BA

Ieithoedd Modern / Hanes

BA Ieithoedd Modern / Hanes Cod RV90 Dewch i Ddiwrnod Agored Dewch i Ddiwrnod Agored

Ymgeisio Nawr

Bydd astudio am radd mewn Ieithoedd Modern / Hanes ym Mhrifysgol Aberystwyth yn eich galluogi i ddilyn eich diddordeb mewn hanes, iaith a diwylliant, gan gyfuno dwy ddisgyblaeth werthfawr. Byddwch yn ymdrwytho mewn ystod eang o gyfnodau hanesyddol, ac yn meithrin dealltwriaeth o sut a pham mae'r byd wedi esblygu fel y mae.

Mae'r cwrs hwn yn canolbwyntio ar y myfyrwyr, a byddwch yn gallu datblygu eich gwybodaeth bresennol am hanes wrth astudio iaith - dewiswch o blith Ffrangeg, Almaeneg, Sbaeneg neu Eidaleg.

Bydd y radd hon hefyd yn rhoi dealltwriaeth drylwyr i chi o ieithoedd modern a dealltwriaeth ddofn o'r llenyddiaeth a'r diwylliant.

Byddwch yn elwa o brofiad a brwdfrydedd y staff arbenigol yn y ddwy adran. Wrth gwblhau’r radd hon, bydd gennych sgiliau y gellir eu defnyddio yn y byd go-iawn, a fydd yn eich galluogi i lywio eich dyfodol a datblygu gyrfa deilwng.

Trosolwg o'r Cwrs

Pam astudio Ieithoedd Modern / Hanes ym Mhrifysgol Aberystwyth?

  • Gallwch astudio eich dewis o ieithoedd o lefel ddechreuwyr neu uwch - dewiswch o blith Ffrangeg, Almaeneg, Sbaeneg ac Eidaleg. Bydd dechreuwyr yn astudio cwrs dwys yn y flwyddyn gyntaf.
  • Byddwch yn derbyn pedair awr o ddosbarthiadau iaith a gramadeg bob wythnos. Mae’r Adran Ieithoedd Modern yn un gymharol fach a chlos, sy'n golygu y byddwch yn elwa o’n dull unigryw o ddatblygu iaith. Mae pob un o'r tiwtoriaid iaith yn siaradwyr brodorol neu'n arbenigwr yn yr iaith darged berthnasol.
  • Bydd eich blwyddyn dramor yn cael ei threulio mewn gwlad sy'n gysylltiedig â'ch iaith ddewisol. Gallwch ddewis astudio yn un o'n prifysgolion partner, ymgymryd â lleoliad gwaith â thâl neu ddi-dâl, neu gyfuniad o'r ddau.
  • Mae'r addysgu yn yr Adran Hanes a Hanes Cymru yn arloesol, yn seiliedig ar ymchwil ac wedi'i gynllunio i feithrin eich sgiliau dehongli, dadansoddi, a chyfathrebu - sgiliau sy’n werthfawr yn y gweithle. 
  • Mae hanes wedi cael ei addysgu yn Aberystwyth ers 1872, sy'n golygu mai ein hadran ni yw'r un mwyaf sefydledig a’r un mwyaf blaenllaw ym Mhrydain.
  • A chithau’n fyfyriwr Hanes yn Aberystwyth, bydd digon o gyfle i chi gael profiad ymarferol a chael mynediad at yr adnoddau o safon fyd-eang sydd ar gael yn Aberystwyth. Mae'r rhain yn cynnwys Llyfrgell Genedlaethol Cymru - un o bum Llyfrgell Hawlfraint y DU a phrif gadwrfa archifau Cymru.
  • Yn ogystal â dysgu am y gorffennol, byddwch yn cymryd rhan weithredol yn y broses o feithrin dealltwriaeth newydd o hanes. Trwy astudio ffynonellau gwreiddiol a gweithio'n agos gyda'n darlithwyr, byddwch yn cyfrannu at ein cymuned ymchwil.
Ein Staff

Mae staff yr Adran Hanes a Hanes Cymru yn ymchwilwyr gweithgar ac yn arbenigwyr yn eu meysydd Hanes. Mae’r mwyafrif wedi cymhwyso gyda PhD ac mae ganddynt TUAAU hefyd. I ganfod mwy am ein staff, ewch i’n tudalen staff yr adran.

Mae gan bob un o ddarlithwyr yr Adran Ieithoedd Modern gymwysterau hyd at safon PhD ac maent yn gwneud gwaith ymchwil. Rydym hefyd yn cyflogi tiwtoriaid iaith, rhai ohonynt â gradd PhD, a phob un yn addysgwyr profiadol. O bryd i'w gilydd, cyflogwn siaradwyr brodorol o brifysgolion sy'n bartneriaid i ni dramor (lectoriaid), sy'n dod atom â chymeradwyaeth uchel ar sail eu llwyddiant academaidd yn eu prifysgolion eu hunain, ac mae sawl un ohonynt wedi hyfforddi fel addysgwyr. 

