Mae'r radd Ffiseg (gyda Blwyddyn Sylfaen) ym Mhrifysgol Aberystwyth wedi'i hachredu gan y Sefydliad Ffiseg (IOP) ac wedi'i dylunio er mwyn i chi gyflawni eich potensial mewn amgylchedd dysgu cefnogol.

Mae Ffiseg yn un o'r disgyblaethau academaidd hynaf, ond mae'n un sy'n gwneud cyfraniadau sylweddol i gymdeithas fodern, gyda datblygiadau damcaniaethol sy'n bwydo i'r gwyddorau newydd ac yn meithrin technolegau modern.

Cysyniadau Ffiseg yw sail y rhan fwyaf o iaith wyddonol, ac mae'r pwnc yn treiddio i'r rhan fwyaf o wyddoniaeth a thechnoleg fodern, gan gynyddu cwmpas eich rhagolygon cyflogaeth yn y dyfodol.

Trosolwg o'r Cwrs

Pam astudio Ffiseg yn Aberystwyth?

  • Ar ôl cwblhau'r radd hon, byddwch yn gadael gydag achrediad gan yr IOP (y Sefydliad Ffiseg).
  • Mae Ffiseg wedi cael ei haddysgu yn Aberystwyth ers sefydlu'r brifysgol, ac mae'n parhau i fod yn brofiad dysgu arloesol i bawb.
  • Byddwch yn cael eich addysgu gan arbenigwyr yn eu maes.
  • Mae ein hymchwilwyr yn cymryd rhan ym Mhrosiect ExoMars 2020 yr Asiantaeth Ofod Ewropeaidd ac yn peiriannu deunyddiau dimensiwn isel (hynny yw, graffin).
Ein Staff

Mae gan bob un o ddarlithwyr yr Adran Ffiseg gymwysterau hyd at safon PhD a hanes o wneud gwaith ymchwil yn eu meysydd arbenigol.

Modiwlau Dechrau Medi - 2025

Noder: Y modiwlau a restrir isod yw'r modiwlau y bwriedir eu cyflwyno ar hyn o bryd yn ystod y flwyddyn academaidd nesaf ac mae'n bosibl y gallant newid. Maent wedi'u cynnwys yma i roi syniad o strwythur y cwrs.

Modiwlau Craidd

Teitl y Modiwl Cod y Modiwl Gwerth Credyd
Algebra a Hafaliadau Differol FG16210 10
Calcwlws MT10610 10
Dynameg, Tonnau a Gwres FG10020 20
Trydan, Magneteg a Mater FG11120 20
Algebra a Chalcwlws Pellach MT11010 10
Technegau Labordy ar gyfer Ffisegwyr Arbrofol a Pheirianwyr (20 Credyd) FG15720 20
Modern Physics PH14310 10
Cynllunio Gyrfa a Datblygu Sgiliau Ffiseg FG12910 10

Opsiynau

Teitl y Modiwl Cod y Modiwl Gwerth Credyd
Astronomy PH18010 10
Communication and Technology PH19510 10

Modiwlau Craidd

Teitl y Modiwl Cod y Modiwl Gwerth Credyd
Trydan a Magnetedd FG22510 10
Ffiseg Mathemategol FG26020 20
Numerical Techniques for Physicists PH26620 20
Optics PH22010 10
Sgiliau Ymchwil Ymarferol FG25720 20
Principles of Quantum Mechanics PH23010 10
Sensors, Electronics & Instrumentation PH24520 20
Thermodynamics PH21510 10

Modiwlau Craidd

Teitl y Modiwl Cod y Modiwl Gwerth Credyd
Concepts in Condensed Matter Physics PH32410 10
Lasers and Photonics PH34510 10
Materials Physics PH33810 10
Particles, Quanta and Fields PH33020 20
Project (40 Credits) PH37540 40
Semiconductor Technology PH33610 10

Gyrfaoedd

Beth alla i ei wneud gyda gradd mewn ffiseg?

Mae ein graddedigion wedi dilyn gyrfaoedd yn y meysydd canlynol:

  • Ffiseg Meddygol
  • Diogelu rhag Ymbelydredd
  • Ymchwil Wyddonol

Mae graddedigion eraill o'n hadran wedi dilyn gyrfaoedd yn y meysydd canlynol:

  • Datblygu Systemau
  • Datblygu Cynnyrch
  • Ysgrifennu Technegol
  • Meteoroleg

Mae cyflogadwyedd wedi'i wreiddio yn ein holl addysgu a moeseg. Rydym yn rhoi'r sgiliau canlynol i'n myfyrwyr:

  • sgiliau ymchwil a dadansoddi data
  • sgiliau mathemategol a chyfrifiadol uwch
  • sgiliau datrys problemau a meddwl creadigol effeithiol
  • y gallu i weithio'n annibynnol
  • sgiliau trefnu a rheoli amser, gan gynnwys y gallu i weithio i derfynau amser
  • y gallu i fynegi syniadau a chyfleu gwybodaeth mewn modd clir a threfnus, yn ysgrifenedig ac ar lafar
  • hunanddibyniaeth a'r gallu i ysgogi eu hunain
  • y gallu i weithio mewn tîm a thrafod cysyniadau mewn grwpiau, rhoi lle i syniadau gwahanol a dod i gytundeb.

Pa gyfleoedd sydd ar gael am brofiad gwaith wrth astudio? 

Cliciwch yma i ddysgu am y gwahanol gyfleoedd y mae tîm Gyrfaoedd Prifysgol Aberystwyth yn eu cynnig. 

Gallwch wella'ch cyfleoedd cyflogaeth gyda GO Wales a BMG (y cynllun Blwyddyn mewn Gwaith) sy'n cael eu rheoli gan ein hadran Gyrfaoedd.

