Rydym yn defnyddio cwcis ar ein gwefan. I ddysgu mwy am y cwcis yr ydym yn eu defnyddio, gweler ein polisi cwcis. Gallwch reoli cwcis trwy osodiadau eich porwr. Trwy barhau i bori'r safle rydych yn cytuno i'n defnydd o gwcis.
Derbyn a Chau.
Adran Daearyddiaeth a Gwyddorau Daear Prifysgol Aberystwyth yw un o'r adrannau mwyaf profiadol a sefydledig o'i bath. Mae Prifysgol Aberystwyth yn cynnig cyfle unigryw i astudio daearyddiaeth yn un o leoliadau harddaf Ewrop, ac i gymryd rhan yn y Flwyddyn Integredig mewn Diwydiant.
Mae'r Adran Daearyddiaeth a Gwyddorau Daear – sydd wedi'i lleoli ar arfordir Bae Ceredigion ac wedi'i hamgylchynu gan amrywiaeth eang o amgylcheddau hardd, yn cynnwys môr, gweundir, mynyddoedd a glaswelltir – mewn lleoliad unigryw i wneud y mwyaf o'r tirweddau sydd o'i chwmpas, gan gynnig amrywiaeth anhygoel o gyfleoedd gwaith maes a hamdden. Bydd y radd hon, sydd wedi'i hachredu gan y Gymdeithas Ddaearyddol Frenhinol (gydag IBG), yn eich paratoi gyda'r sgiliau uwch, y gallu a'r arbenigedd i wynebu ac ymwneud â'r heriau amgylcheddol sy'n wynebu cymdeithas heddiw.
Bodlonrwydd Myfyrwyr Cyffredinol a Chanlyniadau Cyflogadwyedd
92% boddhad cyffredinol myfyrwyr yn yr Adran Daearyddiaeth a Gwyddor Daear (ACF 2020).
97% o’n graddedigion mewn gwaith a/neu astudiaethau pellach o fewn chwe mis ar ôl graddio, 4% yn uwch na graddedigion y Gwyddorau Ffisegol yn genedlaethol (HESA 2018*)
Trosolwg
Pam astudio Daearyddiaeth Ffisegol ym Mhrifysgol Aberystwyth?
Fel cymuned Ddaearyddiaeth fawr a dynamig, gallwn gynnig ystod eang iawn o arbenigedd, cyfleoedd a chyfleusterau daearyddiaeth:
prosesau dalgylch afonydd
rhewlifeg
bioddaearyddiaeth
newid amgylcheddol cwaternaidd
tueddiadau cyfredol o ran Geoberyglon
systemau Gwybodaeth Ddaearyddol a Chanfod o Bell
cyfleoedd gwaith maes yn Seland Newydd, Creta, Efrog Newydd ac Iwerddon
dyfarniadau teithio ar gael bob blwyddyn i ariannu eich anturiaethau eich hun (hyd at £400)
cyfleusterau addysgu o'r radd flaenaf, gyda'r dechnoleg ddiweddaraf i wella dysg
labordai â stoc llawn, gyda gwledd o offer dadansoddi ee sbectromedrau màs a sganwyr craidd, y gellir eu defnyddio ar gyfer gwaith maes ac astudiaeth annibynnol.
Ein Staff
Yr Adran Daearyddiaeth a Gwyddorau Daear: mae gan bob un o'r darlithwyr gymhwyster hyd at safon PhD neu maent yn gweithio tuag at PhD.
Modiwlau
Noder: Y modiwlau a restrir isod yw'r modiwlau y bwriedir eu cyflwyno ar hyn o bryd yn ystod y flwyddyn academaidd nesaf ac mae'n bosibl y gallant newid. Maent wedi'u cynnwys yma i roi syniad o strwythur y cwrs.
Beth alla i ei wneud gyda gradd mewn Daearyddiaeth Ffisegol?
Mae ein graddedigion wedi canfod cyflogaeth, er enghraifft, fel ymgynghorwyr amgylcheddol, cynllunwyr, gweision sifil, syrfewyr, ac ym maes addysg, ymhlith llawer o feysydd eraill.
Mae cyflogadwyedd wedi'i wreiddio ym mhob cwrs rydym yn ei ddarparu. Mae ein graddau'n cynnig sylfaen gadarn ar gyfer amrywiaeth eang o yrfaoedd ar draws ystod o sectorau. Mewn economi fyd-eang sy'n newid yn gyflym, mae ein graddedigion yn hyblyg ac yn gallu defnyddio ystod o sgiliau trosglwyddadwy, sy'n golygu bod galw amdanynt o hyd.
