Pam astudio Hanes Modern a Chyfoes ym Mhrifysgol Aberystwyth?
- Mae Hanes yn cael ei addysgu yn Aberystwyth ers 1872, felly mae'r adran yn un o'r rhai hynaf yng Nghymru, ac ymhlith y mwyaf blaenllaw ym Mhrydain.
- Mae ein cynlluniau gradd yn arloesol, gan sicrhau y byddwch chi'n cael y cymhwyster gorau un.
- Mae ein meysydd pwnc yn amrywio o hanes cynnar i hanes modern, hanes gwleidyddol, hanes cymdeithasol, hanes diwylliannol a hanes economaidd.
- Yn ogystal â llyfrgell Brifysgol wych, fel myfyriwr Hanes yn Aberystwyth fe fydd gennych fynediad at y Llyfrgell Genedlaethol. Dyma un o bump llyfrgell hawlfraint Prydain; mae ganddi dros chwe miliwn o lyfrau, mapiau, printiau a llawysgrifau, ac mae'r llyfrgell fawreddog yma wedi'i lleoli bum munud ar droed o'r Adran. Bydd hi'n adnodd arbennig o werthfawr a defnyddiol wrth astudio'ch pwnc arbennig a llunio'ch traethawd hir yn y flwyddyn olaf.
- Gallwch ddarganfod rhan arall o'r byd, cyfleoedd a diwylliant newydd ein rhaglenni Cyfnewid Rhyngwladol ac Erasmus+. I gael rhagor o wybodaeth am leoliadau, ewch i'r wefan Astudio Dramor.
Ein Staff
Mae gan bob un o ddarlithwyr yr Adran Hanes a Hanes Cymru gymwysterau hyd at safon PhD, ac mae gan y rhan fwyaf hefyd TUAAU.
Pa ragolygon gyrfa sydd i raddedigion Hanes Modern a Chyfoes?
Mae ein graddedigion wedi bod yn llwyddiannus yn sicrhau swyddi mewn llawer o wahanol feysydd, gan gynnwys:
- Addysg
- Y Gyfraith
- Archifwyr
- Cyhoeddwyr
- Gwleidyddion
- Gweision Sifil
- Y Cyfryngau
- Y Lluoedd Arfog
- Entrepreneuriaid.
- Fel adran, rydym yn falch iawn o'n cynfyfyrwyr nodedig ac uchel eu parch:
- Dr Tim Brain, cyn Brif Gwnstabl Swydd Gaerloyw
- Guto Bebb, Aelod Seneddol
- Dr Joanne Cayford, BBC
- Berwyn Davies, Pennaeth Swyddfa Addysg Uwch Cymru, Brwsel
- Iwan Griffiths, gohebydd chwaraeon S4C
Lleoliadau gwaith i fyfyrwyr yn y sector treftadaeth
Mae gan ein hadran gysylltiadau cryf gyda'r sector treftadaeth, a phortffolio sefydledig o leoliadau myfyrwyr. Yn y gorffennol, mae myfyrwyr wedi treulio hyd at dair wythnos yn y Llyfrgell Genedlaethol (gan gynnwys cyfleoedd drwy gyfrwng y Gymraeg), Comisiwn Brenhinol Henebion Cymru, a Chymdeithas Hynafiaethwyr Llundain. Mae'r lleoliadau hyn yn rhoi cyfle i gael profiad ymarferol a chipolwg o'r sector treftadaeth, ac maent yn werthfawr iawn ar gyfer y CV!
Trydariadau gan fyfyrwyr Cymdeithas yr Hynafiaethwyr a oedd ar leoliad yn 2014:
'Fe ges i weld tri chopi o'r Magna Carta ar unwaith heddiw!' 'Parch i Brifysgol Aberystwyth am fy helpu i gael y lleoliad, alla i ddim aros tan fory'
Cyfleoedd rhyngwladol: Erasmus a'r rhaglen Astudio Dramor
Mae cael ystod o brofiadau yn werthfawr iawn ar gyfer bywyd ar ôl y brifysgol, a darperir cyfleoedd gwych gan y cynlluniau Erasmus neu Astudio Dramor. Mae gan yr Adran Hanes a Hanes Cymru raglenni cyfnewid Erasmus wedi'u sefydlu â phrifysgolion yn yr Almaen, Prag, Bwdapest a Norwy. Mae gan yr Adran gysylltiadau hefyd gyda nifer o golegau yn America.
