MMath

Ffiseg Fathemategol a Damcaniaethol

Ffiseg Fathemategol a Damcaniaethol Cod F341 Dewch i Ddiwrnod Agored Dewch i Ddiwrnod Agored

Ymgeisio Nawr

Bydd Ffiseg Fathemategol a Damcaniaethol (F340) ym Mhrifysgol Aberystwyth yn datblygu eich dealltwriaeth o rannau mwy damcaniaethol Ffiseg, gan ddisodli agwedd arbrofol tuag at Ffiseg gyda sylfaen gadarn mewn Mathemateg.

Mae'r cyfuniad hwn o Fathemateg a Ffiseg yn cysylltu â llawer o feysydd diddordeb, ac mae llawer o alw ymhlith cyflogwyr am fyfyrwyr sy'n astudio'r pwnc amrywiol hwn.

Yn uchafbwynt i'ch pedwaredd flwyddyn bydd cyflawni prosiectau estynedig o dan gyfarwyddyd goruchwylydd mewn maes ymchwil cyfredol.

Trosolwg o'r Cwrs

Pam astudio Mathemateg a Ffiseg yn Aberystwyth?

  • Mae Mathemateg a Ffiseg wedi'u haddysgu yn Aberystwyth ers sefydlu'r brifysgol ym 1872, a dyma'r brifysgol gyntaf yng Nghymru i addysgu'r pynciau hyn. Mae buddsoddiad diweddar o rai miliynau mewn addysgu ac ymchwil wedi sicrhau ein bod yn parhau i arloesi a darparu amgylchedd dysgu ysgogol ar gyfer corff cynyddol o fyfyrwyr mathemateg a ffiseg o bob rhan o'r byd.
  • Wrth astudio'r rhaglen radd hon mewn Mathemateg a Ffiseg, byddwch yn rhannu'ch amser yn gyfartal rhwng y ddwy ddisgyblaeth academaidd hyn sy'n cyd-fynd mor dda, mewn dwy adran sy'n torri tir newydd ym maes ymchwil ac arloesedd.
  • Bu i'r Adran Fathemateg gadw'i safle fel un o adrannau gorau Cymru yn y Fframwaith Rhagoriaeth Ymchwil diweddaraf (REF, 2014). Barnwyd bod ein holl ymchwil, a'r effaith mae'n ei chael y tu hwnt i brifysgolion, o "safon rhyngwladol".
  • Mae ein darlithwyr Ffiseg hefyd yn ymchwilwyr sydd ar flaen y gad yn eu meysydd perthnasol, felly gallwch fod yn hyderus y bydd eich profiad dysgu wedi'i lywio gan y wybodaeth arbenigol ddiweddaraf ynghyd ag offeryniaeth, modelu a thechnegau blaengar.
  • Mae ymchwilwyr o'r adran Ffiseg yn cymryd rhan ym mhrosiect ExoMars 2020 yr Asiantaeth Ofod Ewropeaidd ac yn peiriannu deunyddiau dimensiwn isel (hynny yw, graffin).
  • Mae'r Adrannau Mathemateg a Ffiseg ar flaen y gad o ran darpariaeth cyfrwng Cymraeg yn y pynciau hyn ar lefel addysg uwch yng Nghymru. Mae rhagor o wybodaeth ar gael o dan y tab modiwlau.
Ein Staff

Mae gan bob un o ddarlithwyr yr Adran Ffiseg gymwysterau hyd at safon PhD a hanes o wneud gwaith ymchwil yn eu meysydd arbenigol.

Mae’r holl ddarlithwyr yn yr Adran Mathemateg wedi’u cymhwyso i lefel PhD ac yn weithgar ym myd ymchwil. Mae gan y rhan fwyaf gymhwyster addysgu uwchraddedig ac mae’n rhaid i staff newydd gwblhau’r TUAAU. Mae’r adran hefyd yn cyflogi nifer o diwtoriaid rhan-amser, sydd â phrofiad dysgu eang, a rhai arddangoswyr sy’n cael eu dewis o blith ein myfyrwyr israddedig ac uwchraddedig.

