BA

Ieithoedd Modern / Drama a Theatr

BA Ieithoedd Modern / Drama a Theatr Cod RW90 Dewch i Ddiwrnod Agored Dewch i Ddiwrnod Agored

Ymgeisio Nawr

Os ydych chi’n chwilio am raglen gyffrous, amrywiol a heriol sy'n cyfuno astudio iaith a diwylliant â chyfuniad o ddamcaniaeth ac ymarfer astudiaethau drama a theatr, mae’r radd hon yn ddelfrydol i chi.

Bydd astudio Ieithoedd Modern / Drama a Theatr ym Mhrifysgol Aberystwyth yn eich galluogi i ddatblygu eich sgiliau a'ch galluoedd fel gwneuthurwr theatr a meddyliwr creadigol sydd yn medru cyfathrebu mewn iaith dramor.

Trosolwg o'r Cwrs

Pam astudio Ieithoedd Modern / Drama a Theatr ym Mhrifysgol Aberystwyth? 

  • Fel myfyriwr yn yr Adran Astudiaethau Theatr, Ffilm a Theledu byddwch yn ymuno ag adran fywiog a chreadigol lle mae drama a theatr, ffilm a'r cyfryngau, a senograffeg a dylunio theatr yn gwrthdaro. Mae elfen Drama a Theatr y radd hon yn un heriol a chreadigol lle byddwch yn agored i gyfuniad unigryw o ddulliau creadigol a beirniadol.
  • Mae'r Adran Astudiaethau Theatr, Ffilm a Theledu yn adran greadigol lle mae myfyrwyr yn elwa o'r cysylltiadau agos â phartneriaid allweddol y diwydiant gan gynnwys Theatr Genedlaethol Cymru, Music Theatre Wales a Chwmni Theatr Quarantine. Rydym hefyd o fewn tafliad carreg i Ganolfan y Celfyddydau, Aberystwyth, un o'r canolfannau celfyddydau mwyaf yng nghanolbarth Cymru sy'n cyflwyno gwaith theatr a dawns cenedlaethol a rhyngwladol yn rheolaidd.
  • Mae ein cyfleusterau a'n hadnoddau eithriadol ar gyfer gwaith ymarferol yn cynnwys: tair stiwdio ymarfer, pob un â chyfleusterau technegol hyblyg; 2 stiwdio fawr ag offer proffesiynol gyda rigiau goleuadau digidol a reolir trwy gonsolau ETC Congo a Strand, PA gan Yamaha a Soundcraft, systemau clywedol Sanyo a goleuo Strand a dau NXAMP; chyfleusterau gwisgoedd a chwpwrdd dillad. 

Datblygiad iaith

  • Gallwch astudio eich dewis o ieithoedd o lefel ddechreuwyr neu uwch. Bydd dechreuwyr yn astudio cwrs dwys yn y flwyddyn gyntaf.
  • Byddwch yn derbyn pedair awr o ddosbarthiadau iaith a gramadeg bob wythnos. Mae’r Adran Ieithoedd Modern yn un gymharol fach a chlos, sy'n golygu y byddwch yn elwa o’n dull unigryw o ddatblygu iaith. Mae pob un o'r tiwtoriaid iaith yn siaradwyr brodorol neu'n arbenigwr yn yr iaith darged berthnasol.
  • Bydd eich blwyddyn dramor yn cael ei threulio mewn gwlad sy'n gysylltiedig â'ch iaith ddewisol. Gallwch ddewis astudio yn un o'n prifysgolion partner, ymgymryd â lleoliad gwaith â thâl neu ddi-dâl, neu gyfuniad o'r ddau.
Ein Staff

Mae holl staff academaidd yr Adran Theatr, Ffilm a Theledu yn gwneud gwaith ymchwil a/neu'n ymwneud â phrosiectau Trosglwyddo Gwybodaeth, ac mae ganddynt naill ai gymwysterau academaidd perthnasol ar lefel doethuriaeth neu brofiad proffesiynol ac arbenigedd cyfatebol.

Mae gan bob un o ddarlithwyr yr Adran Ieithoedd Modern gymwysterau hyd at safon PhD ac maent yn gwneud gwaith ymchwil. Rydym hefyd yn cyflogi tiwtoriaid iaith, rhai ohonynt â gradd PhD, a phob un yn addysgwyr profiadol. O bryd i'w gilydd, cyflogwn siaradwyr brodorol o brifysgolion sy'n bartneriaid i ni dramor (lectoriaid), sy'n dod atom â chymeradwyaeth uchel ar sail eu llwyddiant academaidd yn eu prifysgolion eu hunain, ac mae sawl un ohonynt wedi hyfforddi fel addysgwyr. 

Modiwlau Dechrau Medi - 2025

Noder: Y modiwlau a restrir isod yw'r modiwlau y bwriedir eu cyflwyno ar hyn o bryd yn ystod y flwyddyn academaidd nesaf ac mae'n bosibl y gallant newid. Maent wedi'u cynnwys yma i roi syniad o strwythur y cwrs.

Gyrfaoedd

Beth alla i ei wneud gyda gradd Ieithoedd Modern / Drama a Theatr? 

Mae llawer o'n myfyrwyr wedi llwyddo i gael gwaith yn y meysydd hyn; 

  • Actio a Pherfformio
  • Cyfarwyddo
  • Cyfieithu a Dehongli
  • Addysg
  • Dylunio
  • Ysgrifennu sgriptiau
  • Dysgu ac addysg 
  • Gweinyddiaeth y celfyddydau
  • Marchnata
  • Bancio Rhyngwladol
  • Rheolaeth
  • Cysylltiadau Cyhoeddus. 

