Mae'r radd BSc hon mewn Daearyddiaeth Ffisegol gyda Mathemateg yn radd Daearyddiaeth wyddonol arbenigol, sydd â hyfforddiant mathemategol yn ychwanegol iddi. Mae'r cwrs prif bwnc/is-bwnc hwn yn rhoi cyfle hynod i ymchwilio i'r prosesau sy'n strwythuro'r byd naturiol, gyda chymorth gwaith dadansoddi mathemategol. Byddwch yn gwneud hyn ar raddfeydd lleol a byd-eang, a byddwch yn edrych ar y goblygiadau i gymdeithas ddynol y mae'r grymoedd pwerus hyn yn ei pheryglu.
Byddwch yn archwilio ystod o bynciau, gan gynnwys rheoli amgylcheddol, gwyddoniaeth cwartenaidd, ecoleg fyd-eang ac amgylcheddau wyneb y ddaear. Bydd eich hyfforddiant mathemategol yn rhoi cyfres eang o declynnau defnyddiol i chi ar gyfer dadansoddi, gan gynnwys dulliau ar gyfer samplu, cyfrifo tebygolrwydd, a defnyddio logarithmau, a llawer mwy.
Bydd modd i chi gyfeirio eich astudiaeth at feysydd arbenigol drwy ddewis modiwlau yn cynnwys Dynameg Systemau Afonydd, Geomorffoleg, Systemau Gwybodaeth Daearyddol a Chanfod o Bell, neu Weithgaredd Folcanig. Bydd modd i chi hefyd ddewis eich ffocws mathemategol, o fodiwlau'n cynnwys Casgliadau Ystadegol Cymharol a Thechnegau Modelu Llinol.
Mae'r cwrs hwn wedi'i leoli yn yr Adran Daearyddiaeth a Gwyddorau Daear, sy'n adnabyddus yn fyd-eang, a chaiff ei gefnogi gan yr Adran Fathemateg, Mae ein haelodau staff yn arbenigo mewn canghennau penodol o'r ddisgyblaeth, a byddant ar gael i roi cyngor ac arweiniad drwy gydol y cwrs, gan gynnwys wrth i chi baratoi a chyflwyno eich traethawd hir terfynol.
Mae'r Adran yn un o gymunedau Daearyddiaeth mwyaf Prydain, ac mae'r ddaearyddiaeth arfordirol, afonol a biolegol o gwmpas Aberystwyth yn berffaith ar gyfer mynd allan a chynnal gwaith maes rheolaidd.
Bydd y radd BSc hon mewn Daearyddiaeth Ffisegol gyda Mathemateg yn werthfawr yn unrhyw weithle graddedig fwy neu lai. Erbyn i chi gael eich gradd, byddwch yn ymchwilydd medrus, yn ddadansoddwr hyderus, ac yn gyfathrebwr rhugl. Byddwch yn brofiadol yn cynllunio prosiectau, yn cyflwyno ar lafar ac yn ysgrifenedig, ac yn arwain a chydweithio mewn tîm. Dim ond rhai o'r sgiliau y byddwch yn gallu eu cynnig mewn unrhyw weithle graddedig yw'r rhain.
Mae ein darlithwyr yn ymchwilwyr gweithgar sy'n flaengar yn eu disgyblaethau, a byddwch yn elwa ar gael dysgu'r damcaniaethau a'r technegau daearyddol diweddaraf. Yn asesiad diweddaraf y Fframwaith Rhagoriaeth Ymchwil (REF 2014), cadwodd yr Adran Daearyddiaeth a Gwyddorau Daear ei choron fel adran Ddaearyddiaeth orau Cymru, gyda 78% o'r ymchwil a gyflawnir yn cael ei ystyried un ai fel ymchwil sy'n "arwain y byd" neu sy'n "ardderchog yn rhyngwladol". Mae'r Adran hefyd yn un o 10 Adran Ddaearyddiaeth orau gwledydd Prydain mewn perthynas â grym ymchwil, sy'n cynnig mesur o ansawdd yr ymchwil ynghyd â nifer y staff sy'n cyflawni ymchwil yn yr adran. O ran Mathemateg, barnwyd yr holl ymchwil a gyflwynwyd i REF 2014 fel ymchwil a gydnabyddir yn rhyngwladol neu'n uwch.
