Microbioleg Cod C500 Dewch i Ddiwrnod Agored Dewch i Ddiwrnod Agored
Ymgeisio NawrPrif Ffeithiau
C500-
Tariff UCAS
120 - 104
-
Hyd y cwrs
3 blynedd
-
Cyfrwng Cymraeg
46%
Ar gael ar gyfer Dechrau Medi 2025
Manylion pellach ynglŷn â'r gofynion mynediad
Ymgeisio NawrBydd y cwrs gradd BSc Microbioleg yn eich cyflwyno i fyd rhyfeddol bacteria, ffyngau a firysau, a'u rôl mewn clefydau heintus sy’n effeithio ar bobl, anifeiliaid a phlanhigion. Mae micro-organebau, a elwir hefyd yn feicrobau, yn organebau sydd yn rhy fach i'w gweld gyda’r llygad ac maent yn hanfodol i'n dealltwriaeth o fywyd ar y Ddaear. Cewch ddysgu sut mae’r micro-organebau hyn wedi dylanwadu ar bob agwedd ar ein bywydau, o’r aer a anadlwn i'r bwyd a fwytawn. Ar ein gradd BSc Microbioleg byddwch yn datblygu'r sgiliau gwyddonol a dadansoddol y mae galw mawr amdanynt ymhlith ystod eang o feysydd gwaith, ac os ydych chi’n dymuno bod yn rhan o ddatrys problemau byd-eang megis newid yn yr hinsawdd, llygredd ac ymwrthedd i wrthfiotigau, mae gradd mewn Microbioleg yn fan cychwyn da.
Trosolwg o'r Cwrs
Modiwlau Dechrau Medi - 2025
Noder: Y modiwlau a restrir isod yw'r modiwlau y bwriedir eu cyflwyno ar hyn o bryd yn ystod y flwyddyn academaidd nesaf ac mae'n bosibl y gallant newid. Maent wedi'u cynnwys yma i roi syniad o strwythur y cwrs.
Teitl y Modiwl | Cod y Modiwl | Gwerth Credyd |
---|---|---|
Bioleg Celloedd | BG17520 | 20 |
Ecoleg a Chadwraeth | BG19320 | 20 |
Genetics, Evolution and Diversity | BR17120 | 20 |
Amrywiaeth Microbau a Phlanhigion | BG19920 | 20 |
Sgiliau ar gyfer Biolegwyr | BG16820 | 20 |
Opsiynau
Teitl y Modiwl | Cod y Modiwl | Gwerth Credyd |
---|---|---|
Biological chemistry | BR17320 | 20 |
Disease Diagnosis and Control | BR15420 | 20 |
Teitl y Modiwl | Cod y Modiwl | Gwerth Credyd |
---|---|---|
Monitro a Microbioleg Amgylcheddol | BG26020 | 20 |
One Health Microbiology | BR26520 | 20 |
Practical and Professional Skills in Microbiology | BR24720 | 20 |
Dulliau Ymchwil | BG27520 | 20 |
Opsiynau
Teitl y Modiwl | Cod y Modiwl | Gwerth Credyd |
---|---|---|
Applied Molecular Biology and Bioinformatics | BR20620 | 20 |
Cell and Cancer Biology | BR25920 | 20 |
Immunology | BR22220 | 20 |
Proteins and Enzymes | BR26620 | 20 |
Pynciau llosg yn y Biowyddorau | BG21720 | 20 |
Teitl y Modiwl | Cod y Modiwl | Gwerth Credyd |
---|---|---|
Microbial Pathogenesis | BR33720 | 20 |
Biotechnology | BR35520 | 20 |
Traethawd Estynedig | BG36440 | 40 |
Opsiynau
Teitl y Modiwl | Cod y Modiwl | Gwerth Credyd |
---|---|---|
Bioinformatics and Functional Genomics | BR37120 | 20 |
Cwrs Maes Ecoleg Ddaearol | BG36620 | 20 |
Molecular Pharmacology | BR36120 | 20 |
Terrestrial Ecology Fieldcourse | BR36620 | 20 |
Veterinary Infectious Diseases | BR34120 | 20 |
Gyrfaoedd
Dysgu ac Addysgu
Gofynion Mynediad Nodweddiadol
Tariff UCAS 120 - 104
Safon Uwch BBB-BCC gan gynnwys B mewn Bioleg
Gofynion TGAU (o leiaf gradd C/4):
English or Welsh, Science and Mathematics
Diploma Cenedlaethol BTEC:
DDD-DDM in a specified subject
Bagloriaeth Ryngwladol:
30-28 with 5 points in Biology at Higher Level
Bagloriaeth Ewropeaidd:
75%-65% overall with 7 in Biology
Mae'r Brifysgol yn croesawu ceisiadau israddedig gan fyfyrwyr sy'n astudio'r Diploma Mynediad i Addysg Uwch neu gymwysterau lefel T, ar yr amod eu bod yn cyflawni'r canlyniadau perthnasol o ran cynnwys y pwnc a'r dysgu. Ni allwn dderbyn Diplomâu Mynediad i Addysg Uwch na lefelau T fel cymhwyster cyffredinol ar gyfer pob cwrs gradd israddedig.
Mae ein polisi derbyn cynhwysol yn rhoi gwerth ar ehangder yn ogystal â dyfnder yr astudio. Dewisir ymgeiswyr ar sail eu teilyngdod eu hunain a gall cynigion amrywio. Os hoffech wirio a yw eich cymwysterau yn gymwys cyn cyflwyno cais, cysylltwch â'r Swyddfa Derbyn Israddedigion am gyngor ac arweiniad.
|