Modiwlau Dechrau Medi - 2025

Noder: Y modiwlau a restrir isod yw'r modiwlau y bwriedir eu cyflwyno ar hyn o bryd yn ystod y flwyddyn academaidd nesaf ac mae'n bosibl y gallant newid. Maent wedi'u cynnwys yma i roi syniad o strwythur y cwrs.

Modiwlau Craidd

Teitl y Modiwl Cod y Modiwl Gwerth Credyd
Algebra MT10510 10
Calcwlws MT10610 10
Coordinate and Vector Geometry MA10110 10
Differential Equations MA11210 10
Dynameg, Tonnau a Gwres FG10020 20
Algebra a Chalcwlws Pellach MT11010 10
Dadansoddi Mathemategol MT11110 10
Modern Physics PH14310 10
Probability MA10310 10
Statistics MA11310 10

Opsiynau

Teitl y Modiwl Cod y Modiwl Gwerth Credyd
Cynllunio Gyrfa a Datblygu Sgiliau Ffiseg FG12910 10
Energy and the Environment PH19010 10
Technegau Labordy ar gyfer Ffiseg Arbrofol (10 Credyd) FG15510 10
Cynllunio Gyrfa a Datblygu Sgiliau Ffiseg FG12910 10
Technegau Labordy ar gyfer Ffiseg Arbrofol (10 Credyd) FG15510 10

Modiwlau Craidd

Teitl y Modiwl Cod y Modiwl Gwerth Credyd
Dadansoddiad Cymhlyg MT21510 10
Distributions and Estimation MA26010 10
Trydan a Magnetedd FG22510 10
Introduction to Abstract Algebra MA20310 10
Algebra Llinol MT21410 10
Ffiseg Mathemategol FG26020 20
Principles of Quantum Mechanics PH23010 10
Real Analysis MA20110 10
Thermodynamics PH21510 10

Opsiynau

Teitl y Modiwl Cod y Modiwl Gwerth Credyd
Advanced Dynamics MA25710 10
Hydrodynameg 1 MT25610 10
Hydrodynamics 1 MA25610 10

Modiwlau Craidd

Teitl y Modiwl Cod y Modiwl Gwerth Credyd
Group Theory MA30110 10
Norms and Differential Equations MA30210 10
Partial Differential Equations MA34110 10
Particles, Quanta and Fields PH33020 20
Probability and Stochastic Processes MA37410 10

Modiwlau Craidd

Teitl y Modiwl Cod y Modiwl Gwerth Credyd
Prif Brosiect MTM9840 40
Prosiect Llai MTM9720 20

Gyrfaoedd

Rhagolygon Gyrfaol

Caiff graddedigion ym maes Mathemateg a Ffiseg eu gwerthfawrogi'n fawr gan gyflogwyr am eu sgiliau rhifedd a datrys problemau.

Gallai graddedigion Mathemateg a Ffiseg fynd i yrfaoedd megis:

  • Peirianneg
  • Ysgrifennu a chyhoeddi gwyddonol
  • Dadansoddi risg
  • Ymchwil Weithredol
  • Ymgynghori busnes
  • Ffiseg feddygol
  • Meteoroleg
  • Cyfrifiadureg
  • Cyfrifo a Chyllid 

Sgiliau Trosglwyddadwy

Bydd astudio am radd mewn Ffiseg Fathemategol a Damcaniaethol yn eich paratoi gydag ystod o sgiliau trosglwyddadwy sy'n werthfawr iawn i gyflogwyr.

Mae'r rhain yn cynnwys:

  • sgiliau ymchwil a dadansoddi data
  • sgiliau mathemategol a chyfrifiadol uwch
  • sgiliau datrys problemau a meddwl creadigol effeithiol
  • sylfaen drylwyr mewn sgiliau technoleg gwybodaeth
  • y gallu i weithio'n annibynnol
  • sgiliau rheoli amser a threfnu, gan gynnwys y gallu i weithio i derfynau amser
  • y gallu i fynegi syniadau a chyfleu gwybodaeth mewn modd clir a threfnus, yn ysgrifenedig ac ar lafar
  • hunanddibyniaeth a'r gallu i ysgogi eu hunain
  • y gallu i weithio mewn tîm a thrafod cysyniadau mewn grwpiau, a rhoi lle i syniadau gwahanol a dod i gytundeb

Cyfleoedd profiad gwaith

Fel myfyriwr yma, byddwch yn gallu manteisio ar y gwahanol gyfleoedd sy'n bodoli, megis GwaithAber, AberYmlaen, BMG a GO Wales.