Sgiliau Trosglwyddadwy  

Yn ogystal â sgiliau a gwybodaeth pwnc-benodol, bydd eich gradd yn rhoi ystod o sgiliau trosglwyddadwy i chi y mae cyflogwyr yn eu gwerthfawrogi’n fawr. Mae’r rhain yn cynnwys: 

  • Sgiliau cyfathrebu 
  • Sgiliau trin pobl
  • Cymhwysedd rhyngddiwylliannol
  • Y gallu i ddysgu ieithoedd eraill yn gymharol rhwydd
  • Ymwybyddiaeth o swyddogaeth iaith
  • Gwell sgiliau iaith yn eich mamiaith
  • Y gallu i weithio’n annibynnol
  • Sgiliau rheoli amser a threfnu, gan gynnwys y gallu i weithio i derfynau amser
  • Y gallu i fynegi syniadau a chyfleu gwybodaeth mewn modd clir a threfnus, yn ysgrifenedig ac ar lafar
  • Hunanddibyniaeth a’r gallu i ysgogi eich hun
  • Gweithio mewn tîm a’r gallu i drafod cysyniadau mewn grwpiau, a rhoi lle i syniadau gwahanol dod i gytundeb 
  • Y gallu i gymhwyso doniau creadigol, llawn dychymyg a’r gallu i ddatrys problemau mewn amrywiaeth o sefyllfaoedd
  • Y gallu i ymchwilio, cloriannu a threfnu gwybodaeth
  • Y gallu i strwythuro a chyfleu syniadau’n effeithiol mewn amrywiaeth o sefyllfaoedd a chan ddefnyddio amrywiaeth o ddulliau
  • Y gallu i wrando a defnyddio cyngor beirniadol.

Pa gyfleoedd sydd ar gael am brofiad gwaith wrth astudio? 

Dysgwch am y gwahanol gyfleoedd sy'n cael eu cynnig gan y Gwasanaeth Gyrfaoedd a sut y gallwch chi wella'ch cyfleoedd cyflogaeth gyda Cynllun Blwyddyn mewn Gwaith (BMG).

Dysgu ac Addysgu

Beth fydda i’n ei ddysgu?

Ym mhob blwyddyn bydd gennych bedair awr o waith iaith yr wythnos – dewiswch o blith Ffrangeg, Almaeneg, Sbaeneg ac Eidaleg.

Yn eich blwyddyn gyntaf byddwch yn astudio:

  • Cyflwyniad cynhwysfawr i'r prif agweddau artistig a dadansoddol a geir yn theatr, perfformiad a senograffeg yr 20fed ganrif ac yn gyfoes.
  • Modiwlau dewisol yn amrywio o berfformiadau safle-benodol i ffilmiau Ewropeaidd a hunaniaeth ddiwylliannol.

Yn eich ail flwyddyn, byddwch yn astudio:

  • Eich dewis o fodiwlau dewisol o’r ystod eang sydd ar gael gan gynnwys actio ar gyfer camera, cynhyrchu theatr, prosiectau dylunio a pherfformio, sinema Ciwba a'r Avant-Garde Sbaenaidd. 

Yn eich trydedd flwyddyn, byddwch yn ymgymryd â'ch blwyddyn dramor, yn gweithio neu'n astudio mewn gwlad dramor sy’n berthnasol i’ch iaith ddewisol.

Yn eich blwyddyn olaf, byddwch yn astudio:

  • Eich dewis o fodiwlau dewisol, yn amrywio o ysgrifennu dramâu, theatr gerdd, drama gyfoes a pherfformio i sinema Ffrengig a'r Eidal yn yr 20fed Ganrif.

Sut fydda i'n cael fy nysgu?

Byddwch yn cael eich addysgu drwy gyfuniad o ddarlithoedd, dosbarthiadau iaith, seminarau a thiwtorialau.

Asesu

Gall dulliau asesu gynnwys arholiadau, gwaith cwrs, traethodau, prosiectau a chyflwyniadau.

Gofynion Mynediad Nodweddiadol

Tariff UCAS 120 - 104

Safon Uwch BBB-BCC

Gofynion TGAU (o leiaf gradd C/4):
Cymraeg neu Saesneg

Diploma Cenedlaethol BTEC:
DDM-DMM

Bagloriaeth Ryngwladol:
30-28

Bagloriaeth Ewropeaidd:
75%-65%

Mae'r Brifysgol yn croesawu ceisiadau israddedig gan fyfyrwyr sy'n astudio'r Diploma Mynediad i Addysg Uwch neu gymwysterau lefel T, ar yr amod eu bod yn cyflawni'r canlyniadau perthnasol o ran cynnwys y pwnc a'r dysgu. Ni allwn dderbyn Diplomâu Mynediad i Addysg Uwch na lefelau T fel cymhwyster cyffredinol ar gyfer pob cwrs gradd israddedig.
Mae ein polisi derbyn cynhwysol yn rhoi gwerth ar ehangder yn ogystal â dyfnder yr astudio. Dewisir ymgeiswyr ar sail eu teilyngdod eu hunain a gall cynigion amrywio. Os hoffech wirio a yw eich cymwysterau yn gymwys cyn cyflwyno cais, cysylltwch â'r Swyddfa Derbyn Israddedigion am gyngor ac arweiniad.

Yn ôl i'r brig

|