BA

Ieithoedd Modern

Aberystwyth yw un o lond llaw yn unig o brifysgolion yn y DU i gynnig cyfle i fyfyrwyr astudio cyfuniad o dair iaith, a chewch ddechrau astudio dwy ohonynt heb fod wedi gwneud hynny o’r blaen. Cewch ddewis o blith Ffrangeg, Eidaleg, Almaeneg, a Sbaeneg. Nid yn unig byddwch yn magu gwybodaeth ymarferol am dair iaith a rhuglder yn yr ieithoedd hynny, ond byddwch hefyd yn dysgu deall sefyllfa’r ieithoedd hyn mewn cyd destun byd-eang ehangach.

Trosolwg o'r Cwrs

Bydd dechreuwyr yn dilyn cwrs dwys yn y flwyddyn gyntaf, sy’n cynnwys modiwl iaith dwys a chyflwyniad cyffredinol i wareiddiad a diwylliant Ewrop. Ar ôl y flwyddyn gyntaf, bydd pob myfyriwr ar y cwrs dechreuwyr yn ymuno â’r myfyrwyr yn y dosbarth lefel uwch. Os ydych yn ymuno â ni ar y lefel uwch, bydd y flwyddyn gyntaf yn mireinio’r sgiliau a ddysgwyd i chi ar eich cwrs Safon Uwch ac yn eich paratoi ar gyfer y tair blynedd nesaf a’r flwyddyn dramor.

Yn ystod y cynllun gradd pedair blynedd, caiff eich gallu ieithyddol ei wella trwy hyfforddiant wythnosol sy’n cwmpasu gwrando, darllen/ysgrifennu, cyfieithu a sgwrsio, yn ogystal â gramadeg, cyfieithu, a ieithyddiaeth. Cewch hefyd ddethol o blith modiwlau dewisol ar ddiwylliant, llenyddiaeth a hanes yn gysylltiedig â’ch dewis ieithoedd.

Eich blwyddyn dramor

Dyma’r uchafbwynt i bob myfyriwr, a bydd yn un o’r profiadau mwyaf cofiadwy a gewch yn eich bywyd. Rydym yn cynnig yr opsiynau canlynol i’n myfyrwyr:

  • astudio yn un o’n prifysgolion partner
  • astudio mewn ysgol iaith breifat
  • gweithio fel Cynorthwyydd Saesneg gyda’r Cyngor Brydeinig
  • mynd ar leoliad profiad gwaith mewn gwlad sy’n berthnasol i’ch dewis iaith neu ieithoedd.


Ein Staff

Mae gan bob un o ddarlithwyr yr Adran Ieithoedd Modern gymwysterau hyd at safon PhD ac maent yn gwneud gwaith ymchwil. Rydym hefyd yn cyflogi tiwtoriaid iaith, rhai ohonynt â gradd PhD, a phob un yn addysgwyr profiadol. O bryd i'w gilydd, cyflogwn siaradwyr brodorol o brifysgolion sy'n bartneriaid i ni dramor (lectoriaid), sy'n dod atom â chymeradwyaeth uchel ar sail eu llwyddiant academaidd yn eu prifysgolion eu hunain, ac mae sawl un ohonynt wedi hyfforddi fel addysgwyr. 

Modiwlau Dechrau Medi - 2025

Noder: Y modiwlau a restrir isod yw'r modiwlau y bwriedir eu cyflwyno ar hyn o bryd yn ystod y flwyddyn academaidd nesaf ac mae'n bosibl y gallant newid. Maent wedi'u cynnwys yma i roi syniad o strwythur y cwrs.

Modiwlau Craidd

Teitl y Modiwl Cod y Modiwl Gwerth Credyd

Opsiynau

Teitl y Modiwl Cod y Modiwl Gwerth Credyd
Beginners French 1 FR10920 20
Beginners French 2 FR11020 20
Beginners German 1 GE11120 20
Beginners German 2 GE11020 20
Beginners Italian 1 IT10820 20
Beginners Italian 2 IT11020 20
Beginners Spanish 1 SP10820 20
Beginners Spanish 2 SP11020 20
Exploring German Cultural Identity GE10810 10
French Language Advanced FR19930 30
German Language Advanced GE19930 30
Hispanic Civilization SP10610 10
Images of France: The French Family FR12910 10
Spanish Language Advanced SP19930 30
Study and Research Skills in Spanish and Latin American Studies SP11120 20

Gyrfaoedd

Yn ystadegol, mae ieithyddion modern ymhlith y graddedigion mwyaf cyflogadwy, ac mae ein graddau hefyd yn mynd â’n myfyrwyr ar draws y byd. Mae ein graddedigion yn mynd ymlaen i amrywiaeth eang o broffesiynau gan gynnwys dysgu, gweinyddu, rheoli, marchnata a llawer mwy. Mae’r radd hon yn agor y drws i lawer o broffesiynau, fel y

  • gwasanaeth sifil
  • twristiaeth
  • gwaith cymdeithasol
  • llyfrgellyddiaeth
  • marchnata, cyhoeddi a darlledu.

Dysgu ac Addysgu

Dyma’r modiwlau y mae’n bosibl y byddwch yn eu hastudio ar y cwrs hwn.

Y flwyddyn gyntaf:

  • Beginners (French, German, Spanish, Italian)
  • Advanced (French, German, Spanish)
  • Exploring German Cultural Identity
  • Hispanic Civilization
  • Images of France: The French Family.

Yr ail flwyddyn:

  • Language (French, German, Spanish, Italian).

Y drydedd flwyddyn:

  • Year Abroad Assessment.

Y flwyddyn olaf:

  • Language (French, German, Spanish, Italian).


Gofynion Mynediad Nodweddiadol

Tariff UCAS 120 - 104

Safon Uwch BBB-BCC to include B in a relevant language

Gofynion TGAU (o leiaf gradd C/4):
Cymraeg neu Saesneg

Diploma Cenedlaethol BTEC:
DDM-DMM to include B in a relevant A level language

Bagloriaeth Ryngwladol:
30-28 with 5 points in a relevant language at Higher Level

Bagloriaeth Ewropeaidd:
75%-65% overall with 7 in a relevant language

Mae'r Brifysgol yn croesawu ceisiadau israddedig gan fyfyrwyr sy'n astudio'r Diploma Mynediad i Addysg Uwch neu gymwysterau lefel T, ar yr amod eu bod yn cyflawni'r canlyniadau perthnasol o ran cynnwys y pwnc a'r dysgu. Ni allwn dderbyn Diplomâu Mynediad i Addysg Uwch na lefelau T fel cymhwyster cyffredinol ar gyfer pob cwrs gradd israddedig.
Mae ein polisi derbyn cynhwysol yn rhoi gwerth ar ehangder yn ogystal â dyfnder yr astudio. Dewisir ymgeiswyr ar sail eu teilyngdod eu hunain a gall cynigion amrywio. Os hoffech wirio a yw eich cymwysterau yn gymwys cyn cyflwyno cais, cysylltwch â'r Swyddfa Derbyn Israddedigion am gyngor ac arweiniad.

Yn ôl i'r brig

|