Mae'r adran yn cefnogi myfyrwyr sy'n chwilio am waith gwirfoddol, yn enwedig yn addysgu mathemateg ym mhob sector. Mae rhagor o wybodaeth ar gael gan yr adran. 

Dysgu ac Addysgu

Beth fyddwch chi'n ei ddysgu?

Bydd y cwrs hwn yn datblygu eich dealltwriaeth o ystod eang o ddamcaniaethau a phrosesau mewn Mathemateg a Ffiseg a fydd yn eich addysgu i gymhwyso'r technegau rydych wedi'u dysgu er mwyn datrys problemau ac archwilio cwestiynau ymchwil.

  • Mae dwy flynedd gyntaf y cwrs yn canolbwyntio'n bennaf ar fodiwlau sy'n trin ystod eang o themâu ym maes algebra, calcwlws, hafaliadau differol, mecaneg cwantwm, deinameg a ffiseg thermol.
  • Ynghyd â'ch modiwlau craidd yn y drydedd flwyddyn, bydd gennych ystod eang o ddewis o Fathemateg a Ffiseg, a fydd yn caniatáu i chi deilwra'r cwrs i weddu i'ch diddordebau.
  • Yn eich pedwaredd flwyddyn, byddwch yn treulio hanner eich amser yn cyflawni dau brosiect ymchwil unigol o dan gyfarwyddyd goruchwylydd a dewis o fodiwlau a addysgir.

Sut byddwch chi'n cael eich addysgu?

  • Bydd y cwrs hwn yn cael ei addysgu'n bennaf ar ffurf darlithoedd, ond bydd myfyrwyr hefyd yn mynd i ddosbarthiadau enghreifftiol – lle byddwch yn datrys problemau o dan oruchwyliaeth darlithydd – a gweithdai a thiwtorialau mewn grwpiau bach. Mae'r amgylcheddau dysgu rhyngweithiol hyn yn caniatáu i chi wirio eich dealltwriaeth a chael adborth. Bydd dulliau asesu'n cynnwys arholiadau, gwaith cwrs, ac asesu parhaus. Yn eich trydedd a'ch pedwaredd flwyddyn, bydd gennych gyfleoedd i gyflawni prosiectau ymchwil annibynnol manwl a rhannu eich canfyddiadau drwy adroddiadau ysgrifenedig a llafar.
  • Bydd tiwtor personol yn cael ei ddynodi i chi dros gyfnod eich cwrs gradd cyfan, a bydd yn gallu eich helpu gydag unrhyw broblemau neu ymholiadau, boed nhw'n faterion academaidd neu bersonol. Mae croeso i chi gysylltu â'ch tiwtor personol ar unrhyw adeg os bydd angen cymorth neu gyngor arnoch.
  • Byddwch hefyd yn cael cyfle i gwblhau Cynllun Datblygu Personol (CDP) yn Aberystwyth. Mae hon yn broses strwythuredig o hunanwerthuso, myfyrio, a chynllunio, a fydd yn eich galluogi i olrhain eich datblygiad personol, academaidd a phroffesiynol drwy gydol eich cyfnod yn y brifysgol. Drwy gofnodi eich perfformiad academaidd, ac amlygu'r sgiliau sydd gennych yn barod a'r sgiliau y bydd eu hangen arnoch ar gyfer cyflogadwyedd yn y dyfodol, bydd y portffolio CDP yn rhoi'r offer angenrheidiol i chi gynllunio'n effeithiol, datblygu dulliau llwyddiannus o astudio, ac ystyried eich dewisiadau gyrfaol a'ch dyheadau yn y dyfodol.

