr unigolyn. Yn ogystal â hynny, byddwch hefyd yn cwblhau tri lleoliad dysgu ymarferol trwy gydol y flwyddyn.

Bydd tiwtor personol yn cael ei bennu i chi yn ystod y rhaglen 2 flynedd a 7 mis. Bydd eich tiwtor personol yn eich cefnogi wrth i chi ddysgu a datblygu’n broffesiynol. Mae’r tiwtor personol yn ganolog i’r gefnogaeth a fydd ei hangen arnoch gydag unrhyw broblemau a bydd hyn yn gwella’ch profiad chi fel myfyriwr. 

Sut bydda i’n cael fy addysgu?

Rydym yn defnyddio amrywiaeth o ddulliau dysgu ar y radd nyrsio. Byddwch yn elwa o ddulliau dysgu cymysg sy'n hyblyg ac yn cynnwys gwaith grŵp, seminarau, sesiynau sgiliau clinigol, chwarae rôl, sesiynau labordy ac e-ddysgu.

Byddwch yn astudio hanner y theori yn y brifysgol a'r hanner arall wrth ymarfer, felly cewch gyfle i blethu eich dysgu academaidd â'ch profiadau ymarfer clinigol go iawn, gyda chefnogaeth gan ymarferwyr gofal iechyd profiadol. Mae efelychiadau yn rhan hanfodol o addysg nyrsio ac mae’r brifysgol wedi buddsoddi mewn Uned Sgiliau Clinigol sy’n adlewyrchu'r ddarpariaeth gofal lleol. Mae hyn yn cynnwys ardaloedd sy’n adlewyrchu taith y claf o wasanaethau yn y cartref a'r gymdeithas i asesiadau a gofal wedi'i gynllunio a gofal dwys. Byddwch yn gallu ennill profiad gwerthfawr o sgiliau clinigol mewn amgylchedd dysgu diogel sy’n adlewyrchu profiad y nyrs a’r claf.

Byddwn yn defnyddio amrywiaeth o ddulliau i asesu eich dysgu. Yn ogystal â hynny, cewch eich asesu wrth ymarfer gan yr Aseswr Ymarfer a'r Aseswr Academaidd a bennwyd i chi. Mae rhaid i chi gwrdd â'r safonau Unwaith i Gymru sy'n asesu medrusrwydd, agweddau proffesiynol ac ymddygiad ynghyd ag asesiadau ar sail dysg hyd at yr adeg honno - oll yn rhan o Ddogfen Cymru Gyfan ar gyfer Asesu Ymarfer a Chofnodi Cyrhaeddiad Parhaus.

Gofynion Mynediad Nodweddiadol

Gofynion Eraill For entry requirements see: https://www.aber.ac.uk/en/hec/courses/entry-requirements/#typical-entry-requirements

Mae'r Brifysgol yn croesawu ceisiadau israddedig gan fyfyrwyr sy'n astudio'r Diploma Mynediad i Addysg Uwch neu gymwysterau lefel T, ar yr amod eu bod yn cyflawni'r canlyniadau perthnasol o ran cynnwys y pwnc a'r dysgu. Ni allwn dderbyn Diplomâu Mynediad i Addysg Uwch na lefelau T fel cymhwyster cyffredinol ar gyfer pob cwrs gradd israddedig.
Mae ein polisi derbyn cynhwysol yn rhoi gwerth ar ehangder yn ogystal â dyfnder yr astudio. Dewisir ymgeiswyr ar sail eu teilyngdod eu hunain a gall cynigion amrywio. Os hoffech wirio a yw eich cymwysterau yn gymwys cyn cyflwyno cais, cysylltwch â'r Swyddfa Derbyn Israddedigion am gyngor ac arweiniad.

Yn ôl i'r brig

|