Sgyrsiau graddedig a mentora gan gynfyfyrwyr
Bydd y Cynllun Mentora Cynfyfyrwyr yn eich galluogi i gysylltu â chynfyfyrwyr sydd erbyn hyn mewn ystod o yrfaoedd, a hynny mewn amgylchedd diogel a chefnogol. Mae'r Adran Hanes a Hanes Cymru hefyd yn trefnu sgyrsiau gan gynfyfyrwyr ar wahanol gamau yn eu gyrfaoedd. Roedd sgyrsiau diweddar yn cynnwys 'O'r brifysgol i yrfa ym maes treftadaeth ddiwylliannol: y camau cyntaf', a gyflwynwyd gan un o'n graddedigion diweddar sydd wedi cael lle erbyn hyn fel hyfforddai yn Oriel y Tate.
Beth fydda i'n ei ddysgu?
Bydd y crynodeb isod yn rhoi darlun o'r hyn y gallech ei astudio yn ystod y cynllun gradd tair blynedd.
Yn ystod eich blwyddyn gyntaf, gallech ddarganfod:
Sgiliau hanesyddol a chysyniadau newydd
Dulliau a chyfnodau newydd
Hanes Rwsia
Prydain a'r Rhyfel Byd Cyntaf
Gweithiau hanesyddol diweddar cyffrous
Ein dewis o fodiwlau eraill sy'n adlewyrchu ystod gronolegol a thematig eang.
Yn ystod yr ail flwyddyn, gallech archwilio:
Y dull hanesyddol, sy'n archwilio'r newidiadau yn ystyr hanes, ei ddulliau, a'r ffordd o'i gofnodi drwy'r oesoedd
Trosedd, Terfysg a Moesoldeb yng Nghymru (1750-1850)
Diwylliant a Chymdeithas Oes Fictoria
Cipolwg ar grefft yr hanesydd
Pynciau a chyfnodau gwahanol o'n rhestr gynhwysfawr o fodiwlau.
Yn ystod eich trydedd flwyddyn, gallech astudio:
Pwnc arbennig sy'n eich galluogi i wneud ymchwil ddwys, gan ddefnyddio ffynonellau gwreiddiol sy'n eich galluogi i ddefnyddio sgiliau ymchwil sy'n hanfodol i hanesydd ymarferol
Cymdeithas Prydain a'r chwyldro Ffrengig
Rwsia a Staliniaeth
Yr Almaen a'r gyfundrefn Natsïaidd
Rhyfel Fietnam.
Sut bydda i'n cael fy addysgu?
Bydd y gwahanol ddulliau o ddysgu, addysgu ac asesu a ddefnyddir gan yr Adran Hanes a Hanes Cymru yn eich galluogi i ddatblygu sgiliau cyflwyno mewn grwpiau bach (seminarau ac asesiadau llafar), ysgrifennu ffurfiol (traethodau), ymchwil a datblygu syniadau'n ysgrifenedig (traethawd hir), a gweithio fel rhan o dîm (seminarau a chynadleddau i fyfyrwyr, fel Colocwiwm Canoloesol Gregynog). Mae'r Adran Hanes a Hanes Cymru hefyd yn cynnal tiwtorialau academaidd unigol ar gyfer yr holl fyfyrwyr – sy'n brin y tu allan i Rydychen a Chaergrawnt – ac mae ganddi system gefnogol o diwtoriaid personol. Drwy'r cyswllt un i un hwn, bydd modd i chi drafod gyrfaoedd posib, neu astudiaeth bellach efallai, gyda mentoriaid academaidd.
Gydag ystod eang o fodiwlau i ddewis o'u plith, roedd modd i fi ddilyn y pethau ro'n i'n ymddiddori ynddyn nhw, a darganfod agweddau ar Hanes nad o'n i erioed wedi meddwl y byddai modd i fi edrych arnyn nhw. Roedd gallu astudio popeth, o'r chwyldro diwydiannol i bynciau unigryw, yn cynnig y math o brofiad wnaeth fy nenu i Aberystwyth, a chewch chi ddim o hynny yn unrhyw le arall!
John Samuel Hewish