MPhys

Ffiseg gyda Ffiseg y Planedau a'r Gofod

Ffiseg gyda Ffiseg y Planedau a'r Gofod Cod F366 Dewch i Ddiwrnod Agored Dewch i Ddiwrnod Agored

Ymgeisio Nawr

Rydych chi'n edrych ar y cwrs hwn ar gyfer Dechrau Medi 2024

Mae MPhys Ffiseg gyda Ffiseg y Planedau a'r Gofod ym Mhrifysgol Aberystwyth yn eich darparu â chraidd sylfaenol Ffiseg, ochr yn ochr ag archwiliad manwl o Ffiseg Cysawd yr Haul, a throsolwg o Wyddor Seryddiaeth Fodern.

Mae cnewyllyn Ffiseg prif ffrwd, ochr yn ochr â'n hamgylchedd dysgu cefnogol, yn sicrhau hyblygrwydd o ran astudiaethau pellach neu gyflogaeth ar ôl graddio, ac yn cynnig cefndir angenrheidiol ar gyfer y modiwlau arbenigol.

Trosolwg o'r Cwrs

Institute of Physics - Juno Practitioner


Pam astudio Ffiseg gyda Ffiseg y Planedau a'r Gofod yn Aberystwyth?

  • Ar ôl cwblhau'r radd hon, byddwch yn gadael gydag achrediad gan yr IOP (y Sefydliad Ffiseg).
  • Mae Ffiseg wedi cael ei haddysgu yn Aberystwyth ers sefydlu'r brifysgol, ac mae'n parhau i fod yn brofiad dysgu arloesol i bawb.
  • Byddwch yn cael eich addysgu gan arbenigwyr yn eu maes.
  • Bydd gennych fynediad at offer seryddiaeth arbenigol.
  • Mae ein hymchwilwyr yn cymryd rhan ar hyn o bryd ym Mhrosiect ExoMars 2020 yr Asiantaeth Ofod Ewropeaidd.
  • Mae'r Adran yn cynnig nifer o fodiwlau drwy gyfrwng y Gymraeg. Mae rhagor o wybodaeth ar gael o dan y tab modiwlau.
Ein Staff

Mae gan bob un o ddarlithwyr yr Adran Ffiseg gymwysterau hyd at safon PhD a hanes o wneud gwaith ymchwil yn eu meysydd arbenigol.

Modiwlau Dechrau Medi - 2024

Noder: Y modiwlau a restrir isod yw'r modiwlau y bwriedir eu cyflwyno ar hyn o bryd yn ystod y flwyddyn academaidd nesaf ac mae'n bosibl y gallant newid. Maent wedi'u cynnwys yma i roi syniad o strwythur y cwrs.

Modiwlau Craidd

Teitl y Modiwl Cod y Modiwl Gwerth Credyd
Algebra a Hafaliadau Differol FG16210 10
Calcwlws MT10610 10
Dynameg, Tonnau a Gwres FG10020 20
Trydan, Magneteg a Mater FG11120 20
Algebra a Chalcwlws Pellach MT11010 10
Technegau Labordy ar gyfer Ffisegwyr Arbrofol a Pheirianwyr (20 Credyd) FG15720 20
Modern Physics PH14310 10
Cynllunio Gyrfa a Datblygu Sgiliau Ffiseg FG12910 10

Opsiynau

Teitl y Modiwl Cod y Modiwl Gwerth Credyd
Astronomy PH18010 10
Communication and Technology PH19510 10
Energy and the Environment PH19010 10

Modiwlau Craidd

Teitl y Modiwl Cod y Modiwl Gwerth Credyd
Trydan a Magnetedd FG22510 10
Ffiseg Mathemategol FG26020 20
Numerical Techniques for Physicists PH26620 20
Optics PH22010 10
Sgiliau Ymchwil Ymarferol FG25720 20
Principles of Quantum Mechanics PH23010 10
Stars and Planets PH28620 20
Thermodynamics PH21510 10

Modiwlau Craidd

Teitl y Modiwl Cod y Modiwl Gwerth Credyd
Astrophysics I: Physics of the Sun PH39620 20
Concepts in Condensed Matter Physics PH32410 10
Particles, Quanta and Fields PH33020 20
Physics of Planetary Atmospheres PH38820 20
Project (40 Credits) PH37540 40

Modiwlau Craidd

Teitl y Modiwl Cod y Modiwl Gwerth Credyd
Advanced Quantum Physics PHM3010 10
Advanced Research Topics PHM7020 20
Sgiliau Uwch Mewn Ffiseg FGM6420 20
Electromagnetic Theory PHM2510 10
Prif Brosiect FGM5860 60

Gyrfaoedd

Beth yw fy rhagolygon cyflogadwyedd ar ôl graddio?