Dysgu ac Addysgu

Beth fydda i'n ei ddysgu?

Bydd y crynodeb isod yn rhoi darlun i chi o'r hyn y gallech ei astudio yn ystod y cynllun gradd pedair blynedd.

Yn ystod y flwyddyn gyntaf byddwch yn darganfod:

  • ffiseg Newtonaidd
  • ffiseg mater
  • osgiliadau a thonnau
  • trydan a magnetedd
  • arbrofion mewn labordai
  • dulliau mathemategol sylfaenol a ddefnyddir yn aml mewn ffiseg.

Yn ystod eich ail flwyddyn, byddwch yn archwilio:

  • ffiseg glasurol a modern (algebra a chalcwlws)
  • ffiseg gyfrifiadol ac arbrofol
  • damcaniaeth cwantwm
  • deinameg
  • egwyddorion meysydd disgyrchiant ac electrostatig.

Yn ystod eich trydedd flwyddyn, byddwch yn astudio:

  • ffiseg thermol
  • mecaneg cwantwm
  • electroneg analog arbrofol
  • trin data ac ystadegau
  • systemau offeryniaeth
  • ffiseg arbrofol.

Yn ystod eich blwyddyn olaf, byddwch yn ymchwilio:

  • ffiseg lled-ddargludyddion
  • electromagneteg
  • optroneg
  • mater cyddwysedig
  • atomau a moleciwlau
  • dulliau rhifiadol.

Sut bydda i'n cael fy addysgu?

Rydym yn addysgu ein myfyrwyr drwy ddarlithoedd, seminarau, tiwtorials, gweithdai, sesiynau ymarferol a gwaith prosiect unigol a grŵp.

Rydym yn asesu ein myfyrwyr drwy waith cwrs, cyflwyniadau, adroddiadau labordy, dyddiaduron labordy ac arholiadau.

Rhagor o wybodaeth:

Bydd tiwtor personol yn cael ei ddynodi i chi dros gyfnod eich cwrs gradd cyfan, a bydd yn gallu eich helpu gydag unrhyw broblemau neu ymholiadau, boed nhw'n faterion academaidd neu bersonol. Mae croeso i chi gysylltu â'ch tiwtor personol ar unrhyw adeg os bydd angen cymorth neu gyngor arnoch.

Byddwch hefyd yn cael cyfle i gwblhau Cynllun Datblygu Personol (CDP) yn Aberystwyth. Mae hon yn broses strwythuredig o hunanwerthuso, myfyrio, a chynllunio, a fydd yn eich galluogi i olrhain eich datblygiad personol, academaidd a phroffesiynol drwy gydol eich cyfnod yn y brifysgol. Drwy gofnodi eich perfformiad academaidd, ac amlygu'r sgiliau sydd gennych yn barod a'r sgiliau y bydd eu hangen arnoch ar gyfer cyflogadwyedd yn y dyfodol, bydd y portffolio CDP yn rhoi'r offer angenrheidiol i chi gynllunio'n effeithiol, datblygu dulliau llwyddiannus o astudio, ac ystyried eich dewisiadau gyrfaol a'ch dyheadau yn y dyfodol.

Gofynion Mynediad Nodweddiadol

Tariff UCAS

Safon Uwch Ar gael i'r rhai sy'n astudio am gymwysterau Lefel 3, neu sydd wedi eu cwblhau yn barod (ee, Safon Uwch neu Ddiploma BTEC) a hefyd i ymgeiswyr aeddfed heb gymwysterau ffurfiol sydd â chefndir addysgol, profiad a chymhelliant priodol.

Gofynion TGAU (o leiaf gradd C/4):
Cymraeg neu Saesneg a Mathemateg

Diploma Cenedlaethol BTEC:
Ar gael i'r rhai sy'n astudio am gymwysterau Lefel 3, neu sydd wedi eu cwblhau yn barod (ee, Safon Uwch neu Ddiploma BTEC) a hefyd i ymgeiswyr aeddfed heb gymwysterau ffurfiol sydd â chefndir addysgol, profiad a chymhelliant priodol.

Bagloriaeth Ryngwladol:
Ar gael i'r rhai sy'n astudio am gymwysterau Lefel 3, neu sydd wedi eu cwblhau yn barod (ee, Safon Uwch neu Ddiploma BTEC) a hefyd i ymgeiswyr aeddfed heb gymwysterau ffurfiol sydd â chefndir addysgol, profiad a chymhelliant priodol.

Bagloriaeth Ewropeaidd:
Ar gael i'r rhai sy'n astudio am gymwysterau Lefel 3, neu sydd wedi eu cwblhau yn barod (ee, Safon Uwch neu Ddiploma BTEC) a hefyd i ymgeiswyr aeddfed heb gymwysterau ffurfiol sydd â chefndir addysgol, profiad a chymhelliant priodol.

Mae'r Brifysgol yn croesawu ceisiadau israddedig gan fyfyrwyr sy'n astudio'r Diploma Mynediad i Addysg Uwch neu gymwysterau lefel T, ar yr amod eu bod yn cyflawni'r canlyniadau perthnasol o ran cynnwys y pwnc a'r dysgu. Ni allwn dderbyn Diplomâu Mynediad i Addysg Uwch na lefelau T fel cymhwyster cyffredinol ar gyfer pob cwrs gradd israddedig.
Mae ein polisi derbyn cynhwysol yn rhoi gwerth ar ehangder yn ogystal â dyfnder yr astudio. Dewisir ymgeiswyr ar sail eu teilyngdod eu hunain a gall cynigion amrywio. Os hoffech wirio a yw eich cymwysterau yn gymwys cyn cyflwyno cais, cysylltwch â'r Swyddfa Derbyn Israddedigion am gyngor ac arweiniad.

Yn ôl i'r brig

|