MPhys

Ffiseg (gyda blwyddyn integredig mewn diwydiant)

Ffiseg (gyda blwyddyn integredig mewn diwydiant) Cod F305 Cofrestra nawr am ein Diwrnodau Agored. Cofrestra nawr am ein Diwrnodau Agored.

Ymgeisio Nawr

Rhowch y dechrau gorau i'ch rhagolygon gyrfa gyda'r cwrs MPhys, yma ym Mhrifysgol Aberystwyth. Treuliwch Flwyddyn mewn Diwydiant a gorffen yn y brifysgol gyda gradd a chymhwyster Meistr mewn Ffiseg.

Mae'r cwrs sy'n hybu gyrfa wedi'i achredu gan y Sefydliad Ffiseg (IOP) ac wedi'i ddylunio er mwyn i chi gyflawni eich potensial mewn amgylchedd dysgu cefnogol.

Mae Ffiseg yn un o'r disgyblaethau academaidd hynaf, ond mae'n un sy'n gwneud cyfraniadau sylweddol i gymdeithas fodern, gyda datblygiadau damcaniaethol sy'n bwydo i'r gwyddorau newydd ac yn meithrin technolegau modern.

Cysyniadau Ffiseg yw sail y rhan fwyaf o iaith wyddonol, ac mae'r pwnc yn treiddio i'r rhan fwyaf o wyddoniaeth a thechnoleg fodern, gan gynyddu cwmpas eich rhagolygon cyflogaeth yn y dyfodol.

Trosolwg

Institute of Physics - Juno Practitioner


Pam astudio Ffiseg yn Aberystwyth?

  • Ar ôl cwblhau'r radd hon, byddwch yn gadael gyda gradd a chymhwyster MPhys.
  • Gallwch gynyddu eich cyflogadwyedd gyda'n rhaglen blwyddyn mewn diwydiant.
  • Mae'r cwrs hwn wedi'i achredu gan IOP (Y Sefydliad Ffiseg).
  • Mae Ffiseg wedi cael ei haddysgu yn Aberystwyth ers sefydlu'r brifysgol, ac mae'n parhau i fod yn brofiad dysgu arloesol i bawb.
  • Byddwch yn cael eich addysgu gan arbenigwyr yn eu maes.
  • Mae ein hymchwilwyr yn cymryd rhan ar hyn o bryd ym Mhrosiect ExoMars 2020 yr Asiantaeth Ofod Ewropeaidd ac yn peiriannu deunyddiau dimensiwn isel (hynny yw, graffin).
  • Mae'r Adran yn cynnig nifer o fodiwlau drwy gyfrwng y Gymraeg. Mae rhagor o wybodaeth ar gael o dan y tab modiwlau!
Ein Staff

Mae pob un o ddarlithwyr yr Adran Gwleidyddiaeth Ryngwladol yn ymchwilwyr gweithgar ac mae ganddynt gymwysterau hyd at safon PhD, ac mae gan y rhan fwyaf hefyd TUAAU.

Mae gan bob un o ddarlithwyr yr Adran Ffiseg gymwysterau hyd at safon PhD a hanes o wneud gwaith ymchwil yn eu meysydd arbenigol.

Modiwlau

Noder: Y modiwlau a restrir isod yw'r modiwlau y bwriedir eu cyflwyno ar hyn o bryd yn ystod y flwyddyn academaidd nesaf ac mae'n bosibl y gallant newid. Maent wedi'u cynnwys yma i roi syniad o strwythur y cwrs.

Modiwlau Craidd

Teitl y Modiwl Cod y Modiwl Gwerth Credyd
Modern Physics PH14310 10

Opsiynau

Teitl y Modiwl Cod y Modiwl Gwerth Credyd
Astronomy PH18010 10
Communication and Technology PH19510 10
Energy and the Environment PH19010 10

Modiwlau Craidd

Teitl y Modiwl Cod y Modiwl Gwerth Credyd
Numerical Techniques for Physicists PH26620 20
Optics PH22010 10
Principles of Quantum Mechanics PH23010 10
Sensors, Electronics & Instrumentation PH24520 20
Thermodynamics PH21510 10

Modiwlau Craidd

Teitl y Modiwl Cod y Modiwl Gwerth Credyd
Abroad Year Credits PHS0000
Year In Industry PHS0160 60
Year in Industry PHS0060 60

Modiwlau Craidd

Teitl y Modiwl Cod y Modiwl Gwerth Credyd
Concepts in Condensed Matter Physics PH32410 10
Materials Physics PH33810 10
Modern Optics and Photonics PH34510 10
Particles, Quanta and Fields PH33020 20
Semiconductor Technology PH33610 10
Structure Determination of Condensed Matter PH33510 10

Modiwlau Craidd

Teitl y Modiwl Cod y Modiwl Gwerth Credyd
Advanced Numerical Methods PHM6610 10
Advanced Quantum Physics PHM3010 10
Advanced Research Topics PHM7020 20
Electromagnetic Theory PHM2510 10

Cyflogadwyedd

Beth alla i ei wneud gyda gradd mewn ffiseg?