Modiwlau Dechrau Medi - 2025

Noder: Y modiwlau a restrir isod yw'r modiwlau y bwriedir eu cyflwyno ar hyn o bryd yn ystod y flwyddyn academaidd nesaf ac mae'n bosibl y gallant newid. Maent wedi'u cynnwys yma i roi syniad o strwythur y cwrs.

Modiwlau Craidd

Teitl y Modiwl Cod y Modiwl Gwerth Credyd
Llunio Hanes HA20120 20

Opsiynau

Teitl y Modiwl Cod y Modiwl Gwerth Credyd
French Language (Intermediate) FR22140 40
German Language (Intermediate) GE22140 40
Italian Language (Intermediate) IT22140 40
Spanish Language (Intermediate) SP22140 40
Concro'r Byd: Twf a Chwymp Ymerodraethau Prydain a Ffrainc HA21820 20
Culture, Society and the Victorians HY29320 20
Cymru a'r Tuduriaid HC23520 20
Diwylliant, Cymdeithas a'r Fictoriaid HA29320 20
Environmental History of the Neotropics (Latin America and the Caribbean) in the Capitalocene HY29120 20
Famine in Medieval England HY25520 20
From the Second Empire to the Third Reich: Weimar Germany 1914-1933 HY28420 20
Kingship and political culture in high medieval England and Norway, 1066-1263 HY22120 20
Modern Japan: From Samurai to Salary Men HY29820 20
Reforging the Union: The Reconstruction Era in US History, 1863-1896 HY27720 20
Stori America, 1607-1867, ar Ffilm a Theledu HA24520 20
The European Reformation HY26520 20
Wales and the Kings of Britain: Conflict, Power and Identities in the British Isles 1039-1417 WH20120 20
Wales under the Tudors WH23520 20
Beirdd a Noddwyr: Llên a Hanes c.1300-1500 CY20720 20
Cuban Cinema of the Revolution: Crisis, National Identity and the Critique of Contemporary Society SP27020 20
Die Wende: Representations of Division and Unification in German Film GE26020 20
Gender in Modern and Contemporary French Culture FR21020 20
German-speaking Refugees from National Socialism in the UK GE27220 20
History, Film and Memory: Representing World Wars in French cinema FR27820 20
Image Wars in Southeast Asia: Studying 20th Century Propaganda HY23720 20
Memory, Myth and History: Investigating Medieval Chronicles, c. 1000-1250 HY24120 20
Rethinking late 20th Century Italy IT21020 20
Self-Writing, 18th-21st Centuries FR27020 20
The Sound of History: the Civil Rights Movement in Post-War America HY24720 20
The Spanish Avant-Garde SP20620 20
Victorian Visions: Exploring Nineteenth-Century Exhibitions HY24620 20

Modiwlau Craidd

Teitl y Modiwl Cod y Modiwl Gwerth Credyd

Opsiynau

Teitl y Modiwl Cod y Modiwl Gwerth Credyd
Concro'r Byd: Tŵf a Chwymp Ymerodraethau Prydain a Ffrainc HA31820 20
Culture, Society and the Victorians HY39320 20
Cymru a'r Tuduriaid HC33520 20
Diwylliant, Cymdeithas a'r Fictoriaid HA39320 20
Environmental History of the Neotropics (Latin America and the Caribbean) in the Capitalocene HY39120 20
Famine in Medieval England HY35520 20
From the Second Empire to the Third Reich: Weimar Germany 1914-1933 HY38420 20
Kingship and political culture in high medieval England and Norway, 1066-1263 HY32120 20
Modern Japan: From Samurai to Salary Men HY39820 20
Reforging the Union: The Reconstruction Era in US History, 1863-1896 HY37720 20
Stori America, 1607-1867, ar Ffilm a Theledu HA34520 20
The European Reformation HY36520 20
Wales and the Kings of Britain: Conflict, Power and Identities in the British Isles 1039-1417 WH30120 20
Wales under the Tudors WH33520 20
French Language (Advanced) FR33440 40
German Language (Advanced) GE33440 40
Italian Language (Advanced) IT33440 40
Spanish Language (Advanced) SP33440 40
Cuban Cinema of the Revolution: Crisis, National Identity and the Critique of Contemporary Society SP37020 20
Die Wende: Representations of Division and Unification in German Film GE36120 20
Gender in Modern and Contemporary French Culture FR31020 20
German-speaking Refugees from National Socialism in the UK GE37220 20
History, Film and Memory: Representing World Wars in French cinema FR37820 20
Reading Late 19th Century Literature SP35120 20
Rethinking late 20th Century Italy IT31020 20
Self-writing, 18th-21st Centuries FR37020 20

Gyrfaoedd

Mae llawer o'n myfyrwyr yn mynd ymlaen i addysgu'r iaith y maent hwy eu hunain wedi'i dysgu ac mae cyfran uchel o'n graddedigion yn mynd ymlaen i weithio mewn swyddi gweinyddol a rheoli. Mae gradd o'r Adran Ieithoedd Modern yn gymhwyster sy'n agor y drws i lawer o broffesiynau ym Mhrydain, megis y gwasanaeth sifil, twristiaeth, gwaith cymdeithasol, llyfrgellyddiaeth, cyhoeddi a darlledu, ac mae ein graddau hefyd yn mynd â'n myfyrwyr ar draws y byd.

