MMath

Mathemateg

Rydych chi'n edrych ar y cwrs hwn ar gyfer Dechrau Medi 2024

Mae'r cwrs Meistr mewn Mathemateg ym Mhrifysgol Aberystwyth yn datgelu disgyblaeth ddiddorol a heriol, sy'n cyfuno'r gwaith o adnabod a dadansoddi siapiau a phatrymau gyda chasglu data a chyfrifo.

Mae mathemateg yn hanfodol bwysig i gymdeithas fodern, ac mae'n cyfrannu at nifer o agweddau ar fywyd, gan gynnwys gwyddoniaeth, peirianneg, technoleg a chyllid.

Mae astudio'r opsiwn MMath hwn yn cynnig llawer mwy o gysylltiad â meysydd arbenigol Mathemateg, ac yn eich blwyddyn olaf byddwch yn cyflawni prosiectau ymchwil byrion gyda darlithydd a fydd wedi'i baru â chi ar sail eich diddordebau mathemategol neu ystadegol penodol.

Byddwch hefyd yn dod yn rhan o bwll o raddedigion y mae galw mawr amdanynt, ar draws llawer o ddiwydiannau, am eu sgiliau datrys problemau, eu prosesau meddwl dadansoddol clir, a'u gallu i lunio dadl resymegol.

Trosolwg o'r Cwrs

Pam astudio Mathemateg ym Mhrifysgol Aberystwyth?

  • Byddwch yn datgelu disgyblaeth sy'n cyfuno'r gwaith o adnabod a dadansoddi siapiau a phatrymau gyda chasglu data a chyfrifo.
  • Mae Mathemateg yn cael ei haddysgu yn Aberystwyth ers 1872, felly mae'r adran yn adeiladu ar dros 140 mlynedd o ragoriaeth addysgu, gan gyflogi darlithwyr sy'n athrawon ymroddedig ac yn ymchwilwyr a gaiff eu cydnabod yn rhyngwladol.
  • Mae'r radd hon wedi'i hachredu gan y Sefydliad Mathemateg a'i Chymwysiadau (IMA), sef cymdeithas broffesiynol a dysgedig gwledydd Prydain ar gyfer mathemateg, sy'n rhoi cydnabyddiaeth i chi fel Mathemategydd Siartredig.
  • Mae'r Adran yn cynnig sawl modiwl a addysgir drwy gyfrwng y Gymraeg. I gael rhagor o wybodaeth, cliciwch yma.
  • Bydd gradd mewn Mathemateg yn agor ystod eang o lwybrau gyrfaol i chi, ac mae llawer o alw am raddedigion ein gradd MMath – er enghraifft ym meysydd gwyddoniaeth, technoleg a pheirianneg, cyllid a masnach – am eu sgiliau datrys problemau, eu prosesau meddwl dadansoddol clir, a'u gallu i lunio dadl resymegol.
Ein Staff

Mae’r holl ddarlithwyr yn yr Adran Mathemateg wedi’u cymhwyso i lefel PhD ac yn weithgar ym myd ymchwil. Mae gan y rhan fwyaf gymhwyster addysgu uwchraddedig ac mae’n rhaid i staff newydd gwblhau’r TUAAU. Mae’r adran hefyd yn cyflogi nifer o diwtoriaid rhan-amser, sydd â phrofiad dysgu eang, a rhai arddangoswyr sy’n cael eu dewis o blith ein myfyrwyr israddedig ac uwchraddedig.

Modiwlau Dechrau Medi - 2024

Noder: Y modiwlau a restrir isod yw'r modiwlau y bwriedir eu cyflwyno ar hyn o bryd yn ystod y flwyddyn academaidd nesaf ac mae'n bosibl y gallant newid. Maent wedi'u cynnwys yma i roi syniad o strwythur y cwrs.

Modiwlau Craidd

Teitl y Modiwl Cod y Modiwl Gwerth Credyd
Algebra MT10510 10
Calcwlws MT10610 10
Cynllunio Gyrfa a Datblygu Sgiliau Mathemategol MT10720 20
Coordinate and Vector Geometry MA10110 10
Differential Equations MA11210 10
Algebra a Chalcwlws Pellach MT11010 10
Dadansoddi Mathemategol MT11110 10
Probability MA10310 10
Statistics MA11310 10

Modiwlau Craidd

Teitl y Modiwl Cod y Modiwl Gwerth Credyd
Ffiseg Mathemategol FG26020 20
Applied Statistics MA26620 20
Dadansoddiad Cymhlyg MT21510 10
Introduction to Abstract Algebra MA20310 10
Introduction to Numerical Analysis and its applications MA25220 20
Algebra Llinol MT21410 10
Real Analysis MA20110 10

Opsiynau

Teitl y Modiwl Cod y Modiwl Gwerth Credyd
Advanced Dynamics MA25710 10
Distributions and Estimation MA26010 10
Hydrodynameg 1 MT25610 10
Hydrodynamics 1 MA25610 10

Modiwlau Craidd

Teitl y Modiwl Cod y Modiwl Gwerth Credyd
Group Theory MA30110 10
Norms and Differential Equations MA30210 10

Modiwlau Craidd

Teitl y Modiwl Cod y Modiwl Gwerth Credyd
Prif Brosiect MTM9840 40
Prosiect Llai MTM9720 20

Gyrfaoedd

Beth alla i ei wneud gyda gradd mewn Mathemateg?

