Rydym yn defnyddio cwcis ar ein gwefan. I ddysgu mwy am y cwcis yr ydym yn eu defnyddio, gweler ein polisi cwcis. Gallwch reoli cwcis trwy osodiadau eich porwr. Trwy barhau i bori'r safle rydych yn cytuno i'n defnydd o gwcis.
Derbyn a Chau.
Mae'r cwrs Ffiseg gydag Addysg ym Mhrifysgol Aberystwyth yn rhaglen rhyngddisgyblaethol sy'n cyfuno arbenigedd a dyfeisgarwch dwy adran. Bydd y radd yn eich cyflwyno i sbectrwm eang Ffiseg, y gellir dadlau mai hi yw'r wyddor naturiol bwysicaf, ochr yn ochr â chysyniadau a damcaniaethau hanfodol Addysg. Pan fyddwch yn astudio, byddwch yn ennill ystod o sgiliau trosglwyddadwy, a byddwch yn cael eich paratoi'n ddamcaniaethol ac yn ymarferol ar gyfer gradd ôl-raddedig TAR. Bydd modd i chi ymgeisio am gyrsiau hyfforddiant dysgu TAR un ai ar lefel Cynradd neu Uwchradd. Hefyd, cyn belled â'ch bod yn bodloni'r gofynion mynediad, gallwn roi sicrwydd y cewch gyfweliad ar gyfer astudio TAR yn Aberystwyth.
Bodlonrwydd Myfyrwyr Cyffredinol a Chanlyniadau Cyflogadwyedd
93% o’n graddedigion mewn gwaith a/neu astudiaethau pellach o fewn chwe mis ar ôl graddio. (HESA 2018*).
Trosolwg
Pam astudio Ffiseg gydag Addysg ym Mhrifysgol Aberystwyth?
Mae Ffiseg wedi cael ei haddysgu yn Aberystwyth ers sefydlu'r brifysgol, ac mae'n parhau i fod yn brofiad dysgu arloesol i bawb.
Byddwch yn cael eich addysgu gan arbenigwyr yn eu maes.
Mae ein hymchwilwyr yn cymryd rhan ar hyn o bryd ym Mhrosiect ExoMars 2020 yr Asiantaeth Ofod Ewropeaidd ac yn peiriannu deunyddiau dimensiwn isel (hynny yw, graffin).
Mae gan fyfyrwyr ar y cwrs hwn gyfle i gyfrannu'n sylweddol tuag at:
raglenni dyngarol a chymorth
ymwneud cyhoeddus gyda materion cymdeithasol
datblygu cynaliadwy
hawliau i bawb yn fyd-eang
gwelliannau mewn llesiant cyhoeddus
Ein Staff
Mae gan ddarlithwyr cyrsiau israddedig yr Ysgol Addysg naill ai gymwysterau hyd at safon PhD neu maent yn ymarferwyr profiadol yn eu maes. Mae gan bob un o'r staff dysgu gymhwyster dysgu cydnabyddedig, neu maent yn gweithio tuag at gymhwyster o'r fath.
Mae gan bob un o ddarlithwyr yr Adran Ffiseg gymwysterau hyd at safon PhD a hanes o wneud gwaith ymchwil yn eu meysydd arbenigol.
Modiwlau
Noder: Y modiwlau a restrir isod yw'r modiwlau y bwriedir eu cyflwyno ar hyn o bryd yn ystod y flwyddyn academaidd nesaf ac mae'n bosibl y gallant newid. Maent wedi'u cynnwys yma i roi syniad o strwythur y cwrs.
Mae ein graddedigion wedi dilyn gyrfaoedd yn y meysydd canlynol:
ffiseg feddygol
diogelu rhag ymbelydredd
ymchwil wyddonol
Mae graddedigion eraill o'n hadran wedi dilyn gyrfaoedd yn y meysydd canlynol:
datblygu systemau
datblygu cynnyrch
ysgrifennu technegol
meteoroleg
Mae cyflogadwyedd wedi'i wreiddio yn ein holl addysgu a moeseg. Rydym yn rhoi'r sgiliau canlynol i'n myfyrwyr:
sgiliau ymchwil a dadansoddi data
sgiliau mathemategol a chyfrifiadol uwch
sgiliau datrys problemau a meddwl creadigol effeithiol
y gallu i weithio'n annibynnol
sgiliau rheoli amser a threfnu, gan gynnwys y gallu i weithio i derfynau amser
y gallu i fynegi syniadau a chyfleu gwybodaeth mewn modd clir a threfnus, yn ysgrifenedig ac ar lafar
hunanddibyniaeth a'r gallu i ysgogi eu hunain
y gallu i weithio mewn tîm a thrafod cysyniadau mewn grwpiau, rhoi lle i syniadau gwahanol a dod i gytundeb.
Pa gyfleoedd sydd ar gael am brofiad gwaith wrth astudio?
Cliciwch yma i ddysgu am y gwahanol gyfleoedd y mae tîm Gyrfaoedd Prifysgol Aberystwyth yn eu cynnig.
Gallwch wella'ch cyfleoedd cyflogaeth gyda GO Wales a BMG (y cynllun Blwyddyn mewn Gwaith) sy'n cael eu rheoli gan ein hadran Gyrfaoedd.
