Gwyddor y Gofod a Roboteg
MPhys Gwyddor y Gofod a Roboteg Cod FH5P
Ymgeisio NawrPrif Ffeithiau
FH5P-
Tariff UCAS
128 - 120
-
Hyd y Cwrs
4 Blwyddyn
-
Cyfrwng Cymraeg
24%
Manylion pellach ynglŷn â'r gofynion mynediad
Ymgeisio NawrGwyddor y Gofod a Roboteg ym Mhrifysgol Aberystwyth yw un o'r unig gyrsiau o'i fath yng ngwledydd Prydain.
Byddwch yn dysgu am sylfeini archwilio'r gofod ac yn meithrin y sgiliau sydd eu hangen i fodloni gofynion a heriau'r diwydiant gofod, ynghyd â chynllunio a datblygu teithiau Astroffiseg a Ffiseg y Gofod yn y dyfodol. Byddwch hefyd yn dysgu am hanfodion Cyfrifiadureg a'r arloesiadau technolegol diweddaraf.
Drwy astudio'r radd hon, byddwch yn cael eich trochi mewn datblygiadau cyffrous yn ymwneud â'r pwnc, er enghraifft Prosiect ExoMars 2020 presennol yr Asiantaeth Ofod Ewropeaidd.
Bodlonrwydd Myfyrwyr Cyffredinol a Chanlyniadau Cyflogadwyedd
90% o’r myfyrwyr ym maes Cyfrifiadureg wedi cytuno bod y staff yn esbonio pethau'n dda; 83% yw'r cyfartaledd i'r sector (ACF 2020).
Ymhlith y 15 uchaf yn y DU am Ragolygon Graddedigion (canlyniadau cyflogaeth) ym maes Cyfrifiadureg (Canllaw Prifysgolion Da y 'Times' a'r 'Sunday Times' 2019).
98% o’n graddedigion mewn gwaith a/neu astudiaethau pellach o fewn chwe mis ar ôl graddio, 8% yn uwch na graddedigion Cyfrifiadureg yn genedlaethol. (HESA 2018*)
92% boddhad cyffredinol myfyrwyr ym maes Ffiseg; 86% yw'r cyfartaledd i'r sector (ACF 2020).
Ymhlith y 10 uchaf yn y DU am Brofiad Myfyrwyr ym maes Ffiseg a Seryddiaeth (Canllaw Prifysgolion Da y 'Times' a'r 'Sunday Times' 2019).
93% o’n graddedigion mewn gwaith a/neu astudiaethau pellach o fewn chwe mis ar ôl graddio. (HESA 2018*).
Trosolwg
Modiwlau
Cyflogadwyedd
Dysgu ac Addysgu
Barn ein Myfyrwyr
Gofynion Mynediad Nodweddiadol
Tariff UCAS 128 - 120
Lefel A ABB-BBB with B in Mathematics and B in Physics or Computer Science
Gofynion TGAU (o leiaf gradd C/4):
English or Welsh and Mathematics
Diploma Cenedlaethol BTEC:
DDM-DMM with specified subjects and B in Mathematics A level and B in Physics
Bagloriaeth Ryngwladol:
32-30 points overall with 5 points in Mathematics and 5 points in Physics or Computer Science at Higher Level
Bagloriaeth Ewropeaidd:
75% overall with 7 in Mathematics and Physics or Computer Science
Mae’r Brifysgol yn croesawu ceisiadau gan fyfyrwyr sy’n astudio am Ddiploma Mynediad i Addysg Uwch. Mae ein polisi derbyn cynhwysol yn rhoi gwerth ar ehangder yn ogystal â dyfnder astudio. Dewisir ymgeiswyr ar sail eu teilyngdod eu hunain, a gall cynigion amrywio. Os ydych yn astudio am gymhwyster nad yw wedi’i restru ar y dudalen hon, cysylltwch â’r Swyddfa Derbyn Israddedigion i gael cyngor pellach. Mae manylion am gymwysterau gwahanol wledydd a dderbynnir yn y Brifysgol i’w gweld ar ein tudalennau gwlad-benodol i gael manylion am y cymwysterau rhyngwladol yr ydym yn eu derbyn. I gael rhagor o wybodaeth, cysylltwch ag ug-admissions@aber.ac.uk
|