Rydym yn defnyddio cwcis ar ein gwefan. I ddysgu mwy am y cwcis yr ydym yn eu defnyddio, gweler ein polisi cwcis. Gallwch reoli cwcis trwy osodiadau eich porwr. Trwy barhau i bori'r safle rydych yn cytuno i'n defnydd o gwcis.
Derbyn a Chau.
Mae MPhys Ffiseg gyda Ffiseg y Planedau a'r Gofod ym Mhrifysgol Aberystwyth yn eich darparu â chraidd sylfaenol Ffiseg, ochr yn ochr ag archwiliad manwl o Ffiseg Cysawd yr Haul, a throsolwg o Wyddor Seryddiaeth Fodern.
Mae cnewyllyn Ffiseg prif ffrwd, ochr yn ochr â'n hamgylchedd dysgu cefnogol, yn sicrhau hyblygrwydd o ran astudiaethau pellach neu gyflogaeth ar ôl graddio, ac yn cynnig cefndir angenrheidiol ar gyfer y modiwlau arbenigol.
Bodlonrwydd Myfyrwyr Cyffredinol a Chanlyniadau Cyflogadwyedd
92% boddhad cyffredinol myfyrwyr ym maes Ffiseg; 86% yw'r cyfartaledd i'r sector (ACF 2020).
93% o’n graddedigion mewn gwaith a/neu astudiaethau pellach o fewn chwe mis ar ôl graddio. (HESA 2018*).
Trosolwg
Pam astudio Ffiseg gyda Ffiseg y Planedau a'r Gofod yn Aberystwyth?
Ar ôl cwblhau'r radd hon, byddwch yn gadael gydag achrediad gan yr IOP (y Sefydliad Ffiseg).
Mae Ffiseg wedi cael ei haddysgu yn Aberystwyth ers sefydlu'r brifysgol, ac mae'n parhau i fod yn brofiad dysgu arloesol i bawb.
Byddwch yn cael eich addysgu gan arbenigwyr yn eu maes.
Bydd gennych fynediad at offer seryddiaeth arbenigol.
Mae ein hymchwilwyr yn cymryd rhan ar hyn o bryd ym Mhrosiect ExoMars 2020 yr Asiantaeth Ofod Ewropeaidd.
Mae'r Adran yn cynnig nifer o fodiwlau drwy gyfrwng y Gymraeg. Mae rhagor o wybodaeth ar gael o dan y tab modiwlau.
Ein Staff
Mae gan bob un o ddarlithwyr yr Adran Ffiseg gymwysterau hyd at safon PhD a hanes o wneud gwaith ymchwil yn eu meysydd arbenigol.
Modiwlau
Noder: Y modiwlau a restrir isod yw'r modiwlau y bwriedir eu cyflwyno ar hyn o bryd yn ystod y flwyddyn academaidd nesaf ac mae'n bosibl y gallant newid. Maent wedi'u cynnwys yma i roi syniad o strwythur y cwrs.
Beth yw fy rhagolygon cyflogadwyedd ar ôl graddio?
Mae ein graddedigion o'r cwrs hwn wedi bod yn llwyddiannus yn cael swyddi yn y diwydiant gofod.
Mae graddedigion eraill o'r Adran Ffiseg wedi darganfod y llwybrau canlynol:
ffiseg feddygol
diogelu rhag ymbelydredd
gwyddor ymchwil
datblygu systemau
datblygu cynnyrch
ysgrifennu technegol
meteoroleg
Mae cyflogadwyedd wedi'i wreiddio yn ein holl addysgu a moeseg. Rydym yn rhoi'r sgiliau canlynol i'n myfyrwyr:
sgiliau ymchwil a dadansoddi data
sgiliau mathemategol a chyfrifiadol uwch
sgiliau datrys problemau a meddwl creadigol effeithiol
y gallu i weithio'n annibynnol
sgiliau rheoli amser a threfnu, gan gynnwys y gallu i weithio i derfynau amser
y gallu i fynegi syniadau a chyfleu gwybodaeth mewn modd clir a threfnus, yn ysgrifenedig ac ar lafar
hunanddibyniaeth a'r gallu i ysgogi eu hunain
y gallu i weithio mewn tîm a thrafod cysyniadau mewn grwpiau, rhoi lle i syniadau gwahanol a dod i gytundeb
Pa gyfleoedd sydd ar gael am brofiad gwaith wrth astudio?
Cliciwch yma i ddysgu am y gwahanol gyfleoedd y mae tîm Gyrfaoedd Prifysgol Aberystwyth yn eu cynnig.
