Pam astudio Daearyddiaeth Ffisegol gydag Addysg ym Mhrifysgol Aberystwyth?
- Mae'r radd BSC arbenigol hon mewn Daearyddiaeth Ffisegol gydag Addysg wedi'i chreu er mwyn i chi allu astudio'r grymoedd sy'n ffurfio'r byd naturiol, gyda mantais alwedigaethol o ddeall y theori a'r arferion gorau diweddaraf ym maes addysgu yn yr unfed ganrif ar hugain.
- Mae gan y cwrs hwn, sy'n canolbwyntio ar wyddoniaeth, strwythur cwrs prif bwnc/is-bwnc, sy'n golygu y byddwch yn treulio dau draean o'ch amser yn archwilio'r grymoedd naturiol sy'n siapio ac yn ail-siapio ystod o dirweddau, a thraean o'ch amser ar brosesau a thactegau addysgu a dysgu. Mae'r cwrs hwn yn berffaith ar gyfer y rhai sydd am fod yn athrawon, yn diwtoriaid ac yn ddarlithwyr ac sydd â diddordeb penodol mewn daearyddiaeth.
- Bydd astudio Daearyddiaeth Ffisegol gydag Addysg yn brofiad ysgogol ac sy'n cyd-fynd yn dda, gyda chanlyniad galwedigaethol cryf. Gallwch ddilyn eich diddordebau ymhellach drwy ddewis o blith ystod o fodiwlau opsiynol, gan gynnwys Amgylcheddau Wyneb y Ddaear; y Ddaear Ddynamig; Darllen Cofnod yr Oes Iâ; Seicoleg Dysgu a Meddwl; Addysg Ddwyieithog; Hawliau Plant; a Gweithio gyda Chwarae.
- Mae'r cwrs hwn wedi'i ddarparu gan yr Adran Daearyddiaeth a Gwyddorau Daear, sy'n adnabyddus yn fyd-eang, a chaiff ei gefnogi gan yr Adran Addysg. Yr Adran Daearyddiaeth a Gwyddorau Daear yw un o gymunedau Daearyddiaeth mwyaf gwledydd Prydain, ac mae'r ddaearyddiaeth arfordirol, afonol a biolegol o gwmpas Aberystwyth yn berffaith ar gyfer mynd allan a chynnal gwaith maes rheolaidd – yn enwedig os byddwch yn dewis y modiwl preswyl Gwaith Maes Daearyddiaeth, lle byddwch yn edrych yn uniongyrchol ar y grymoedd sydd ar waith yn yr amgylchedd.
- Bydd y radd prif bwnc/is-bwnc hon mewn Daearyddiaeth Ffisegol gydag Addysg yn ddefnyddiol iawn i chi mewn ystod o swyddi graddedig, yn enwedig mewn ysgolion a cholegau. Nid yn unig bydd gennych yr holl sgiliau a'r wybodaeth sydd eu hangen arnoch i wneud cais am gwrs hyfforddiant dysgu ar lefel cynradd neu uwchradd, bydd gennych hefyd lefel uchel o arbenigedd pwnc mewn daearyddiaeth.
- Ar gyfer swyddi y tu allan i'r ystafell ddosbarth, bydd eich gallu o ran cyfathrebu'n rhugl, trin data a ffurfio dadleuon grymus yn asedau gwerthfawr mewn unrhyw weithle graddedig.
- Mae gan y brifysgol draddodiad balch o ragoriaeth ymchwil, fel y dangoswyd yn asesiad diweddaraf y Fframwaith Rhagoriaeth Ymchwil (2014). Rhoddwyd y brifysgol ymhlith yr hanner cant sefydliad uchaf ar gyfer grym a dwysedd ymchwil. Cyflwynwyd ymchwil 77% o'r staff cymwys a nodwyd bod 95% o ymchwil y brifysgol o safon a gydnabyddir yn rhyngwladol.
Ein Staff
Mae gan ddarlithwyr cyrsiau israddedig yr Ysgol Addysg naill ai gymwysterau hyd at safon PhD neu maent yn ymarferwyr profiadol yn eu maes. Mae gan bob un o'r staff dysgu gymhwyster dysgu cydnabyddedig, neu maent yn gweithio tuag at gymhwyster o'r fath.
Yr Adran Daearyddiaeth a Gwyddorau Daear: mae gan bob un o'r darlithwyr gymhwyster hyd at safon PhD neu maent yn gweithio tuag at PhD.
Beth alla i ei wneud gyda gradd mewn Daearyddiaeth Ffisegol?
Mae ein graddedigion wedi canfod cyflogaeth, er enghraifft, fel ymgynghorwyr amgylcheddol, cynllunwyr, gweision sifil, syrfewyr, ac ym maes addysg, ymhlith llawer o feysydd eraill.
Mae cyflogadwyedd wedi'i wreiddio ym mhob cwrs rydym yn ei ddarparu. Mae ein graddau'n cynnig sylfaen gadarn ar gyfer amrywiaeth eang o yrfaoedd ar draws ystod o sectorau. Mewn economi fyd-eang sy'n newid yn gyflym, mae ein graddedigion yn hyblyg ac yn gallu defnyddio ystod o sgiliau trosglwyddadwy, sy'n golygu bod galw amdanynt o hyd.
Mae'r setiau sgiliau'n cynnwys:
- sgiliau mathemategol a chyfrifiadol uwch
- sgiliau datrys problemau a meddwl creadigol effeithiol
- sgiliau technoleg gwybodaeth
- y gallu i weithio'n annibynnol ac fel rhan o dîm
- sgiliau trefnu a rheoli amser
- sgiliau cyfathrebu yn llafar ac yn ysgrifenedig
- hunanddibyniaeth a'r gallu i ysgogi eich hun.