Tystiolaeth Myfyrwyr

Gwnaeth Aberystwyth dipyn o argraff arna i, gyda'i lleoliad tawel a'i hawyrgylch cyfeillgar, ac ro'n i'n ddigon lwcus i gael cynnig lle yn astudio Ffiseg Fathemategol a Damcaniaethol. Roedd y cwrs yn anhygoel, yn bennaf oherwydd bod y rhyngweithio gyda darlithwyr yn agored ac yn gyfeillgar, a hefyd oherwydd amrywiaeth y modiwlau oedd ar gael. Astudiais ddau bwnc hynod ddiddorol – deilliodd un ohonyn nhw o fy niddordeb mewn deunyddiau cyfansawdd a'u defnydd posib mewn rasio Fformiwla 1. Mae Aberystwyth wedi bod yn amgylchedd anhygoel i astudio ynddo, sydd hefyd wedi cynnig llawer o ffyrdd i ymlacio a gwneud ffrindiau. Dim ond taith fer y tu hwnt i Graig-glais neu Ben Dinas sydd i gyrraedd lle hollol heddychlon a hynod o hardd. Yn fy mlwyddyn gyntaf, fe ddechreuais saethyddiaeth, ac fe fues i'n weithgar drwy gydol fy amser yn Aberystwyth. Gyda llu o ddewis ar gael, rhois gynnig ar rywbeth gwahanol bob blwyddyn. Ar ôl graddio, dechreuais weithio yn adran gyllid y brifysgol, fel rhan o gynllun AberYmlaen. Mae hyn yn ffordd wych o ddechrau arni mewn amgylchedd gwaith, ac i gael hyfforddiant yn ymwneud â busnes. Wedi hynny, bydda i'n dechrau gweithio gyda QA Consulting, sy'n darparu gwasanaethau ymgynghori er mwyn helpu i ddatblygu meddalwedd ar gyfer sefydliadau masnachol, ariannol a llywodraethol. Ar ôl cwblhau hyfforddiant meddalwedd ym Manceinion, rwy'n bwriadu gweithio ledled Prydain ar wahanol brosiectau. Fy nghyngor i unrhyw un sy'n dechrau gradd yn Aberystwyth yw ymlacio. Bydd pawb yn barod i helpu. Gwnewch y mwyaf o'r cyfleoedd sydd ar gael o'r eiliad y byddwch chi'n cyrraedd yma. Cofiwch weithio'n galed, cyfathrebu gyda darlithwyr, ymuno mewn clybiau a rhoi cynnig ar rywbeth newydd sydd o ddiddordeb i chi. Yn bennaf oll, cofiwch gymryd amser i fwynhau Aberystwyth am yr holl resymau rydych chi wedi dewis dod yma.

Gofynion Mynediad Nodweddiadol

Tariff UCAS 144 - 128

Safon Uwch AAA-BBB with A in Mathematics and B in Physics.

Gofynion TGAU (o leiaf gradd C/4):
Cymraeg neu Saesneg a Mathemateg

Diploma Cenedlaethol BTEC:
DDD-DDM with specified subject and A in A level Mathematics and B in Physics

Bagloriaeth Ryngwladol:
34-32 points overall with 5 points in Physics and 6 points in Mathematics at Higher Level

Bagloriaeth Ewropeaidd:
80% overall with 7 in Mathematics and Physics

Mae'r Brifysgol yn croesawu ceisiadau israddedig gan fyfyrwyr sy'n astudio'r Diploma Mynediad i Addysg Uwch neu gymwysterau lefel T, ar yr amod eu bod yn cyflawni'r canlyniadau perthnasol o ran cynnwys y pwnc a'r dysgu. Ni allwn dderbyn Diplomâu Mynediad i Addysg Uwch na lefelau T fel cymhwyster cyffredinol ar gyfer pob cwrs gradd israddedig.
Mae ein polisi derbyn cynhwysol yn rhoi gwerth ar ehangder yn ogystal â dyfnder yr astudio. Dewisir ymgeiswyr ar sail eu teilyngdod eu hunain a gall cynigion amrywio. Os hoffech wirio a yw eich cymwysterau yn gymwys cyn cyflwyno cais, cysylltwch â'r Swyddfa Derbyn Israddedigion am gyngor ac arweiniad.

Yn ôl i'r brig

|