Mae ein graddedigion o'r cwrs hwn wedi bod yn llwyddiannus yn cael swyddi yn y diwydiant gofod.

Mae graddedigion eraill o'r Adran Ffiseg wedi darganfod y llwybrau canlynol:

  • ffiseg feddygol
  • diogelu rhag ymbelydredd
  • gwyddor ymchwil
  • datblygu systemau
  • datblygu cynnyrch
  • ysgrifennu technegol
  • meteoroleg

Mae cyflogadwyedd wedi'i wreiddio yn ein holl addysgu a moeseg. Rydym yn rhoi'r sgiliau canlynol i'n myfyrwyr:

  • sgiliau ymchwil a dadansoddi data
  • sgiliau mathemategol a chyfrifiadol uwch
  • sgiliau datrys problemau a meddwl creadigol effeithiol
  • y gallu i weithio'n annibynnol
  • sgiliau rheoli amser a threfnu, gan gynnwys y gallu i weithio i derfynau amser
  • y gallu i fynegi syniadau a chyfleu gwybodaeth mewn modd clir a threfnus, yn ysgrifenedig ac ar lafar
  • hunanddibyniaeth a'r gallu i ysgogi eu hunain
  • y gallu i weithio mewn tîm a thrafod cysyniadau mewn grwpiau, rhoi lle i syniadau gwahanol a dod i gytundeb

Pa gyfleoedd sydd ar gael am brofiad gwaith wrth astudio? 

Cliciwch yma i ddysgu am y gwahanol gyfleoedd y mae tîm Gyrfaoedd Prifysgol Aberystwyth yn eu cynnig. 

Gallwch wella'ch cyfleoedd cyflogaeth gyda GO Wales a BMG (y cynllun Blwyddyn mewn Gwaith) sy'n cael eu rheoli gan ein hadran Gyrfaoedd.

Dysgu ac Addysgu

Beth fydda i'n ei ddysgu?

Bydd y crynodeb isod yn rhoi darlun i chi o'r hyn y gallech ei astudio yn ystod y cynllun gradd pedair blynedd.

Yn ystod y flwyddyn gyntaf, gallech archwilio:

  • prif ganghennau ffiseg glasurol a modern
  • disgyblaethau mathemategol craidd algebra a chalcwlws
  • ffiseg gyfrifiadol ac arbrofol
  • dynameg Glasurol
  • egwyddorion sylfaenol meysydd disgyrchiant ac electrostatig

Yn ystod eich ail flwyddyn, gallech archwilio:

  • sêr
  • planedau
  • ffiseg thermol
  • mecaneg cwantwm
  • ffiseg mathemategol
  • trin data ac ystadegau
  • opteg
  • ffiseg arbrofol

Yn ystod eich trydedd flwyddyn, gallech ymchwilio i'r canlynol:

  • plasmâu'r gofod
  • atmosfferau planedol
  • ïonosfferau a magnetosfferau
  • yr atmosffer solar a'r heliosffer
  • atomau, moleciwlau ac electromagnetedd

Byddwch hefyd yn cyflawni prosiect arbennig o'ch dewis dan arweiniad eich goruchwylydd prosiect personol. 

Yn eich pedwaredd flwyddyn, mae'n bosib y byddwch yn astudio ac yn ymgymryd â'r canlynol:

  • damcaniaeth electromagneteg
  • technoleg cwantwm
  • ffiseg Fodern a dulliau rhifiadol uwch
  • prosiect estynedig, a fydd fel arfer yn ymwneud ag un o'r grwpiau ymchwil yn yr adran, o dan oruchwyliaeth goruchwylydd y prosiect 
  • cwrs preswyl dwys, sy'n cynnwys sesiynau ar gynllunio prosiect, cyfathrebu, sgiliau hunan-reoli, a gwaith grŵp strwythuredig ar gyflwyno ac asesu prosiectau.