Beth fydda i'n ei ddysgu?
Bydd y crynodeb isod yn rhoi darlun i chi o'r hyn y gallech ei astudio yn ystod y cynllun gradd tair blynedd.
Yn eich blwyddyn gyntaf, byddwch yn cael eich cyflwyno i'r canlynol:
- cysyniadau allweddol mewn astudiaeth ddaearyddol
- problemau a thechnegau wrth gasglu, dadansoddi a chyflwyno data daearyddol
- y theori a'r egwyddorion sy'n ymwneud â'r dysgwr a'r amgylchedd dysgu;
- newid hinsawdd
- y dechnoleg a'r teclynnau a ddefnyddir ym maes addysgu a dysgu
- sgiliau addysgu ac arferion dosbarth effeithiol
- prosesau tirwedd
- newid amgylcheddol byd-eang
- rhifedd a Llythrennedd i bawb
Yn eich ail flwyddyn, byddwch yn datblygu ymhellach ym meysydd:
- sgiliau ymchwil cyfrifiadurol a labordy, i baratoi ar gyfer eich prosiect ymchwil annibynnol
- deall sut i ddadansoddi setiau data meintiol
- gwybodaeth am bwysigrwydd diogelu ac ymarfer proffesiynol
- sgiliau cynhyrchu mapiau a graffigau eraill sy'n dehongli data daearyddol
- deall sut i gefnogi dysgwyr ag anghenion cymhleth
- gwybodaeth am bolisïau a safbwyntiau o ran gwahaniaethau dysgu a chynhwysiant
Byddwch hefyd yn cymryd rhan mewn taith maes breswyl ym Mhrydain neu dramor, a gallwch ddewis modiwlau opsiynol i arbenigo neu gynnal diddordeb eang ar draws Daearyddiaeth.
Yn eich trydedd flwyddyn, byddwch yn:
- cynnal prosiect ymchwil annibynnol yn cynnwys casglu, dadansoddi a dehongli eich data eich hun
- dysgu am hawliau plant
- dysgu sut i gefnogi dysgwyr sydd ag anghenion addysgol arbennig
- cael ymgynghorydd personol wedi ei ddynodi i chi, a fydd yn cynnig arweiniad
- dysgu am ddulliau addysgu
- ymgymryd â phrosiect ymchwil yn canolbwyntio ar faes o ddiddordeb
- dysgu am rôl asesu mewn addysg
Bydd modiwlau opsiynol amrywiol, megis rhewlifeg, hydroleg, peryglon folcanig, a newid hinsawdd yn y gorffennol, yn eich galluogi i deilwra eich astudiaeth i weddu i'ch diddordebau.
Sut bydda i'n cael fy addysgu?
Caiff ein cyrsiau eu haddysgu ar ffurf darlithoedd, seminarau, sesiynau ymarferol gyda chyfrifiaduron ac mewn labordai, tiwtorialau grwpiau bach, cyrsiau maes a goruchwyliaeth unigol ar gyfer gwaith prosiect.
Sut bydda i'n cael fy asesu?
Rydym yn asesu ein myfyrwyr drwy ystod o ddulliau gwahanol. Asesir rhai modiwlau yn rhannol gydag arholiadau traddodiadol, ond mae rhai'n cynnwys elfennau o waith cwrs. Mae gennym rai modiwlau hefyd lle gall fod gofyn i'r myfyrwyr gynhyrchu adroddiadau ymarferol, rhoi cyflwyniadau llafar, dylunio tudalennau gwe, cynhyrchu ffilmiau byrion, neu gyfrannu at fforymau trafod ar-lein. Asesir rhai modiwlau, yn arbennig y tiwtorialau a'r cyrsiau maes, yn gyfan gwbl ar ffurf gwaith cwrs.
Mae Daearyddiaeth Ffisegol ym MHOBMAN - yn enwedig yn Aberystwyth. Allwch chi ddim mynd yn bell heb gael cip o'r môr, y traethau, y mynyddoedd neu'r afonydd, a pha bwnc gwell i'w ddewis nag un sy'n caniatáu i chi archwilio sut cafodd y rhain eu creu, a sut maen nhw'n newid heddiw? Mae'n bwnc fydd yn fy syfrdanu am byth, ac mae'r cwrs ei hun yn ei egluro mewn ffordd mor ddiddorol, mewn manylder mor anhygoel. Rachel Say
Yr hyn rydw i'n ei hoffi fwyaf am fy nghwrs yw ei fod ym mhobman o fy nghwmpas i yma yn Aberystwyth - mae ganddon ni'r môr, y mynyddoedd, yr afonydd, a'r cymoedd. Fy ngradd i yw'r unig un lle galla i ei gweld o fy nghwmpas ble bynnag ydw i yn y byd. Jonathon Ackroyd
Mae Daearyddiaeth Ffisegol yn cychwyn gyda chariad tuag at yr awyr agored. Mae'n anhygoel gan ei fod e'n rhywbeth go iawn, mae e allan yna - allwch chi ddim cerdded i lawr stryd heb sylwi ar ddaearyddiaeth. Mae cymaint o bobl yn rhyfeddu at y prosesau naturiol sy'n digwydd o'n cwmpas, ond does dim llawer sydd wir yn eu deall. Drwy astudio Daearyddiaeth Ffisegol, byddwch yn dysgu gwybodaeth werthfawr am y byd o'ch cwmpas. Drwy ymgysylltu gyda'r byd rydyn ni'n byw ynddo, gallwn ni ei ddeall, ei hyrwyddo, a'i gadw ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol, ac mae hynna'n eitha cŵl! Emily Brown