BSc Bioleg Planhigion Cod C200
Ymgeisio NawrPrif Ffeithiau
C200-
Tariff UCAS
104 - 120
-
Hyd y Cwrs
3 Blwyddyn
-
Cyfrwng Cymraeg
41%
Manylion pellach ynglŷn â'r gofynion mynediad
Ymgeisio NawrMae planhigion yn darparu sylfaen hanfodol ar gyfer bywyd ar y ddaear, ac mae ganddynt rôl hanfodol i'w chwarae o ran datrys rhai o'r problemau mwyaf difrifol sy'n wynebu'r hil ddynol, megis prinder bwyd ac allyriadau carbon cynyddol. Ni fu erioed o'r blaen gymaint o frys i hyfforddi cenhedlaeth newydd o fiolegwyr planhigion a all ddatblygu technolegau a dulliau i ymateb i'r heriau hyn yn y dyfodol.
Dyma pam ein bod yn meddwl bod Aberystwyth yn lle gwych i fod yn Fiolegydd Planhigion:
- Staff addysgu angerddol sydd hefyd yn ymchwilwyr sy'n arwain y byd;
- Cyfleusterau o'r radd flaenaf ar gyfer addysgu ac ymchwil bioleg planhigion, gan gynnwys gardd fotaneg gyda thŷ gwydr trofannol mawr, labordai modern, ystafell microsgopeg, casgliad o sbesimenau botanegol hanesyddol, a'r Ganolfan Ffenomeg Planhigion Genedlaethol;
- Mynediad at amrywiaeth eang o fflora a safleoedd sydd o bwysigrwydd rhyngwladol yn lleol;
- Cysylltiadau uniongyrchol â diwydiant, gyda chwmnïau ar y campws, cysylltiadau â chwmnïau rhyngwladol, a champws arloesi sydd i'w adeiladu'n fuan a fydd yn gartref i fwy fyth o gwmnïau sy'n canolbwyntio ar blanhigion.
Bodlonrwydd Myfyrwyr Cyffredinol a Chanlyniadau Cyflogadwyedd
95% o’r myfyrwyr yn cytuno bod y staff yn esbonio pethau'n dda (ACF 2020).
Ymhlith y 15 uchaf yn y DU am Ansawdd y Dysgu a Phrofiad Myfyrwyr ym maes y Gwyddorau Biolegol (Canllaw Prifysgolion Da y 'Times' a'r 'Sunday Times' 2019).
98% o’n graddedigion mewn gwaith a/neu astudiaethau pellach o fewn chwe mis ar ôl graddio, 3% yn uwch na graddedigion y Gwyddorau Biolegol yn genedlaethol, (HESA 2018*)
Trosolwg
Modiwlau
Cyflogadwyedd
Dysgu ac Addysgu
Barn ein Myfyrwyr
Gofynion Mynediad Nodweddiadol
Tariff UCAS 104 - 120
Lefel A BBB-BCC with B in Biology
Gofynion TGAU (o leiaf gradd C/4):
English or Welsh and Mathematics
Diploma Cenedlaethol BTEC:
DDM-DMM in Applied Science. Alternative biology based Level 3 courses may be considered.
Bagloriaeth Ryngwladol:
30-28 with 5 points in Biology at Higher Level
Bagloriaeth Ewropeaidd:
75%-65% overall with 7 in Biology
Mae’r Brifysgol yn croesawu ceisiadau gan fyfyrwyr sy’n astudio am Ddiploma Mynediad i Addysg Uwch. Mae ein polisi derbyn cynhwysol yn rhoi gwerth ar ehangder yn ogystal â dyfnder astudio. Dewisir ymgeiswyr ar sail eu teilyngdod eu hunain, a gall cynigion amrywio. Os ydych yn astudio am gymhwyster nad yw wedi’i restru ar y dudalen hon, cysylltwch â’r Swyddfa Derbyn Israddedigion i gael cyngor pellach. Mae manylion am gymwysterau gwahanol wledydd a dderbynnir yn y Brifysgol i’w gweld ar ein tudalennau gwlad-benodol i gael manylion am y cymwysterau rhyngwladol yr ydym yn eu derbyn. I gael rhagor o wybodaeth, cysylltwch ag ug-admissions@aber.ac.uk
|