Ein Staff
Mae’r holl ddarlithwyr yn yr Adran Mathemateg wedi’u cymhwyso i lefel PhD ac yn weithgar ym myd ymchwil. Mae gan y rhan fwyaf gymhwyster addysgu uwchraddedig ac mae’n rhaid i staff newydd gwblhau’r TUAAU. Mae’r adran hefyd yn cyflogi nifer o diwtoriaid rhan-amser, sydd â phrofiad dysgu eang, a rhai arddangoswyr sy’n cael eu dewis o blith ein myfyrwyr israddedig ac uwchraddedig.
Yr Adran Daearyddiaeth a Gwyddorau Daear: mae gan bob un o'r darlithwyr gymhwyster hyd at safon PhD neu maent yn gweithio tuag at PhD.
Rhagolygon Gyrfaol
Gall eich BSc mewn Daearyddiaeth Ffisegol gyda Mathemateg eich paratoi ar gyfer ystod eang o opsiynau cyflogaeth neu hyfforddiant pellach. Bydd eich arbenigedd mewn Daearyddiaeth Ffisegol yn golygu y byddwch yn ymgeisydd cryf ar gyfer cyfleoedd ym maes cartograffeg, ymgynghori amgylcheddol, cynllunio a datblygu, ac addysgu. Bydd eich hyfforddiant mathemategol yn eich cynorthwyo mewn gwaith yn ymwneud â dadansoddi rhifiadol, megis gweithio fel dadansoddwr buddsoddiadau, ystadegydd, gwyddonydd ymchwil neu athro ysgol uwchradd.
Mae ystadegau diweddar gan yr Asiantaeth Ystadegau Addysg Uwch (HESA) yn dangos bod dros 82 y cant o raddedigion Daearyddiaeth un ai'n canfod swydd gyflogedig neu'n parhau ag astudiaeth bellach wrth raddio o gyrsiau BSc tebyg i'r un hwn. Mae 40% o'r graddedigion Mathemateg sy'n dod o hyd i waith yn gwneud hynny yn y sector busnes ac ariannol. I gael rhagor o wybodaeth, ewch at adran rhagolygon gwaith gyda gradd mewn Daearyddiaeth a rhagolygon gwaith gyda gradd mewn Mathemateg.
Drwy gydol eich hyfforddiant, byddwch yn datblygu cyfoeth o sgiliau daearyddiaeth a mathemategol craidd, ynghyd ag ystod o sgiliau cyffredinol eraill y gellir eu trosglwyddo'n hawdd bron i unrhyw sefyllfa raddedig neu swydd gyflogedig broffesiynol.
Sgiliau Trosglwyddadwy
Bydd astudio am radd mewn Daearyddiaeth Ffisegol gyda Mathemateg yn eich paratoi gydag ystod o sgiliau trosglwyddadwy sy'n werthfawr iawn i gyflogwyr. Mae'r rhain yn cynnwys:
- sgiliau rhifiadol a chyfrifiadol uwch
- y gallu i ymchwilio, dehongli a dadansoddi data busnes ac ariannol
- y gallu i fynegi syniadau a chyfleu gwybodaeth mewn modd clir a threfnus, yn ysgrifenedig ac ar lafar
- datrys problemau'n effeithiol
- sgiliau datrys problemau a meddwl creadigol effeithiol
- gwneud penderfyniadau
- y gallu i weithio'n annibynnol
- sgiliau trefnu a rheoli amser, gan gynnwys y gallu i weithio i derfynau amser
- hunanddibyniaeth a'r gallu i ysgogi eu hunain
- y gallu i weithio mewn tîm a thrafod cysyniadau mewn grwpiau, a rhoi lle i syniadau gwahanol a dod i gytundeb.
Cynllun Blwyddyn mewn Gwaith (BMG)
Mae'r Brifysgol yn gweithredu Cynllun Blwyddyn mewn Gwaith (BMG), sy'n cynnig cyfle anhygoel i chi gymryd blwyddyn rhwng eich ail a'ch trydedd flwyddyn i weithio mewn sefydliad yng ngwledydd Prydain neu dramor. Mae BMG yn darparu profiad gwerthfawr a buddiol, yn bersonol ac yn broffesiynol, a gall helpu i'ch amlygu mewn marchnad swyddi gystadleuol iawn. Bydd Gwasanaeth Gyrfaoedd y Brifysgol yn eich helpu i archwilio eich opsiynau a sicrhau lleoliad gwaith addas.