Mae ein graddedigion wedi dilyn gyrfaoedd yn y meysydd canlynol;

  • ffiseg meddygol
  • diogelu rhag ymbelydredd
  • ymchwil wyddonol

Mae graddedigion eraill o'n hadran wedi dilyn gyrfaoedd yn y meysydd canlynol:

  • datblygu systemau
  • datblygu cynnyrch
  • ysgrifennu technegol
  • meteoroleg

Mae cyflogadwyedd wedi'i wreiddio yn ein holl addysgu a moeseg. Rydym yn rhoi'r sgiliau canlynol i'n myfyrwyr:

  • sgiliau ymchwil a dadansoddi data
  • sgiliau mathemategol a chyfrifiadol uwch
  • sgiliau datrys problemau a meddwl creadigol effeithiol
  • y gallu i weithio'n annibynnol
  • sgiliau rheoli amser a threfnu, gan gynnwys y gallu i weithio i derfynau amser
  • y gallu i fynegi syniadau a chyfleu gwybodaeth mewn modd clir a threfnus, yn ysgrifenedig ac ar lafar
  • hunanddibyniaeth a'r gallu i ysgogi eu hunain
  • y gallu i weithio mewn tîm a thrafod cysyniadau mewn grwpiau, rhoi lle i syniadau gwahanol a dod i gytundeb

Dysgu ac Addysgu

Addysgu, Dysgu ac Asesu

Beth fydda i'n ei ddysgu?

Bydd y crynodeb isod yn rhoi darlun i chi o'r hyn y gallech ei astudio yn ystod y cynllun gradd pedair blynedd.

Yn ystod eich blwyddyn gyntaf, byddwch yn archwilio:

  • ffiseg glasurol a modern (algebra a chalcwlws)
  • ffiseg gyfrifiadol ac arbrofol
  • damcaniaeth cwantwm
  • deinameg
  • egwyddorion meysydd disgyrchiant ac electrostatig

Yn ystod eich ail flwyddyn, byddwch yn astudio:

  • ffiseg thermol
  • mecaneg cwantwm
  • electroneg analog arbrofol
  • trin data ac ystadegau
  • systemau offeryniaeth
  • ffiseg arbrofol

Yn ystod eich trydedd flwyddyn, byddwch yn dechrau ar eich Blwyddyn mewn Diwydiant.

Yn ystod eich blwyddyn olaf, byddwch yn ymchwilio:

  • ffiseg lled-ddargludyddion
  • electromagneteg
  • optroneg
  • mater cyddwysedig
  • atomau a moleciwlau
  • dulliau rhifiadol

Sut bydda i'n cael fy addysgu?

Rydym yn addysgu ein myfyrwyr drwy ddarlithoedd, seminarau, tiwtorialau, gweithdai, sesiynau ymarferol a gwaith prosiect unigol a grŵp.

Rydym yn asesu ein myfyrwyr drwy waith cwrs, cyflwyniadau, adroddiadau labordy, dyddiaduron labordy ac arholiadau.

Rhagor o wybodaeth:

Bydd tiwtor personol yn cael ei ddynodi i chi dros gyfnod eich cwrs gradd cyfan, a bydd yn gallu eich helpu gydag unrhyw broblemau neu ymholiadau, boed nhw'n faterion academaidd neu bersonol. Mae croeso i chi gysylltu â'ch tiwtor personol ar unrhyw adeg os bydd angen cymorth neu gyngor arnoch.

Byddwch hefyd yn cael cyfle i gwblhau Cynllun Datblygu Personol (CDP) yn Aberystwyth. Mae hon yn broses strwythuredig o hunanwerthuso, myfyrio, a chynllunio, a fydd yn eich galluogi i olrhain eich datblygiad personol, academaidd a phroffesiynol drwy gydol eich cyfnod yn y brifysgol. Drwy gofnodi eich perfformiad academaidd, ac amlygu'r sgiliau sydd gennych yn barod a'r sgiliau y bydd eu hangen arnoch ar gyfer cyflogadwyedd yn y dyfodol, bydd y portffolio CDP yn rhoi'r offer angenrheidiol i chi gynllunio'n effeithiol, datblygu dulliau llwyddiannus o astudio, ac ystyried eich dewisiadau gyrfaol a'ch dyheadau yn y dyfodol.

Gofynion Mynediad Nodweddiadol

Tariff UCAS 128 - 120

Safon Uwch ABB-BBB with B in Physics and B in Mathematics

Gofynion TGAU (o leiaf gradd C/4):
English or Welsh and Mathematics

Diploma Cenedlaethol BTEC:
DDM-DMM with specified subject and B in A level Mathematics

Bagloriaeth Ryngwladol:
32-30 points overall with 5 points in Physics and 5 points in Mathematics at Higher Level

Bagloriaeth Ewropeaidd:
75% overall with 7 Physics and Mathematics

Mae’r Brifysgol yn croesawu ceisiadau gan fyfyrwyr sy’n astudio am Ddiploma Mynediad i Addysg Uwch. Mae ein polisi derbyn cynhwysol yn rhoi gwerth ar ehangder yn ogystal â dyfnder astudio. Dewisir ymgeiswyr ar sail eu teilyngdod eu hunain, a gall cynigion amrywio. Os ydych yn astudio am gymhwyster nad yw wedi’i restru ar y dudalen hon, cysylltwch â’r Swyddfa Derbyn Israddedigion i gael cyngor pellach. Mae manylion am gymwysterau gwahanol wledydd a dderbynnir yn y Brifysgol i’w gweld ar ein tudalennau gwlad-benodol i gael manylion am y cymwysterau rhyngwladol yr ydym yn eu derbyn. I gael rhagor o wybodaeth, cysylltwch ag ug-admissions@aber.ac.uk

Yn ôl i'r brig

|