BA

Ieithoedd Modern

BA Ieithoedd Modern Cod R990 Dewch i Ddiwrnod Agored Dewch i Ddiwrnod Agored Llefydd ar gael trwy Clirio0800 121 40 80

Ymgeisio Nawr

Aberystwyth yw un o lond llaw yn unig o brifysgolion yn y DU i gynnig cyfle i fyfyrwyr astudio cyfuniad o dair iaith, a chewch ddechrau astudio dwy ohonynt heb fod wedi gwneud hynny o’r blaen. Cewch ddewis o blith Ffrangeg, Eidaleg, Almaeneg, a Sbaeneg. Nid yn unig byddwch yn magu gwybodaeth ymarferol am dair iaith a rhuglder yn yr ieithoedd hynny, ond byddwch hefyd yn dysgu deall sefyllfa’r ieithoedd hyn mewn cyd destun byd-eang ehangach.Yn eich trydedd flwyddyn, byddwch yn ymgymryd â Blwyddyn Dramor, gan gynnig cyfle i chi fyw, astudio neu weithio, yng ngwledydd eich prif iaith neu ieithoedd astudio. 

Trosolwg o'r Cwrs

Pam astudio BA Ieithoedd Modern ym Mhrifysgol Aberystwyth?  

Credwn y dylai ein myfyrwyr gael eu trochi'n llawn yn yr ieithoedd y maent yn eu hastudio. Mae ein cymuned ryngwladol glos yn annog ein myfyrwyr i ddefnyddio'r ieithoedd hyn yn eu bywydau bob dydd, ac rydym hefyd yn cynnig cyfleoedd i fyfyrwyr astudio dramor. 

Ar eich Blwyddyn Dramor, rhennir eich amser fel arfer rhwng dwy wlad i sicrhau eich bod yn cael eich torchi’n llwyr mewn mwy nag un iaith a diwylliant. Rydym wedi ymrwymo i gynnig cyfleoedd i chi ddatblygu eich sgiliau iaith, a dysgu am, mwynhau a chofleidio diwylliannau'r gwledydd lle siaredir yr ieithoedd yr ydych yn eu hastudio. Bydd y Flwyddyn Dramor yn eich galluogi i feistroli'r ieithoedd rydych chi wedi'u dewis a bydd o bosibl yn golygu blwyddyn orau eich bywyd! Bydd y cwrs hwn hefyd yn rhoi cyfle i chi astudio ystod eang o fodiwlau arbenigol mewn llenyddiaeth a diwylliant, yn ogystal ag iaith. 


Ein Staff

Mae gan bob un o ddarlithwyr yr Adran Ieithoedd Modern gymwysterau hyd at safon PhD ac maent yn gwneud gwaith ymchwil. Rydym hefyd yn cyflogi tiwtoriaid iaith, rhai ohonynt â gradd PhD, a phob un yn addysgwyr profiadol. O bryd i'w gilydd, cyflogwn siaradwyr brodorol o brifysgolion sy'n bartneriaid i ni dramor (lectoriaid), sy'n dod atom â chymeradwyaeth uchel ar sail eu llwyddiant academaidd yn eu prifysgolion eu hunain, ac mae sawl un ohonynt wedi hyfforddi fel addysgwyr. 

Gyrfaoedd

Rhagolygon o ran Gyrfa  

Mae cyflogadwyedd yn rhan annatod o'n haddysgu ar draws yr Adran Ieithoedd Modern. Bydd yr hyn a ddysgwn i chi yn eich paratoi’n dda ar gyfer eich gyrfa yn y dyfodol, gyda'n modiwlau wedi'u teilwra i ddarparu'r sgiliau cyflogadwyedd y mae cyflogwyr yn chwilio amdanynt i fyfyrwyr. Mae’r Flwyddyn Dramor hefyd yn helpu i sicrhau bod ein graddedigion yn sefyll allan, gan fod y myfyrwyr yn dychwelyd gyda set o sgiliau cynyddol, cymwyseddau iaith cryfach a’r gallu i addasu i unrhyw sefyllfa. 

Rydym yn falch iawn o gyfradd lwyddiant ein graddedigion wrth ddod o hyd i waith ar ôl graddio. Dyma rai o'r meysydd a ddewiswyd gan ein myfyrwyr: 

  • cyfieithu a dehongli 
  • darlledu 
  • addysg 
  • marchnata 
  • Adnoddau Dynol 
  • datblygu gwefannau 
  • bancio rhyngwladol 
  • y Gwasanaeth Sifil 

Dysgu ac Addysgu

Beth fydda i’n ei ddysgu? 