Gallech hefyd gymryd rhan mewn cyfle ardderchog i astudio ffiseg atmosfferig, ïonosfferig a'r gofod yn Arctig Uchel Norwy. 

Sut bydda i'n cael fy addysgu?

Rydym yn addysgu ein myfyrwyr drwy ddarlithoedd, seminarau, tiwtorialau, gweithdai, sesiynau ymarferol a gwaith prosiect unigol a grŵp.

Rydym yn asesu ein myfyrwyr drwy waith cwrs, cyflwyniadau, adroddiadau labordy, dyddiaduron labordy ac arholiadau. 

Rhagor o wybodaeth:

Bydd tiwtor personol yn cael ei ddynodi i chi dros gyfnod eich cwrs gradd cyfan, a bydd yn gallu eich helpu gydag unrhyw broblemau neu ymholiadau, boed nhw'n faterion academaidd neu bersonol. Mae croeso i chi gysylltu â'ch tiwtor personol ar unrhyw adeg os bydd angen cymorth neu gyngor arnoch.

Tystiolaeth Myfyrwyr

Rydw i wrth fy modd â Ffiseg gyda Ffiseg y Planedau a'r Gofod. Mae strwythur y blynyddoedd wedi'i ddylunio'n berffaith i roi syniad i chi o bob cangen ffiseg, yn hytrach na golwg fanwl ar un gangen benodol. Mae'r modiwlau eu hunain yn wych, yn cynnwys astudio atmosfferau planedol i ochr fewnol yr haul, o strwythur atom yr holl ffordd i strwythur y galaethau. Y peth gorau o bosib yw'r cyfle i astudio yn Svalbard, Norwy, a gwneud gwaith ymchwil go iawn gyda'r offer sydd ganddyn nhw. James Parker

Mae'n ddiddorol iawn, oherwydd nid yn unig rydych chi'n edrych ar y cosmos, ond rydych chi hefyd yn mynd i fanylder o ran yr hyn sy'n peri i gysawd yr haul weithio - y planedau. Mae gwneud y pwnc yma'n rhoi ystod gwych o wybodaeth i chi, o sut mae'r Haul yn gweithio, i bosibilrwydd o fywyd ar fydoedd eraill, a sut gallen ni eu darganfod! Ar y cyfan, mae'n gwrs anhygoel - mae cymharu gwyddoniaeth y byd yma â rhai bydoedd eraill yn archwiliad rheng flaen go iawn! Timothy Edward Andrew Powell

Gofynion Mynediad Nodweddiadol

Tariff UCAS 128 - 120

Safon Uwch ABB-BBB gan gynnwys B mewn Ffiseg a B mewn Mathemateg

Gofynion TGAU (o leiaf gradd C/4):
Cymraeg neu Saesneg a Mathemateg

Diploma Cenedlaethol BTEC:
DDM-DMM with specified subject and B in A level Mathematics

Bagloriaeth Ryngwladol:
32-30 points overall with 5 points in Physics and 5 points in Mathematics at Higher Level

Bagloriaeth Ewropeaidd:
75% overall with 7 Physics and Mathematics

Mae'r Brifysgol yn croesawu ceisiadau israddedig gan fyfyrwyr sy'n astudio'r Diploma Mynediad i Addysg Uwch neu gymwysterau lefel T, ar yr amod eu bod yn cyflawni'r canlyniadau perthnasol o ran cynnwys y pwnc a'r dysgu. Ni allwn dderbyn Diplomâu Mynediad i Addysg Uwch na lefelau T fel cymhwyster cyffredinol ar gyfer pob cwrs gradd israddedig.
Mae ein polisi derbyn cynhwysol yn rhoi gwerth ar ehangder yn ogystal â dyfnder yr astudio. Dewisir ymgeiswyr ar sail eu teilyngdod eu hunain a gall cynigion amrywio. Os hoffech wirio a yw eich cymwysterau yn gymwys cyn cyflwyno cais, cysylltwch â'r Swyddfa Derbyn Israddedigion am gyngor ac arweiniad.

Yn ôl i'r brig

|