Dysgu ac Addysgu
Beth fydda i'n ei ddysgu?
Bydd y crynodeb isod yn rhoi darlun i chi o'r hyn y gallech ei astudio yn ystod y cynllun gradd tair blynedd.
Yn ystod y flwyddyn gyntaf byddwch yn archwilio:
ffiseg glasurol a modern
ffiseg gyfrifiadol ac arbrofol
polisïau a materion mewn addysg
datblygiad plant
sut mae plant ifanc yn dysgu
deinameg
egwyddorion sylfaenol meysydd disgyrchiant ac electrostatig
seryddiaeth
ffynonellau Egni a'u heffeithiau amgylcheddol
Yn ystod yr ail flwyddyn, byddwch yn archwilio:
ffiseg thermol
mecaneg cwantwm
seicoleg mewn dysgu a meddwl
electroneg analog arbrofol
trin data ac ystadegau
systemau offeryniaeth
Yn ystod eich blwyddyn olaf, byddwch yn ymchwilio:
ffiseg lled-ddargludyddion
electromagneteg
optroneg
mater cyddwysedig
myfyrio beirniadol ar sgiliau dysgu a meddwl
atomau a moleciwlau
dulliau rhifiadol
Sut bydda i'n cael fy addysgu?
Rydym yn addysgu ein myfyrwyr drwy ddarlithoedd, seminarau, tiwtorialau, gweithdai, sesiynau ymarferol a gwaith prosiect unigol a grŵp.
Rydym yn asesu ein myfyrwyr drwy waith cwrs, cyflwyniadau, adroddiadau labordy, dyddiaduron labordy ac arholiadau.
Rhagor o wybodaeth:
Bydd tiwtor personol yn cael ei ddynodi i chi dros gyfnod eich cwrs gradd cyfan, a bydd yn gallu eich helpu gydag unrhyw broblemau neu ymholiadau, boed nhw'n faterion academaidd neu bersonol. Mae croeso i chi gysylltu â'ch tiwtor personol ar unrhyw adeg os bydd angen cymorth neu gyngor arnoch.
Byddwch hefyd yn cael cyfle i gwblhau Cynllun Datblygu Personol (CDP) yn Aberystwyth. Mae hon yn broses strwythuredig o hunanwerthuso, myfyrio, a chynllunio, a fydd yn eich galluogi i olrhain eich datblygiad personol, academaidd a phroffesiynol drwy gydol eich cyfnod yn y brifysgol. Drwy gofnodi eich perfformiad academaidd, ac amlygu'r sgiliau sydd gennych yn barod a'r sgiliau y bydd eu hangen arnoch ar gyfer cyflogadwyedd yn y dyfodol, bydd y portffolio CDP yn rhoi'r offer angenrheidiol i chi gynllunio'n effeithiol, datblygu dulliau llwyddiannus o astudio, ac ystyried eich dewisiadau gyrfaol a'ch dyheadau yn y dyfodol.
Barn ein Myfyrwyr
Mae Ffiseg bob dydd yn gwella eich dealltwriaeth o'r bydysawd a phopeth rydyn ni'n ei brofi. Mae gwyddonwyr angerddol yn rhoi gwybod i chi am eu cyfraniadau i wyddoniaeth sy'n flaenllaw ym maes ffiseg. Caiff eich amser ei rannu rhwng cael profiad ymarferol yn y labordy yn defnyddio offer cyffrous, yn cynnwys laserau, osgilosgopau a sbectomedrau, a darlithoedd fydd o ddiddordeb i chi ac yn eich ysbrydoli. Mae pob modiwl yn herio eich dealltwriaeth ac yn caniatáu i chi feddu ar y wybodaeth y mae'r rhan fwyaf o bobl yn elwa arno, ond nad ydyn nhw'n gwybod ei fod yn bodoli. Mae myfyrwyr yn rhagori, ac yn ehangu eu meddyliau. Mae angen amser ac ymdrech, ond mae'r sgiliau a'r ddealltwriaeth rydych chi'n eu meithrin o'r radd flaenaf. Sarah Chandler
Rydw i wrth fy modd gyda fy nghwrs oherwydd mae'r pynciau rydyn ni'n eu trafod yn ddiddorol ac yn berthnasol i fyd plentyndod. Mae'r darlithwyr yn angerddol iawn am y pwnc, sy'n cael ei adlewyrchu hefyd yn y ffyrdd amrywiol rydyn ni'n cael ein hasesu - cawson ni gyfle i ddylunio ein gêm ein hunain hyd yn oed! Cymaint yn fwy ymarferol a realistig wrth weithio gyda phlant yn hytrach nag arholiad sych! Ar y cyfan, mae fy hyder mewn amrywiaeth o bynciau a fy ngallu fy hunan wedi cael eu cryfhau, sydd bob amser yn beth da mewn unrhyw yrfa. Byddwn yn sicr yn argymell Prifysgol Aberystwyth a'r cwrs i unrhyw un sydd â diddordeb mewn gweithio gyda phlant, a gallaf eich sicrhau y byddwch yn cael cefnogaeth dda iawn gan staff mewn unrhyw fath o sefyllfa academaidd! Caroline Korell