BA

Ieithoedd Modern / Llenyddiaeth Saesneg

BA Ieithoedd Modern / Llenyddiaeth Saesneg Cod QR90 Dewch i Ddiwrnod Agored Dewch i Ddiwrnod Agored

Ymgeisio Nawr

Os hoffech chi astudio cwrs sy'n pwyso a mesur ystod eang o destunau llenyddol o'r cyfnod canoloesol cynnar hyd heddiw, tra'n datblygu eich galluoedd ieithyddol mewn ieithoedd, mae’r radd BA Ieithoedd Modern / Llenyddiaeth Saesneg ym Mhrifysgol Aberystwyth yn ddelfrydol i chi. Rydym yn galluogi ein myfyrwyr i ddatblygu eu dawn i fynegi eu hunain, meddwl yn feirniadol, a meithrin gwybodaeth arbenigol a sgiliau ymchwil yn y ddau bwnc.

Ar y cwrs diwylliannol gyfoethog hwn, byddwch yn datblygu dealltwriaeth fanwl ac eang o hanes llenyddiaeth a gwybodaeth gymhwysol am ddamcaniaethau llenyddol ar y cyd â dosbarthiadau iaith safonol yn eich iaith ddewisol.

Trosolwg o'r Cwrs

Pam astudio Ieithoedd Modern / Llenyddiaeth Saesneg yn Aberystwyth?

  • Gallwch drafod amrywiaeth eang o ddulliau o ymdrin â llenyddiaeth a hanes diwylliannol, gan gyfuno meddwl beirniadol ag ysgolheictod.
  • Bydd cyfle i chi drin a thrafod damcaniaethau llenyddol – y syniadau athronyddol a chysyniadol sy’n herio, yn codi cwestiynau ac yn taflu goleuni ar y modd yr ydym ni’n darllen. 
  • Yn ystod eich blwyddyn olaf bydd gennych yr opsiwn i gymryd rhan mewn encil ysgrifennu mewn tŷ gwledig yng nghanolbarth Cymru - cyfle anhygoel i dreulio amser gyda chyd-fyfyrwyr a staff, gan ddatblygu eich prosiectau a'ch traethodau hir, mewn lleoliad gwledig prydferth. 
  • Mae'r adran Saesneg ac Ysgrifennu Creadigol yn gartref i’r New Welsh Review, cylchgrawn llenyddol mwyaf blaenllaw Cymru - gallai hwn fod yn gyfle cyffrous i chi gymryd rhan.
  • Byddwch yn cael eich trochi mewn cymuned gefnogol a bywiog o feddylwyr creadigol a beirniadol, arbenigwyr llenyddol, ac ysgolheigion cyhoeddedig o bob maes.
  • Mae gennym un o'r llyfrgelloedd mwyaf yn y byd, Llyfrgell Genedlaethol Cymru, ar garreg ein drws. Mae'r sefydliad hawlfraint hwn yn cael copi o bob llyfr a gyhoeddir yn y Deyrnas Unedig.
  • Mae'n destun balchder i’r ddwy adran eu bod yn cynnig awyrgylch hynod gyfeillgar lle mae’r cyswllt â staff yn rheolaidd.

 Datblygiad iaith

  • Gallwch astudio eich dewis o ieithoedd o lefel ddechreuwyr neu uwch. Bydd dechreuwyr yn astudio cwrs dwys yn y flwyddyn gyntaf.
  • Byddwch yn derbyn pedair awr o ddosbarthiadau iaith a gramadeg bob wythnos. Mae’r Adran Ieithoedd Modern yn un gymharol fach a chlos, sy'n golygu y byddwch yn elwa o’n dull unigryw o ddatblygu iaith. Mae pob un o'r tiwtoriaid iaith yn siaradwyr brodorol neu'n arbenigwr yn yr iaith darged berthnasol.
  • Bydd eich blwyddyn dramor yn cael ei threulio mewn gwlad sy'n gysylltiedig â'ch iaith ddewisol. Gallwch ddewis astudio yn un o'n prifysgolion partner, ymgymryd â lleoliad gwaith â thâl neu ddi-dâl, neu gyfuniad o'r ddau.
Ein Staff

Mae'r holl staff academaidd yn yr Adran Saesneg ac Ysgrifennu Creadigol yn ysgolheigion ac arbenigwyr gweithgar yn eu meysydd. Maent naill ai'n gymwys i lefel PhD neu mae ganddynt brofiad cymesur.  Mae gan ein darlithwyr naill ai gymhwyster dysgu Addysg Uwch neu'n maent yn gweithio tuag ato, ac mae gan y rhan fwyaf o’r staff academaidd hefyd Gymrodoriaethau gyda’r Academi Addysg Uwch.  

Mae gan bob un o ddarlithwyr yr Adran Ieithoedd Modern gymwysterau hyd at safon PhD ac maent yn gwneud gwaith ymchwil. Rydym hefyd yn cyflogi tiwtoriaid iaith, rhai ohonynt â gradd PhD, a phob un yn addysgwyr profiadol. O bryd i'w gilydd, cyflogwn siaradwyr brodorol o brifysgolion sy'n bartneriaid i ni dramor (lectoriaid), sy'n dod atom â chymeradwyaeth uchel ar sail eu llwyddiant academaidd yn eu prifysgolion eu hunain, ac mae sawl un ohonynt wedi hyfforddi fel addysgwyr. 