Mae ein graddedigion wedi cael swyddi yn y sectorau canlynol:

  • dadansoddi ystadegol ac ystadegau cyfrifiadol
  • addysgu
  • peirianneg awyrennol
  • cyfrifo a bancio
  • dadansoddi risg a gwaith actiwaraidd
  • rheolaeth ariannol a dadansoddi buddsoddiadau
  • technoleg gwybodaeth

Pa gyfleoedd sydd ar gael i fi yn y Brifysgol?

Mae cyflogadwyedd wedi'i wreiddio yn ein holl addysgu.

Cliciwch yma i ddysgu am y gwahanol gyfleoedd y mae tîm Gyrfaoedd Prifysgol Aberystwyth yn eu cynnig.

Gallwch wella'ch cyfleoedd cyflogaeth gyda GO Wales a BMG (y cynllun Blwyddyn mewn Gwaith) sy'n cael eu rheoli gan ein hadran Gyrfaoedd. 

Ar ôl i chi gwblhau'r radd hon, byddwch wedi meithrin sgiliau yn y meysydd canlynol;

  • sgiliau ymchwil a dadansoddi data
  • sgiliau mathemategol a chyfrifiadol uwch
  • sgiliau datrys problemau a meddwl creadigol effeithiol
  • sylfaen drylwyr mewn technoleg gwybodaeth
  • y gallu i weithio'n annibynnol ac fel rhan o dîm
  • sgiliau trefnu a rheoli amser
  • y gallu i gyfathrebu'n glir yn ysgrifenedig ac ar lafar
  • hunanddibyniaeth a'r gallu i ysgogi eich hun

 

Dysgu ac Addysgu

Beth fydda i'n ei ddysgu?

Mae'r crynodeb isod yn rhoi darlun o'r hyn y gallech ei astudio yn ystod y cynllun gradd pedair blynedd.

  • Yn ystod y flwyddyn gyntaf, byddwch yn archwilio pynciau algebra a chalcwlws, geometreg a hafaliadau differol, tebygolrwydd ac ystadegau, a dadansoddi mathemategol. 
  • Yn ystod yr ail a'r drydedd flwyddyn, bydd modd i chi ddewis o blith ystod o fodiwlau ar bynciau a all gynnwys dadansoddi a hafaliadau differol rhannol, algebra haniaethol a llinol, mecaneg a modelu ystadegol. 
  • Yn ystod eich blwyddyn olaf, byddwch yn cyflawni prosiectau ymchwil byrion gydag aelod o staff, a fydd wedi'i baru â chi ar sail eich diddordebau mathemategol neu ystadegol penodol, ynghyd â dewis cyrsiau a addysgir o'n rhestr o fodiwlau opsiynol.

Edrychwch o dan y tab sy'n nodi cynnwys y cwrs i weld pa ddewisiadau sydd ar gael i'n myfyrwyr presennol. 

Sut bydda i'n cael fy addysgu?

Darperir y radd hon drwy ddarlithoedd, tiwtorialau a dosbarthiadau ymarferol.

Cewch eich asesu drwy gyfuniad o waith cwrs, cyflwyniadau, adroddiadau ac arholiadau.

Bydd tiwtor personol yn cael ei ddynodi i chi dros gyfnod eich cwrs gradd cyfan, a bydd yn gallu eich helpu gydag unrhyw broblemau neu ymholiadau, boed nhw'n faterion academaidd neu bersonol. Mae croeso i chi gysylltu â'ch tiwtor personol ar unrhyw adeg os bydd angen cymorth neu gyngor arnoch.

Tystiolaeth Myfyrwyr

Does dim pwnc diflas byth, ac mae'r cwrs yn mynd yn llawer dyfnach i fathemateg nag o'n i'n ei ddisgwyl. Mae cymaint o wahanol fodiwlau i ddewis ohonynt, felly bydd rhywbeth sydd o ddiddordeb i chi bob amser. Mae'r darlithwyr bob amser yn barod i helpu. Elin Wyn Hughes

Mae Mathemateg yn gwrs gwych gyda darlithwyr cyfeillgar ac agos-atoch. Mae'r cynnwys bob amser yn ddiddorol iawn ond yn heriol i'r graddau cywir. Mae'r adran gyfan yn gweithio'n effeithiol i gynnig yr holl gyfleusterau sydd eu hangen i gael gradd dda. Jennifer O'Neil

Gofynion Mynediad Nodweddiadol

Tariff UCAS 144

Safon Uwch AAA with A in Mathematics

Gofynion TGAU (o leiaf gradd C/4):
Cymraeg neu Saesneg a Mathemateg

Diploma Cenedlaethol BTEC:
DDD-DDM with A in A level Mathematics

Bagloriaeth Ryngwladol:
34-32 points overall with 6 points in Mathematics at Higher Level

Bagloriaeth Ewropeaidd:
80% overall with 7 in Mathematics

Mae'r Brifysgol yn croesawu ceisiadau israddedig gan fyfyrwyr sy'n astudio'r Diploma Mynediad i Addysg Uwch neu gymwysterau lefel T, ar yr amod eu bod yn cyflawni'r canlyniadau perthnasol o ran cynnwys y pwnc a'r dysgu. Ni allwn dderbyn Diplomâu Mynediad i Addysg Uwch na lefelau T fel cymhwyster cyffredinol ar gyfer pob cwrs gradd israddedig.
Mae ein polisi derbyn cynhwysol yn rhoi gwerth ar ehangder yn ogystal â dyfnder yr astudio. Dewisir ymgeiswyr ar sail eu teilyngdod eu hunain a gall cynigion amrywio. Os hoffech wirio a yw eich cymwysterau yn gymwys cyn cyflwyno cais, cysylltwch â'r Swyddfa Derbyn Israddedigion am gyngor ac arweiniad.

Yn ôl i'r brig

|