Rydym yn defnyddio cwcis ar ein gwefan. I ddysgu mwy am y cwcis yr ydym yn eu defnyddio, gweler ein polisi cwcis. Gallwch reoli cwcis trwy osodiadau eich porwr. Trwy barhau i bori'r safle rydych yn cytuno i'n defnydd o gwcis.
Derbyn a Chau.
Bydd Ffiseg Fathemategol a Damcaniaethol (F340) ym Mhrifysgol Aberystwyth yn datblygu eich dealltwriaeth o rannau mwy damcaniaethol Ffiseg, gan ddisodli agwedd arbrofol tuag at Ffiseg gyda sylfaen gadarn mewn Mathemateg.
Mae'r cyfuniad hwn o Fathemateg a Ffiseg yn cysylltu â llawer o feysydd diddordeb, ac mae llawer o alw ymhlith cyflogwyr am fyfyrwyr sy'n astudio'r pwnc amrywiol hwn.
Yn uchafbwynt i'ch pedwaredd flwyddyn bydd cyflawni prosiectau estynedig o dan gyfarwyddyd goruchwylydd mewn maes ymchwil cyfredol.
Bodlonrwydd Myfyrwyr Cyffredinol a Chanlyniadau Cyflogadwyedd
92% boddhad cyffredinol yn yr Adran Fathemateg (ACF 2020).
96% o’n graddedigion mewn gwaith a/neu astudiaethau pellach o fewn chwe mis ar ôl graddio, 4% yn uwch na graddedigion y Gwyddorau Mathemategol yn genedlaethol. (HESA 2018*)
92% boddhad cyffredinol myfyrwyr ym maes Ffiseg; 86% yw'r cyfartaledd i'r sector (ACF 2020).
93% o’n graddedigion mewn gwaith a/neu astudiaethau pellach o fewn chwe mis ar ôl graddio. (HESA 2018*).
Trosolwg
Pam astudio Mathemateg a Ffiseg yn Aberystwyth?
Mae Mathemateg a Ffiseg wedi'u haddysgu yn Aberystwyth ers sefydlu'r brifysgol ym 1872, a dyma'r brifysgol gyntaf yng Nghymru i addysgu'r pynciau hyn. Mae buddsoddiad diweddar o rai miliynau mewn addysgu ac ymchwil wedi sicrhau ein bod yn parhau i arloesi a darparu amgylchedd dysgu ysgogol ar gyfer corff cynyddol o fyfyrwyr mathemateg a ffiseg o bob rhan o'r byd.
Wrth astudio'r rhaglen radd hon mewn Mathemateg a Ffiseg, byddwch yn rhannu'ch amser yn gyfartal rhwng y ddwy ddisgyblaeth academaidd hyn sy'n cyd-fynd mor dda, mewn dwy adran sy'n torri tir newydd ym maes ymchwil ac arloesedd.
Bu i'r Adran Fathemateg gadw'i safle fel un o adrannau gorau Cymru yn y Fframwaith Rhagoriaeth Ymchwil diweddaraf (REF, 2014). Barnwyd bod ein holl ymchwil, a'r effaith mae'n ei chael y tu hwnt i brifysgolion, o "safon rhyngwladol".
Mae ein darlithwyr Ffiseg hefyd yn ymchwilwyr sydd ar flaen y gad yn eu meysydd perthnasol, felly gallwch fod yn hyderus y bydd eich profiad dysgu wedi'i lywio gan y wybodaeth arbenigol ddiweddaraf ynghyd ag offeryniaeth, modelu a thechnegau blaengar.
Mae ymchwilwyr o'r adran Ffiseg yn cymryd rhan ym mhrosiect ExoMars 2020 yr Asiantaeth Ofod Ewropeaidd ac yn peiriannu deunyddiau dimensiwn isel (hynny yw, graffin).
Mae'r Adrannau Mathemateg a Ffiseg ar flaen y gad o ran darpariaeth cyfrwng Cymraeg yn y pynciau hyn ar lefel addysg uwch yng Nghymru. Mae rhagor o wybodaeth ar gael o dan y tab modiwlau.
Ein Staff
Mae’r holl ddarlithwyr yn yr Adran Mathemateg wedi’u cymhwyso i lefel PhD ac yn weithgar ym myd ymchwil. Mae gan y rhan fwyaf gymhwyster addysgu uwchraddedig ac mae’n rhaid i staff newydd gwblhau’r TUAAU. Mae’r adran hefyd yn cyflogi nifer o diwtoriaid rhan-amser, sydd â phrofiad dysgu eang, a rhai arddangoswyr sy’n cael eu dewis o blith ein myfyrwyr israddedig ac uwchraddedig.
Mae gan bob un o ddarlithwyr yr Adran Ffiseg gymwysterau hyd at safon PhD a hanes o wneud gwaith ymchwil yn eu meysydd arbenigol.
Modiwlau
Noder: Y modiwlau a restrir isod yw'r modiwlau y bwriedir eu cyflwyno ar hyn o bryd yn ystod y flwyddyn academaidd nesaf ac mae'n bosibl y gallant newid. Maent wedi'u cynnwys yma i roi syniad o strwythur y cwrs.
Mae'r adran yn cefnogi myfyrwyr sy'n chwilio am waith gwirfoddol, yn enwedig yn addysgu mathemateg ym mhob sector. Mae rhagor o wybodaeth ar gael gan yr adran.
Dysgu ac Addysgu
Beth fyddwch chi'n ei ddysgu?
Bydd y cwrs hwn yn datblygu eich dealltwriaeth o ystod eang o ddamcaniaethau a phrosesau mewn Mathemateg a Ffiseg a fydd yn eich addysgu i gymhwyso'r technegau rydych wedi'u dysgu er mwyn datrys problemau ac archwilio cwestiynau ymchwil.