Er bod llawer o raddedigion Hanes yn ymgymryd â gyrfaoedd sy'n gysylltiedig yn uniongyrchol â'u pwnc, megis gweithio ym meysydd rheoli archifau, treftadaeth neu amgueddfeydd, mae eraill yn dod o hyd i waith mewn ystod eang o feysydd eraill, gan gynnwys llyfrgellyddiaeth, rheoli cofnodion, newyddiaduraeth, y cyfryngau, hysbysebu, y gyfraith, llywodraeth leol, busnes a chyllid, ystod o swyddi sy'n ymgorffori ymchwil, ysgrifennu proffesiynol, yr heddlu, y fyddin, cysylltiadau cyhoeddus a rheoli personél. Bydd y sgiliau ymchwilio a dadansoddi y byddwch yn eu datblygu dros gyfnod eich cwrs gradd hefyd yn rhoi sylfaen gadarn ar gyfer astudiaethau uwchraddedig ac ar gyfer gyrfa yn y byd academaidd.

Pa gyfleoedd sydd ar gael am brofiad gwaith wrth astudio? 

Dysgwch am y gwahanol gyfleoedd sy'n cael eu cynnig gan y Gwasanaeth Gyrfaoedd a sut y gallwch chi wella'ch cyfleoedd cyflogaeth gyda Cynllun Blwyddyn mewn Gwaith (BMG).

Dysgu ac Addysgu

Beth fydda i’n ei ddysgu?

Ym mhob blwyddyn bydd gennych bedair awr o waith iaith yr wythnos – dewiswch o blith Ffrangeg, Almaeneg, Sbaeneg ac Eidaleg.

Yn eich blwyddyn gyntaf byddwch yn astudio:

  • Arfer hanesyddol
  • Dewiswch fodiwlau dewisol sy’n amrywio o hanes y canol oesoedd i hanes modern, i ffilm Ewropeaidd a hunaniaeth ddiwylliannol.

Yn eich ail flwyddyn, byddwch yn astudio:

  • Datblygiadau damcaniaethol allweddol sydd wedi dylanwadu ar ysgrifennu hanes
  • Eich dewis o fodiwlau dewisol o blith yr ystod eang sydd ar gael, sy’n cynnwys newyn yn yr oesoedd canol, y Tuduriaid, y Fictoriaid, Japan fodern, sinema Ciwba a'r Avant-Garde Sbaeneg.

Yn eich trydedd flwyddyn, byddwch yn ymgymryd â'ch blwyddyn dramor, yn gweithio neu'n astudio mewn gwlad dramor sy’n berthnasol i’ch iaith ddewisol.

Yn eich blwyddyn olaf, byddwch yn astudio:

  • Eich dewis o fodiwlau dewisol o blith yr ystod eang sydd ar gael, sy’n eich galluogi i deilwra eich cwrs i gyd-fynd â'ch diddordebau eich hun.

Sut fydda i'n cael fy nysgu?

Byddwch yn cael eich addysgu drwy gyfuniad o ddarlithoedd, dosbarthiadau iaith, seminarau a thiwtorialau.

Asesu

Gall dulliau asesu gynnwys arholiadau, gwaith cwrs, traethodau, prosiectau a chyflwyniadau.

Gofynion Mynediad Nodweddiadol

Tariff UCAS 120 - 104

Safon Uwch BBB-BCC

Gofynion TGAU (o leiaf gradd C/4):
Cymraeg neu Saesneg

Diploma Cenedlaethol BTEC:
DDM-DMM

Bagloriaeth Ryngwladol:
30-28

Bagloriaeth Ewropeaidd:
75% - 65%

Mae'r Brifysgol yn croesawu ceisiadau israddedig gan fyfyrwyr sy'n astudio'r Diploma Mynediad i Addysg Uwch neu gymwysterau lefel T, ar yr amod eu bod yn cyflawni'r canlyniadau perthnasol o ran cynnwys y pwnc a'r dysgu. Ni allwn dderbyn Diplomâu Mynediad i Addysg Uwch na lefelau T fel cymhwyster cyffredinol ar gyfer pob cwrs gradd israddedig.
Mae ein polisi derbyn cynhwysol yn rhoi gwerth ar ehangder yn ogystal â dyfnder yr astudio. Dewisir ymgeiswyr ar sail eu teilyngdod eu hunain a gall cynigion amrywio. Os hoffech wirio a yw eich cymwysterau yn gymwys cyn cyflwyno cais, cysylltwch â'r Swyddfa Derbyn Israddedigion am gyngor ac arweiniad.

Yn ôl i'r brig

|