Gallwch wella'ch cyfleoedd cyflogaeth gyda GO Wales a BMG (y cynllun Blwyddyn mewn Gwaith) sy'n cael eu rheoli gan ein hadran Gyrfaoedd.
Dysgu ac Addysgu
Beth fydda i'n ei ddysgu?
Bydd y crynodeb isod yn rhoi darlun i chi o'r hyn y gallech ei astudio yn ystod y cynllun gradd pedair blynedd.
Yn ystod y flwyddyn gyntaf, gallech archwilio:
prif ganghennau ffiseg glasurol a modern
disgyblaethau mathemategol craidd algebra a chalcwlws
ffiseg gyfrifiadol ac arbrofol
dynameg Glasurol
egwyddorion sylfaenol meysydd disgyrchiant ac electrostatig
Yn ystod eich ail flwyddyn, gallech archwilio:
sêr
planedau
ffiseg thermol
mecaneg cwantwm
ffiseg mathemategol
trin data ac ystadegau
opteg
ffiseg arbrofol
Yn ystod eich trydedd flwyddyn, gallech ymchwilio i'r canlynol:
plasmâu'r gofod
atmosfferau planedol
ïonosfferau a magnetosfferau
yr atmosffer solar a'r heliosffer
atomau, moleciwlau ac electromagnetedd
Byddwch hefyd yn cyflawni prosiect arbennig o'ch dewis dan arweiniad eich goruchwylydd prosiect personol.
Yn eich pedwaredd flwyddyn, mae'n bosib y byddwch yn astudio ac yn ymgymryd â'r canlynol:
damcaniaeth electromagneteg
technoleg cwantwm
ffiseg Fodern a dulliau rhifiadol uwch
prosiect estynedig, a fydd fel arfer yn ymwneud ag un o'r grwpiau ymchwil yn yr adran, o dan oruchwyliaeth goruchwylydd y prosiect
cwrs preswyl dwys, sy'n cynnwys sesiynau ar gynllunio prosiect, cyfathrebu, sgiliau hunan-reoli, a gwaith grŵp strwythuredig ar gyflwyno ac asesu prosiectau.
Gallech hefyd gymryd rhan mewn cyfle ardderchog i astudio ffiseg atmosfferig, ïonosfferig a'r gofod yn Arctig Uchel Norwy.
Sut bydda i'n cael fy addysgu?
Rydym yn addysgu ein myfyrwyr drwy ddarlithoedd, seminarau, tiwtorialau, gweithdai, sesiynau ymarferol a gwaith prosiect unigol a grŵp.
Rydym yn asesu ein myfyrwyr drwy waith cwrs, cyflwyniadau, adroddiadau labordy, dyddiaduron labordy ac arholiadau.
Rhagor o wybodaeth:
Bydd tiwtor personol yn cael ei ddynodi i chi dros gyfnod eich cwrs gradd cyfan, a bydd yn gallu eich helpu gydag unrhyw broblemau neu ymholiadau, boed nhw'n faterion academaidd neu bersonol. Mae croeso i chi gysylltu â'ch tiwtor personol ar unrhyw adeg os bydd angen cymorth neu gyngor arnoch.
Barn ein Myfyrwyr
Rydw i wrth fy modd â Ffiseg gyda Ffiseg y Planedau a'r Gofod. Mae strwythur y blynyddoedd wedi'i ddylunio'n berffaith i roi syniad i chi o bob cangen ffiseg, yn hytrach na golwg fanwl ar un gangen benodol. Mae'r modiwlau eu hunain yn wych, yn cynnwys astudio atmosfferau planedol i ochr fewnol yr haul, o strwythur atom yr holl ffordd i strwythur y galaethau. Y peth gorau o bosib yw'r cyfle i astudio yn Svalbard, Norwy, a gwneud gwaith ymchwil go iawn gyda'r offer sydd ganddyn nhw. James Parker
Mae'n ddiddorol iawn, oherwydd nid yn unig rydych chi'n edrych ar y cosmos, ond rydych chi hefyd yn mynd i fanylder o ran yr hyn sy'n peri i gysawd yr haul weithio - y planedau. Mae gwneud y pwnc yma'n rhoi ystod gwych o wybodaeth i chi, o sut mae'r Haul yn gweithio, i bosibilrwydd o fywyd ar fydoedd eraill, a sut gallen ni eu darganfod! Ar y cyfan, mae'n gwrs anhygoel - mae cymharu gwyddoniaeth y byd yma â rhai bydoedd eraill yn archwiliad rheng flaen go iawn! Timothy Edward Andrew Powell