Mae dwy flynedd gyntaf y cwrs yn canolbwyntio'n bennaf ar fodiwlau sy'n trin ystod eang o themâu ym maes algebra, calcwlws, hafaliadau differol, mecaneg cwantwm, deinameg a ffiseg thermol.
Ynghyd â'ch modiwlau craidd yn y drydedd flwyddyn, bydd gennych ystod eang o ddewis o Fathemateg a Ffiseg, a fydd yn caniatáu i chi deilwra'r cwrs i weddu i'ch diddordebau.
Yn eich pedwaredd flwyddyn, byddwch yn treulio hanner eich amser yn cyflawni dau brosiect ymchwil unigol o dan gyfarwyddyd goruchwylydd a dewis o fodiwlau a addysgir.
Sut byddwch chi'n cael eich addysgu?
Bydd y cwrs hwn yn cael ei addysgu'n bennaf ar ffurf darlithoedd, ond bydd myfyrwyr hefyd yn mynd i ddosbarthiadau enghreifftiol – lle byddwch yn datrys problemau o dan oruchwyliaeth darlithydd – a gweithdai a thiwtorialau mewn grwpiau bach. Mae'r amgylcheddau dysgu rhyngweithiol hyn yn caniatáu i chi wirio eich dealltwriaeth a chael adborth. Bydd dulliau asesu'n cynnwys arholiadau, gwaith cwrs, ac asesu parhaus. Yn eich trydedd a'ch pedwaredd flwyddyn, bydd gennych gyfleoedd i gyflawni prosiectau ymchwil annibynnol manwl a rhannu eich canfyddiadau drwy adroddiadau ysgrifenedig a llafar.
Bydd tiwtor personol yn cael ei ddynodi i chi dros gyfnod eich cwrs gradd cyfan, a bydd yn gallu eich helpu gydag unrhyw broblemau neu ymholiadau, boed nhw'n faterion academaidd neu bersonol. Mae croeso i chi gysylltu â'ch tiwtor personol ar unrhyw adeg os bydd angen cymorth neu gyngor arnoch.
Byddwch hefyd yn cael cyfle i gwblhau Cynllun Datblygu Personol (CDP) yn Aberystwyth. Mae hon yn broses strwythuredig o hunanwerthuso, myfyrio, a chynllunio, a fydd yn eich galluogi i olrhain eich datblygiad personol, academaidd a phroffesiynol drwy gydol eich cyfnod yn y brifysgol. Drwy gofnodi eich perfformiad academaidd, ac amlygu'r sgiliau sydd gennych yn barod a'r sgiliau y bydd eu hangen arnoch ar gyfer cyflogadwyedd yn y dyfodol, bydd y portffolio CDP yn rhoi'r offer angenrheidiol i chi gynllunio'n effeithiol, datblygu dulliau llwyddiannus o astudio, ac ystyried eich dewisiadau gyrfaol a'ch dyheadau yn y dyfodol.
Barn ein Myfyrwyr
Gwnaeth Aberystwyth dipyn o argraff arna i, gyda'i lleoliad tawel a'i hawyrgylch cyfeillgar, ac ro'n i'n ddigon lwcus i gael cynnig lle yn astudio Ffiseg Fathemategol a Damcaniaethol. Roedd y cwrs yn anhygoel, yn bennaf oherwydd bod y rhyngweithio gyda darlithwyr yn agored ac yn gyfeillgar, a hefyd oherwydd amrywiaeth y modiwlau oedd ar gael. Astudiais ddau bwnc hynod ddiddorol – deilliodd un ohonyn nhw o fy niddordeb mewn deunyddiau cyfansawdd a'u defnydd posib mewn rasio Fformiwla 1. Mae Aberystwyth wedi bod yn amgylchedd anhygoel i astudio ynddo, sydd hefyd wedi cynnig llawer o ffyrdd i ymlacio a gwneud ffrindiau. Dim ond taith fer y tu hwnt i Graig-glais neu Ben Dinas sydd i gyrraedd lle hollol heddychlon a hynod o hardd. Yn fy mlwyddyn gyntaf, fe ddechreuais saethyddiaeth, ac fe fues i'n weithgar drwy gydol fy amser yn Aberystwyth. Gyda llu o ddewis ar gael, rhois gynnig ar rywbeth gwahanol bob blwyddyn. Ar ôl graddio, dechreuais weithio yn adran gyllid y brifysgol, fel rhan o gynllun AberYmlaen. Mae hyn yn ffordd wych o ddechrau arni mewn amgylchedd gwaith, ac i gael hyfforddiant yn ymwneud â busnes. Wedi hynny, bydda i'n dechrau gweithio gyda QA Consulting, sy'n darparu gwasanaethau ymgynghori er mwyn helpu i ddatblygu meddalwedd ar gyfer sefydliadau masnachol, ariannol a llywodraethol. Ar ôl cwblhau hyfforddiant meddalwedd ym Manceinion, rwy'n bwriadu gweithio ledled Prydain ar wahanol brosiectau. Fy nghyngor i unrhyw un sy'n dechrau gradd yn Aberystwyth yw ymlacio. Bydd pawb yn barod i helpu. Gwnewch y mwyaf o'r cyfleoedd sydd ar gael o'r eiliad y byddwch chi'n cyrraedd yma. Cofiwch weithio'n galed, cyfathrebu gyda darlithwyr, ymuno mewn clybiau a rhoi cynnig ar rywbeth newydd sydd o ddiddordeb i chi. Yn bennaf oll, cofiwch gymryd amser i fwynhau Aberystwyth am yr holl resymau rydych chi wedi dewis dod yma.