Cynllun Datblygu Personol
Byddwch hefyd yn cael cyfle i gwblhau Cynllun Datblygu Personol (CDP) yn Aberystwyth. Mae hon yn broses strwythuredig o hunanwerthuso, myfyrio, a chynllunio, a fydd yn eich galluogi i olrhain eich datblygiad personol, academaidd a phroffesiynol drwy gydol eich cyfnod yn y brifysgol. Drwy gofnodi eich perfformiad academaidd, ac amlygu'r sgiliau sydd gennych yn barod a'r sgiliau y bydd eu hangen arnoch ar gyfer cyflogadwyedd yn y dyfodol, bydd y portffolio CDP yn rhoi'r offer angenrheidiol i chi gynllunio'n effeithiol, datblygu dulliau llwyddiannus o astudio, ac ystyried eich dewisiadau gyrfaol a'ch dyheadau ar gyfer y dyfodol.
Darperir y cwrs hwn drwy raglen o ddarlithoedd, seminarau, tiwtorialau, gweithdai ac ymweliadau maes. Bydd y cyfuniad hwn yn cydbwyso'r damcaniaethol gyda'r ymarferol, a gwaith grŵp gydag aseiniadau unigol. Bydd modd i chi drafod pynciau gyda'ch cyfoedion, ac ehangu eich gallu gwaith maes yn yr awyr agored.
Mae ethos yr Adran Daearyddiaeth a Gwyddorau Daear yn canolbwyntio ar y myfyriwr, sy'n golygu y byddwch yn cael eich cefnogi drwy gydol eich astudiaethau, ond yn cael rhyddid i ffurfio eich llwybr astudio eich hun drwy ddewis modiwlau a chyfleoedd cyffrous ar gyfer gwaith maes.
Byddwch yn cael eich asesu drwy draethodau, arholiadau a chyflwyniadau llafar. Bydd gofyn i chi hefyd gwblhau aseiniadau ychwanegol a gwaith gydag eraill ar dasgau penodol.
Eich tiwtor personol
Bydd tiwtor personol yn cael ei ddynodi i chi dros gyfnod eich cwrs gradd cyfan, a bydd yn gallu eich helpu gydag unrhyw broblemau neu ymholiadau, boed nhw'n faterion academaidd neu bersonol. Mae croeso i chi gysylltu â'ch tiwtor personol ar unrhyw adeg os bydd angen cymorth neu gyngor arnoch.
Mae fy nghwrs yn ddiddorol iawn. Rydw i wedi dysgu am lawer o wahanol agweddau ar y byd, o sut cafodd ei ffurfio i'r hyn y gallai fod yn y dyfodol. Mae'r darlithwyr i gyd yn gyfeillgar iawn, ac yn barod i helpu unrhyw un gyda phroblemau neu anawsterau. Fy hoff fodiwlau i yw'r rhai ymarferol, lle mae modd i ni wneud arbrofion. Mae'r daith maes yn yr ail flwyddyn hefyd yn fonws bach eitha da. Charlotte Hewsen
Mae Daearyddiaeth Ffisegol yn cychwyn gyda chariad tuag at yr awyr agored. Mae'n anhygoel gan ei fod e'n rhywbeth go iawn, mae e allan yna; allwch chi ddim cerdded i lawr stryd heb sylwi ar ddaearyddiaeth. Mae cymaint o bobl yn rhyfeddu at y prosesau naturiol sy'n digwydd o'n cwmpas, ond does dim llawer sydd wir yn eu deall. Drwy astudio Daearyddiaeth Ffisegol, byddwch yn dysgu gwybodaeth werthfawr am y byd o'ch cwmpas. Drwy ymgysylltu gyda'r byd rydyn ni'n byw ynddo, gallwn ei ddeall, ei hyrwyddo, a'i gadw ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol, ac mae hynna'n eitha cŵl! Emily Brown