Bydd yr wybodaeth isod yn rhoi darlun i chi o'r hyn y gallech ei astudio yn ystod y cynllun gradd pedair blynedd. 

Yn ystod eich pedair blynedd, bydd gennych bedair awr o waith iaith bob wythnos, a fydd yn cynnwys: 

  • Siarad 
  • ysgrifennu 
  • gwrando 
  • cyfieithu. 

Yn ogystal â'ch gwaith iaith, yn eich blwyddyn gyntaf gallwch hefyd ddarganfod: 

  • cyflwyniad i astudiaethau llenyddol 
  • Ffilm Ewropeaidd 
  • gwleidyddiaeth a diwylliant iaith ar draws Ewrop 
  • hanes a diwylliant y Byd Sbaeneg 
  • hanes diwylliannol yr Eidal 
  • llenyddiaeth Almaeneg. 

Yn eich ail flwyddyn, mae’n bosibl y byddwch yn ystyried: 

  • modiwlau iaith arbenigol, e.e. iaith fusnes 
  • Sinema Americanaidd Sbaeneg 
  • Sinema Sbaen 
  • llenyddiaeth fodern 
  • rhyddiaith mewn llenyddiaeth Almaeneg 
  • materion cyfoes yn y gymdeithas Ffrengig a Ffrangeg. 

Yn eich trydedd flwyddyn, byddwch yn ymgymryd â'ch blwyddyn dramor, yn gweithio neu'n astudio mewn gwlad dramor sy’n berthnasol i’ch dewis ieithoedd. 

Yn eich blwyddyn olaf, gallwch ddewis o opsiynau megis: 

  • Chwyldro Cuba 
  • llenyddiaeth Ffrengig 
  • Sinema Sbaeneg 
  • llenyddiaeth Sbaeneg 
  • llenyddiaeth Almaeneg. 

Sut fydda i'n cael fy nysgu? 

Defnyddir amrywiaeth o fformatau addysgu yn y dosbarth. Bydd darlithoedd yn eich cyflwyno i bynciau, ond mewn seminarau bydd disgwyl i chi ddatblygu eich gwybodaeth mewn meysydd penodol a chymryd rhan mewn trafodaethau dosbarth. 

Byddwch yn dysgu addasu i unrhyw sefyllfa a byddwch yn cael yr adnoddau angenrheidiol i allu rhoi cyflwyniadau llafar (yn unigol ac mewn grwpiau), sefyll profion gwrando, ysgrifennu adroddiadau a gwneud cyfieithiadau cynyddol gymhleth mewn dosbarthiadau iaith, yn ogystal â sefyll arholiadau llafar ac ysgrifenedig. Mewn modiwlau cynnwys, byddwch yn datblygu'r sgiliau angenrheidiol i ysgrifennu traethodau, ymgymryd â phrosiectau ymchwil, rhoi cyflwyniadau llafar, neu sefyll arholiadau. 

Gofynion Mynediad Nodweddiadol

Tariff UCAS 120 - 104

Safon Uwch BBB-BCC

Gofynion TGAU (o leiaf gradd C/4):
English or Welsh

Diploma Cenedlaethol BTEC:
DDM-DMM

Bagloriaeth Ryngwladol:
30-28

Bagloriaeth Ewropeaidd:
75%-65%

Mae'r Brifysgol yn croesawu ceisiadau israddedig gan fyfyrwyr sy'n astudio'r Diploma Mynediad i Addysg Uwch neu gymwysterau lefel T, ar yr amod eu bod yn cyflawni'r canlyniadau perthnasol o ran cynnwys y pwnc a'r dysgu. Ni allwn dderbyn Diplomâu Mynediad i Addysg Uwch na lefelau T fel cymhwyster cyffredinol ar gyfer pob cwrs gradd israddedig.
Mae ein polisi derbyn cynhwysol yn rhoi gwerth ar ehangder yn ogystal â dyfnder yr astudio. Dewisir ymgeiswyr ar sail eu teilyngdod eu hunain a gall cynigion amrywio. Os hoffech wirio a yw eich cymwysterau yn gymwys cyn cyflwyno cais, cysylltwch â'r Swyddfa Derbyn Israddedigion am gyngor ac arweiniad.

Yn ôl i'r brig

|