Mae'r setiau sgiliau'n cynnwys:
sgiliau mathemategol a chyfrifiadol uwch
sgiliau datrys problemau a meddwl creadigol effeithiol
sgiliau technoleg gwybodaeth
y gallu i weithio'n annibynnol ac fel rhan o dîm
sgiliau trefnu a rheoli amser
sgiliau cyfathrebu yn llafar ac yn ysgrifenedig
hunanddibyniaeth a'r gallu i ysgogi eu hunain
Cyfleoedd gwaith:
Os oes gennych ddiddordeb mewn gwella eich CV a'ch rhagolygon cyflogaeth, yna mae'n bosib y bydd ein chwaer-gwrs (F846) o ddiddordeb i chi. Mae'r cwrs hwn yn union yr un fath â chwrs F846, ond gallwch gyfuno astudio gyda'n blwyddyn integredig mewn diwydiant. Byddwch yn cyflawni eich lleoliad gwaith rhwng yr ail flwyddyn a'r flwyddyn olaf.
Mae'r Adran Daearyddiaeth a Gwyddorau Daear hefyd wedi sefydlu Rhaglen Gyfnewid Erasmus gyda Phrifysgol Bergen, Prifysgol Oulu, y Ffindir, a Chanolfan y Brifysgol yn Svalbard, gan roi profiad unigryw i fyfyrwyr gael astudio yn un o amgylcheddau mwyaf eithafol y byd. Mae cysylltiadau cryf gennym hefyd gyda nifer o brifysgolion yng Ngogledd America, lle gall myfyrwyr gwblhau eu hail flwyddyn o astudio. Yn ystod y blynyddoedd diwethaf, mae ein Cydlynydd Cyfnewid wedi bod yn goruchwylio cyfnewidfeydd ym Mhrifysgol Purdue (Indiana), Prifysgol Alabama, Prifysgol Georgia, Prifysgol Montana a Phrifysgol Ottawa yng Nghanada.
Dysgu ac Addysgu
Beth fydda i'n ei ddysgu?
Bydd y crynodeb isod yn rhoi darlun i chi o'r hyn y gallech ei astudio yn ystod y cynllun gradd pedair blynedd.
Yn eich blwyddyn gyntaf, byddwch yn cael eich cyflwyno i'r canlynol:
cysyniadau allweddol mewn astudiaeth ddaearyddol
problemau a thechnegau wrth gasglu, dadansoddi a chyflwyno data daearyddol
newid hinsawdd
prosesau tirwedd
newid amgylcheddol byd-eang
Yn eich ail flwyddyn, byddwch yn datblygu ymhellach:
yn eich maes
sgiliau ymchwil cyfrifiadurol a labordy, i baratoi ar gyfer eich prosiect ymchwil annibynnol
sut i ddadansoddi setiau data meintiol
cynhyrchu mapiau a graffigau eraill sy'n dehongli data daearyddol.
Buyddwch hefyd yn cymryd rhan mewn taith maes breswyl ym Mhrydain neu dramor, a gallwch ddewis modiwlau opsiynol i arbenigo neu gynnal diddordeb eang ar draws Daearyddiaeth.
Yn ystod eich trydedd flwyddyn, byddwch yn dechrau ar eich Blwyddyn Integredig mewn Diwydiant.
Yn ystod eich blwyddyn olaf:
byddwch yn cynnal prosiect ymchwil annibynnol yn cynnwys casglu, dadansoddi a dehongli eich data eich hun
bydd ymgynghorydd personol yn cael ei ddynodi i chi, a fydd yn cynnig arweiniad
bydd modiwlau opsiynol amrywiol, megis rhewlifeg, hydroleg, peryglon folcanig, a newid hinsawdd yn y gorffennol, yn eich galluogi i deilwra eich astudiaeth i weddu i'ch diddordebau.
Sut bydda i'n cael fy addysgu?
Caiff ein cyrsiau eu haddysgu ar ffurf darlithoedd, seminarau, dosbarthiadau ymarferol gyda chyfrifiaduron ac mewn labordai, tiwtorialau grwpiau bach, cyrsiau maes a goruchwyliaeth unigol ar gyfer gwaith prosiect.
Sut bydda i'n cael fy asesu?
Rydym yn asesu ein myfyrwyr drwy ystod o ddulliau gwahanol. Asesir rhai modiwlau yn rhannol gydag arholiadau traddodiadol, ond mae rhai'n cynnwys elfennau o waith cwrs. Mae gennym rai modiwlau hefyd lle gall fod gofyn i'r myfyrwyr gynhyrchu adroddiadau ymarferol, rhoi cyflwyniadau llafar, dylunio tudalennau gwe, cynhyrchu ffilmiau byrion, neu gyfrannu at fforymau trafod ar-lein. Asesir rhai modiwlau, yn arbennig y tiwtorialau a'r cyrsiau maes, yn gyfan gwbl ar ffurf gwaith cwrs.