Modiwlau Dechrau Medi - 2025

Noder: Y modiwlau a restrir isod yw'r modiwlau y bwriedir eu cyflwyno ar hyn o bryd yn ystod y flwyddyn academaidd nesaf ac mae'n bosibl y gallant newid. Maent wedi'u cynnwys yma i roi syniad o strwythur y cwrs.

Gyrfaoedd

Mae ein holl fodiwlau yn darparu sgiliau allweddol sy'n golygu y gallwch feithrin C.V. cynhwysfawr sy'n tystio i amrywiaeth eang eich galluoedd.

Mae ein graddedigion wedi llwyddo ar draws ystod o yrfaoedd gan gynnwys:

  • Darlledu
  • Newyddiaduraeth
  • Hysbysebu
  • Cyhoeddi
  •  Addysg
  • y Gwasanaeth Sifil
  • Busnes
  • Cyllid
  • y Cyfryngau Newydd.

Sgiliau Trosglwyddadwy

Bydd astudio ar gyfer gradd mewn Ieithoedd Modern / Llenyddiaeth Saesneg yn rhoi ystod o sgiliau trosglwyddadwy i chi y mae cyflogwyr yn chwilio amdanynt. Mae'r rhain yn cynnwys:

  • Y gallu i fynegi syniadau a chyfleu gwybodaeth mewn modd clir a threfnus, yn ysgrifenedig ac ar lafar
  • Sgiliau datrys problemau a meddwl creadigol effeithiol
  • Y gallu i weithio'n annibynnol
  • Sgiliau rheoli amser a threfnu, gan gynnwys y gallu i weithio i derfynau amser
  • Y gallu i fynegi syniadau a chyfleu gwybodaeth mewn modd clir a threfnus, yn ysgrifenedig ac ar lafar
  • Hunanddibyniaeth a'r gallu i ysgogi eich hun
  • Gweithio mewn tîm a'r gallu i drafod cysyniadau mewn grwpiau, a rhoi lle i syniadau gwahanol a dod i gytundeb
  • Sgiliau ymchwil.

Pa gyfleoedd sydd ar gael am brofiad gwaith wrth astudio? 

Dysgwch am y gwahanol gyfleoedd sy'n cael eu cynnig gan y Gwasanaeth Gyrfaoedd a sut y gallwch chi wella'ch cyfleoedd cyflogaeth gyda Cynllun Blwyddyn mewn Gwaith (BMG).

Dysgu ac Addysgu

Beth fydda i’n ei ddysgu?

Ym mhob blwyddyn bydd gennych bedair awr o waith iaith yr wythnos – dewiswch o blith Ffrangeg, Almaeneg, Sbaeneg ac Eidaleg.

Yn eich blwyddyn gyntaf byddwch yn astudio:

  • Llenyddiaeth o'r canrifoedd cyn 1800
  • Arfer beirniadol
  • Modiwlau dewisol yn amrywio o destunau clasurol, barddoniaeth a ffuglen o'r bedwaredd ganrif ar bymtheg i ffilm a hunaniaeth ddiwylliannol Ewropeaidd.

Yn eich ail flwyddyn, byddwch yn astudio:

  • Damcaniaeth Lenyddol
  • Eich dewis o fodiwlau dewisol o’r ystod eang sydd ar gael, gan gynnwys llenyddiaeth ers 1960, yr argyfwng hinsawdd, technegau TESOL, daearyddiaeth lenyddol a sinema.

Yn eich trydedd flwyddyn, byddwch yn ymgymryd â'ch blwyddyn dramor, yn gweithio neu'n astudio mewn gwlad dramor sy’n berthnasol i’ch iaith ddewisol.

Yn eich blwyddyn olaf, byddwch yn astudio:

  • Eich dewis o fodiwlau dewisol, yn amrywio o Chaucer, plentyndod Fictoraidd, barddoniaeth Gymraeg yn Saesneg i lenyddiaeth Affricanaidd, sinema Ciwba a'r Eidal yn yr 20fed Ganrif.

Sut fydda i'n cael fy nysgu?

Byddwch yn cael eich addysgu drwy gyfuniad o ddarlithoedd, dosbarthiadau iaith, seminarau a thiwtorialau.

Asesu

Gall dulliau asesu gynnwys arholiadau, gwaith cwrs, traethodau, prosiectau a chyflwyniadau. 

Gofynion Mynediad Nodweddiadol

Tariff UCAS 120 - 104

Safon Uwch BBB-BBC

Gofynion TGAU (o leiaf gradd C/4):
Cymraeg neu Saesneg

Diploma Cenedlaethol BTEC:
DDM-DMM

Bagloriaeth Ryngwladol:
30-28

Bagloriaeth Ewropeaidd:
75%-65%

Mae'r Brifysgol yn croesawu ceisiadau israddedig gan fyfyrwyr sy'n astudio'r Diploma Mynediad i Addysg Uwch neu gymwysterau lefel T, ar yr amod eu bod yn cyflawni'r canlyniadau perthnasol o ran cynnwys y pwnc a'r dysgu. Ni allwn dderbyn Diplomâu Mynediad i Addysg Uwch na lefelau T fel cymhwyster cyffredinol ar gyfer pob cwrs gradd israddedig.
Mae ein polisi derbyn cynhwysol yn rhoi gwerth ar ehangder yn ogystal â dyfnder yr astudio. Dewisir ymgeiswyr ar sail eu teilyngdod eu hunain a gall cynigion amrywio. Os hoffech wirio a yw eich cymwysterau yn gymwys cyn cyflwyno cais, cysylltwch â'r Swyddfa Derbyn Israddedigion am gyngor ac arweiniad.

Yn ôl i'r brig

|